Douglas Jones


The Communist Party of Great Britain and the National Question in Wales 1920-1991

Gwasg Prifysgol Cymru, 320tt, £19.99, 2017

Comiwnyddiaeth a chenedlaetholdeb
Adolygu

Comiwnyddiaeth a chenedlaetholdeb


Dewi Huw Owen

Amser darllen: 5 munud

30·03·2018

Rhoddwyd llais i un o straeon coll gwleidyddiaeth Cymru pan gyhoeddwyd astudiaeth swmpus Douglas Jones, The Communist Party of Great Britain and the National Question in Wales, 1920 – 1991, gan Wasg Prifysgol Cymru y llynedd. Mae’r gwaith yn un gwirioneddol arloesol. Er y cyfeiriwyd at Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr yng Nghymru, ac at nifer o’i haelodau blaengar, mewn sawl cyfrol flaenorol, ni chyhoeddwyd erioed o’r blaen unrhyw astudiaeth gynhwysfawr o’i hanes.

Yn wir, ychydig fu’r sôn am y blaid hon yng Nghymru, ac fel y gellid disgwyl, plaid gymharol fechan ydoedd yma. Fel y noda Jones, ar ei hanterth, ni fu ganddi ddim mwy na thair mil o aelodau yng Nghymru, ac erioed ragor na 56,000 ar draws Prydain gyfan. Er i aelodau’r blaid sefyll mewn sawl etholiad cyffredinol yn ystod yr ugeinfed ganrif, ni lwyddodd i gael yr un Aelod Seneddol o Gymru wedi ei ethol i San Steffan.

Ond er mor fychan ar lefel Brydeinig a Chymreig, bu’n rhan o deulu o bleidiau Comiwnyddol eraill ar draws Ewrop drwy gydol ei hanes. Drwy’r cysylltiadau hyn yr oedd yn cyfrannu, fel y pleidiau Comiwnyddol dramor, at benderfyniadau’r Cyngresi Comintern rhyngwladol ac yn atebol iddynt. O ganlyniad, derbyniai gefnogaeth ac arweiniad o’r tu hwnt i ffiniau arferol byd gwleidyddol Prydain. Dengys y gyfrol hon i’r Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru, gyda’i chysylltiadau cyfandirol eang a’i chorff bychan o aelodau diwyd, fod yn llais hanfodol – a hanfodol wahanol – yn rhai o ddisgyrsiau gwleidyddol pwysicaf Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn enwedig yn y drafodaeth ar genedlaetholdeb.

Nid drwy ddyhead ideolegol ond wrth ymateb i her allanol y daeth y blaid hon i ymhél â’r cwestiwn cenedlaethol am y tro cyntaf. Am ddegawd a hanner cyntaf ei hanes, ni thalai fawr ddim sylw i’r mater, gan ganolbwyntio’n bennaf ar y frwydr ryngwladol rhwng dosbarthiadau cymdeithasol. Ond daeth tro ar fyd gyda thwf ffasgaeth yn Ewrop a dyfodiad Hitler i rym yn yr Almaen yn 1933. Ymatebodd 7fed Cyngres Comintern y Byd i’r her newydd hon yn 1935 trwy fabwysiadu strategaeth y Ffrynt Boblogaidd. Datblygwyd y strategaeth hon yn gyntaf gan Ysgrifennydd Cyffredinol Comintern Plaid Gomiwnyddol yr Almaen, Georgi Dimitrov, fel her i lwyddiannau etholiadol y blaid Natsïaidd. Seiliwyd strategaeth y Ffrynt ar yr egwyddor bod yn rhaid i’r Comiwnyddion ymateb i bob mynegiant unigryw o genedlaetholdeb mewn modd penodol a lleol, yn hytrach na thrwy bwysleisio goruchafiaeth y frwydr ddosbarth ryngwladol fel y gwnaed cynt.

Dengys llyfr Jones sut yr aethpwyd ati i ddatblygu strategaeth Ffrynt Boblogaidd Gymreig er mwyn ymateb i ddadleuon a gweithredoedd Plaid Genedlaethol Cymru. Plethwyd arweiniad rhyngwladol â dealltwriaeth leol; bwriwyd ati i gyhoeddi llenyddiaeth Gomiwnyddol yn y Gymraeg; a gwnaed ymgais fwriadol i fabwysiadu symbolau ac arferion cenedlaethol y wlad.

Tueddu at genedlaetholdeb diwylliannol yn hytrach na chenedlaetholdeb gwleidyddol yr oedd y blaid hon yn y cyfnod cynnar hwn yng Nghymru. Ond, gyda dyfodiad a dinistr yr Ail Ryfel Byd, newidiwyd y polisi eto, a cheisiwyd tir canol rhwng y cenedlaetholwyr a’r unoliaethwyr. Dadleuwyd bod honiadau’r Blaid Genedlaethol yn economaidd wag; pwysleisiwyd ar yr un pryd bod amharodrwydd y Blaid Lafur a’r pleidiau unoliaethol eraill i ganiatáu cynrychiolaeth ddemocrataidd i ddosbarth gweithiol Cymru yn fynegiant o ormes cyfalafol. Fel yr esbonia Jones wrth drafod barn T E Nicholas ar y mater:

Writing in March 1938, Nicholas reiterated his earlier stance qualifying his support for self-government by arguing that without a transition to socialism such a move would be meaningless, as it would only hand power to Welsh capitalists.

