Adolygu

Atomau coll

Rowland Wynne

Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom

Gwasg Prifysgol Cymru, 192tt, £16.99, Mehefin 2017

Atomau coll
Gwydion Gruffudd

Amser darllen: 5 munud

22·07·2017

Beth ’sgwn i yw’r rhesymau dros y diffyg cydnabyddiaeth i gyraeddiadau y tu hwnt i’r ‘pethe’ traddodiadol yng Nghymru? Wrth gofio’r Athro Phil Williams, ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae dyn yn meddwl y dylai fod wedi cael cymaint os nad mwy o gydnabyddiaeth am ei waith ffiseg atmosfferig na’r sylw a gafodd am ei waith gwleidyddol diweddarach. Ydy’r gwyddonwyr yn hapus-fodlon i beidio â gwisgo sandalau Gorsedd y Beirdd? Ydy arholiadau’r Wisg Werdd yn rhy anodd? Yng ngwobrau'r Cynulliad, mae’r unig wobr i wyddonwyr yn rhan o’r un categori ag arloesi a thechnoleg – mae hynny fel rhoi'r Fedal Ryddiaith i ysgrifennydd da neu i gwmni cyhoeddi. Ond fe allwn ni ddiolch, mae’n debyg, i ni gael dau enillydd teilwng ers cychwyn Gwobrau Dewi Sant.

Un o’r enillwyr hynny, yn 2014, oedd Lyn Evans – Lyn yr Atom. Os nad ydych chi wedi clywed amdano, ry’ch chi wedi hen glywed am y prosiect a arweiniodd, a’r corff gwyddonol byd-eang yr oedd yn gweithio iddo, sef Gwrthdrawydd Hadronau Mawr CERN. Ie, y CERN yna. Yn y Swistir.

Stori debyg sydd gan arwr arall a thestun y gyfrol ddiweddaraf yng nghyfres ‘Gwyddonwyr Cymru’, Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom. Yn y llyfr hwn, cawn ein hatgoffa bod dyn o Gwmsychbant wedi astudio ym Mhrifysgol Abertawe wrth ddatblygu’n un o brif wyddonwyr ffiseg cwantwm ei oes. Bu farw’n dorcalonnus o ifanc, yn 42 oed, ond tybed am sawl un o fawrion y gorffennol y gellid dweud bod enillydd gwobr Nobel wedi mynychu eu hangladd?

Mae’r llyfr hwn yn amlinellu ac yn ceisio esbonio i leygwyr gyd-destun cyrhaeddiad Williams ond dw i’n tybio y bydd angen rhywfaint o gefndir gwyddonol i werthfawrogi ei athrylith go iawn. Serch hynny, daw enwau tra chyfarwydd i’r amlwg. Einstein, er enghraifft. Ie, yr Einstein yna.

Mae amharodrwydd neu anallu Cymru – a’r Gymru Gymraeg yn arbennig – i nodi a chlodfori campau gwyddonwyr yn gadael ôl anffodus, ac mae cenedlaethau cyfain yn cael cyflwyniad hollol unochrog i'n blaenoriaethau. Mae eisteddfota’n clodfori’r gallu i ganu ac i farddoni, i ddawnsio ac i actio, fel petai’n dweud taw’r rhain yw priod feysydd ein dyheadau, ein gwerthoedd a’n llafur.

Beth felly sy’n digwydd i’r gwyddonwyr? Y cyngor ges i yn yr ysgol oedd taw i Lundain, Caergrawnt a Rhydychen yr âi’r goreuon. Ac os nad hynny, wel, roedd yna ugain dewis arall o blith prifysgolion Lloegr a thu hwnt. Prin iawn oedd y cyngor i fynychu adrannau llai ffasiynol yng Nghymru. Oes yn ôl, cafodd Evan James Williams ysgoloriaeth i fynychu ysgol yn Llambed cyn mynd i Brifysgol Abertawe. Do, aeth wedyn i astudio yn Lloegr am gyfnod, ond dychwelodd fel athro i Aberystwyth. O na fyddai’r patrwm hwnnw o ddychwelyd wedi parhau.

Mae effeithiau hyn oll i’w gweld yn y meysydd gwyddonol ar lawr gwlad yng Nghymru. Pam, tybed, mae yna broblemau dirfawr erbyn hyn wrth geisio cyflogi meddygon teulu yng Nghymru? Pam mae yna argyfwng o ran niferoedd y nyrsys sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?

Mae gwyddonwyr ifainc disglair yn mynd yn eu ffrydiau i gyrsiau y tu allan i Gymru. Mae cyfran sylweddol yn aros yno i weithio ac i astudio ymhellach. Un cwrs meddygaeth sydd yna i fyfyrwyr israddedig yn y wlad hon – ond dim ond rhyw chwarter o fyfyrwyr y cwrs hwnnw sy’n dod o Gymru, mae’n debyg.

Mae’r ffaith ein bod ni’n wlad dlawd hefyd yn ffactor pwysig: dim ond ysgoloriaethau ar gychwyn ei yrfa a ganiataodd i Evan James Williams ddilyn ei astudiaethau.

Hyd yn oed o gael cynllun crand heddiw i hybu gwyddoniaeth, fe gymer genhedlaeth neu ddwy i adfer y sefyllfa. Rhaid cael athrawon ac adrannau disglair yng Nghymru er mwyn i’r lleill ddilyn. A dim ond wedi i’r genhedlaeth gyntaf gael ei haddysgu y gallwn ddechrau meddwl am ddatrys problemau eilaidd cyflenwi ein system iechyd ac ati.

Diolch byth bod y Cynulliad wedi ailfeddwl ynglŷn â rhoi arian i brifysgolion Lloegr er mwyn iddynt gael dwyn ein myfyrwyr. Mae hynny wedi digwydd, do?

Hyfforddodd Gwydion Gruffudd fel ffisegydd a bu'n gweithio'n ddiweddar gydag elusen addysg feddygol Cronfa Mullany.

Pam, tybed, mae yna broblemau dirfawr erbyn hyn wrth geisio cyflogi meddygon teulu yng Nghymru?

Pynciau:

#Rhifyn 4
#Gwyddoniaeth