Adolygu

Blwyddyn o ddarllen difyr

Dewis rhai o'n darllenwyr

Amrywiol

Amser darllen: 3 munud

09·12·2016


Eirian James, Siop Lyfrau Palas Print, Caernarfon
Pigeon a Pijin gan Alys Conran (Parthian, 2016)

Nofel o Gymru sy'n sefyll allan i mi yw Pigeon gan Alys Conran. Mae'n nofel rymus sy'n portreadu bywyd dau blentyn ar gyrion cymuned ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Cymru mewn ffordd ddeallus a sensitif. Cyhoeddwyd fersiwn Gymraeg, Pijin (cyf. Sian Northey), ac mae'r profiad o'i darllen yn y naill iaith a'r llall yn cynnig perspectif gwahanol i'r darllenydd. Dwy nofel gyntaf a fwynheais eleni oedd My Name is Leon gan Kit de Waal, a Himself gan Jess Kidd, a dw i'n ysu am gael darllen Cove gan Cynan Jones, sydd newydd gael ei chyhoeddi. Dw i hefyd newydd orffen darllen Ariel gan Derek Johns. Nid cofiant arferol yw hwn, ond portread o Jan Morris a'i gwaith drwy lygaid un a fu'n asiant ac yn ffrind iddi. Llwydda'r awdur i blethu hanes ynghyd, gan arwain y darllenydd yn ôl at ei llyfrau a'n cyflwyno i'w gwaith.

Carwyn Jones AC
Gray Mountain gan John Grisham (Hodder, 2008)

Rwy'n hoff iawn o lyfrau John Grisham ac mae'r nofel hon yn portreadu sut mae rhai busnesau diegwyddor yn dal i fanteisio ar bobl a dinistrio'r amgylchedd yn un o wledydd mwyaf datblygedig y byd.

Lefi Gruffudd
Poeri i Lygad yr Eliffant gan Wil Aaron (Y Lolfa, 2016)
Ibuprofen S'il Vous Plaît gan Dewi Prysor (Y Lolfa, 2016) 

Cefais fy nghyfareddu a fy mrawychu gan hanes teithiau'r Mormoniaid Cymreig i Ddinas y Llyn Halen yn llyfr Wil Aaron, Poeri i Lygad yr Eliffant. Mwynheais hiwmor tywyll storïau Thomas Morris, a oedd yn enillydd haeddiannol gwobr Llyfr y Flwyddyn â'i deitl ardderchog we don't know what we're doing. Ond ar ôl bod yn Ffrainc dair gwaith yn ystod yr Ewros, yr uchafbwynt i mi oedd darllen atgofion manwl Dewi Prysor o'i fis rhyfeddol a sychedig yn dilyn tîm pêl-droed Cymru. Mae teitl ei gyfrol ef yn well fyth, Ibuprofen S'il Vous Plaît.

Angharad Penrhyn Jones
The Outrun gan Amy Liptrot (Canongate, 2016)

Y flwyddyn hon cefais fy swyno gan The Outrun gan Amy Liptrot, hanes hunangofiannol am alcoholiaeth. Magwyd yr awdur ar fferm yn Papaym un o Ynysoedd Erch. Er bod ei rhieni wedi symud i ogledd yr Alban yn llawn gobaith am fywyd gwell, maent bellach wedi ysgaru, ei mam wedi troi at grefydd ffwndamentalaidd a'i thad yn dioddef o anhwylder deubegynol. Nid yw'n syndod darllen bod Liptrot wedi dianc i Lundain a throi at fywyd hedonistaidd. Ar ôl derbyn triniaeth am alcoholiaeth, dychwela i'w chynefin er mwyn ceisio gwanhau ei chysylltiad â'r botel. Cawn ddisgrifiadau miniog nid yn unig o'i salwch ond hefyd o ardal wyllt ac arbennig iawn. Cawn ddarllen am adar a daeareg a seryddiaeth, am hanesion morwrol a mytholegol. Mae Liptrot yn mynd ati i nofio yn y môr ym mhob tywydd: byd natur, yn y bôn, sy'n ei hachub. Dyma lyfr dewr, gwreiddiol ac amlhaenog, sy'n llwyddo'n gyfan gwbl i ogsoi ystrydebau self-help, ac adrodd hanes ingol heb un iot o hanundosturi. Y mae hefyd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd trysori ein mannau gwyllt.

