Karl Ove Knausgård, cyf. Don Bartlett


My Struggle

Vintage, Cyfrolau 1-5, , 2013-2016

Adolygu

Brwydro’n erbyn yr hunangofiant

Darllen Karl Ove Knausgård


Guto Dafydd

Amser darllen: 20 munud

29·04·2017

I mi, mae llenyddiaeth ar ei mwyaf cyffrous pan mae’n chwarae â chonfensiynau ffurf, ac yn gwneud hynny mewn modd sy’n datgelu rhywfaint am yr awdur ei hun. Dafydd ap Gwilym yw’r enghraifft amlwg, wrth gwrs – y carwr carismataidd a gywreiniodd y traethodl i greu’r cywydd, ac a oedd hefyd yn brif gymeriad ei straeon caru gafaelgar ei hun. Ond daw dwy enghraifft arall o oes y Cywyddwyr i’r meddwl, sef marwnad Lewys Glyn Cothi i’w fab, a cherdd Guto’r Glyn yn ei henaint yng Nglyn Egwestl (‘Moliant i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes’). Dyma ddau fardd a hyfforddwyd yn nheithi’r Gyfundrefn Farddol, gan wneud gyrfa ohoni, ac a fyddai wedi canu marwnadau a molawdau ffurfiol niferus. Yn oriau eu galar a’u gofid, defnyddiodd y ddau’r ffurfiau confensiynol mewn modd anarferol, i ganu am eu hing personol. O ganlyniad, caed cerddi sy’n disgleirio’n fwy llachar na’r cerddi cyflog cyffredin, a rhoed inni adnabyddiaeth wirioneddol o’r dynion cig-a-gwaed a ddigwyddai hefyd fod yn feirdd.

Nid y ffaith eu bod wedi cyfeirio at yr hunan sy’n anarferol (cyffredin iawn oedd i fardd gyfeirio at haelioni personol noddwr tuag ato) ond y modd y gwneir hynny – â gonestrwydd llethol yn gymysg â thechnegau confensiynol. ‘Siaradus o ŵr ydwyf, sôn am hen ddynion ydd wyf,’ meddai Guto ddall, unig, bathetig, mewn cerdd sy’n moli’r Abad yn y dull disgwyliedig am yn ail â hiraethu’n ddybryd am glera Môn a Gwynedd, ‘cael aur a medd’. Sonia Lewys am fanion bywyd domestig – Siôn, ei fab, yn ‘Canu wo-o er cneuen’, yn chwarae â bwa a chledd, yn ‘gwneuthur moethau’ – a hynny mewn cerdd sy’n defnyddio confensiynau’r cywydd marwnad (erfyn ar y seintiau; dyfalu; canu’n iach) at ddibenion personol, preifat y bardd.

Mae chwarae â ffurf yn un o brif nodweddion diwylliant llenyddol iach. Mewn erthygl ar ddechrau’r wythdegau[Sioned Pu1]  (‘Myth y Traddodiad Dethol’), aeth Iwan Llwyd a Wiliam Owen Roberts ati i lambastio beirdd y dydd am ‘lynu at foddau mynegiant y traddodiad (e.e. cywydd, awdl, englyn); delweddau y traddodiad; chwedloniaeth y traddodiad; ieithwedd y traddodiad; nostalgia y traddodiad, heb unwaith amau dilysrwydd y cyfan’. ‘Act o necroffilia’ oedd ysgrifennu barddoniaeth yn Gymraeg, meddent. Mewn erthygl arall (‘Mae’n bwrw yn Torremolinos’) aethant ati i gynnig eu hateb: nid diystyru’r traddodiad, a lluchio ei ffurfiau drwy’r ffenest, ond ei ‘ail-drosi’. Golygai hynny y dylai’n hoes ni ‘addasu’ llên y gorffennol ‘i’w dibenion ei hun’.

*

Roedd yr awydd i chwarae â ffurfiau – y nofel a’r hunangofiant yn yr achos hwn – a datgelu hunan yr awdur yn flaenllaw yn fy meddwl ryw flwyddyn a hanner yn ôl. Yn hydref 2015, wrth wynebu chwe wythnos o radiotherapi ym Manceinion, penderfynais ddefnyddio fy mhrofiadau yno fel sail ar gyfer nofel: Ymbelydredd (Y Lolfa, 2016). Byddwn yn defnyddio technegau a strwythur ffuglen i ysgrifennu math ar hunangofiant llac, lle byddai’r gwir yn gymysg â’r gau, a’r naratif a’r ddeialog gonfensiynol yn gymysg â phytiau ysgrifol o sylwebaeth ffeithiol. Byddai atgofion o’m magwraeth yn gymysg â phrofiadau beunyddiol y presennol. 

