Catrin Dafydd


Gwales

Y Lolfa, 298tt, £9.99, Awst, 2017

Argyfwng, uchelgais, chwyldro!
Adolygu

Argyfwng, uchelgais, chwyldro!

Adolygu Gwales gan Catrin Dafydd


Grug Muse

Amser darllen: 8 munud

13·09·2017

Petawn i’n gorfod disgrifio Gwales mewn un gair, uchelgeisiol fyddai hwnnw. A taswn i’n cael ychwanegu dau arall, mi fyddwn i’n ychwanegu mentrus a chwareus. Mae darllenwyr Cymru wedi arfer efo nofelau realaidd, pridd-ac-adfeilion-a-charcasau-ŵyn-bach, a thros y blynyddoedd mae nhw wedi glynu’n reit ystyfnig at yr hyn maen nhw’n ei hoffi. Pwy a ŵyr, wedyn, be wnân nhw efo nofel ddyfodolaidd, ddystopaidd, sy’n disgrifio Cymru ar ymyl chwyldro treisgar? Ac nid y genre yw’r unig elfen uchelgeisiol chwaith. Mae’r strwythur hefyd yn anarferol, yn ogystal â’r stori ei hun.

(Rhybudd: Mae'r adolygiad hwn yn datgelu rhai o elfennau plot y nofel. Peidiwch â darllen hyd at ei ddiwedd os nad ydych chi eisoes wedi darllen Gwales. Mae yna rybudd terfynol isod! - Goln.)

Mae’r byd y mae Catrin Dafydd wedi ei gonsurio yn un sy’n tanio’r dychymyg yn syth. Y demograffeg yn y lle cyntaf: mae yna gast amlddiwylliannol ond Cymreig o gymeriadau – mae’r prif gymeriad yn Gymro o dras Tsieineaidd ac un arall yn hanu o Nigeria. Yr hyn sy’n taro rhywun am Gymru Gwales yw’r modd y mae hi’n llwyddo i ymddangos yn rhyfeddol o ddiarth ond yn syndod o gyfarwydd ar yr un pryd. Mae hi’n gyfarwydd am ein bod ni eisoes yn byw mewn Cymru amlddiwylliannol. Mae hi’n anghyfarwydd am ei bod hi’n dal yn anarferol gweld y realiti hwnnw wedi ei bortreadu yn ein llenyddiaeth. Mi wirionais yn syth ar hyder Catrin Dafydd wrth greu dau brif gymeriad o gefndiroedd ‘ethnig’ a’r Gymraeg yn iaith naturiol iddyn nhw.

Ond sut fyd sy’n gartref i’r Cymry amlethnig hyn? Mae’n ymddangos fod rhyfeloedd a phreifateiddio wedi creu sefyllfa argyfyngus o dlodi a dioddefaint yng Nghymru fach, ac mae symudiad gwleidyddol o’r enw Poboliaeth wedi codi. Mae hwnnw am gynorthwyo’r ‘corff’ (sef y bobl gyffredin) i greu cymdeithas newydd – a hynny yng Nghaerfyrddin, wrth reswm. Mae dylanwad symudiadau gwleidyddol asgell chwith ac anarchaidd cyfoes yn drwm ar y symudiad, ac mae hwnnw’n gymysgedd gwahanol iawn i unrhyw rym gwleidyddol sy’n bodoli yn ein Cymru ni.

A dyna gael cip ar wir uchelgais Catrin Dafydd. Mae creu stori am chwyldro credadwy yng Nghymru yn goblyn o her. Mae hi’n amhosib dychmygu’r sefyllfa wleidyddol yn y Gymru sydd ohoni yn esgor ar fwy o dywallt gwaed na chyt papur, heb sôn am chwyldro arfog. Ac efallai mai hynny sydd i gyfrif am y ffaith ei bod hi’n anodd credu weithiau yng Nghymru Gwales – mae hi’n dal yn eithaf tebyg i’r Gymru gyfoes mewn cymaint o ffyrdd. A dyna, i mi, oedd prif wendid y nofel. Methais â chredu yng Ngwales (sef yr enw ar y chwyldro): roedd o’n chwyldro a oedd wedi’i gynllunio’n rhy daclus, yn rhy drefnus – yn debycach i drefnu ffurflenni treth na chynllunio i ddymchwel llywodraeth. Mae’r trafodaethau ynglŷn â’r chwyldro yn tueddu i fod yn robotaidd, ac mae’r cyfan yn digwydd mor hawdd (tan y rhan olaf, beth bynnag). Doedd y gelyn, sef y wladwriaeth, ddim yn ddigon brawychus, ac er bod amodau byw yng Nghaerfyrddin yn ymddangos yn reit wael, wnes i erioed wir deimlo awch go iawn am chwyldro yn y cymeriadau. Caiff y cymeriadau eu gyrru gan eu cydwybod cymdeithasol – sydd yn glodwiw, wrth gwrs – ond ble mae’r ofn a’r dicter sydd eu hangen i yrru cymeriadau i eithafion go iawn?

A beth, felly, am strwythur anarferol y nofel? Mae darllen Gwales fel darllen casgliad archifol o ddogfennau yn ymwneud â digwyddiad penodol yn hanes Cymru, sef chwyldro Gwales, ac mae’r archif hwnnw’n cynnwys e-byst, llythyrau, negeseuon a darnau o ddyddiaduron rhai o’r bobol a gyfrannodd ato. Mae rhai o’r cymeriadau hynny’n canolog i’r digwydd, eraill yn fwy ymylol.

