Adolygu

Artes Mundi 8 – rhyfedd o fyd

Arddangosfa yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd hyd 24 Chwefror 2019


Dylan Huw

Amser darllen: 9 munud

05·12·2018

 Power Boy (Mekong), 2011 (1500mm-x-2250mm), print Lightjet gan Apichatpong Weerasethakul 
Gyda diolch i Kick the Machine Films


Yn drac sain i sgrin ddu, mae cyfraniad yr artist Bouchra Khalili i arddangosfa Artes Mundi 8 yn agor â’r brawddegau canlynol:

So: how do we start? Do we start with the story – with the image of the story – or with what remains of them? What remains of a story is sometimes images, sometimes sounds, sometimes memories, sometimes witnesses; but, always, words. So let’s start with these words...

Taflunir goleuni amgen gan y geiriau hyn ar sentiment y mae’r artist John Akomfrah – enillydd gwobr Artes Mundi 7 ddwy flynedd yn ôl – yn hoff o’i ailadrodd: ‘The future begins by making an image.’ Mae'r mantra hwn yn ddisgrifiad addas o'r arddangosfa a gafwyd yn 2016. Bryd hynny, gwelwyd dangosiad cyntaf ffilm Bedwyr Williams, Tyrau Mawr ymhlith grŵp o weithiau eraill oedd yn cynnig golwg chwareus, amlhaenog ar amrywiol ffurfiau ar ddyfodol ansicr, oedd eisoes i'w deimlo’n drwm yn yr aer.

Yn achos arddangosfeydd grŵp fel Artes Mundi, temtasiwn ofer wrth gwrs yw gosod llinynnau didactig o gwmpas gweithiau sydd, yn amlach na pheidio, mor wahanol i’w gilydd. Eleni maent wedi’u creu gan artistiaid o Foroco/Ffrainc, Gwlad Thai, Nigeria/Gwlad Belg, UDA ac Armenia/Yr Aifft, ac yn amrywio o osodiadau fideo i ffotograffau a cherfluniau. Ond mae’r cwestiynau a godir gan adroddwr trac sain Bouchra Khalili (Moroco/Ffrainc) yn teimlo i mi fel rhyw fath o allwedd i'm cynorthwyo i ddeall nifer o’r cyfraniadau ar y rhestr fer: ym mhob un o ystafelloedd Artes Mundi 8 – mewn ffyrdd amrywiol iawn – gwelwn gwestiynau’n dod i'r wyneb ynglŷn ag ystyr bod yn ‘dyst’; ynghylch sut mae synio am y weithred o ‘dystio’ yn gallu cynnig ffyrdd eraill o ystyried posibiliadau a therfynau delwedd, a hynny yn ei dro yn cynnig dull amgen o ymdrin â hanes.

✒︎

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i fyny â’r Turner Prize, dyweder – yn enwedig gan mai ymgnawdoliad cyfredol y wobr honno yw’r cryfaf a’r mwyaf blaengar mewn cof – mae ei gwobr ariannol hael a’i chwmpas rhyngwladol yn sicrhau ei bod wedi ei gosod reit ynghanol y drafodaeth ynghylch diffinio celf gyfoes, a hynny lawn cymaint ag unrhyw sefydliad tebyg yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae gwaith fideo Khalili yn teimlo fel canolbwynt o fath i’r arddangosfa eleni, yn gorfforol ac yn ysbrydol. Ffilm-draethawd yw Twenty Two Hours sy’n ymateb ar letraws i’r chwedloniaeth ynghlwm wrth berthynas yr awdur Jean Genet a’r Black Panthers (y mudiad gwleidyddol a sefydlwyd yn 1966 gan Bobby Seale a Huey Newton i frwydro'n erbyn trais tuag at bobl dywyll eu crwyn o du heddlu'r UD). Ond mewn ffordd, cychwynbwynt yw defnydd yr artist o hanes y berthynas hon ar gyfer sèt ehangach, a honno’n llawn elfennau annisgwyl: o gwestiynau yn ymwneud â’r cof ac ymgyrchu milwriaethus i sut nad oes modd dianc rhag adlais rhai profiadau cymunedol, waeth pa mor gyflym mae’r byd yn newid yn dechnolegol.

