Dadansoddi

Holi perfedd

Iechyd y corff a’r meddwl

Manon Mathias

GUT, BRAIN, AND ENVIRONMENT IN NINETEENTH CENTURY FRENCH LITERATURE AND MEDICINE

Routledge, 304tt, Ebrill 2024

Rebecca L Spang

THE INVENTION OF THE RESTAURANT

Harvard University Press, 352tt, £24.95, 2000

Joris-Karl Huysmans;  cyf. Robert Baldick

AGAINST NATURE (À REBOURS)

Penguin Modern Classics, 288tt, £9.99, (1883) 2003

Émile Zola; Brian Nelson (Cyf.)

The Belly of Paris

OUP, 320tt, £8.99, (1873) 2007

T H Parry-Williams

Myfyrdodau

Gwasg Aberystwyth, 120tt, 1957

Manon Mathias

Amser darllen: 12 munud

06·12·2023

Assume the aspect (of the dead man) gan Mikhael Subotzky, 2022 (Mikhael Subotzky/Magnum Photos)

 

‘Holi perfedd rhywun’, ac ‘ym mherfeddion cefn gwlad’. Beth yn union yw arwyddocâd ‘perfedd’ neu ‘berfeddion’ yn yr ymadroddion trawiadol hyn? Treiddio i graidd meddyliau person, neu i ddyfnderoedd diarffordd y wlad, mae’n siŵr. Yn Y Lôn Wen (1960) gan Kate Roberts, caiff hyd taith cymeriad ei gyfleu yn y geiriau ‘Gyda char a cheffyl yr âi Richard Cadwaladr i Sir Fôn, ar ôl caniad, a chyrraedd yno berfeddion o’r nos.’ Sylwn ymhellach ar gysylltiad uniongyrchol rhwng y perfedd a’r emosiynau, er enghraifft, yn Enoc Huws (1891). Mae Daniel Owen yn cyfleu siom Marged a’r ergyd a deimla yn y geiriau ‘edrychai Marged yn swrth, diynni a digalon, fel petai wedi tynnu ei pherfedd allan’. Ac yn Myfyrdodau (1957) T H Parry-Williams cawn y cysyniad o ddatgelu cyfrinachau wrth iddo ddisgrifio Baron Corvo: ‘Gŵr a fethodd fynd yn offeiriad pabyddol ydoedd... dyn o athrylith, ... ond dyn â llu o chwiwiau a chwirciau yn chwyrnellu yn nhrobwll ei enaid, fel y datguddiodd ef ei hun wrth “fwrw’i berfedd” yn ei lyfrau.’ Gwelwn, felly, y gwneir cryn ddefnydd trosiadol neu idiomatig o’r term ‘perfedd’. (Gweler R E Jones, Llyfr o Idiomau Cymraeg (1975) ar gyfer yr uchod ac am ragor o enghreifftiau.)

O ystyried arwyddocâd cyfoethog y perfedd yn y dyfyniadau uchod, diddorol yw nodi y doreth o ymchwil gwyddonol ers dechrau’r mileniwm yn dangos perthynas glòs rhwng y perfedd a’r ymennydd. Ceir cysylltiad posibl, mae’n debyg, rhwng ein system dreulio a chyflyrau fel awtistiaeth, iselder, a chlefyd Alzheimer, a dengys nifer o astudiaethau diweddar fod meicrobiota ein perfedd (hynny yw, y bacteria, firysau a ffyngi sy’n byw yn ein perfedd) yn gallu effeithio ar ein hwyliau, a hyd yn oed ein personoliaeth. 

Adlewyrchir rhai o’r canfyddiadau ‘newydd’ hyn ynglŷn â dylanwad y perfedd yn strwythurau ein hiaith, a cheir enghreifftiau o ymadroddion tebyg mewn ieithoedd eraill, megis yn Saesneg (‘I hate his guts’) ac yn Ffrangeg (‘jusque dans les entrailles’, ‘sans entrailles’). Cyffredin iawn hefyd ymysg nifer o ieithoedd yw’r cysyniad o ‘stumogi’ rhywbeth (neu rywun!), a ‘throi’r stumog’. Oes lle i gredu, felly, fod dealltwriaeth ers canrifoedd o effaith cyflwr y system dreulio ar ein hunaniaeth nid yn unig fel creaduriaid materol ond bodau dynol sydd yn meddwl ac yn teimlo?   

