Cynan Llwyd


Tom

Y Lolfa, 122tt, £5.99, 2019

Byd yr archarwyr
Adolygu

Byd yr archarwyr


Grug Muse

Amser darllen: 4 munud

02·08·2019

Yn y nofel gyntaf hon gan Cynan Llwyd eir ati i geisio adlewyrchu’r byd dinesig, amlddiwylliannol sy’n gyfarwydd i ganran gynyddol o siaradwyr Cymraeg ifanc heddiw. Byw ar ystad dai o flociau concrit, mewn ardal sy’n ymdebygu i rai o ardaloedd mwy difreintiedig Caerdydd, y mae’r prif gymeriad, Tom. Mae ef a’i fam yn byw mewn cymuned fechan glòs, a’u cymydog Dei yn cadw cwmni i Tom pan fydd ei fam allan yn gweithio yn ei hail swydd. Dei hefyd sy’n cyflwyno Tom i fyd yr archarwyr, a sêr y cylchgronau graffig, lliwgar sy’n ysbrydoliaeth iddo ar adegau anodd.  

Nofel sy’n cael ei marchnata fel llyfr i bobl ifanc ydi Tom, a digon posib fod y dyfyniad canmoliaethus gan Manon Steffan Ros ar y clawr yn ymdrech i fanteisio ar y diddordeb newydd sydd mewn nofelau i’r ifanc ers i Manon ennill y Fedal Ryddiaith y llynedd am nofel yn yr un genre. Fel arfer, disgrifir yr hyn a elwir yn nofelau ‘Oedolion Ifanc’ fel llyfrau wedi eu targedu at ddarllenwyr rhwng deuddeg a deunaw mlwydd oed, ond amcangyfrifir bod hanner darllenwyr y farchnad ‘Young Adult’ Saesneg yn oedolion. Y duedd yn y Gymraeg ydi cyhoeddi nofelau wedi eu targedu at ben isaf y rhychwant oed hwn, ond fel y gwelwyd yn achos nofel arobryn Manon Steffan Ros, gall nofelau ‘oedolion ifanc’ hefyd apelio at ystod oedran ehangach o dipyn. Stori dda ydi stori dda, wedi’r cyfan. 

Hawdd ydi mynd ar gyfeiliorn wrth drafod llenyddiaeth i bobl ifanc. Y duedd ydi beirniadu’r gwaith yn gyfan gwbl ar sail ei werth addysgiadol; pwyso a mesur y llenyddiaeth ar sail y themâu a drafodir, neu’r pynciau llosg, neu pa mor ‘gyfoes’ neu ‘gynrychioladol’ ydi’r stori. Yn digwydd bod, mae Tom yn llwyddo i ennill marciau uchel yn ôl y meini prawf hyn: trafodir themâu fel iechyd meddwl, trosedd, tlodi, cyffuriau, a bwlio; ceir cast o gymeriadau o gefndiroedd amrywiol, ac iaith glir sy’n rhychwantu geirfa eang. Ond eilradd yw’r elfennau hyn i’r stori ei hun, a’r modd yr adroddir honno. 

Ysgrifennwyd y naratif yn y presennol, yn llais Tom, y person cyntaf. Gwelwn y bydysawd drwy ei lygaid ef: dyma fyd sydd wedi ei lywio gan ei lyfrau comics. Kev, Dez a Baz ydi archelynion y stori; germau yw kryptonite Tom, ac Ananya yw’r Captain Marvel. Ceir ansicrwydd hyd y diwedd, bron, ai arwr ynteu gelyn fydd Tom, neu a fydd yn un o’r bobl gyffredin – y ‘collateral damage’ a gleddir dan y rwbel wrth i’r archarwyr a’u gelynion gwffio a chwalu’r dinasoedd o’u cwmpas. 

Nid wyf wedi fy llwyr argyhoeddi mai llais y person cyntaf yn yr amser presennol oedd y modd gorau i adrodd y nofel hon ychwaith. Er ein bod yn cael ein tywys at drothwy cysgodion mewnol Tom ar adegau o argyfwng, ac yn dechrau rhannu ei atgofion poenus, ni fanteisiwyd i’r eithaf ar hyn. Ar yr adegau pan mae’n rhaid i Tom wneud penderfyniadau anodd, nid yw’r darllenydd wastad yn cael cyfle i dreiddio dan yr wyneb, nac ychwaith yn cael cymaint o fewnwelediad i’w deimladau ag y gellid disgwyl. Ac er bod adrodd y naratif yn yr amser presennol yn fodd o greu tensiwn, mae hefyd wedi cymell yr awdur i roi llawer iawn o ferfau yn eu ffurfiau cryno yng ngheg bachgen pymtheg oed, a oedd ar brydiau’n taro’r darllenydd yn annaturiol ac yn orffurfiol. Golygai hyn hefyd fod unrhyw gyd-destun yn gorfod cael ei gyflwyno ar ffurf atgofion Tom, oedd yn gyfystyr â symud yn aml rhwng yr amser presennol a’r gorffennol. Tarfu ar lif y stori yw effaith hyn mewn ambell fan, gan chwalu unrhyw densiwn sy’n cyniwair, a hynny er mwyn cyflwyno cyd-destun neu gefndir nad yw bob tro yn hanfodol.

Un o elfennau cryfaf y nofel, ar y llaw arall, ydi’r darlun a ddatblygir o’r cyfeillgarwch rhwng dwy genhedlaeth, rhwng Tom a Dei, y dyn sy’n ei gyflwyno i fyd cylchgronau graffig. Ers y dechrau, pan egyr y nofel â disgrifiad manwl o ddull artistig Dei o wneud tost, dyma gymeriad a pherthynas yr oeddwn yn ysu am gael dod i’w nabod ymhellach. Yn y rhan olaf hefyd llwydda’r awdur i greu sefyllfa gyffrous, gredadwy, golygfa sydd â’r potensial i fod yn gwbl ffrwydrol. Anodd deall, felly, y penderfyniad i lacio’r tensiwn drwy gyfrwng disgrifiad o sliperi pinc, gan roi i ni ddiweddglo siomedig o daclus. Dyma nofel yr hoffwn i fod wedi ei gweld yn llaesu rhywfaint ar ei staes, yn cael mantais digon o le i anadlu – a fyddai wedi rhoi cyfle i’r darllenydd hithau dreiddio’n ddyfnach i fyd Tom a’i stori.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rhifyn 10, Grug Muse, Nofelau

 


Dyma nofel yr hoffwn i fod wedi ei gweld yn llaesu rhywfaint ar ei staes, yn cael mantais digon o le i anadlu

Dyddiad cyhoeddi: 02·08·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…