Ychydig flynyddoedd ynghynt, yn ddiarwybod i mi, roedd Norwyad o'r enw Karl Ove Knausgård wedi creu gwaith cryn dipyn yn fwy uchelgeisiol na’m heiddo i. Ymestynna Min Kamp dros chwe chyfrol, a chyfanswm o dair mil a hanner o dudalennau, o ryddiaith garlamus sy’n croniclo bywyd yr awdur ei hun â gonestrwydd rhyfeddol. Ac yn hydref 2016, derbyniais her O’r Pedwar Gwynt i ddarllen chwe chyfrol Min Kamp, ac ymateb ar y tudalennau hyn. Treuliais y gaeaf yng nghwmni Karl Ove, a chael un o’r profiadau llenyddol mwyaf gwefreiddiol a gefais erioed. 

Karl Ove Knausgård

Karl Ove Knausgård (Llun: André Løyning)

Dywedodd rhywun fod darllen Min Kamp fel agor dyddiadur rhywun arall a chanfod eich cyfrinachau eich hun. Dyna’n union fy mhrofiad innau. Efallai fod y cyfnod, y lleoliadau a’r bobl yn wahanol, ond bron na theimlwn fod Karl Ove wedi byw fel fi ac mai trosiad o’m bywyd a’m teimladau i oedd y stori a ysgrifennai. Cywilyddiais wrth ddarllen ei ddisgrifiad manwl o enedigaeth un o’i blant. Roedd cymaint o’r teimladau a’r manylion ymarferol yn union yr un fath â’r hyn a brofais i wrth i Casi a Nedw gael eu geni, ond roeddwn wedi eu hanghofio. Roedd y dyn dieithr hwn yn adnabod fy mywyd i’n well na fi fy hun.

Enghraifft o ‘hunanffuglen’ yw Min Kamp. Yr awdur yw’r prif gymeriad, a’i fywyd ef a ddisgrifir, ond fel nofelau y gwerthir cyfrolau’r gyfres, ac fel nofelau – gyda deialog a disgrifiadau nodweddiadol o nofelau – y maent yn darllen.

Ymddengys fod hunanffuglen ar gynnydd: yng Nghymru, cyhoeddodd Alun Cob a Llwyd Owen ill dau nofelau (Sais ac Y Ddyled) yn ddiweddar lle mae’r awduron yn gymeriadau, neu’n ymylu ar fod yn gymeriadau. Mae Rhyw Flodau Rhyfel gan Llŷr Gwyn Lewis hefyd yn gyfrol sy’n cyfuno ffuglen a hunangofiant. Hunangofiant ffug oedd y nofel gyntaf yn Gymraeg, wrth gwrs. Awgrymwyd mai am fod yr hunangofiant yn ffurf fwy parchus na’r nofel y cyhoeddodd Daniel Owen Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel. Gwyrdrowyd pethau ers hynny: pan fo ar rywun eisiau ysgrifennu am ei fywyd ei hun, y nofel yw'r dull o wneud hynny, er bod cynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf mewn llenyddiaeth sy'n pontio ffaith a ffuglen, ac sydd yn ysgrifol ei naws, yn null W G Sebald er enghraifft.

*

Ym ‘mhresennol’ Min Kamp, mae Karl Ove Knausgård yn awdur 40 oed sy’n ysgrifennu mewn fflat bach yn Malmö am yn ail â gofalu am ei dri phlentyn gyda’i wraig, Linda. Disgrifir ei fywyd beunyddiol cyfredol, ond mae hwnnw’n gymysg â myfyrdodau ynghylch marwolaeth, cof a chelfyddyd, a hefyd atgofion: ôl-fflachiadau trwyadl o’i fywyd yw mwyafrif deunydd y cyfrolau. 

Nid bywyd eithriadol mohono. Gwelwn ei blentyndod ar ynys wledig Tromøya, lle mae dwy brif ran bywyd y bachgen swil ond coci, penderfynol ond pwdlyd: mwynhau nofio, comics a chwarae pêl-droed, ac ofni llid ei dad awdurdodol, afresymol. Ni chaiff ei gam-drin yn rhywiol, na’i guro’n wael, ond caiff ei fagu mewn ofn: arswyda wrth golli hosan yn y pwll nofio, gan y gŵyr y caiff gerydd llym; sbeitia’i dad ei leferydd yn ddidrugaredd gan na all ddweud ‘r’; ac yntau wedi cael ei anfon i’w wely heb swper, daw ei dad i’w lofft a chynnig afal iddo. Ar ôl gwrthod yr afal, caiff ei orfodi i fwyta pedwar.

