Adolygu

Chwyldro mewn ‘Disni Land glawog’

Adolygiad o Cam Arall i'r Gorffennol gan Rhys Mwyn

Rhys Mwyn

Cam Arall i'r Gorffennol

Carreg Gwalch, 216 tt, £8.50, Tachwedd 2016

Chwyldro mewn ‘Disni Land glawog’
Grug Muse

Amser darllen: 5 munud

22·02·2017

Yn ei gyfrol Réflexions sur la Violence (1908), dadleuodd yr athronydd Ffrengig, Georges Sorel, yn chwyrn o blaid grym chwedloniaeth i danio gweithredoedd. Chwedlau, meddai’n dalog, fydd yn tanio’r chwyldro. Caiff y proletariat ei ysgogi i weithredu gan y chwedlau y bydd yn rhoi ei ffydd ynddynt.

Wn i ddim ai ceisio tanio chwyldro y mae Rhys Mwyn yn ei gyfrol ddiweddaraf, Cam Arall i’r Gorffennol (er ei bod yn deg gofyn a oes yna unrhyw beth y mae Rhys Mwyn yn ei wneud nad yw’n ymwneud mewn rhyw ffordd neu’i gilydd â’r chwyldro), ac mae hi’n bosib mai cyfrol am archeoleg gogledd ddwyrain Cymru fyddai’r sbardun chwyldroadol mwyaf sidêt erioed – ond dyna ni, rydan ni’n byw mewn dyddiau rhyfedd iawn yn ’tydan.

Mae hon yn gyfrol sy’n ymwneud llawn cymaint â’n chwedloniaeth ni ag y mae hi â’n hanes, ac mae hi’n ceisio chwilio arwyddocâd a dylanwad y chwedlau a’r hanesion hynny.

Ein hannog i ymweld â safleoedd archeolegol, a’n tywys ni’n ddeallus o’u cwmpas yw prif amcan y gwaith. Mae’n ein helpu i werthfawrogi eu nodweddion archeolegol, eu hanes, a’u harwyddocâd cyfoes a hynny drwy adrodd yr hanes, a’r chwedloniaeth, sydd ynghlwm â’r safleoedd dan sylw. Mae pob pennod yn cynnwys cyflwyniad i’r fan ynghyd â chrynodeb o’r daith a map syml. Mae’r penodau wedi eu casglu ynghyd dan wahanol themâu, a’u trefnu’n lled gronolegol. Yn gyffredinol, mae’r penodau hynny y mae iddynt gwlwm thematig tynnach yn gweithio’n well – er enghraifft y bennod ar y cestyll Cymreig (pennod wyth) a’r bennod am y safleoedd y mae ganddynt gysylltiad â Glyndŵr (pennod naw).

Byddai dau beth wedi cryfhau’r gyfrol yn aruthrol, sef map cyffredinol a rhyw fath o bennod i ddod â’r cyfan i ddiweddglo. Mae Rhys Mwyn yn cyfeirio’n gyson at y ‘dirwedd archeolegol’ a phwysigrwydd ystyried y safleoedd hyn yn eu cyd-destun daearyddol ac yng nghyd-destun eu perthynas â safleoedd eraill. Byddai map cyffredinol o’r rhanbarth, i nodi lleoliadau’r gwahanol safleoedd, wedi bod yn werthfawr iawn, yn enwedig i’r rheiny ohonom nad ydyn nhw’n gyfarwydd â’r ardal. Ac fe fyddai rhyw bwt i gloi pethau’n daclus wedi bod yn fuddiol hefyd, fel rhyw fath o ‘Amen’ ar y cyfan. Ond pethau ychwanegol yw’r rheiny.

