Dadansoddi

‘This high note trembling’ 

Jorie Graham, ‘prifardd’ y Taleithiau

Jorie Graham

To 2040

Copper Canyon Press, 80tt, $25, 2023

‘This high note trembling’ 
M Wynn Thomas

Amser darllen: 13 munud

08·11·2023

 

Meddyliwch am hyn. Merch fach ddeng mlwydd oed yn ymweld â’r afon Ganges yng nghwmni ei mam. Mae ei mam yn ei chymell i ymdrochi, gan esbonio ei bod ar fin nofio gyda’r meirw, am fod lludw dynol yn cael ei wasgaru yno’n feunyddiol. Mae’r ferch fach yn arswydo cymaint nes gorfod cael meddyginiaeth i’w thawelu. Heddiw, mae’r ferch sydd bellach yn fenyw dros ei saith deg oed yn cael ei harteithio gan y posibilrwydd ei bod unwaith eto ar fin ymuno â byd y meirw, a bod y byd cyfan hefyd ar fin rhannu’r un ffawd

I turn to the dead more now,
clearer every day as I approach them,
there in their silky layers of 
silence, their wide almost waveless ocean,
rolling under their full moon,
swells striating the horizonless backdrop,
extending what seems like forever
in that direction –
though what can forever mean where there
is
no space no time.

Yma mae’r geiriau wedi cael eu corlannu a’u gyrru i ben draw eithaf y ddalen, gan oedi uwch ben dibyn gwyn ei hymyl. Mae’n ddelwedd weledol o’r hyn yr ofna Graham sy’n digwydd inni – sef ein bod wedi ein cywasgu ynghyd gan y byd technolegol a digidol i fyw yn y presennol yn unig, gan lwyr anghofio’r gorffennol a’r dyfodol. Ymdrech yw ei cherddi i ailafael yn y llinyn brau sy’n ein cydio y naill wrth y llall. Dyna yw prif swyddogaeth ei geiriau. 

Cyrhaeddodd y ferch fach a fu’n ymweld ag India ei harddegau cyn ei bod hi’n medru darllen cloc. Ceisiodd ei thad ei dysgu droeon, ond methiant fu ei ymdrechion. Yn y diwedd, fe gywilyddiai hi gymaint nes cuddio ei hanabledd. Heddiw, a hithau’n adnabyddus fel Jorie Graham, mae’n dal i gael ei chyfareddu gan ddirgelwch amser, ein profiad dirfodol ohono a’i briodas â gofod yn y cwlwm cyfrin sy’n greiddiol i’r cosmos yn ei gyfanrwydd. Y mae hefyd yn arswydo wrth sylweddoli bod y cloc daearol yn tician, ac nad oes ganddon ni lawer o amser ar ôl bellach i achub ein planed fel y mae. 

Erbyn hyn, ystyrir Graham gan rai yn brifardd cyfoes y Taleithiau ac mae’r cerddi yn ei chyfrol apocalyptaidd newydd yn nodweddiadol ddyrys. Mae’r arddull yn fesmeraidd o gymhleth, yn gyfuniad cyfareddol o’r uchel-ddeallusol (yn null y bardd mawr Americanaidd Wallace Stevens) a’r synhwyrus. Mae’n hoff o ddyfynnu sylw creiddiol Stevens, ‘a poem must resist the intelligence almost successfully’. Bu ei gwaith yn hynod o’r cychwyn, ac mae hynny‘n gweddu i dreigl ei bywyd anarferol. 