Torra’i galon wrth i’w frawd ddwyn y ferch y mae’n ei ffansïo.

'Torra’i galon wrth i’w frawd ddwyn y ferch y mae’n ei ffansïo.' (Llun: Shauna Leigh Robinson) 

Parha i fwynhau a dioddef arteithiau arferol yr arddegau wrth i’r teulu symud i dref Kristiansand: ymdrechion i yfed dan oed (gan gynnwys cyffro cuddio caniau cwrw ar gyfer nos Galan – sy’n para can tudalen) a snogio mewn partïon; cerddoriaeth roc; diflastod ysgol; chwarae â bronnau; argyfyngau gwacter ystyr. Treulia flwyddyn yng ngogledd Norwy yn dysgu mewn ysgol i blant gwladaidd mewn pentref pysgota anghysbell. Ei fwriad yw ysgrifennu yn ogystal â dysgu, ond tynnir ei sylw gan y cyfleon cyfyngedig i ddiota a hel merched.

Yn bedair ar bymtheg oed, aiff i dref ifanc, ysgolheigaidd Bergen i astudio ysgrifennu creadigol yn aflwyddiannus, ac yna ambell gwrs arall, ac erys yno am ddegawd. Torra’i galon wrth i’w frawd ddwyn y ferch y mae’n ei ffansïo. Treulia gyfnod yn labrio ar brosiectau olew cyn cwrdd â’i wraig gyntaf, Tonje, a llwyddo o’r diwedd i ysgrifennu a chyhoeddi nofel. Mae’n delio â marwolaeth ei dad, sydd wedi troi’n raddol yn alcoholig trasig, gordew, ac mae Karl Ove yn treulio cannoedd o dudalennau’n trefnu’r angladd ac yn glanhau’r tŷ sglyfaethus lle roedd ei dad yn byw mewn budreddi gyda’i nain. Daw ei berthynas â Tonje i ben wedi i’r ddau fod yn anffyddlon ac ymboeni’n fawr am eu godineb; symuda Karl Ove i Stockholm. Yno, cyferfydd â Linda, a ddaw’n ail wraig iddo wap, ac yn fam i’w blant, cyn iddynt symud i Malmö. Drwy’r cwbl, cawn wybod ei deimladau dwys – rhai y mae hunangasineb, amheuaeth ac euogrwydd yn eu hydreiddio. Ni cheir ymdrech i ddadansoddi, esgusodi na rhesymegu ei deimladau amrwd: disgrifia’i ymateb emosiynol i ddigwyddiadau yn y gorffennol fel y dychmyga yr oedd ar y pryd – yn orddramatig, naïf a didwyll. 

Nid yn llinol-gronolegol fel y’u nodais uchod y cofnodir yr atgofion: neidir yn ffri o gyfnod i gyfnod. Sleisir dau o’r llyfrau gan gyfresi o ôl-fflachiadau sy’n para cannoedd o dudalennau. Mae’n gadael Tonje am Stockholm, heb esboniad, ar ddechrau'r ail gyfrol ond ni chawn ystyriaeth o ddiwedd y berthynas – yr anniddigrwydd a’r anffyddlondeb sy’n tarddu o odineb Karl Ove – tan ddiwedd y bumed gyfrol. Mae goblygiadau marwolaeth tad Karl Ove yn llenwi ail hanner cyfrol un, ond yng nghyfrol pump y gwelir y cyfnod sy’n arwain at hynny, ac sy’n esbonio’i gyflwr ar y pryd. Caiff jôcs eu cychwyn mewn un llyfr, a daw’r punchline gannoedd o dudalennau’n ddiweddarach, mewn llyfr arall. 

Mae yna adlais amlwg o hunangofiant Adolf Hitler, Mein Kampf, wrth gwrs, yn y dewis o deitl. Ystyr ‘Min Kamp’ yw ‘fy mrwydr’ neu ‘fy ymdrech’, ac mae’n werth gofyn pa frwydr yw honno. Ceir sawl ateb: yr ymdrech i’w adnabod ei hun, yn holl dywyllwch budur ei gymeriad; yr ymdrech i fod yn awdur mawr, y gorau a’r mwyaf erioed, a sathru ei amheuwyr dan draed; yr ymdrech i gael rhyw a chariad; yr ymdrech i fynegi ei hun, er ei ddistawrwydd poenus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol; yr ymdrech i gamu allan o gysgod y tad sbeitlyd, creulon a lethodd ei enaid o’r crud; yr ymdrech i drechu marwolaeth drwy ail-greu ei fywyd mewn print. Deallaf fod rhannau helaeth o'r chweched gyfrol (nas cyfieithwyd eto i'r Saesneg) yn ymdrin â Natsïaeth ac arswyd Karl Ove yn wyneb ymosodiad y terfysgwr hiliol Anders Breivik.