Yn sicr bu ymwybyddiaeth ddofn o rôl allweddol y stumog wrth ystyried iechyd pobl ers cyfnod Hippocrates. Pwysleisid y stumog hefyd mewn meysydd meddygol wedi hynny, megis ‘le vitalisme’ (bywydoliaeth) yn y ddeunawfed ganrif. Bu cyngor ar iechyd, yn enwedig deiet, yn rhan gyffredin o fywyd ers canrifoedd, yn enwedig y ddeunawfed a’r ail ganrif ar bymtheg. Cymerir yn ganiataol, serch hynny, mai pylu wnaeth diddordeb meddygon mewn deiet a ‘regimen’ yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’i ddisodli gan ddulliau meddygol modern a ganolbwyntiai ar organau a systemau penodol o fewn y corff yn hytrach na’r cysylltiadau rhyngddynt. Hwn hefyd oedd y cyfnod pan welwyd datblygiadau gwyddonol megis gwyddor maeth a oedd yn pwysleisio effaith elfennau megis braster a charbohydradau ar y corff, gan roi cyngor cyffredinol ac absoliwt ynglŷn â sut i golli pwysau, yn hytrach na theilwra cyngor iechyd i’r unigolyn fel modd o amddiffyn ei iechyd.

Nid yw pethau mor syml â hynny. Er y bu datblygiadau niferus o fewn meddygaeth a gwyddoniaeth yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ni welwyd newid mawr yn y modd y byddai meddygon yn trin y boblogaeth yn gyffredinol tan yr ugeinfed ganrif. Parhau a wnaeth y pwyslais ar ddieteteg yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r traddodiad o gynnal iechyd yr unigolyn drwy geisio atal salwch yn y lle cyntaf, yn enwedig drwy ddeiet. Ymysg darllenwyr lleyg, roedd y broses o dreulio bwyd yn dal i fod yn allweddol er mwyn cynnal iechyd y corff a’r meddwl. Yn Ffrainc, datblygodd cangen ffurfiol o fewn meddygaeth o’r enw ‘l’hygiène’, sef arferion iach o ran cysgu, bwyta, ymarfer corff ac ati. Roedd pwyslais o fewn ‘l’hygiène’ nid yn unig ar iechyd y boblogaeth (drwy systemau carthffosiaeth, brechiadau, ac yn y blaen) ond hefyd ar ‘l’hygiène privée’, hynny yw, ‘regimen’ yr unigolyn. Cyhoeddwyd cannoedd ar gannoedd o lawlyfrau poblogaidd yn ystod yr bedwaredd ganrif ar bymtheg yn rhoi cyngor ar sut i gadw’n iach ac ynddynt bwyslais parhaus ar y perfedd, yn enwedig ei ddylanwad ar emosiynau, gallu ymenyddol ac iechyd meddwl. 

Cyfrannodd nifer o ddatblygiadau gwyddonol y cyfnod hwn at y pwyslais cynyddol ar ddylanwad y perfedd ar iechyd corfforol a meddyliol. Yn sgil darganfyddiadau newydd ym maes niwroleg, er enghraifft, cafwyd tystiolaeth newydd o’r cysylltiad rhwng y perfedd a’r ymennydd drwy gyfrwng y system nerfol. Wedi arbrofion digynsail ar y system dreulio yn ystod y 1820au, gwelwyd diddordeb mawr hefyd yn y broses o dreulio bwydydd gwahanol, a dangoswyd cymaint o amrywiaeth sydd rhwng un person a’r llall yn y cyd-destun hwn.  