Fe'i ganed yn Rhufain yn 1952 ac fe'i maged yn y ddinas hon, oedd ar i fyny unwaith yn rhagor ar ôl cael ei rheibio yn yr Ail Ryfel Byd. Siaradai Eidaleg, ond mynychai lycée Ffrengig gan dyfu’n rhugl mewn Ffrangeg. Athroniaeth oedd un o brif bynciau ei maes llafur, ac wrth dyfu i fyny arferai gael hwyl a sbri yn y Fforwm yn Rhufain a chwarae mig yn rhai o eglwysi hynafol y ddinas. Fe’i hamgylchynid gan luniau a murluniau'r mawrion. Yn ferch ifanc, bu’n ymchwilydd am gyfnod i’r cyfarwyddwr ffilmiau enwog Michaelangelo Antonioni. Aeth yn ei blaen i’r Sorbonne, gan gyrraedd yno adeg y chwyldro a adnabyddir bellach fel ‘les événements’. Roedd un o’r prif arweinyddion, Daniel Cohn-Bendet, yn yr un dosbarth â hi. Oherwydd iddi ymuno yn y protestiadau, fe’i gyrrwyd o’r Sorbonne, a mudodd i’r Unol Daleithiau – gwlad enedigol ei rhieni.

Bratiog iawn oedd ei Saesneg pan laniodd, ond ymrwymodd ym mhrifysgol dinas Efrog Newydd i astudio hanes a thechneg byd y ffilmiau, am fod y cyfrwng hwnnw yn arfer iaith weledol drawsffiniol. Ymhlith ei hathrawon yr oedd Martin Scorsese. Yna, ar hap yn llwyr, clywodd drwy gil rhyw ddrws lais athro yn darllen darn o waith T S Eliot ar goedd. Fe’i swynwyd yn lân, a dychwelodd yn gyson i’w ddosbarthiadau i wrando arno. Aeth i brifysgol Iowa, ac ymaelodi yn y cwrs ysgrifennu creadigol byd-enwog yno. Heb fod yn hir ar ôl graddio fe gafodd ei phenodi yn athro yn yr adran, ac yno y bu’n gweithio tan iddi gael ei gwahodd yn 1999 i olynu ei chyfaill Seamus Heaney fel Athro Boylston yn Harvard.

Fel mae’n digwydd, rwyf wedi cael y pleser o gyfarfod â Jorie Graham ar sawl achlysur a dod i’w hadnabod ychydig. Y cyfarfyddiad mwyaf cofiadwy oedd y cyntaf, yn Abertawe yn 1995, pan ymwelodd hi â’r ddinas i drafod ei chyfrol gyfredol, flwyddyn cyn iddi ennill Gwobr Pulitzer. Ces gyfle bryd hynny i’w chyfweld yn gyhoeddus – mae’r cyfweliad wedi ei gyhoeddi – ac i sgwrsio gyda hi dros ginio. Soniai’n frwd am ei hymweliad â Chastell Carreg Cennen yn gynharach yn y dydd, a mynegodd ddiddordeb arbennig yn y ffaith fy mod yn ddwyieithog, gan esbonio ei bod hithau yn medru tair iaith.

Yr adeg honno, roedd wedi ffoli ar waith dau o awduron pennaf yr ail ganrif ar bymtheg, sef Thomas Traherne a Henry Vaughan. Roedd y ffaith bod Vaughan yn medru Cymraeg yn newyddion iddi, ac fe’i cyffrowyd ganddo. ‘That explains it,’ meddai. ‘It explains the strange torque in his writing that has always fascinated me.’ Elwais ar y sylw awgrymog hwnnw flwyddyn yn ddiweddarach pan luniais ysgrif yn dadlau bod angen darllen barddoniaeth Henry Vaughan o’r newydd yn sgil y ffaith ei fod yn medru’r Gymraeg. Ymdrech ôl-drefedigaethol oedd hynny ar fy rhan i danlinellu Cymreigrwydd bardd sy’n cael ei ystyried yn fardd Saesneg Seisnig gan drwch yr ysgolheigion o Loegr ac America sy’n ymddiddori yn ei waith.