*

Cyhuddwyd Min Kamp o fod yn llên ar gyfer oes y selffi – oes pan fo pobl yn fwy parod i gyflwyno delwedd ohonynt eu hunain i’r byd nag i astudio’r byd o’u cwmpas. Onid narsisiaeth yw bod rhywun yn dyrchafu ei fywyd ei hun yn destun nofel, yn enwedig pan nad oes unrhyw beth neilltuol o arbennig am y bywyd hwnnw? Faint yn well yw nofel am fywyd yr awdur na llun ar Facebook o swper rhywun?

Nid yw’r cysyniad o ysgrifennu am yr hunan yn un newydd nac anghyfarwydd. Mae’r confensiwn o gyhoeddi hunangofiant yn un a berchir: bob haf a Nadolig, bydd y wasg Gymraeg yn cynhyrchu hunangofiannau rif y gwlith. Ceir rhai gan actorion Pobol y Cwm, cantorion, milfeddygon sy’n dymuno sôn am droeon trwstan anifeilaidd, gweinidogion, darlledwyr – yn ogystal ag ambell berson sydd wedi profi bywyd diddorol hefyd. Mae meibion y mans yn ganran llawer uwch o awduron hunangofiannau nag o’r boblogaeth gyffredinol, sylwaf.

Pa mor anrhydeddus yw’r arfer hwnnw? Prin yw’r hunangofiannau Cymraeg cyfoes y gellir eu galw’n ymdrech onest i gofnodi a dadlennu bywyd. Hyd yn oed pan fo awdur yn sôn am daith i ddyfnderoedd alcoholiaeth neu iselder – neu os yw’n mynd mor bell â chyfaddef iddo gael perthnasau rhywiol amhriodol – gwneir hynny yn rhan o daith tuag at iachawdwriaeth mewn bywyd teuluol bodlon. Bydd cyfran weddol helaeth o’r bobl sy’n ysgrifennu hunangofiant yn Gymraeg wedi bod drwy ysgariad ond, yn aml, caiff digwyddiad calonrwygol o’r fath ei drin a’i drafod mewn paragraff neu lai. Gŵyr darllenwyr gwybodus fod troseddau a charwriaethau’n parhau dan gêl. Prin yw’r gwleidyddion sy’n defnyddio’u hunangofiant i gyfaddef bod cynifer o'u penderfyniadau’n anghywir a’u cymhellion yn amhûr, onid e?

Nid yw hynny’n annisgwyl, ac nid yw hunanddyrchafu na hunanlanhau yn rhywbeth y gallaf feio hunangofianwyr am ei wneud, er ei fod yn gwneud y darllen yn bur ddiflas. Dichon fod pobl wedi eu rhaglennu i roi argraff ffafriol ohonynt eu hunain, i geisio ennill edmygwyr. Boed wrth ddewis ein dillad i bicio draw i’r siop, neu wrth sgwrsio am weithgarwch y penwythnos yn y gwaith wrth i’r tegell ferwi ar fore Llun, neu wrth drafod ein hoff ganeuon yn y dafarn, detholwn yn ofalus er mwyn rhoi i bobl argraff benodol ohonom ein hunain. Ni châi llawer o hunangofiannau eu cyhoeddi pe bai’n ofynnol ar yr awduron i rannu pob cyfrinach, ac i ddatgelu holl gorneli tywyll yr enaid; gwell gan y mwyafrif ganolbwyntio ar y llwyddiannau a’r anecdotau anghofiadwy.

Er y demtasiwn i dynnu llinell rhwng llyfrau ffaith a ffuglen, drwy ddewis a dethol beth i’w rannu, mae’r hunangofiannydd mwyaf strêt yn mentro i diriogaeth yr awdur ffuglen. At hynny, carwn awgrymu bod pob ffuglen yn hunangofiannol i raddau. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng hunanffuglen a nofel – Un Nos Ola Leuad, dyweder – lle mae’r awdur yn defnyddio’i atgofion ei hun i ffurfio cymeriadau a digwyddiadau oddi mewn i fframwaith ffuglennol? Ni all unrhyw nofel gynnwys cysyniadau sydd y tu hwnt i amgyffred yr awdur, ni waeth i ba raddau y mae’r cysyniadau hynny wedi eu troi’n ddeunydd ffantasi neu fetaffor.