Bu diddordeb diwylliannol gan y Ffrancwyr mewn coginio a chiniawa erioed, a chynyddu wnaeth hyn gyda datblygiad y tŷ bwyta – y ‘restaurant’ o’r 1760au ymlaen. Deillia ystyr gwreiddiol y term hwn o’r broses o ymadfer (‘restaurer’) wedi salwch, a gofal am iechyd a lles cwsmeriaid oedd nod gwreiddiol y llefydd bwyta cyntaf hyn, yn wahanol i’r ‘traiteurs’ (siopau bwyd) eraill oedd yn bodoli cyn hynny (gweler Rebecca L Spang, The Invention of the Restaurant, 2000). Sefydlwyd maes newydd hefyd ym Mharis yn ystod yr 1820au o’r enw ‘la gastronomie’ (gastronomeg) oedd yn rhoi cyngor ar sut i fwyta ac yfed, gan gynnwys rhoi cyngor dietegol er mwyn osgoi salwch. Nid yw’n syndod, felly, fod nifer o nofelau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cynnwys cyfeiriadau at fwyd, yn enwedig yng nghyd-destun realaeth a naturoliaeth a’u pwyslais ar fywyd materol a chorfforol. Serch hynny, mewn modd trosiadol yn unig yr astudiwyd y pwyslais llenyddol hwn ar y stumog tan yn ddiweddar, gan ddarllen y stumog fel symbol naill ai o drachwant cyfalafol yr oes neu ymgais y nofelydd i lyncu a rhoi trefn ar realiti. Ond mae modd cydnabod grym symbolaidd y perfedd heb anghofio’r broses gorfforol o dreulio’r bwyd ei hun. Drwy ganolbwyntio ar bwysigrwydd llythrennol y perfedd i hunaniaeth yr unigolyn yn ystod y cyfnod hwn, gallwn werthfawrogi rôl bwyd nid yn unig fel rhywbeth a ddefnyddir gennym, ond fel elfen sydd hefyd yn gweithredu arnom ni o fewn rhwydwaith ehangach y tu hwnt i’r byd dynol.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd llai o bwyslais ar foesoldeb a chrefydd wrth geisio deall y corff dynol, ac ystyrid y meddwl hefyd mewn termau materol ac organig yn hytrach na rhywbeth trosgynnol megis enaid. Fodd bynnag, parhau a wnaeth yr awydd i ddeall ac adnabod yr hunan, ac roedd y corff yn awr yn rhan allweddol o ddeall yr hanfod hwn. Roedd y cyswllt rhwng y perfedd a’r meddwl yn ffordd ddelfrydol o drin a thrafod y pwnc, ac yn achos llenorion blaenllaw’r ganrif megis Sand, Balzac a Flaubert, nid trosiadau arwynebol mo’r mynych sylwadau am y perfedd. Yn achos Balzac, er enghraifft, mae’r broses o dreulio bwyd yn rhan hanfodol o’r person: yn La Peau de chagrin (1831), pan fo’r prif gymeriad yn dioddef o salwch diesboniad, noda un meddyg: ‘il n’existe plus d’estomac; l’homme a disparu’ (does ganddo ddim stumog ar ôl; mae’r dyn ei hun wedi diflannu).

Roedd y perfedd hefyd yn allweddol i rai o athronwyr mwyaf dylanwadol yr oes. Credai Charles Fourier a Pierre Leroux mai’r perfedd oedd y ddolen gyswllt rhwng yr unigolyn a’r byd, a’r system dreulio oedd canolbwynt eu systemau cymdeithasol iwtopaidd. Gwrthodent y dull traddodiadol o ddeall y broses o dreulio bwyd. Cafwyd pwyslais ym myd newydd Fourier, er enghraifft, ar ehangu ac ymledu parhaus: cynhyrchid mwy a mwy o fwyd, ac roedd chwant bwyd pobl yn rhywbeth positif a fodlonid yn barhaus, mewn byd delfrydol o undod rhwng pobl a natur. Nid cylch caeedig mo’r broses dreulio i Leroux chwaith. Yn ôl gweledigaeth yr athronydd hwn, bob tro y caiff rhywbeth ei fwyta caiff rhywbeth newydd ei gynhyrchu, mewn system barhaus o ailgylchu. O fewn athroniaeth y ddau, pwysleisir ffynhonnell ein bwydydd a’r hyn sy’n digwydd iddynt, gan ein gorfodi i ystyried ein perthynas â bodau eraill.

