Adolygu

Ar y bwrdd bach


O’r Pedwar Gwynt

Amser darllen: 5 munud

30·04·2019

Kindred gan Octavia Butler (Doubleday, 1979)

Mae Kindred bellach wedi hawlio ei lle fel clasur sydd yn plethu ffuglen wyddonol â llenyddiaeth Affro-Americanaidd. Dyma’r nofel ffuglen wyddonol gyntaf a ysgrifennwyd gan ddynes Affro-Americanaidd. Fe’i hadroddir o safbwynt Dana, awdures ifanc Affro-Americanaidd a gaiff ei chipio’n ôl ac ymlaen mewn amser, o’i chartref yn Nghaliffornia yn 1976 i Maryland cyn rhyfel cartref America mewn cyfnod pan oedd caethwasiaeth ar ei hanterth. Daw wyneb yn wyneb â’i hynafiaid – un yn gaethferch ddu alluog a’r llall yn ddyn gwyn a’i gorfododd i hualau caethwasiaeth. Wrth iddi gael ei hebrwng yn ôl ac ymlaen mewn amser, mae llinynnau hanes gorffennol Dana a’i theulu yn ei hamgylchynu nes daw yn frawychus o amlwg pam ei bod hi wedi cael ei danfon i’r gorffennol. Darlunir gwirionedd creulon caethwasiaeth America mewn modd cwbl gignoeth drwy lygaid ifanc y prif gymeriad. Drwyddi hi cawn ymdriniaeth ysgytwol o sut yr ydym, yn y presennol, yn dehongli ac yn ymdrin â dealltwriaeth benodol o hanes. Ystyrir y ffordd y mae America yn dewis anghofio gwirionedd amrwd caethwasiaeth, a’r boen sydd yn parhau i'r dyfodol. Mae Kindred yn nofel am sawl peth: hil, grym, rhyw a rhywedd. Ond yn fwy na dim, gellid dadlau ei bod yn nofel am yr hyn sy’n digwydd pan fo’r gorffennol a’r presennol yn taro yn erbyn goblygiadau anghofio gwirioneddau ein hanes. [Fflur Arwel]


Authentocrats: Culture, Politics and the New Seriousness 
gan Joe Kennedy (Repeater, 2018)

Archwilio natur berfformiadol ‘dilysrwydd’ y mae Authentocrats, cyfrol ddiweddaraf Joe Kennedy. Mae’r pwyslais ar hunaniaeth ddosbarth gweithiol. Datblygir damcaniaeth ddefnyddiol ynghylch y modd y caiff syniadau gor-syml am y dobarth gweithiol ‘dilys’ (sydd fel arfer yn cyfeirio at ddynion gwyn) eu harneisio i gyfiawnhau polisïau neo-ryddfrydol, milwrol. Yn aml iawn, gwneir hynny gan wleidyddion a sylwebwyr sydd heb dreulio amser erioed yng nghwmni pobl dosbarth gweithiol ac sydd yn eu trin fel ‘yr arall’.

Cawn ein cyflwyno i ganfas eang, a symuda’r awdur yn rhwydd rhwng dadansoddiad o erthygl ethnograffig yn y Guardian am Ferthyr Tudful, er enghraifft, gyda’i ‘commodified grittiness’, i drafodaeth am Orwell a’r modd y’i defnyddir gan wleidyddion tecnocrataidd er eu budd sinigaidd eu hunain. Ceir sylwadau miniog am yr authentocrats sy’n ceisio tanseilio prosiect Corbyn. Dyma’r rhai sy’n credu y dylid parhau gyda’r ideoleg Trydedd Ffordd nad yw’n gwasanaethu’r dosbarth gweithiol o bell ffordd; ar yr un pryd, rhoddir yr argraff ganddynt eu bod yn deall pryderon dilys y dosbarth hwn. Cred y gwleidyddion a’r sylwebwyr hyn eu bod wedi ymryddhau o hualau ideoleg ac mai y nhw ydi’r lleisiau rhesymol, pragmataidd. Un o uchafbwyntiau’r gyfrol yw’r disgrifiad o berfformiad yr Aelod Seneddol Llafur, Owen Smith, yn ystod cyfweliad gyda’r wasg mewn caffi Eidalaidd ym Mhontypridd yn 2016, pan oedd yn herio Corbyn am yr arweinyddiaeth. Wrth dderbyn cappuccino, mynnodd y byddai fel arfer yn yfed coffi mewn ‘mug’, nid mewn ‘posh cup’, ac nid efo bisgedi bach ffansi. Roedd yn awyddus i sefydlu ei hygrededd fel dyn ‘go iawn’, ‘gonest’, ‘syml’, yn perthyn i’r ‘bobl’, er gwaetha’r ffaith ei fod yn ffigwr breintiedig, sefydliadol, gyda chefndir PR yn y byd corfforaethol, a’r ffaith fod traddodiad dosbarth gweithiol cryf o yfed capuccino Eidalaidd yn y Cymoedd.