*

Os mai creu argraff ffafriol ohonynt eu hunain yw bwriad y mwyafrif o hunangofianwyr, gwahanol yw dull Karl Ove; mae’n dewis datgelu’r gwaethaf. Cywilydd yw’r teimlad arferol yn y cyfrolau. Fe’i gwelwn yn cael ei orfodi i wisgo cap nofio blodeuog, neu’n torri ei wyneb yn friwiau byw â gwydr toredig, nid unwaith ond ddwywaith – ar ddechrau ei berthynas â Tonje, ac ar ei diwedd, wrth gyfarfod â Linda am y tro cyntaf. Fe’i gwelwn yn pisio ar dramp. Cawn ei ddilyn wrth iddo fod yn anffyddlon i’w gariadon hyfryd, ac ymdrybaeddu gydag ef yn yr iselder euog, du sy’n dilyn. Ceir ambell sylw sy’n ymylu ar fod yn homoffobig gan y Karl Ove ifanc. Ac mae ei genfigen a’i wenwyn tuag at ei gyd-awduron yn epig.

Dengys ei ddrygioni, a dengys ei wendid hefyd. Ym mhob llun o Knausgård, edrycha’n enigmatig ar y camera â’i lygaid pell, sy'n perswadio; mae ei wyneb hanswm, bleiddaidd yn cuddio dan farf ffyrnig, a mwng da o wallt halen-a-phupur yn disgyn yn doreithiog dros ei glustiau. Cymerais yn ganiataol, ar sail hyn, ei fod yn foi y bu ei oes yn gyforiog o gyffuriau, roc a rôl, a lot fawr iawn o secs efo lot fawr iawn o ferched. Rhaid, meddyliais, ei fod yn hedfan o gwmpas y byd yn mwynhau pob pleser anllad y gall awdur enwog ei hawlio. Ond camargraff a gefais. Nid yw bywyd rhywiol Karl Ove mor gyffrous ag y byddai ei bryd a’i wedd yn awgrymu. Yn ddeunaw oed, mae’n wyryf sy’n dioddef o gyflwr sy’n golygu bod ei ymdrechion niferus i gysgu â merched oll yn terfynu’n ddisymwth oherwydd allyriad cyn pryd; mae hunanleddfu’n rhywbeth nad yw’n fodlon ei ystyried, ac mae’n datblygu obsesiwn â disgybl tair ar ddeg oed yn yr ysgol wledig lle mae’n dysgu, gan guddio’i godiad y tu ôl i’w ddesg athro.

Gwahoddir ni i ffieiddio at y dyn ifanc hunanobsesiynol, dinistriol, rhwystredig a phathetig a ddisgrifir. Aiff y tu hwnt i onestrwydd wrth ddatgelu ei warth. Nid dewis peidio â hepgor y pethau gwael y mae, ond dewis eu cynnwys. I beth? Pa fudd sydd iddo o wneud hynny? Ai ennyn cydymdeimlad yw ei fwriad? Ai ennyn edmygedd am ei ddewrder? A yw’n cael pleser sadomasochistaidd o feddwl am ei filoedd darllenwyr yn pori drwy ei gywilydd? A yw, drwy ddatgelu ffieidd-dra’i gymeriad, yn gobeithio gwahodd y darllenydd i ystyried ei aflendid ei hun?

Ac, wrth gwrs, un peth yw datgelu ei gyfrinachau ei hun – ond daw bywydau preifat pobl eraill i’r amlwg hefyd, yn groes i’w hewyllys. Bygythiodd ewythr Karl Ove fynd ag ef i gyfraith oherwydd y portread o’i nain alcoholig; heriodd Tonje ei chyn-ŵr mewn rhaglen radio; yng nghyfrol chwech, manylir ar yr iselder a ddioddefodd Linda yn sgil cyhoeddi’r ddau lyfr cyntaf. Dichon fod llu o ffrindiau ysgol a merched y cyfarfu â nhw mewn bariau wedi synnu o ddarllen am chwant Karl Ove amdanynt. Mae hyn yn ddewrach – ac yn arwain i dir moesegol mwy sigledig – na datgelu ei gyfrinachau ei hun. Yn ogystal â’u dychryn â’i gambihafio a’i feddyliau hunanol, rwyf bron yn siŵr fod Knausgård yn ymhyfrydu wrth herio’i ddarllenwyr rhyddfrydol â gwerthoedd sydd y tu hwnt i’w bydolwg arferol. Gwneir llawer o’r gwahaniaeth rhwng Swediaid a Norwyaid: caiff Karl Ove ei yrru’n wallgo gan gywirdeb gwleidyddol a rheolau cymdeithasol caeedig, annealladwy dosbarth canol diwylliedig Stockholm. 