Yn sgil y pwyslais a roddid o fewn llawlyfrau meddygol y cyfnod ar y perfedd ar gyfer y broses o feddwl, ystyrid yr ysgolhaig yn berson a oedd yn debygol iawn o ddatblygu anhwylder y stumog. Yn ôl un meddyg, er enghraifft, roedd rhai yn asesu dawn ddeallusol pobl ar sail cyflwr eu stumog, a chyfeiria at ysgolheigion fel bodau dwyfol uwchlaw meidrolion cyffredin (Réveillé-Parise, Physiologie et hygiène des hommes livrés aux travaux de l’esprit, 1834). Yn y llawlyfrau iechyd, felly, roedd pwyslais mawr ar gyflyrau gastrig deallusion, ac eto roedd tuedd baradocsaidd hefyd i’w portreadu fel bodau yn perthyn i faes y meddwl y tu hwnt i’r corff. Ymddiddorai llenorion y cyfnod yn fawr yn y tensiwn hwn, a cheir sawl enghraifft o nofelau iwtopaidd a ffugwyddonol yn cyfleu bodau trosgynnol, distumog, megis gan Jules Verne a H G Wells. O fewn naturoliaeth a dirywiaeth hefyd, roedd ymgais i wadu ein cyflwr corfforol, yn enwedig y broses o dreulio bwyd, mewn nofelau megis À Rebours (1884) gan Huysmans. Yn y pen draw, dangos wna’r nofelau hyn mor amhosib yw’r dyhead hwn, a’r cyswllt hanfodol rhwng y corff a’r meddwl. 

Nid gallu ymenyddol yn unig a gysylltid â’r perfedd, ond iechyd yr ymennydd yn gyffredinol. Bu tuedd ymysg meddygon Ffrainc i bwysleisio rôl y perfedd yn iechyd emosiynol a meddyliol pobl ers canrifoedd: lleolid ‘les passions’, er enghraifft (yn fras: teimladau ac emosiynau), o fewn yr epigastriwm (y stumog a’r frest). Yn ystod y rhan fwyaf o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y system nerfol oedd yn cysylltu’r perfedd a’r ymennydd. Ond yn yr 1880au datblygodd y meddyg Charles Bouchard ddamcaniaeth newydd i esbonio sut mae heintiau ac afiechydon yn datblygu, sef ‘l’autointoxication’ (hunan-wenwyno). Yn ôl Bouchard, tocsinau a ryddheir gan facteria yn y perfedd sydd yn arwain at hunan-wenwyno, a dyma sy’n achosi afiechyd. Daeth y theori yn hynod ddylanwadol nid yn unig yn Ffrainc ond ar draws y byd, gan gynnwys America: cyhoeddodd y meddyg John Harvey Kellogg, er enghraifft, Autointoxication, or, Intestinal Toxemia yn 1919 yn pwysleisio deiet sydd yn lleihau lefel y tocsinau o fewn y perfedd. Un o’r rhesymau y datblygodd y fath syniadau yn Ffrainc yn wreiddiol oedd y ffaith bod trosiadau wedi eu seilio ar y stumog, bwyd, ac afiechyd yn ymddangos yn fynych mewn llenyddiaeth Ffrangeg. Yn Le Ventre de Paris (1874) gan Zola, er enghraifft, defnyddia’r llenor nifer o’r elfennau a fydd yn sail i ddamcaniaeth Bouchard. Cyfleir sefyllfa foesol y prif gymeriad yn nhermau gwenwyno’r unigolyn drwy’r system dreulio, a cheir pwyslais drwy gydol y nofel ar fwyd a baw yn ymgasglu yn y lle anghywir, sef y broses a amlygir yn theori Bouchard. 

