Ifor ap Glyn


Tra Bo Dau

Carreg Gwalch, 150tt, £8, 2016

Beth sy’n sail i hunaniaeth?
Adolygu

Beth sy’n sail i hunaniaeth?

Adolygu Tra Bo Dau gan Ifor ap Glyn


Elan Grug Muse

Amser darllen: 5 munud

21·06·2017

Tra Bo Dau (Carreg Gwalch, 2016) ydi nofel gyntaf Ifor ap Glyn, sydd yn gyfarwydd iawn i ni fel bardd, wrth gwrs. Dyma nofel sydd wedi ei saernïo'n ofalus. Mae’r stori’n cael ei hadrodd am yn ail trwy gyfrwng cofnodion dyddiadurol Aled, hogyn ifanc o Lundain, a naratif yn y trydydd person sy’n dilyn hynt Eddie, sydd fymryn yn hŷn ac yn gwneud jobsys rhan-amser. Y mae’r ddau gymeriad yn Gymry Llundain, ac mae deng mlynedd yn gwahanu eu hanesion - yn 1979 y triga Aled, ac mae Eddie'n byw yn 1989. Maent yn byw bywydau gwrthgyferbyniol - y naill yn ifanc, yn llawn gobaith, ac yn awyddus i arddel ei Gymreictod, y llall a’i fywyd ar chwâl, ac yn pendilio rhwng arddel neu wadu ei gysylltiad â Chymru.

Nofel yw hon sydd yn ymdrin yn ei hanfod â hunaniaeth. Beth sy’n sail i’n hunaniaeth ni? Teulu? Gwaed? Cymdeithas? Daearyddiaeth? A beth sy’n digwydd pan fo seiliau'r hunaniaeth honno yn cael eu rhwygo? Yn Gymry Llundain mae'r cymeriadau'n byw mewn diwylliant trawsffurfiol, hybrid; maen nhw'n gorfod addasu ac ail-addasu eu hunaniaeth yng nghyd-destun eu gwahanol fydoedd, tra’n amddiffyn eu hunain rhag colli gafael yn llwyr ar yr hyn sy’n angori eu syniad o’r hunan. Ac wrth i sail gyfreithiol ein hunaniaeth Ewropeaidd ninnau gael ei ddwyn oddi arnom, wrth i hunaniaeth wleidyddol Cymru droelli o goch i las i goch eto, fel cerbyd ffair, wrth i fyd a deimlai’n weddol ddiogel ddod i deimlo’n gynyddol ansicr, dwi’n amau nad ydi ansicrwydd ynghylch hunaniaeth yn beth dieithr i’r un ohonom ni.

Er mor bwysig a pherthnasol ydi’r neges hon, mae yna duedd yn y nofel i’r ‘neges’ fod yn bwysicach na’r stori ei hun. Eisiau ‘dweud rhywbeth’ mae Ifor ap Glyn, yn fwy nag eisiau ‘adrodd stori’ ar adegau, ac mae’r stori honno yn llusgo o bryd i'w gilydd ac yn cyflawni anghenion y ‘neges’ yn hytrach na chanfod ei rhythm a’i hegni ei hun.

Effaith hyn yw tueddiad i or-egluro a datgan pethau amlwg, ac mae hynny'n gwanhau ergyd y nofel. Prif swyddogaeth Aled fel cymeriad yw perfformio ysfa unigolyn efo hunaniaeth drothwyol i ffitio yn rhywle, wrth i Eddie chwarae rôl y mab afradlon. Mae’r ddau yn cael eu cyfyngu gan y swyddogaethau hynny, mae eu datblygiad yn cael ei atal, ac mae’r portread yn ymylu ar fod yn garicaturaidd ar adegau. Mae llinellau fel hon gan Aled yn dangos ôl straen: 'Ond dwi hefyd yn teimlo’n rhan o lif hanes Cymru. Hyd yn oed fa’ma yn Llundain'. O ganolbwyntio mwy ar gynildeb, ar ddangos yn lle dweud, byddai ergyd y nofel wedi bod llawer cryfach.