Ym mhresennol Malmö, Karl Ove sy’n gyfrifol am warchod y plant tra bo’i wraig yn gorffen ei chwrs coleg. Ystyria ddyletswyddau bywyd beunyddiol yn rhwystr iddo ysgrifennu, ac fe’i harweinir gan hynny i gondemnio’r hyn a wêl fel ‘benyweiddio’ cymdeithas. Wrth i’w wraig ddiog, anghenus fynnu ei fod yn treulio’i amser yn gwarchod y plant, yn glanhau, ac yn gwthio pram i sesiynau hwyl a chân, aiff y dyn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n corddi ynddo’n fwyfwy penwan. Adleisia hyn yr eiliad wan yn ei wyryfdod pan hiraetha am y cyfnod cyntefig pan allai dyn daro menyw’n anymwybodol â phastwn er mwyn cael ei ffordd gyda hi. Gresyna fod yr hen werthoedd gwrywaidd – ‘trechaf treisied’, rhyw ac anrhydedd, ‘a ddioddefws a orfu’ – wedi cilio o’r tir. 

*

Beirniadwyd arddull Knausgård gan yr awdur ei hun. ‘Pum tudalen o ysgrifennu modernaidd da sydd yn y gyfres,' honna, sef myfyrdodau’r pum tudalen gyntaf ynghylch marwolaeth. Mae’r arddull – nad oes llawer o ôl chwys na chrefft arni, ond sy’n gwneud y llyfrau’n page-turners annisgwyl – yn ganlyniad rhannol i ddull Knausgård o ysgrifennu’r gyfres: ei gloi ei hun yn ei swyddfa a theipio fel dyn o’i gof, mewn cyflwr hypnotig, am gyfnodau hirfaith. Gan na chaiff meddyliau Karl Ove eu hatgynhyrchu mewn rhyddiaith ddyrchafol, ond yn hytrach mewn arddull y gellir brysio drwyddi, mae’n haws i’r darllenydd ei drosglwyddo’i hun i bersbectif yr adroddwr, a chydymdeimlo mor ddwys â phe bai’r meddyliau’n eiddo iddo’i hun. Fe’m cefais fy hun mewn pangau o euogrwydd am odineb Karl Ove, a minnau’n gwbl ddieuog wrth gwrs, ac yn rhannu ei farn am weithiau celf nas gwelais erioed. Da y dywedodd rhywun fod darllen y llyfrau fel uwchlwytho cof arall i’m meddwl fy hun.

 

Mae’r lefel o fanylder sydd yn Min Kamp yn syfrdanol: gor-realaeth ydyw. Caiff pytiau o gannoedd o ddyddiau dros ddeugain a mwy o flynyddoedd eu hail-greu’n gyflawn. Gall gymryd paragraff iddo ddisgrifio gwneud coffi pan oedd yn ddeunaw. Treulia hanner can tudalen mewn parti pen-blwydd plentyn, a bron i dudalen yn disgrifio’r olwg ar wyneb ei ferch wrth iddo newid ei chlwt. Dywedodd Mihangel Morgan ‘nad oes dim un llyfr erioed wedi llwyddo i gyfleu "realiti" yn ei grynswth. Buasai’n cymryd ugain tudalen i ddisgrifio’r weithred o agor drws.’ Ymddengys fod Knausgård wedi derbyn ysbryd yr her sydd yng ngeiriau Morgan. 

Gŵyr pawb fod y meddwl yn anwadal: mae’r atgofion sydd gennym naill ai’n dyllau i gyd, neu wedi eu patsio’n flêr â deunydd na ddylai fod yno. Gwelwn Karl Ove’n llosgi ei ddyddiaduron pan fo yn y coleg; ar sawl achlysur, mae’n crybwyll ei gof gwael. Geilw'r cof yn bragmatig, slei a chelfydd. Sonia fod ganddo enw drwg, yn blentyn, am or-ddweud a chamarwain. Cyfaddefa fod rhannau o’i ieuenctid sy’n rhy ddryslyd gan reu a gwin iddo’u cofio – eto i gyd, ceir cyfrif ohonynt yn Min Kamp. Sonia’i fod yn argyhoeddedig, hyd yn oed wrth weld gwallt du’n disgyn drosto yng nghadair y barbwr, mai gwallt golau sydd ganddo. 

Sut felly y gallwn gredu mai glas oedd ei siwmper ar y diwrnod hwnnw pan lwythai’r bagiau i gefn y car? Sut y gallwn gredu mai yn y drefn a noda yr aeth i’r union gyfres hynny o fariau yn Bergen, ac mai ar y noson arbennig honno y ceisiodd dorri i mewn i geir cyn cael ei arestio am gysgu mewn cartref henoed? A yw wedi cadw’r derbynebau er mwyn gallu nodi gyda'r fath sicrwydd pa lyfrau a brynodd pryd?