Ni chyhuddwyd Rhys Mwyn erioed o fod yn ddyn heb genhadaeth – ac nid â’r gyfrol hon y dechreuir gwneud y cyhuddiad hwnnw:

Awgrymaf, yn garedig, ein bod ni fel cenedl wedi anwybyddu’r cestyll Cymreig. Does dim pwrpas beio’r gyfundrefn addysg, sefydliadau’r Llywodraeth, athrawon gwael ac ati. Ni, a ni yn unig, sydd ar fai. Fy nadl bob amser yw bod angen i ni Gymry ailfeddiannu’n hanes ac ailberchnogi’r dirwedd hanesyddol – dim esgusodion.

 ati o’r dechrau’n deg i’n dwrdio am fod mor ddiofal o’n hanes. ‘Clywch, clywch,’ meddaf innau, gan droi â ’nghynffon rhwng fy nghoesau at y copi agosa’ o Hanes Cymru. Ac nid ein diffyg gwybodaeth ni yn unig y mae’r gyfrol hon yn ei amlygu ond y diffyg gwaith ymchwil proffesiynol a safonol a wnaed ar hanes Cymru. Mae Rhys Mwyn yn gwarafun drwyddi draw na fu gwaith ymchwil digonol ar y gwahanol safleoedd, a bod hynny o waith a gwblhawyd yn cynnwys sampl rhy fychan, neu sampl o safon amheus. A phrin iawn, ymhellach, y caiff y gwaith hwnnw ei gwblhau yn y Gymraeg.

O safbwynt y Gymraeg, rhaid bachu ar y cyfle i awgrymu fod unrhyw ymdrech i ddeall y dirwedd hanesyddol ac archeolegol yng Nghymru heb fedru’r iaith yn anorfod yn arwain at olwg gul ar y dirwedd honno.

Awtsh. Pa syndod felly bod i chwedloniaeth y fath bwysigrwydd yn ein hymwybyddiaeth hanesyddol ni? Y mae’r Cymry, yn gyffredinol yn dysgu eu hanes trwy ddulliau anffurfiol – cyfeiriadaeth mewn nofelau neu gerddi, ambell i raglen ddogfen ar S4C, aelodaeth o gymdeithas hanes os ydan ni’n wirioneddol cîn, neu drwy gyfrwng y gyfrol am hanes blancedi gwlân Cymreig yr 18fed ganrif a gawsom yn anrheg Dolig siomedig gan ryw fodryb ddiarth. Ac, ydyn, rydym yn dysgu ein hanes hefyd trwy gyfrwng ein chwedlau. Nid mater o fod yn fwy ymwybodol o’n chwedlau na’n hanes ffurfiol ydi o yn gymaint â thuedd i’r ddau gydgymysgu yn ein hymwybyddiaeth a hynny i’r fath raddau fel mai prin bod yna wahaniaeth pa un sydd yn meddu ar y seiliau ffeithiol mwyaf cadarn. Gan hynny, ni chaiff y safleoedd yn y gyfrol hon eu hysgaru o’u chwedlau hwythau. Wrth ddisgrifio Glyndyfrdwy, chwaer-safle Sycharth, dywed Mwyn fel hyn:

Efallai’n wir i faner Glyndŵr gael ei chodi ar ben y domen ar 16 Medi 1400, ond amhosib fyddai profi hynny – a rhaid cofio i’r castell fod yn adfail ers rhai canrifoedd erbyn cyfnod Glyndŵr. Mae baner yn hedfan ar y domen yn ddelwedd llawer mwy rhamantus na chyfarfod ffurfiol yn y neuadd, felly, fe adwaf i’r dychymyg ennill y dydd yma.