Fe welwyd sawl tro go egr ym mywyd Jorie Graham yn ddiweddar, ac mae’r profiadau hynny yn bwrw eu cysgod tywyll dros ei chyfrol. Yn gyntaf fe gollodd ei mam, a hithau wedi dathlu ei phen blwydd yn 97. Yna, fe gafodd ei gŵr ddamwain bur ddifrifol. Yn olaf, fe ddarganfu Jorie ei bod yn dioddef o ganser. Yn gymysg â hyn oll roedd colledion enbyd Covid a’r newyddion diweddaraf sobreiddiol am gyflwr argyfyngus y blaned. Yna, cafwyd y gwaedlif gwallgof yn Wcráin. Bu marwolaeth ei mam yn fodd i Graham sylweddoli o’r newydd pa mor annigonol yw’n gwerthfawrogiad o’n hanwyliaid nes eu bod yn ffarwelio â ni, a miniogodd hynny ei gwerthfawrogiad o’r cread diflanedig o’i chwmps yn ogystal. Nid yw’n syndod, felly, fod To 2040 yn fyfyrdod ar ddirgelwch eithaf ein bodolaeth fel unigolion ac fel dynoliaeth ac ar fregusrwydd ein byd cyfredol.

Un o’r cerddi mawr sydd wedi hoelio ei sylw yw awdl Keats i’r Hydref. Iddi hi, mae’n fynegiant o ymwybyddiaeth bardd ifanc a wyddai ei fod yn dioddef o’r ddarfodedigaeth, clwyf nad oedd gwellhad iddo bryd hynny. Ymdrech gan Keats ydyw i gymodi â’i ffawd drwy fagu ymagweddiad aeddfed at fywyd. Mae’r sylw cryno a geir yn un o ddramâu Shakespeare, ‘ripeness is all’, yn tawel reoli’r gerdd ar ei hyd, ac mae’n gyfansoddiad sy’n celfydd wrthbwyso’r hiraeth am yr hyn a fu a’r addewid sy’n brigo i’r wyneb ym mhob arwydd o’r dyfodol. Felly, er y ceir sôn ar y naill law am gorws y mân wybed byrhoedlog, ceir cyfeiriad hefyd at fref yr oen o gae gerllaw. Ac yn echel i’r gerdd gyfan ceir y geiriau enwog lle mae’n troi ei gefn ar ‘the songs of spring’, gan annog yr Hydref i gofio, ‘Thou hast thy music too’, sylw sy’n magu dwyster pan sylweddolir bod Keats yn cymell ei hun i wneud yn fawr o’r ychydig amser oedd ganddo ar ôl,  Dyna hefyd un o brif themâu To 2400, y cymhelliad i ymroi’n llwyr i’r byd synhwyrus sy’n ein hamgylchynu ac yn cyfoethogi ein bywydau yn barhaus, gan barchu ei aralledd a chydnabod ei ddirgelwch cyfrin diderfyn. Dyma chi hi ar ei mwyaf telynegol mewn cyfrol gynharach o’i gwaith:

We
shall walk
out into the porch and the evening shall come on around us, unconcealed, blinking,
abundant, as if catching sight of us,
everything in and out under the eaves, even the grass seeming to push up into this our 
world as if out of
homesickness for it,
gleaming.

Y dirgelwch gwaelodol sy’n groth bywyd a geiriau yw un o destunau cyson Graham. ‘And through a riddle – at the last/– Sagacity must go,’ meddai Emily Dickinson yn fachog, bardd y mae Graham yn ei hystyried yn awen. Cais i amgyffred y pos hwnnw, gan dderbyn nad oes fyth obaith ei ddatrys, yw’r gyfrol syfrdanol hon yn rhannol. Oherwydd, wrth gwrs, yr un yn y bôn yw pos marwolaeth a phos bywyd a bodolaeth. ‘Tawed y calla’ yw’r ymadrodd cartrefol a ddefnyddiwn yn wyneb y fath bos, ac y mae Graham yn ymwybodol iawn ei bod hi’n gorfod naddu pob gair o’i cherddi yn betrus ymchwilgar, eu cloddio o’r distawrwydd eithaf, distawrwydd sydd hefyd yn cynnwys holl synau annynol y cread sy’n ein cwmpasu. Iddi hi, mae gwynder y papur yn awgrymu hyn oll. Yr hyn sy’n ei chymell i fentro torri gair yw’r arswyd sydd ganddi fod y ddynoliaeth ar fin dinistrio’r byd yn llwyr, ac y gall dydd wawrio pan na fydd bellach argoel o’r hyn sy’n ein cynnal ac yn ein cwmpasu ar hyn o bryd. ‘The rest is silence,’ chwedl Shakespeare.