O ganlyniad i natur adweithiol ymateb y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru i’r cwestiwn cenedlaethol, cynyddai ac edwinai ymroddiad y Comiwnyddion i’r pwnc gyda llanw a thrai’r bleidlais genedlaethol yng Nghymru dros y ganrif. Amrywiai’r gefnogaeth i genedlaetholdeb hefyd, gan fod bwlch mawr rhwng barn arweinwyr y blaid, a oedd yn gyffredinol ffafriol i’r syniad, a barn ei haelodau, a oedd yn gyffredinol wrthwynebus. A rhaid cofio, a hithau’n gangen o goeden wleidyddol ryngwladol fwy, yr amrywiai safbwynt y Blaid Gomiwnyddol yn ôl casgliadau’r Cyngresau Rhyngwladol. Serch hyn oll, nid yw’n ddim syndod yn y 1950au mai’r Blaid Gomiwnyddol oedd y blaid asgell chwith Prydain-gyfan gyntaf i gefnogi’r syniad o ddatganoli pŵer i senedd yng Nghymru – eto, ar sail dadleuon ynghylch cynrychiolaeth ddemocrataidd yn hytrach nag ideoleg genedlaetholgar.

Cawn yn adroddiad Jones o’r hanes hwn bortread gofalus a manwl o blaid a oedd mewn brwydr barhaus i ddiffinio ac ailddiffinio ei daliadau. Ymatebai’n adweithiol i ddylanwadau pleidiau eraill, i arweinyddiaeth ryngwladol a lleol, i’w haelodaeth – ac i’r tyndra bythol hwnnw a fodolai ym mhob plaid Gomiwnyddol a arddelai strategaeth y Ffrynt Boblogaidd wrth geisio unioni daliadau’r La Marseillaise â L’Internationale. Cawn yn y gyfrol olwg newydd a gwahanol hefyd ar hen rethreg ddeuol hanes y cwestiwn cenedlaethol yng Nghymru, wrth i Jones gasglu ynghyd leisiau cyffredinol gefnogol i’r achos, ond beirniadol o naill begwn y ddadl fel y llall.

Er cyn lleied eu niferoedd, mae sylwadau arweinyddion ac aelodau’r Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru, a’u deongliadau amgen o’r cwestiwn cenedlaethol, yn rhai gwerthfawr. Mae’r gyfrol newydd hon yn gyfraniad sylweddol i’n dealltwriaeth o un o bynciau gwleidyddol llosg mwyaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif.


Mae Dewi Huw Owen yn fyfyriwr PhD yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Dengys y gyfrol hon i’r Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru fod yn llais hanfodol – a hanfodol wahanol – yn rhai o ddisgyrsiau gwleidyddol pwysicaf Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif

Dyddiad cyhoeddi: 30·03·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Dyfrig Williams

Mae cyfrol ddiweddaraf Mariana Mazzucato, Athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn ddadl angerddol dros fuddsoddi a gwario er budd ein dyfodol. Yn ôl yr awdur, dylid ailfeddwl y berthynas rhwng marchnad a llywodraeth a bod yn gwbl lygatglir ynghylch pwy sydd yn…

Adolygu


Pedr Jones

Ar drothwy’r Rhyfel Mawr, roedd tueddiad gan y Cymry i gysylltu militariaeth â Seisnigrwydd, Eglwys Lloegr a gormes landlordiaeth. Yn y gyfrol bwysig hon gan Aled Eurig, sydd yn ffrwyth ymchwil archifol sylweddol, cawn ein hatgoffa bod nifer y Cymry a ymunodd â’r Fyddin yn…

Dadansoddi


Angharad Dafis

Aeth tridiau heibio bellach ers i gabinet Cyngor Dinas a Sir Abertawe benderfynu yn unfrydol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Bu’n dridiau anodd. Rwyf wedi bod yn galaru droeon am anwyliaid. Mae hwn yn alar gwahanol: galar am gymuned benodol iawn…

Dadansoddi


Mabon Llŷr Hincks

Benben â’i gilydd, mewn cydbwysedd perffaith, mae dau gerflun yng nghanol cylch. Heb fwy na lled bys rhyngddyn nhw, does dim dwywaith nad ar y bwlch bychan hwn yr hoelir ein sylw gyntaf. Nid sefyll yn urddasol a wna’r siapiau rhyfedd ychwaith, ond…

Adolygu


Llio Mai Hughes

Nos Wener, 15 Mawrth, perfformiodd Cymdeithas John Gwilym Jones eu cynhyrchiad cyntaf yn Stiwdio Pontio, Bangor. Ac Eto Nid Myfi oedd y ddrama, a phob tocyn wedi’i werthu. Roedd Pontio yn llawn bwrlwm wrth i’r dorf ymgasglu; yn eu mysg roedd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, darlithwyr,…

Cyfansoddi


Emyr Lewis

Mae Lana Turner 'di colapsio! O'n i'n trotian heibio ac yn sydyn ddechreuodd hi fwrw glaw a bwrw eira a deudist di ei bod hi'n bwrw cenllysg ond mae cenllysg yn dy hitio di ar dy ben yn galad felly go iawn ... 

Cyfweld


Sioned Puw Rowlands

Roedd hi'n llonydd braf uwch ben moryd Dyfi fis Chwefror eleni. Yn gynnes. Roedd yr eithin wedi hen agor ei des melyn i'r cloddiau. A oedd pioden ddŵr – yr halcyon – wedi drysu a rhithnythu ar y môr gan leddfu'r dyfroedd? Fel y byddai ar fyrddydd gaeaf, yn ôl awduron…

Adolygu


Angharad Tomos

Da oedd gweld y theatr yn Pontio yn gyfforddus lawn ar nos Iau, 21 Chwefror ar gyfer y ddrama Anweledig. Roedd y cynhwysion cywir ar gyfer noson dda yno – Ffion Dafis yn gwneud sioe un wraig, ac Aled Jones Williams yn awdur. Ychwanegwch ddyfeisgarwch…