Ar un wedd, mae’r manylder yn gwneud i Min Kamp deimlo’n fwy real na nofelau eraill; ond dyna’n union sydd hefyd yn bradychu’r ffaith mai ffuglen ydyw. Dyfeisiwr a chyfannwr yw Knausgård, yn hytrach na pherchennog cof ardderchog. Dywedodd unwaith nad yw’n ystyried bod gwahaniaeth rhwng cofio rhywbeth a’i greu. Dymuna ddyrchafu atgofion gwneud i’r un gwastad â hanes. Ymgais sydd yma i feddiannu atgofion twyllodrus, annibynadwy, ac i ail-greu’r argraffiadau simsan fel digwyddiadau real, ynghyd â’u holl fanylion cyffyrddadwy. Y tric yw peidio, bron byth, â chydnabod ei fod yn llenwi bylchau â’i ddychymyg.

Mae’n amheuthun cael cynifer o fanylion nad ydynt yn arwyddocaol – ddim yn ddelweddau, ddim yn allweddol i blot: maent yno er mwyn eu heffaith gronnus. Yn y drydedd gyfrol, dywedir bod tad Karl Ove’n benderfynol o hepgor pethau diangen o fywyd y teulu – does dim lle i bleser wrth fwyta nac amser i oedi i werthfawrogi’r olygfa wrth deithio. Y gwrthwyneb hollol yw ffordd ei fab – cynnwys popeth, dim ots pa mor ddibwys. Edmygaf yr hyfdra i fynnu bod manion un bywyd bach yn werth misoedd o waith darllen i bobl eraill. 

*

Ar ddamwain yr ysgrifennodd Knausgård Min Kamp. Cynnyrch blynyddoedd o fethiant ydoedd – methiant i ysgrifennu ffuglen am ei dad, a rhwystredigaeth wrth ysgrifennu nofel am y cysyniad o angylion drwy gyfrwng diweddariad o rai o straeon yr Hen Destament. Meddiannwyd Knausgård gan awydd i fod yn un o awduron arwyddocaol Norwy: mawredd oedd ei nod. Dymunai gael ei gofio yn yr un gwynt ag Ibsen a llenorion mawr eraill ei famwlad, am ysgrifennu yn y traddodiad modernaidd. Ond cefnodd ar hynny. Ysgrifenna yn yr ail gyfrol fod y syniad o gymeriad gwneud mewn plot gwneud yn peri iddo fod eisiau chwydu. Mae’r dyfyniadau a’r esboniadau helaeth o wahanol brosiectau ffuglen dieneiniad ei ugeiniau yn ei argyhoeddi nad dyna’i gryfder, a dim ond ar ôl iddo droi ei nofel gyntaf yn lled-hunangofiannol y mae hi’n gweithio. Llwydda Knausgård i gyrraedd mawredd fel nofelydd drwy ymwrthod, ar un olwg, ag un o hanfodion y nofel gonfensiynol – ffuglen.

Tybiaf fod llenyddiaeth yn dal i gicio’n erbyn dull realaeth o adlewyrchu bywyd. Gwnaeth ôl-fodernwyr rhan ola'r ugeinfed ganrif hynny drwy fentro i fydoedd ffantasi a realaeth hudol, a thrwy amharchu confensiynau’r nofel (meddyliwch am Mihangel Morgan, Robin Llywelyn a Wiliam Owen Roberts yng Nghymru); erbyn hyn, y ffasiwn yw mynd i’r cyfeiriad arall, a chwalu’r ffin rhwng ffuglen a ffaith.

I beth y gwnaeth Knausgård hyn? Beth yw pwrpas y chwarae hwn â ffurf? A dychwelyd at erthyglau carlamus Iwan Llwyd a Wiliam Owen Roberts yn yr wythdegau, iddyn nhw roedd diben ‘ail-drosi’ ffurfiau’r traddodiad yn glir – er mwyn i farddoniaeth Gymraeg adlewyrchu a dadansoddi profiadau Cymry mewn dyddiau dreng:

Un o’r agweddau tristaf ar hanes ein llenyddiaeth yn y ganrif hon yw’r ffaith bod tiriogaethau eang o’r profiad Cymreig heb eu mapio o gwbl. Sawl gwaith y bu pendroni pam na chynhyrchwyd ond llond dwrn o weithiau llenyddol Cymraeg yn sgil cyflafan y Rhyfel Mawr? Lle mae llenyddiaeth Gymraeg cyfnod y dirwasgiad a’r streic gyffredinol? O ddod yn nes adre’ – pwy sy wedi ymateb yn onest i fethiannau 1979?

A yw disgrifiad Knausgård o’i fywyd ei hun yn cyflawni unrhyw beth cyn bwysiced â’r uchod? Efallai.