Mewn un man, mae’n dychmygu byw ym myd di-fywyd y dyfodol, ac yna’n gorchymyn ei hun i yngan geiriau i gofnodi manylion achubol bywyd y presennol:

‘Say everything’ I say to the air
which begins to
thin now, say

everything before it dis-
appears. Turn us
loose. I remember
a stream darting free

from headwaters & then the

downslope which was
earth’s gift. I remember it
widening.  Leaves stirring above it,
as-if leaves stirring deep in-

side its surface.

Fel yr esboniodd Graham mewn cyfweliad diweddar mae hi’n dibynnu ar eiriau ei cherddi i ddyfnhau ei phrofiadau synhwyrus o fywyd. Drwyddyn nhw y daw’r cread yn gyflawn fyw iddi. Mae ei hatgofion o’r dyddiau digalon diderfyn a brofodd pan oedd yn cael ei thrin ar gyfer ei hafiechyd weithiau yn cael eu cyflwyno fel rhagflas o’r byd marw sydd i ddod:

We had
started with minutes. We had loved their
fullness – cells flowing thru this body of
time – purging all but their passing thru us
& our letting them flow-through. But then
they stopped being different. You couldn’t
tell one minute from another, or an hour,
day, year.

Ei gweddi daer yn wyneb hyn oll yw, ‘at least let there be diff/erence – otherwise whatever/remains of desire will go’.  Ac un o’r darnau mwyaf teimladwy yn y gyfrol gyfan yw hwnnw lle mae hi’n dychmygu ei bod bellach yn byw yn y byd estron wnaiff ddilyn dileu y cread, ac yn cofio’r adar oedd yn arfer hedfan ymhobman yn y gorffennol coll:  ‘How they / flocked up across our / fields. How // that last morning, / in that world, in rising ground- / mist, in the pull of its / fast evaporation as that strange / sun rose, arms / outstretched & / laughing, out of / breath, we ran to chase them / till they dis- / appeared. 

To 2040 yw teitl ei chyfrol, am na fydd troi nôl yn bosib ar ôl y flwyddyn honno os na cheir chwyldro yn y cyfamser. Dyna felly ddyddiad arfaethedig diwedd y byd fel yr ydym yn ei adnabod. A chred Graham ei fod hefyd yn ddyddiad y gallwn yn hawdd uniaethu ag ef, am ei fod yn ddigon agos i’n presennol. Nid marwnad yw ei chyfrol, serch hynny, eithr ymdrech i gyffroi’n meddwl, ein dychymyg a’n teimladau fel y mynnwn weithredu i ddiogelu’n bydysawd cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Mewn un man, mae’n dychmygu ei hun yn gorwedd yn llipa ar lawr cwch sy’n araf symud gyda llif yr afon i gyfeiriad y môr – ond sydd byth bellach yn medru cyrraedd yno, am ei bod yn marw cyn cyrraedd yr aber:
 

The river is running thin.
I see the fish on the banks with no birds
around them.
Human heart, I say to myself, what are
you doing here, this is far too much
for you to lay
eyes on.
The young fish flat in the brackish
water.
The slowing current. The cries of the
Dusk birds like shattering glass,
one cry and they’r done.


Ac yna, mae’n dwyn i gof y bywyd a gollwyd am byth:


Remember the
turns. Put my hands
in the springs,
the groundwater recharge. The slow deli-
cate fanning of the drainage basin.  The mouth, the confluence,
the downriver arrivals –
delta – sediment yield – salt tide –
open sea.