Datgelir gwir gyfoeth Twenty Two Hours yn araf, wrth i’r artist osgoi pwysleisio'r elfennau rhagweladwy; ychydig iawn o sôn sydd am rywioldeb Genet, ac mae steil llym y ffilm yn bell iawn o’r hyn y byddech yn ei ddisgwyl efallai gan waith sy’n cyfuno mythos y Panthers ag un o brovocateurs llenyddol blaena’r ugeinfed ganrif. Braf oedd gweld, hanner ffordd drwy’r ffilm, fideo o’r archif gan yr artist Carole Roussopoulos – o Genet yn datgan yn danllyd ei gefnogaeth i'r ymgyrchwraig Angela Davis ar deledu Ffrainc.
 

o'r fideo Twenty Two Hours gan Bouchra Khalili, 2018


Fel pob gwaith dogfen cyfoes gwerth ei halen, mae Twenty Two Hours yn treiddio i graidd ystyr y ddogfen yn y foment hon, fel cwestiwn ac fel ffurf. Mae talp mawr o drac gweledol y ffilm wedi ei lunio o hen bosteri, delweddau a phamffledi ar sgriniau iPhone; bob yn hyn a hyn mae’r ffigyrau ar y sgrin yn ymddangos wedi’u picseleiddio neu’n ymdoddi i mewn ac allan o'r düwch. Yn ogystal â Roussopoulos, mae Jean-Luc Godard (a’i Groupe Dziga Vertov, a sefydlwyd fel mudiad milwriaethus, gwrth-ryfel a gwrthgyfalafol ar ddiwedd y 60au) a sawl artist arall yn cael eu cynnwys yn ffilm Khalili mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Yn raddol, agorir y naratif hanesyddol gan Khalili yn drafodaeth drawsgenedlaethol ar wahanol ffurfiau ar frwydrau oesol amrywiol gymunedau ac artistiaid. Dwi’n ei chael hi’n anodd dychmygu sut y gallai sylw unrhyw ymwelydd beidio â chael ei hoelio gan y ffilm dri chwarter awr gyfoethog hon.

Gwaith sydd bron yr un mor effeithiol yn y modd mae’n dadleoli’r gwyliwr (ac yn sicr, defnydd gorau’r arddangosfa o’r gofod a neilltuwyd iddi) ydy ystafell Otobong Nkanga, artist o Nigeria sydd wedi gweithio gyda chyfrwng perfformiad, fideo a phaent, ac sydd, ar gyfer Artes Mundi 8, wedi gosod tapestri prydferth a cherflun ‘byw’ yn ystafell bella’r arddangosfa. Mae ei gwaith yn deillio o ymchwil dwys i’r berthynas rhwng gwahanol ddiwylliannau anfreintiedig neu leiafrifol ac adnoddau naturiol. Mae’r cylch du ynghanol yr ystafell yn cynhesu ac yn gwneud sŵn i gyfleu aer a thân. Gofod myfyrgar, rhyfedd, byw yw hwn, ac er mai dyma’r ystafell a dreuliais leiaf o amser ynddi, dyma’r un sydd wedi oedi hwyaf yn fy meddwl.

✒︎

Pan glywais fod Apichatpong Weerasethakul, un o fy hoff gyfarwyddwyr ffilm, ar restr fer gwobr gelf ryngwladol ar stepen fy nrws, roeddwn i’n methu ag aros. Mae Weerasethakul fwyaf adnabyddus am ennill y Palme d’Or yn Ngŵyl Ffilm Cannes yn 2010, er mai ef oedd un o enwau lleiaf cyfarwydd y gystadleuaeth. Ffilm fud fyfyrgar ar ddwy sgrin yw Invisibility, sy’n edrych trwy ffenestri trên, yn syllu allan ar wlad Thai gan eich annog i ymollwng i’r gwaith. Mae’n enghraifft arall o sut mae’r modd y curadwyd yr arddangosfa eleni yn eich dadleoli lle bynnag yr ewch. O weld ei waith ar ôl ffilm Khalili a gosodiad prysur iawn Anna Boghiguian, heb os mae Weerasethakul yn cynnig llawer llai i chi gydio ynddo. Yn hynny o beth, fe’i lleolwyd yn berffaith yn nhrefn yr arddangosfa. Mae Weerasethakul yn adnabyddus am archwilio’r berthynas rhwng delwedd, naws, cwsg a meddylfryd anorffenedig, ac yn berffaith hapus i’w gynulleidfaoedd brofi ei ffilmiau a’i weithiau celf mewn cyflwr hanner effro. Unwaith i chi diwnio i mewn i rythm Invisibility, fel pob un o weithiau’r artist, mae ei bleserau’n cael eu datgelu.