Mae profiad bywyd un Norwyad yn ddrych, i ryw raddau, o brofiadau’r genedl gyfan. Mae ein hofnau, ein cywilydd a’n rhwystredigaeth ni oll i’w canfod yn ymateb Karl Ove i’w fywyd dibwys ei hun. Byddai hynny’n esbonio’r ffaith fod hanner miliwn o gopïau o’r llyfrau wedi eu gwerthu yn Norwy – gwlad lle nad oes ond pum miliwn o bobl yn byw. Rhan o chwedloniaeth Min Kamp yw bod rhai gweithleoedd yn Norwy wedi gorfod gwahardd trafod Knausgård yn y swyddfa ar rai dyddiau penodol. Dichon fod trasiedi tad Karl Ove – yr athro a’r gwleidydd parchus, a oedd yn dad awdurdodus, arswydus, ac a’i hyfodd ei hun i farwolaeth mewn tŷ sglyfaethus o flêr wedi’i orchuddio â baw dynol – yn stori a darodd dant.


Enillodd Ymbelydredd (Y Lolfa) gan Guto Dafydd Wobr Goffa Daniel Owen 2016.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Cyhuddwyd Min Kamp o fod yn llên ar gyfer oes y selffi - oes pan fo pobl yn fwy parod i gyflwyno delwedd ohonynt eu hunain i'r byd nag i astudio'r byd o'u cwmpas

Dyddiad cyhoeddi: 29·04·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Qing Niao

Mae'r Tsieineaid yn hoff o ddilyn ffasiwn ac wrth eu boddau yn trwytho eu hunain mewn moethusrwydd, lliwiau a phatrymau. Yn bwysicach na dim i'r Tsieineaid y mae gwneud yr argraff iawn: mae'r awydd i dynnu sylw yn gryf ond hefyd yr awydd i…

Adolygu


Mike Parker

Wrth ymddeol, troi at yoga neu jig-sos mae ambell un. Ond her go swmpus mae John Osmond – cyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig ac, ar un adeg, ymgeisydd Plaid Cymru yn ei ardal enedigol, Sir Benfro – wedi gosod iddo'i hun. Mae wrthi'n…

Adolygu


Alan Llwyd

Rhyw fath o Bum Llyfr Kerddwriaeth sydd gen i, sef pum llyfr o farddoniaeth. Mae gen i lyfrgell eang o ryw dair mil o lyfrau yn fy nghartref, a bûm yn ddarllenwr mawr oddi ar fy arddegau cynnar. Mae cannoedd o…

Adolygu


Janet Aethwy

Te yn y Grug gan Kate Roberts (1959)

Bu'r llyfr hwn yn ddylanwad mawr arna i. Dyma un o'r darnau cyntaf erioed i mi ei berfformio ar lwyfan ac roedd geiriau Kate Roberts yn rhan annatod o’r cyfareddu. Bûm yn ffodus i’m hathro Cymraeg ar y pryd benderfynu…

Cyfansoddi


Morgan Owen

Buasai gerddi yn fy meddwl ers misoedd yn lluosogi: gerddi’r dychymyg effro yn gymysg â gerddi breuddwydion. Un ar ôl y llall yn llathru’n las, yn wahoddiad imi eu cribino am ryw ystyr neu’i gilydd. Yn fy mrwdfrydedd, palaf weithiau i’w trefnusrwydd a’u diwylliant a…

Dadansoddi


Emyr Glyn Williams

Ca va? Mae gen i rywbeth i'w ddweud am ffilmiau chwyldroadol yr 1960au. Dwi'n meddwl am ffilmiau fel If… (1968) gan Lindsay Anderson, Weekend (1967) gan Jean-Luc Godard a The Battle of Algiers (1966) gan Gillo Pontecorvo, a pham ei bod yn bwysig dal ati i'w gwylio nhw heddiw. Fel llawer o fyfyrwyr, gweithwyr, artistiaid a phrotestwyr…

Cyfansoddi


Christine James

Odd fel sa pawb ffor ’yn yn wara gêm wrth wilia unwath: rywla ar ’yd llethra’r oesodd glæn, fan ’yn, gollyngws rywun, rywbryd, aitsh; ac wetyn gosod pawb ar waith i’w ffindo.

Colofnau


Geoff Young

Testun real sydd yma, ond un cyfan gwbl gyffredin. Hynny sydd yn ei wneud, yn rhyfedd iawn, yn anarferol, yn ddigon i ennyn diddordeb y darllenydd eto drachefn. Nid oes yma’r posibiliadau ffotograffig fyddai’n denu’r rhelyw i dynnu llun. Ac eto, mae rhywbeth am…