Pan ddarllenodd hi’r darn pwerus yma ar goedd ychydig amser yn ôl fe fethodd ymatal rhag dagrau. Ac o gofio mai bardd Americanaidd yw hi, mae’n fy nharo i fod y diweddglo hwn yn cynnal sgwrs ddirgel gyda diweddglo cerdd fawr Walt Whitman, ‘There was a child went forth’. Ynddi mae’n olrhain twf plentyn hyd nes iddo ddatblygu’n oedolyn, ac mae’n gorffen drwy gyfeirio sylw at:

The strata of color’d clouds, the long bar of maroon-tint away
      solitary by itself, the spread of purity it lies motionless in,
The horizon’s edge, the flying sea-crow, the fragrance of salt
     marsh and shore mud,
These became part of that child who went forth every day, and
     who now goes, and will always go, forth every day.

Cerdd hyderus yw cerdd Whitman, cerdd obeithlon yn seiliedig ar y gred na fyth byth ddiwedd i’r byd a’i ryfeddodau. Cerdd ofidus, hiraethlon, yw cerdd Graham, cerdd sy’n arswydo wrth ystyried y daw dydd pan na fydd y byd a ddethlir gan Whitman bellach yn bod.

Mae angen bathu term megis ‘meta-farddol’ i ddisgrifio techneg y cerddi hyn. Hynny yw, mae’r gerdd yn myfyrio uwch ben ei phrosesau ei hun wrth iddi fynd yn ei blaen, a'r un pryd mae’n ymchwilio i’r broses o fyfyrio. Yn ei hanfod, mae’n farddoniaeth ‘ymenyddol’ na fydd wrth ddant pawb. Ond mae’n syndod o afaelgar, ac yn meddu ar rym rhyfedd i hudo’r deall. O’r cychwyn gadawodd ei phrofiad cynnar o gynhyrchu ffilmiau ei ôl ar ddull Graham o gyfansoddi. Yn ystod fy nghyfweliad â hi, chwarter canrif yn ôl bellach, soniodd am y dechneg o dorri tâp a gludo darnau ‘digyswllt’ ohono ynghyd, ac am ddysgu sut i ddefnyddio ‘moviola’. Ac fe esboniodd ei bod wedi addasu y dechneg hon at bwrpas ei cherddi:

Visually. There was no devising alternative methods for cutting – so the sense of what was juxtaposed to what was, I think, really important to me.

Of course, the film editing techniques that come to us through the theories of Eisenstein, and which are first manifested in the famous Potemkin step-sequence in his movie by that name, taught us a great deal about how a collision of conflicting images could give birth to an alternative reality, an imaginative reality, in which a cause and effect are linked which might not be evident in the actual place the poem (or film) attempted to record.

Ac meddai ymhellach:

I’m interested in leaps that hold together, and, as I move from book to book, I think I’ve become more interested in how far one can leap, how great the juxtaposition can be between two images or gestures, or statements, and still attain coherence. I’m not interested in a reader-based activity, in which the coherence is radically different for each reader. I’m interested in a coherence which can come about through juxtaposition. 

Dyna felly gip ar ddirgelwch ei cherddi.  

Yn y gerdd ‘The Violinist at the Window, 1918’ a ymddangosodd yn ei chyfrol Sea Change (2008), mae’n sôn am syllu ar lun gan Matisse. Dychmyga fod gan yr artist y Rhyfel Mawr mewn cof wrth baentio, ac mai datganiad o ffydd yn y grym dynol o fynnu parhau i obeithio yn wyneb holl erchyllterau bywyd yw y darlun. Mae’r ffigwr gan Matisse yn glynu yn ei chof, am ei fod yn ddelwedd o ‘[an] obligatory hope’, a dychmyga ymhellach fod chwarae’r fiolinydd yn fynegiant ‘[of[ what hope forced upon oneself by one’s self sounds / like – this high note trembling’. A dyna’r union nodyn a drewir yn ei chyfrol newydd – cyfrol sydd â’r grym i’n harswydo ac eto i’n hatgyfnerthu.

Llun: Jorie Graham

Mae’r arddull yn fesmeraidd o gymhleth, yn gyfuniad cyfareddol o’r uchel-ddeallusol (yn null y bardd mawr Americanaidd Wallace Stevens) a’r synhwyrus

Pynciau:

#M Wynn Thomas
#Gogledd America
#Barddoniaeth