Nid oes yna adroddwr a phrif lais traddodiadol, felly, na dim i’n harwain rhwng y pytiau. Fel brechdan heb y menyn, mae’n rhaid i’r llenwad fod yn dda iawn er mwyn osgoi brechdan sych. Ac, ar y cyfan, mae llenwad y frechdan hon yn fendigedig. Ar adegau, serch hynny, cefais fy hun yn hiraethu am fenyn yr adroddwr – mae ei absenoldeb yn golygu bod yn rhaid i’r cymeriadau eu hunain fwydo pytiau o wybodaeth angenrheidiol, er mwyn cynnal y stori neu gynnig golwg arall ar gymeriad. Yn aml, nid ydi’r math yma o wybodaeth yn teimlo’n naturiol mewn monologau, deialog neu lythyrau. Mae Brynach, er enghraifft, y prif gymeriad, yn ymddangos yn rhyfeddol o hunanymwybodol; mae’n llwyddo i ddadansoddi ei gyflwr meddyliol yn hynod dreiddgar o ystyried ei fod ar ddisberod ac yn ystyried gwneud amdano’i hun. Mewn nofel â strwythur mwy traddodiadol efallai y byddai yna lai o bwysau arno i ddadansoddi ei gyflwr emosiynol – byddai rhyw fath o lais adroddwr, a rhywfaint o bellter ac ôl-ddoethineb, yn medru cyfrannu yn ôl yr angen.

Ond mân beth ydi hynny, mewn gwirionedd, ac mae yna adegau pan mae’r strwythur fel y mae yn serennu – wrth bortreadu cymeriadau fel Shan a Judith, er enghraifft. Taith emosiynol y cymeriadau hyn yw eu prif gyfraniad i’r stori, ac mae’r strwythur yn gweddu’n berffaith i’w taith. Trwy gyfrwng llythyrau Judith at ei chwaer, cawn ddarlun torcalonnus o’i bywyd yn cael ei dynnu’n ddarnau, o ganlyniad i’r rhyfel efo Tsieina. Yn achos Shan, fe’i gwelwn yn datblygu trwy gyfrwng cyfres o e-byst at ei mam: ar gychwyn y stori mae hi’n byw mewn byd sydd wedi’i gyfyngu gan ei chadair olwyn a’r we, ond wrth i’r stori fynd rhagddi, gwelwn ei bywyd yn newid yn gyfan-gwbl.

Rhag i mi eich camarwain chi, felly, mae Gwales yn fwy na chofnod o chwyldro yng Nghaerfyrddin yn unig. Mae’r berthynas rhwng rhieni a phlant yn thema ganolog hefyd, o berthynas rwgnachlyd Cêt a’i thad, Doctor Huw, sydd fel petai wedi dod yn syth o gyfres Teulu ers talwm, i berthynas farw Judith â’i mab Brynach. Mae gan Brynach yn ei dro berthynas flêr â Morfudd a’i merch hithau, Tanwen, ac mae yna berthnasau unochrog hefyd, fel perthynas Shan a’i mam. Mae Catrin Dafydd yn portreadu’r chwyldroadau a’r rhyfeloedd sy’n llenwi bywydau pob teulu.

(Peidiwch â darllen y paragraff olaf hwn os nad ydych chi eisoes wedi darllen Gwales - Goln.)

Ond gellir dadansoddi’r perthnasau hyn mewn modd symbolaidd a gwleidyddol hefyd: os yw’r rhieni’n cael eu defnyddio i gynrychioli’r gorffennol a’r presennol (y Doctor Huw, er enghraifft, a’i ddadleuon ceidwadol), mae’r plant yn cynrychioli’r dyfodol. Ond beth am yr Edith Hutchinson ddi-blant wedyn? Hi yw arweinydd eithafol a didrugaredd y chwyldro ac mae hi’n cynrychioli delfryd o’r Gymru newydd. Y brif berthynas yn ei bywyd yw’r berthynas â’i gŵr, Llawen, ac er iddi fod yn feichiog ar un adeg, fe gollodd y baban. Mae hi’n fam ffaeledig yn y cyswllt hwn ac er ei bod hi’n cydnabod ei bod wedi colli plentyn, mae hi’n ceisio cuddio’i theimladau ac yn trin yr emosiwn yn glinigol ac oeraidd. Ar y llaw arall, mae Shan, dynes anabl sy’n ymddangos ar y dechrau fel symbol o’r oll sydd o’i le â chymdeithas, yn magu grym a hyder yn ystod y nofel ac yn dod yn arweinydd cartel cyffuriau mwyaf Caerfyrddin. Ac mae hi'n feichiog ar ddiwedd y nofel hefyd. Mae Shan yn gymeriad sy’n arddangos emosiwn sicr, ac mae’n ymgymryd â’i swydd fel arweinydd y rhwydwaith gyffuriau er mwyn ei baban. Mae’r darllenydd yn cydymdeimlo â hi, er gwaetha’r ffaith ei bod, ar un olwg, yn troi’n ddihiryn. Mae hynny’n ddefnydd diddorol o drofeg y fam a’i baban. Y fam ‘naturiol’ yw’r dihiryn tra bod yr arwr gwleidyddol wedi methu ag esgor ar blentyn iach. Mi wna i adael i chi benderfynu a oes yna arwyddocâd i hynny ai peidio.


Cyhoeddodd Elan Grug Muse ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Ar Ddisberod (Barddas), ym mis Mai 2017. Mae hi'n un o gyd-sylfaenwyr Y Stamp ac yn aelod o Gywion Cranogwen


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Yr hyn sy’n taro rhywun am Gymru Gwales yw’r modd y mae hi’n llwyddo i ymddangos yn rhyfeddol o ddiarth ond yn syndod o gyfarwydd ar yr un pryd

Dyddiad cyhoeddi: 13·09·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…