Siân Melangell Dafydd
The Story Smuggler gan Georgi Gospodinov; cyf. Kristina Kovacheva a Dan Gunn (Sylph Editions, 2016)

Un o ddyddiau hirfelyn tesog yr hydref oedd hi. Plannais fy hun yn yr ardd â phaned a thebot a swmp o lyfrau. Diolch i'r llyfrau a aeth ar hap a damwain i'r swmp hwnnw, roedd yn un o'r dyddiau euraidd hynny pan fo'r corff yn anadlu'n arafach ac amser wedi'i ymestyn. Cwta 40 tudalen yw The Story Smuggler, gan un o hoff awduron Bwlgaria – Georgi Gospodinov. Mae hwn yn llyfr sydd yn ddathliad o'r llyfr – gwrthrych hardd a chyfrwng ar gyfer croesi ffiniau â'r deunydd contraband peryclaf un, y stori. Mae rhai pobl yn smyglo sigaréts, alcohol neu arfau. I Gospodinov, mae gwir gontraband yn rhywbeth arall anweledig, rhywbeth sydd yn pasio peiriannau sganio heb dynnu sylw ond sydd yn fwy peryglus o lawer. Mae gwead straeon a gweledigaeth Gospodinov o bŵer iaith yn gwneud i mi sylweddoli nad byw drwy wneud a mynd a dod yr ydym , ond byw drwy grefftio stori i ni'n hunain wrth fynd; straeon sydd yn werth eu rhannu ac sydd yn rhoi bywyd yn y fantol; pethau anweledig ond sydd yn chwalu ffiniau er hynny. Ac onid oes dirfawr angen hynny arnom ar hyn o bryd?

Elin Jones AC
Woman who Brings the Rain gan Eluned Gramich (New Welsh Review, 2015)

Er mwyn dathlu pen blwydd arbennig, es i Japan ar wyliau eleni. I lonyddu fy enaid ac er mwyn cyfarwyddo â'r wlad, fe ddarllenais Woman who Brings the Rain gan Eluned Gramich ar yr awyren. Ysgrif-bortread fer am Ynys Hocaido a phrofiad yr awdur o'r lle a'r bobl yn ystod ei chyfnod yn byw yno yw'r llyfr. Mae'n berl o ysgrif ac yn llwyddo i greu naws hudolus diwylliant a natur yr ynys Japaneaidd hon mewn ychydig o eiriau celfydd. Er bod fy mhrofiad i o'r wlad yn llawn prysurwch dinesig gan mwyaf, llwyddodd yr ysgrif hon i roi darlun i mi o Japan wahanol iawn. Mae hwn yn waith cywrain a chryno, ac yn gyfrol arbennig o hardd.

Mike Parker
1966: The Year the Decade Exploded gan Jon Savage (Faber & Faber, 2016)
Blasu gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa, 2012)

Ym mis Rhagfyr 2016, dw i'n dathlu fy mhen blwydd yn hanner cant a dw i wir wedi mwynhau darllen 1966: The Year the Decade Exploded gan Jon Savage. Roedd 1966 yn flwyddyn chwyldroadol a newidiodd y byd, yn bendant: Motown a Black Power, LSD a seicedelia, ethol Harold Wilson yn Llundain a Ronald Reagan yng Nghaliffornia – a galarnad olaf ac arswydus yr hen ddyddiau yn Aberfan, wrth gwrs. Y diwrnod ar ôl fy ngenedigaeth, fe basiwyd y mesur yn Nhŷ'r Cyffredin i gyfreithloni gwrywgydiaeth. Dysgais lawer am ba mor ofnadwy oedd y byd i ddynion hoyw cyn hynny trwy ddarllen The Abergavenny Witch Hunt gan William Cross, hanes cyfnod trist a dychrynllyd yn y Fenni ganol yr Ail Ryfel Byd. Yn yr un maes, ond yn llawer mwy calonogol, roedd Edward Carpenter: A Life of Liberty and Love, bywgraffiad gan Sheila Rowbotham o un o ddynion rhyfeddol Oes Fictoria. Cefais flas mawr ar Blasu gan Manon Steffan Ros hefyd – roedd yn ddigon da i'w fwyta, yn wir! Mae colofn hudol Manon yn Golwg yn un o uchafbwyntiau'r wythnos i mi.

Darllenwch am ddewis aelodau criw darllen a thrafod Y Twlc, Caerdydd fan hyn. 

Pynciau:

#Mike Parker
#Siân Melangell Dafydd