Datblygodd un llenor penodol, Huysmans, yr elfennau hyn i gyd ymhellach. Ystyrid y llenor dylanwadol hwn fel nofelydd yn perthyn i naturoliaeth (‘naturalism’) yn ystod ei gyfnod cynnar ond daeth ei waith yn fwy dirywiaethol (‘decadent’) a symbolaidd yn y 1890au a dechrau’r ugeinfed ganrif. Ceir diddordeb mawr drwy gydol gyrfa Huysmans yn y broses o ddeall yr unigolyn – yn gorfforol ac yn feddyliol – drwy ddulliau llenyddol, meddygol, ac ysbrydol. Un elfen sy’n nodweddu ei holl waith yw diddordeb mewn bwyta a threulio bwyd a’r cysylltiad rhwng y prosesau hyn a’r ymennydd a’r ysbryd. Y mae ei waith yn archwilio afiechydon corfforol a meddyliol yn nhermau pydru a gwenwyno (yn debyg iawn i ‘l’autointoxication’), ond yn ei nofelau, nid rhywbeth ffiaidd yn unig yw pydredd ond hefyd proses llawn cyfaredd, cyffro, ac egni. Meddai am gynghorwyr ysbrydol y cyfnod er enghraifft: ‘ils phosphorent comme des pourritures!’ (maent yn meddwl yn galed fel pydredd). Mae’r ferf ‘phosphorer’ yn cyfeirio at y defnydd o egni meddyliol fan hyn, ond gall y ferf olygu sgleinio yn llachar ac mae hefyd yn cyfeirio at ffosfforws, sef math o fwyn llachar a fflamllyd. 

Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, felly, roedd y perfedd yn fan cychwyn ar gyfer sawl safbwynt ynglŷn â’r corff a’r meddwl, nid yn unig ymysg meddygon ond hefyd llenorion ac athronwyr, fel rhan o’r broses o ddeall beth yn union yw person dynol. Erbyn heddiw, mae ymchwilwyr yn darganfod mwy a mwy o dystiolaeth bob dydd yn dangos rôl y perfedd o fewn prosesau corfforol ac ymenyddol yr unigolyn. O ddiddordeb pellach i ni heddiw hefyd y mae’r pwyslais a osodid yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gadw’r perfedd yn iach fel ffordd o osgoi salwch. Erbyn hyn, mae ‘lifestyle medicine’ – sef canllawiau ar gyfer byw’n iach – yn allweddol bwysig, wrth i’r niferoedd o bobl ym Mhrydain a thu hwnt sy’n dioddef o afiechydon anheintus, cronig (megis clefyd y siwgr, clefyd y galon, a dementia) gynyddu. Er gwaetha’r cynnydd aruthrol a welwyd ym maes meddygaeth ac iechyd y boblogaeth yn gyffredinol dros y can mlynedd diwethaf, ceir ymwybyddiaeth erbyn hyn o’r angen i fod yn rhagweithiol drwy geisio osgoi salwch yn y lle cyntaf drwy fyw’n iach, yn enwedig o ran yr hyn rydym yn ei fwyta, yn hytrach na dibynnu’n unig ar feddyginiaethau, a hynny ar ôl mynd yn sâl. 

Gellir awgrymu, felly, fod y cyngor a roddir yn y traités d’hygiène (llawlyfrau iechyd) yn Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cynnig ysbrydoliaeth bwysig, yn enwedig eu dulliau o fynd ati i ddwyn perswâd ar bobl i gymryd camau cadarnhaol i gynnal eu hiechyd corfforol a meddyliol drwy ddewis bwydydd yn ddoeth, gan ystyried sut y cânt eu treulio. O fewn y llyfrynnau hyn, mae’r berthynas gymhleth, ryngweithiol rhwng y perfedd a’r ymennydd nid yn unig yn fodd o
gadw’n iach ond hefyd yn sbardun i feddwl yn ehangach am y berthynas rhwng y meddwl a’r corff ynghyd â’r berthynas rhwng pobl a gweddill byd natur. ‘Yr wyf wedi sôn am fynd i berfedd pethau, i weld y “gweithredoedd” fel petai, a gwybod sut y maent yn gweithio’ meddai T H Parry-Williams yn Myfyrdodau (1957). Mewn modd trosiadol y cyfeirir at y perfedd yma, ond datgelir mewn ymadroddion o’r fath ddealltwriaeth ddofn o bwysigrwydd y broses dreulio fel modd o fynd ati i ddeall y cwestiwn dyrys hwnnw, ‘beth yw hanfod dynoliaeth?’ 

Mae Manon Mathias yn darlithio ym Mhrifysgol Glasgow.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd llai o bwyslais ar foesoldeb a chrefydd wrth geisio deall y corff dynol

Pynciau:

#Y corff
#Ffrainc
#Iechyd
#Iechyd meddwl
#Rhifyn 23