Yn y pytiau hyn y daw’r safleoedd yn fyw yn y gyfrol. Ac os soniodd Monsieur Sorel am allu chwedloniaeth i ysgogi gweithred, tybed na all y chwedloniaeth hon ein hysgogi ni i wneud mwy i ddysgu am ein hanes, a gwarchod ac ymweld â’r safleoedd hyn? Y mae hi eleni, yn ôl ein bwrdd twristiaeth hoff ac annwyl, yn Flwyddyn y Chwedlau. Prosiect mawr yw hwnnw i ddenu miloedd mewn cyfalaf trwy werthu Cymru fel ryw Ddisni Land glawog, drwy gynnig profiad ‘dilys’ a chyffrous o’n chwedloniaeth. Rydan ni’n siŵr o weld digon o sothach Camelotaidd yn y flwyddyn nesaf yma i’n gyrru ni o’n coeau. Y gamp fydd achub y sylwedd o’r lobsgóws o rwtsh – a dyma gyfrol fydd yn arf yn y frwydr honno.

A sôn am lobsgóws, rhaid cyfeirio at ddull Rhys Mwyn o gyflwyno gwybodaeth yn y gyfrol hon. Nid yw archeoleg, fe ymddengys, yn faes sy’n hoffi rhoi atebion pendant, syml. Yn hytrach, amwysedd ac ansicrwydd sy’n ei nodweddu, a damcaniaethol yn unig ydy’r rhan fwyaf o’r casgliadau. Mae Rhys Mwyn yn cyflwyno’r canfyddiadau amwys, cymhleth a haenog hyn yn ystod cyfnod lle mai’r ateb mwyaf syml, mwyaf bachog ydi’r ‘mwyaf gwir’, waeth be ydi’r sail dystiolaethol ar ei gyfer, ac mae hi’n braf dod wyneb yn wyneb ag ystyfnigrwydd Mwyn; mae’n glynu at y ‘cywir cymhleth’ yn hytrach na bachu ar y ‘syml camarweiniol’.

Nid nad oes yna duedd weithiau i fynd yn rhy bell tua phegwn y ‘cymhleth’. Ac mae’r awdur yn cydnabod hynny ei hun. ‘Drwy orddamcaniaethu gallwn orgymhlethu pethau,’ yw ei rybudd ac, ar adegau, mae ei ganfyddiadau mor ddamcaniaethol amwys fel bod rhywun yn amau gwerth eu cynnwys. Ond gwell, mae’n siŵr, yw mynd yn rhy bell tua’r pegwn hwnnw nac i’r cyfeiriad arall.

Mae tuedd hefyd, mewn rhai penodau, i bentyrru ffeithiau ac fe all y gyfrol neidio’n ddisymwth o un cyfnod neu faes i’r llall. Weithiau, mae’r awdur yn orhyderus o wybodaeth hanesyddol ei gynulleidfa, a byddai ambell anecdot neu hanesyn yn elwa ar gynnwys mwy o gefndir neu gyd-destun. Ond nid fel cyfrol lenyddol y bwriedir hon, hyd y gwn i, ond fel cyfrol i danio dychymyg a diddordeb yn hanes y rhanbarth dan sylw.

Un o’r dyddiau hyn, rydw i am rentu car a mynd am joli-hoet i fyny i ogledd-ddwyrain Cymru a mynd am sbec i rai o’r llefydd y mae Rhys Mwyn yn ysgrifennu amdanyn nhw. Llefydd na chlywais i sôn amdanyn nhw erioed, efo enwau bendigedig – Coed Gwepra, Maesmynan, Bach yr Anelau, Rhyd Chwima, Caergwrle ... A chofio geiriau Sorel, fe’m hysgogwyd i weithredu, hyd yn oed os na fydd y gweithredu hwnnw yn cyrraedd graddau chwyldro (ddim eto, beth bynnag). Ac wn i ddim a oes angen mwy o adolygiad na hynny ar y gyfrol hon, a deud y gwir. 

Enillodd Elan Grug Muse Gadair Eisteddfod yr Urdd 2013. Mae hi'n fyfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn un o gyd-sylfaenwyr Y Stamp.

Rydan ni’n siŵr o weld digon o sothach Camelotaidd yn y flwyddyn nesaf yma i’n gyrru ni o’n coeau. Y gamp fydd achub y sylwedd o’r lobsgóws o rwtsh.

Pynciau:

#Chwyldro
#Grug Muse