Adolygu

Cerys mewn Versace

Portreadau Seren Morgan Jones, Oriel Ffin y Parc, Llanrwst

Esyllt Lewis

Amser darllen: 4 munud

28·08·2019

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol tywyllwch y dail. A dwi mor falch fy mod wedi mentro draw i’r plasdy cysurlon: yn rhan o arddangosfa ‘Menywod Cymreig’ yr oriel roedd cynfasau o waith celf blith draphlith ar hyd y lle – gweithiau gan Seren Morgan Jones, Sarah Carvell a Luned Rhys Parri yn leinio waliau’r moethus fan. Yn y stafell gyntaf ar y dde, wele bedwar paentiad Seren Morgan Jones, un i bob wal o’r stafell yn gwarchod (neu’n bygwth) coron T Glynne Davies sy’n eistedd yn swil ar blinth yn eu canol. Dyma bortreadau olew ac acrylig: o Morfudd mewn Gaultier, Cerys mewn Versace, Luned mewn siwmper oren Buddug mewn Rodarte, pob sgwaryn o gynfas yn llawn personoliaeth unigryw'r menywod ffuglennol sy’n preswylio oddi mewn iddynt, yn herio’r gwyliwr i feiddio eu beirniadu o fewn rhychwant posibiliadau a gweadau paent.

Peth cymharol newydd yn hanes ein diwylliant celf weledol yw arddangos a dathlu corff o baentiadau o fenywod gan fenywod. Gwelais waith Seren Morgan Jones am y tro cyntaf rai blynyddoedd yn ôl yn Gallery Ten, Caerdydd, pan oeddwn yn arddegyn brwd yn cael dod i weld celf y brifddinas a’r Amgueddfa Genedlaethol o ddiffeithwch cymharol Abertawe, lle’r oedd Oriel y Glynn Vivian wedi cau ers blynyddoedd. Cofiaf gerdded o amgylch yr oriel fechan honno a rhyfeddu, a syllu syllu ar y gyfres o bortreadau o fenywod herfeiddiol yr oedd Seren Morgan Jones wedi eu paentio, a hwythau’n syllu’n ôl arnaf i, y gwyliwr, eu hwynebau o’r 21g wedi eu cyfosod yn bowld â’u gwisgoedd Cymreig traddodiadol neu syffragetaidd. Am y tro cyntaf erioed, efallai, roeddwn i’n gweld menywod Cymreig a chymhlethdod ein hunaniaeth a’n gweddau amrywiol yn cael eu harchwilio mewn celf weledol gyfoes gan fenyw Gymreig arall. Yn dew, yn denau, yn ddu, yn wyn yn Asiaidd, yn hardd o hyll, hyd yn oed. Dyma oedd dechrau creu naratif newydd am y fenyw Gymreig ar gyfer ein cenhedlaeth ni. Gwyrdroi ein disgwyliadau o’r hen fenyw fach. Cafodd y paentiadau hyn fwy o argraff arnaf na holl gasgliad yr Amgueddfa Genedlaethol ar ei hyd; doedd Monet, Bonnard na Pissaro ddim ynddi. Roeddwn i’n gallu uniaethu, am unwaith, â’r hyn oedd o’m blaen: dathliad o fenywod hyderus yn hawlio perchnogaeth o’u meddyliau a’u cyrff eu hunain mewn gofod cyhoeddus. Ymgollais am amser mewn paent, fel yr wyf yn dwlu gwneud o dro i dro wrth sefyll o flaen gwaith celf sy’n awgrymu cymaint heb ddweud y cwbl. Ymgollais yng nghyfoeth y technegau a’r gweadau cyferbyniol, y lliwiau chwareus, eu manylder – profais lonyddwch syllu.