Mae Trevor Paglen hefyd yn artist mae gen i feddwl mawr ohono. Mae’n ffigwr sydd ar flaen y gad o ran archwilio’r berthynas rhwng y celfyddydau a beirniadaeth ar ffurfiau cyfoes o wyliadwraeth (surveillance). Ac mae’r casgliad o ffotograffau a arddangosir ganddo yn Artes Mundi yn nodweddiadol o’i waith, gan bortreadu tirweddau (bydol ac arallfydol) sy’n cuddio mecanweithiau cyfoes drôn-ryfela, casglu data ac ysbïo, ymhlith themâu eraill. Dwi ddim yn siŵr pam, felly, fod cyd-destun arddangosfa Artes Mundi fel petai’n gweithio yn erbyn y grym dwi’n arfer ei ganfod yng ngwaith Paglen. Mae’r delweddau mor awgrymog, mor gyfoes, a sgôp eu goblygiadau thematig mor eang nes bod eu gweld nhw ynghanol gweithiau eraill sydd yr un mor uchelgeisiol a phellgyrhaeddol yn gwanhau eu heffaith, rhywsut, yn gwneud i’r ffotograffau ar y wal ymddangos bron yn ystrydebol, er ’mod i’n gwybod yn iawn fod hynny ymhell o fod yn wir.
 

They Watch the Moon gan Trevor Paglen, un o weithiau Artes Mundi 8


Serch hynny, yng nghornel bellaf ystafell gweithiau Paglen mae un o ddelweddau mwyaf cofiadwy yr holl arddangosfa eleni. Yn They Watch the Moon gwelwn un o orsafoedd gwrando yr NSA yn ddwfn, ddwfn yn anialdir West Virginia. Fel llawer o’r lleoliadau yn nelweddau Paglen, nid yw’n lleoliad sydd yn ymddangos ar fapiau, nid yw’n rhan swyddogol o dirwedd ein dychymyg. Mae’r adeiladau llachar ynghanol y ddelwedd wedi eu gorchuddio mewn niwl gwyrdd sy’n rhoi effaith arallfydol i’r llun – bron na allai fod yn safle cymuned gwlt, neu’n llongau gofod mewn anialwch. Anodd dychmygu delwedd ag iddi brydferthwch mwy cymhleth; mae’n iasol.

✒︎

Fel gwaith Paglen, mae cyfraniad Anna Boghiguian hefyd yn gosod y systemau technolegol hanner-haniaethol hyn sy'n strwythuro bywyd cyfoes mewn cyd-destun cosmig, planedol. Yn ei dwy ystafell – y rhai cyntaf i chi gamu iddynt wrth gyrraedd Artes Mundi 8 – sy’n dwyn y teitl A Meteor Fell From the Sky, yn lle symlrwydd cawn gyfoeth o ddeunyddiau, dyfyniadau a delweddau. Mewn geiriau eraill, ym mhob ffordd arall, prin y gallai ei gwaith fod yn fwy gwahanol i ystafell Paglen. Mae ei gosodiad ar ffurf dyddiadur neu lyfr lloffion ac wedi ei chwalu’n gelfydd drwy ofod yr oriel; gorlwythir y synhwyrau, mewn ffyrdd cyffrous yn ogystal â blinderus.

