Adolygu

Cofio Aberfan a hen ffordd o fyw

Adolygiad o To Hear the Skylark’s Song - A Memoir gan Huw Lewis

Huw Lewis

To Hear the Skylark’s Song

Parthian, 160tt, £8.99, Mai 2017

Cofio Aberfan a hen ffordd o fyw
Iwan England

Amser darllen: 5 munud

11·10·2017

Dwy frawddeg ar gefn y gyfrol hon wnaeth fy mherswadio i i ddarllen ac i ysgrifennu’r adolygiad hwn. Mae’r blurb yn nodi, ‘To Hear the Skylark’s Song is a memoir about how Aberfan survived and eventually thrived after the terrible diasaster of 21st October 1966 ... It is a story about how people held a community together and created a space for each other to thrive.’

Fe’m magwyd i lai na dau gan metr o ddrws ffrynt cartre’r awdur, Huw Lewis. Roedd ei blentyndod e’n cwmpasu’r chwedegau a saithdegau’r ganrif ddiweddaf, cyfnod allweddol yn hanes pentref Aberfan. Dyma’r adeg pan lwyddodd y gymuned i ailadeiladu, gan glirio olion trychineb 1966 a sefydlu adnoddau, digwyddiadau a grwpiau a fyddai’n ei chynnal am flynyddoedd i ddod.

Ond er addewidion y clawr, nid dyma’r stori a geir yn y llyfr hwn. Yn hytrach, mae hwn yn hunangofiant annwyl iawn o blentyndod sy’n nodweddiadol o fywyd yng nghymunedau glofaol y de yn ystod y chwedegau a’r saithdegau. Mae yma doreth o fanylion am fywyd bob dydd, o’r rhesi o lysiau yng ngerddi’r tai teras i gynnwys y jariau losin yn y siop bapurau. Mae normalrwydd y portread yn destament i’r gwaith aruthrol a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod er mwyn sicrhau bod plant Aberfan yn gallu mwynhau plentyndod ‘arferol,’ a hynny er gwaetha’r galar a oedd ymhobman. Portread o ganlyniadau’r ymdrech a geir fan hyn, yn hytrach na manylion y gweithgarwch soffistigedig a gynhaliwyd gan unigolion ymroddgar. Dim ond ar ambell achlysur y cawn olwg ar weithredoedd penodol o’r fath, ond mae eu dylanwad yn treiddio trwy blentyndod yr awdur.

Huw Lewis oedd Aelod Cynulliad etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni o ddyddiau cyntaf datganoli hyd at yr etholiad diwethaf. Cafodd fwy nag un rôl yn y Cabinet, ond ymysg y pwysicaf oedd ei dair blynedd fel gweinidog addysg Cymru. Ysgrifennu’r llyfr hwn yw un o’r camau cyntaf iddo yn ei fywyd ôl-wleidyddol.

Cryfder Lewis fel awdur yw ei allu i ddadansoddi newidiadau mewn arferion cymunedol. Fwy nag unwaith mae’n creu darlun byw o batrwm a oedd yn rhan annatod o fywyd ychydig ddegawdau yn ôl, ond sydd bellach wedi mynd yn angof. Ac mae’n cynnig rhesymau dros y newidiadau hyn, sgil effeithiau’r newidiadau sylfaenol yn y ffordd o fyw mewn pentref fel Aberfan.

Mewn un achos mae’n rhestri’r holl werthwyr fyddai’n ymweld â strydoedd y pentref yn wythnosol. O’r gwerthwr pysgod, i’r costermonger a fan llawn llysiau a ffrwythau, a hyd yn oed dyn a fyddai’n hogi min ar gyllell neu siswrn. Ychydig iawn o’r rhain sy’n ymweld â phentrefi fel Aberfan bellach. ‘This way of doing business door-to-door could only last so long as most households had someone at home in daytime, so long as one wage was enough to keep a family, and whilst hardly anyone had access to a car. So of course, all these door-to-door trades were shortly – very shortly – to die away.’

Gwendid y gyfrol yw nad oes ynddi fwy o ddadansoddi. Yn aml iawn mae’r awdur yn hapus i gofio, heb drafod ac ystyried arwyddocâd yr hyn y mae’n dwyn i gof. Heb yr ychydig enghreifftiau o gnoi cil sydd yn y llyfr, fe allai ymylu ar fod yn gyfres o vignettes personol a dim arall. Ond er tegwch â Huw Lewis, mae strwythur y gyfrol yn cynnig haen arall o ystyr i’r darllenwr afael ynddi. Mae yna deimlad o orwelion yn ehangu’n raddol trwy gydol y gwaith. Mae terfynau corfforol bywyd yr awdur yn ymestyn fesul cam, ac fe geir portread o ryw fath o ddeffroad personol, o ddatblygu ffordd o weld y byd. Mae’r llyfr yn symud o dŷ teras yr awdur, i strydoedd ei blentyndod, ac yn gorffen ar gopa’r mynydd gerllaw.

Ond er gwaetha momentwm symbolaidd y cyfanwaith, mae yna gyfleon coll hefyd. Mae yna awgrym clir fod perthynas wahanol iawn rhwng ei rieni a’r ddau bâr o neiniau a theidiau a oedd yn byw yn y cylch. Yn sicr doedd rhieni ei fam, dau ogleddwr a siaradai Gymraeg, ddim yn teimlo’n gartrefol yn y de. Ond does dim dadansoddi treiddgar o’u sefyllfa, nac o natur y berthynas rhwng yr oedolion. Yn yr un modd mae yna ambell i cameo gan ffigurau a oedd yn allweddol ym mywyd y gymuned, ond dim cyd-destun na disgrifiad o’r gwaith yr oedden nhw’n ymwneud ag e.

Pe na bai clawr y gyfrol wedi gwneud y fath addewidion am y cynnwys, mae’n bosib y byddwn i wedi gallu mwynhau’r llyfr ar ei delerau ei hun. Oherwydd yn y bôn atgofion personol, cynnil ac annwyl iawn a geir yma. Atgofion nodweddiadol o’r cyfnod ydyn nhw – ac mae hynny’n beth digon rhyfeddol o gofio nad pentref nodweddiadol sy’n gefnlen i’r cyfan.

Mae Iwan England yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr. Enillodd ei raglen Aberfan - The Fight for Justice (Cynyrchiadau Alpha) wobr BAFTA Cymru 2017 am y ffilm ddogfen unigol orau. 

Mae hwn yn hunangofiant annwyl iawn o blentyndod sy’n nodweddiadol o fywyd yng nghymunedau glofaol y de yn ystod y chwedegau a’r saithdegau

Pynciau:

#Hunangofiannau
#Aber-fan
#Y Cymoedd