Fel yng ngwaith blaenorol Seren Morgan Jones, mae’r menywod ym mhaentiadau arddangosfa Ffin y Parc yn ymddangos mor ddi-lol ag erioed, yn ein herio i ailystyried ein ffordd o edrych ar fenywod. Life imitates art. A’u hwynebau paent olew sgleiniog a’u hystumiau saslyd, y blodau a’r pethau gwyllt anystywallt addurniadol sy’n eu hamgylchynu, maent bron â bod yn diogelu eu hunain rhag llygaid y gwyliwr. Yn wir, edrychant mor gyfforddus yn eu crwyn moethus yng nghyd-destun y dillad designer crand fel bod diwylliant ffasiwn ac estheteg yn cyfoethogi eu hunaniaeth yn hytrach na thanseilio eu rhinweddau naturiol. Ymwrthodant â’r male gaze (gwryw-wyliadwraeth?) yn ddiymdrech fel pe na bai canrifoedd o droi menywod yn wrthrych chwant mewn paentiadau gan ddynion erioed wedi digwydd. Hawliant eu gofod eu hunain ar yr hen waliau, gofod amlweddog newydd o fewn y traddodiad patriarchaidd unllygeidiog.

Fy ffefryn o’r pedwar yw Cerys mewn Versace, a hi sy’n addurno clawr llyfryn yr arddangosfa. Mae’n eistedd yno’n gwbl hunanfeddiannol ar bentwr o ddeunyddiau ynghanol cawod o flodau sy’n tasgu dros bob man. Rhaid i’r gwyliwr ddygymod â thalpiau tonnog o gnawd menyw sy’n hyderus yn ei siâp ei hunan o fewn sgwâr ar wal oriel. Mae’r cellulite ar ei chroen wedi ei gyfleu’n ogoneddus, wedi ei weld â llygad sy’n dathlu crychau cyrff benyw, â llaw sydd wedi paentio’r amherffeithrwydd hynny’n berffaith, gyda gofal a sensitifrwydd a chanmoliaeth o’r hyn y mae corff Cerys Mewn Versace wedi gallu ei gyflawni oherwydd, neu er gwaethaf, patrymau ei cellulite. (Noder na allaf ganfod gair Cymraeg am cellulite – nid yw’n effeithio ar Y Fenyw Gymreig, yn amlwg). Mae Cerys yn syllu’n syth ata’ i, yn ddidostur ei hedrychiad, yn awgrymu female gaze neu drem fenywaidd sy’n dryllio pob ymgais ar feirniadaeth ohoni. Coron T Glynne druan. 

Ond fy hoff beth am waith Seren Morgan Jones, cyn dechrau mwynhau’r darlleniadau ffeministaidd llwythog, yw’r modd y mae pob portread yn faes chwarae ar gyfer ymestyn posibiliadau paent. Sylwch ar gyfosodiad y paent arian sgleiniog, cras a bras ar ffrog Rodarte Buddug gyda ffwr mwll, manwl, naturiolaidd y gath wrth ei hochr – mae’r arbrofi hwn yn creu byd o weadau swrrealaidd a chyffrous. Cyfunir crefft a phrofiad artist sy’n gallu paentio cnawd nes ei fod yn edrych yn gyffyrddadwy, gyda brwdfrydedd artist nad yw’n ofni gosod sblojys tew taci a fflat o baent yn gefnlen i gymhlethdod tonau croen dynol. Ambell waith mae’r paent wedi ei daenu o amgylch Morfudd, Buddug, LunedCerys fel eisin cacen, yn ymddangosiadol ddiangen, ond yn hollol flasus. Dyma ddathliad o fateroldeb ac egni cyfrwng yr artist hon – paent fel stwff i’w fowldio a’i fwynhau.

Mae Esyllt Lewis newydd ddychwelyd o Fenis lle’r oedd hi’n gweithio fel goruchwylydd ar ran Cymru yn La Biennale di Venezia. Mae’n un o olygyddion cylchgrawn Y Stamp ac ar fin dechrau cwrs gradd meistr (darlunio) yn Glasgow.

Dyma oedd dechrau creu naratif newydd am y fenyw Gymreig ar gyfer ein cenhedlaeth ni. Gwyrdroi ein disgwyliadau o’r hen fenyw fach

Pynciau:

#Esyllt Lewis
#Celfyddyd weledol
#Ffeministiaeth
#Eisteddfod