Yn ôl Kennedy, mae’r perfformiad o ddilysrwydd gan bobl nad ydynt mewn gwirionedd yn poeni am fuddiannau’r dosbarth gweithiol ac nad ydynt yn fodlon mynd i’r afael â dadansoddiad materolyddol o’r status quo, yn gysylltiedig â phoblyddiaeth – poblyddiaeth y tir canol gwleidyddol. Ac mae rhagrith eu perfformiadau yn ei gythruddo, fel y mae newyddiadura diog, ystrydebol a nawddoglyd wrth drafod cymunedau y tu allan i Lundain, ynghyd â chred yr authentocrats fod y dosbarth gweithiol yn rhy dwp i ddeall ystyr ‘neo-ryddfrydiaeth’. Y dicter hwn oedd cymhelliad Kennedy dros ysgrifennu’r gyfrol – ac mae’n gyfrol bwysig, sy’n mudferwi gyda rhwystredigaeth a ffraethineb. [Angharad Penrhyn Jones]

 

The Age of Surveillance Capitalism gan Shoshana Zuboff (Profile Books, 2019)

Mae’n debyg mai ychydig yn ein plith sy’n ymwybodol bod gafael technoleg gwybodaeth a chyfathrebu heddiw yn ehangach hyd yn oed na thrydan, gan gyrraedd tri biliwn o blith y saith biliwn sy’n byw ar ein planed. Bwriwyd gwreiddiau’r dechnoleg hon yn ddwfn: erbyn hyn mae ymhlyg yng ngofynion dyddiol dinasyddion, yn cyfryngu bron pob ffurf ar ymwneud cymdeithasol. Agorir ein llygaid gan gyfrol bwysig ddiweddaraf Shoshana Zuboff, The Age of Surveillance Capitalism, i weithrediadau’r ffenomen hon. Dadleuir ganddi fod cwmnïau technoleg mawrion, er enghraifft Google, Facebook a Microsoft, i bob pwrpas yn ail-sgwennu rheolau cyfalafiaeth ac yn ailweirio cylchdaith grym yn ein cymdeithas. Mewn astudiaeth swmpus a dwys o dros 700 o dudalennau, sy’n gosod sylfaen academaidd i’r maes am y tro cyntaf, paentir darlun sy’n anesmwytho.

Sylfaen dadl Zuboff yw fod popeth a wnawn ar y we fyd-eang yn cael ei odro i’r eithaf, i’r graddau bod gwarged ein hymddygiad, yr holl fanylion dibwys hynny sy’n ffurfio personoliaeth, yn cael ei gasglu a’i werthu fel data ymddygiad i gwmnïau hysbysebu. Ond nid dim ond ysbeilio ein bywyd preifat a wneir gan y ffurf newydd hon o ymelwa ar y diniwed. Yn ôl Zuboff, y bwriad hefyd yw dylanwadu a manteisio arnom yn y ffordd fwyaf llechwraidd – ein camddefnyddio, i bob pwrpas. Digon anodd ydi ei weld am yr hyn ydyw – cyfalafiaeth gwyliadwriaeth (surveillance capitalism) – a ninnau’n mwynhau manteision megis mynediad chwimach fyth i wybodaeth a honno wedi ei theilwra’n gelfydd i’n gofynion. Cawn ein hannog allan i’r stryd i chwarae Pokémon Go, er enghraifft, heb sylweddoli mai chwarae gêm hollol wahanol a wnawn mewn gwirionedd – gêm lle mae’r bwrdd chwarae yn anweledig. A ninnau, yn ddarnau chwarae, wedi trosglwyddo goriad ein hymddygiad i’r farchnad, ildiwn yn awchus i arweiniad ein ffonau bach sy’n ein tynnu dros drothwy siopau a busnesau (maent yn talu am y fraint) na wyddem tan hynny fod gennym unrhyw ddymuniad i ymweld â hwy.

Hwn yw’r cam sydd â mwyaf o oblygiadau i’n cymdeithas, yn ôl Zuboff, sef y defnydd o ddata personol gan gwmnïau digidol i ddylanwadu ac arwain barn defnyddwyr, i’w perswadio i ffafrio a phrynu nwyddau penodol yr hysbysebwyr. Dadleua bod ffafrio algorithmau i ddatrys ein holl broblemau cymdeithasol a gwleidyddol yn gamgymeriad difrifol o ran hyfywdra democratiaeth, ac yn methu â pharchu ei natur angenrheidiol flêr; bod proses o ffurfio penderfyniadau ar sail trafodaeth a dadlau cyhoeddus, cyfunol, amherffaith yn hanfodol i gymdeithas iach. Fel arall, prin fod gofod yn weddill ar gyfer gweithredu ewyllys rhydd na hyd yn oed marchnadoedd rhydd. Fel y dywedodd un gwyddonydd data wrth yr awdur: ‘We can engineer the context around a particular behaviour and force change that way ... We are learning how to write the music, and then we let the music make them dance.’ A ninnau bellach â’r offer i adnabod gweithiannau grym yr 21g, sut tybed fyddwn ni’n mynd ati i ymwrthod â’r demtasiwn i ddawnsio i’r gerddoriaeth fradwrus hon? [Sioned Puw Rowlands]

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Sut fyddwn ni’n mynd ati i ymwrthod â’r demtasiwn i ddawnsio i’r gerddoriaeth fradwrus hon?

Dyddiad cyhoeddi: 30·04·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Boz Groden

Bu ein cartwnydd yn y Gwrthryfel yn erbyn Difodiant ac yn tynnu lluniau o'r hyn a welai'n digwydd o'i gwmpas yn ystod y pythefnos dwys hwn o brotestio yn Llundain.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…