Yn drwm o ymchwil, dychymyg a gofal, mae gwaith Boghiguian yn treiddio i galon sawl hanes gwahanol yn ymwneud â diwydiannau a diwylliannau dur, o India i Bort Talbot ac o’r Chwyldro Diwydiannol hyd at ddyfodol yr Anthropocene. Ei gweledigaeth fwyaf cyfareddol – ynghlwm â’i defnydd o destun sy’n addurno’r holl ofod mewn llawysgrifen flêr, hanner dealladwy – yw ei chyfuniad arbennig o ymchwil i’r diwydiant dur a ffenomenau naturiol ysblennydd, a hynny’n gorfodi’r ymwelydd i ystyried y berthynas rhwng prydferthwch a distryw, rhwng dynoliaeth a diwydiant. Mae llawer iawn ar waith fan hyn – chwalfa o gelf – a’r waliau llachar yn felyn a phinc a chymysgfa chwil o gyfryngau a lliwiau yn eich amgylchynu. Er mai dyma un o ddim ond dwy ystafell yn yr arddangosfa sydd heb elfen o sain, dyma, heb os, gyfraniad mwyaf swnllyd Artes Mundi eleni.

✒︎

Mae’n anodd cerdded oddi wrth osodiad fel un Boghiguian yn gwbl fodlon, er gwaethaf pleserau’r profiad; yn yr un modd, amhosib yw disgrifio arddangosfa mor eang ac uchelgeisiol ag Artes Mundi 8 fel un sy’n ‘bodloni’ rhywun, o leia ddim cweit. Mae sioeau grŵp anferth fel hon yn eu hanfod yn ysgogi rhwystredigaeth lawn cymaint ag edmygedd. Serch hynny, fel cyfanwaith lletchwith, mae’r gweithiau a arddangosir yn cynnig patrwm i ni geisio gwneud synnwyr o’n ‘moment’ gyfoes trwy ddefnyddio hanes fel deunydd, fel rhywbeth i’w ailfowldio ac i chwarae ag ef. Yng ngweithiau pob un o’r artistiaid, llunnir llinellau igam-ogam rhwng gwahanol hanesion annisgwyl – a thrwy hynny, linellau igam-ogam rhwng gweithiau a hanesion yr artistiaid a’i gilydd.

Mae'r teitlau ystrydebol a ddewisir y dyddiau hyn gan ffeiriau celf a biennials – i roi'r argraff eu bod yn ymateb yn rhagweithiol i fyd ar chwâl – yn ddigon i wneud i rywun wingo weithiau. (Y gwaethaf: teitl bienial Lerpwl eleni, Beautiful World, Where are You?) Llwyddodd curadur arddangosfa Artes Mundi 8 i osgoi elfennau didactig a histrionig, diolch byth; yn hytrach, gwobrwyir ymateb araf a meddylgar gan y gwyliwr.

Oherwydd tynerwch a chynilrwydd arddull ei gwaith, mae’n glir i mi mai Bouchra Khalili ydy enillydd Artes Mundi 8, er y byddwn yn ddigon hapus i waith amlgyfrwng Otobong Nkanga gipio’r wobr o £40,000 hefyd. Dyma arddangosfa sy’n cynnig ciplun pryfoclyd, treiddgar, cofiadwy ar y foment hon yn hanes ein byd. Yn Artes Mundi 8, cyflwynir darlun o fyd ar dân, byd sy’n adlewyrchu o’r newydd, sy’n bygwth disgyn oddi ar ei echel. 


Graddiodd Dylan Huw o Goleg King's a Goldsmiths yn Llundain. Mae'n cyfrannu adolygiadau achlysurol ar ffilm a chelfyddyd weledol i O'r Pedwar Gwynt.

Artes Mundi 8: mae'r arddangosfa ar agor hyd 24 Chwefror 2019 yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Parc Cathays, Caerdydd.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Yn ‘They Watch the Moon’ gwelwn un o orsafoedd gwrando yr NSA, yn ddwfn, ddwfn yn anialdir West Virginia. Fel llawer o’r lleoliadau yn nelweddau Paglen, nid yw’n rhan swyddogol o dirwedd ein dychymyg

Dyddiad cyhoeddi: 05·12·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…