Un o’r rhannau hynny lle roedd y tyndra rhwng Cymru a Llundain i’w deimlo gryfaf oedd pan welir tad Aled, athro hanes a’i wreiddiau yn Llanrwst ond sydd wrth ei fodd yn byseddu mapiau o Lundain, yn sôn am fod yn yrrwr tacsi:

Weithiau bydd Dad yn tynnu 'nghoes i, a dweud 'i fod o’n meddwl rhoi’r gorau i ddysgu, ac ailhyfforddi fel gyrrwr tacsi;

‘Mae nhw’n deud bod isho naw mis i basio’r knowledge; dwi’n siŵr 'sŵn i’n gallu gwneud hi mewn chwech.’

Ac mae 'na ryw olwg benderfynol yn ei lygaid wrth ddweud hynny, sy’n gwneud iti feddwl mai dyn dwl yn unig fyddai’n peidio â’i gymryd ar ei air.

Mae ysfa'r tad i nabod ei ddinas fabwysiedig hyd at y manylyn lleiaf, ac mewn ffordd mor weledol, yn adrodd cyfrolau am gymhlethdod yr hunaniaeth hybrid, ac yn gwneud hynny'n gynnil, gan roi dyfnder i’r cymeriad.

Ond i ddod yn ôl at y strwythur: er y gofal amlwg, mae'r strwythur yn fy nharo fel un mwy cymhleth nag y mae angen iddo fod, ac mae'n tueddu i dynnu gormod o sylw ato'i hun - ac oddi wrth y stori, felly. Mae'r darllenydd yn ei gael ei hun yn chwilio am arwyddocâd i’r dyddiadau manwl ar ddechrau pob pennod neu gofnod, er nad oes iddynt gyfraniad fel y cyfryw i’r prif naratif, a hynny'n tynnu sylw oddi wrth y stori. Ar yr un pryd, mae gorfodi’r ddau gymeriad i gyd-adrodd y stori - pan nad oes gan un ohonynt ddim mewn gwirionedd i’w gyfrannu ati tan yn nes ymlaen - yn ei gwneud hi’n llafurus. Er enghraifft, am y rhan fwyaf o’r hanner cyntaf mae stori Eddie yn tîn-droi am dudalennau wrth i ni ddisgwyl i stori Aled ddal i fyny. Mae Aled yn mynd trwy holl brofiadau'r arddegwr yn y ddinas, ac Eddie'n gwneud fawr mwy na hel tafarndai ar ei ben ei hun. Ceir y teimlad y byddai llacio rhywfaint ar y strwythur, a gadael iddo symud yn fwy rhwydd, wedi cyfrannu at ddatblygiad naturiol y stori.

Yng nghnawd geiriol y gyfrol hon mae ei chyfoeth. Un mewn rhes o feirdd sydd wedi troi at ryddiaith yn y cyfnod diweddar yw Ifor ap Glyn, a difyr yw gweld sut mae llais y bardd yn addasu i’r ffurf newydd, a sut mae rhai o’r sgiliau ‘barddol’ yn trosi hefyd. Fallai oherwydd ei gefndir barddol, neu fallai oherwydd ei gefndir ym myd ffilmiau dogfen, mae ganddo lygad a chlust sy’n medru bachu ar y pethau bach absẃrd hynny sydd yn rhan mor gyffredin o’n bywydau fel nad ydym yn talu’r mymryn lleiaf o sylw atynt:

‘Dach chi ’di sylwi, Dad, fel mae cymaint o sôn yn y Gymraeg am “ein” hwn ac “ein” llall; “ein pobl ifanc ni”; “ein hiaith a’n diwylliant”; “un o’n cantorion mwyaf amryddawn ni”?’ [...]

‘Mae o mor wahanol i’r Saesneg, yn tydi? “Young people today” 'sat ti’n ddeud yn Saesneg, nid “our Young people”. Dach chi ddim yn meddwl 'i fod o’n gwneud i ni swnio’n possessive braidd?'

Yn y pytiau crafog, myfyriol hyn y gwelwn ni waith Ifor ap Glyn ar ei orau. Maen nhw’n pupro ac yn gloywi’r tudalennau, a rhai ohonynt yn fini-ysgrifau. Tybed a fydd y tro nesaf yng ngyrfa Ifor ap Glyn yn ei arwain at greu cyfrol o ysgrifau?


Cyhoeddodd Elan Grug Muse ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Ar Ddisberod (Barddas), ym mis Mai 2017. 


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Elan Grug Muse, Nofelau

 


Yng nghnawd geiriol y gyfrol hon mae ei chyfoeth a difyr yw gweld sut mae llais y bardd yn addasu i ffurf y nofel

Dyddiad cyhoeddi: 21·06·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ruth Richards

Ai peth fel ’ma, mewn difri, oedd Eisteddfod y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Rhyfeddwn at ffotograffau John Thomas o Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1884, a'r un pryd fe'n gorfodir i'w cydnabod fel cofnod cywir. Ffotograffiaeth, wedi'r cwbl, yw un o'r cyfryngau amlycaf i gyflwyno'r…

Dadansoddi


Angharad Price

Bob blwyddyn, mae dwy filiwn o deithwyr yn mynd trwy Gaergybi, porthladd fferi prysuraf-ond-un y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn rhan allweddol o briffordd fawr Ewropeaidd yr E22 sy’n ymestyn o Ddulyn i Fosgo a thu hwnt. Flina’ i byth ar y wefr o ddod yma.

Dadansoddi


Simon Brooks & Daniel Williams

'Roedd yna berygl ar ôl Brexit, ac yng nghyd-destun yr etholiad hwn yn benodol, dw i’n meddwl, i Blaid Cymru ddiflannu’n llwyr o olwg pleidleiswyr mewn rhai rhannau o Gymru. Un o sgil-effeithiau Brexit oedd rhannu’r ardaloedd hynny o Gymru a esgorodd ar y bleidlais o…

Dadansoddi


Sarah Hill

Eleni rydym yn cyrraedd carreg filltir liwgar: pum deg mlynedd ers y ‘Summer of Love’, neu Haf Cariad. Yng Nghymru, roedd pop dipyn bach ar ei hôl hi ym 1967 ond roedd yna drobwynt pwysig, serch hynny, a chwyldro diwylliannol ar lan Llyn Tegid.

Cyfansoddi


Aled Jones Williams

Penderfynodd Bet ar y pafin na fyddai’n mynd drwy’r dref i dŷ ei modryb y bore hwn. Fe gadwai’r pleser hwnnw – a phleser fyddai, cael gweld yr hen le eto – at yn hwyrach. Fe wyddai am siort cyt. Os a’ i lawr ffor’ hyn, meddai wrthi…

Colofnau


Mihangel Morgan

Er mwyn dianc rhag twymyn yr ymgyrch etholiadol – Carwyn nad yw’n Corbyn bondigrybwyll, arweinydd Prennaidd Plaid Cymru ac ymddangosiad brawychus anochel Mark Williams neu Ann Clwyd ar garreg y drws (yr unig adeg y cewch chi gipolwg ar y troglodeitau hyn yw pan…

Adolygu


Gwydion Gruffudd

Beth ’sgwn i yw’r rhesymau dros y diffyg cydnabyddiaeth i gyraeddiadau y tu hwnt i’r ‘pethe’ traddodiadol yng Nghymru? Wrth gofio’r Athro Phil Williams, ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae dyn yn meddwl y dylai fod wedi cael cymaint os nad mwy o gydnabyddiaeth am ei waith ffiseg…

Cyfweld


Emanuele Severino

Yn 1961, lansiwyd archwiliad gan Chwil-lys y Fatican o waith yr athronydd Emanuele Severino (1929- ). Parhaodd yr archwiliad hwn am bron i ddegawd. Penderfynwyd bod ei syniadaeth yn 'sylfaenol anghydnaws' ag athrawiaeth Gristnogol ac o ganlyniad fe'i hesgymunwyd o'i swydd fel Athro…