Thomas Piketty, cyf. Arthur Goldhammer


Capital in the Twenty-first Century

Harvard University Press, 696tt, £29.95, Ebrill 2014

Cyfalafiaeth yn yr 21G
Adolygu

Cyfalafiaeth yn yr 21G

Cymdeithas Niclas y Glais yn trafod


J Aaron, E Gruffudd, R Lacey

09·12·2016

Wrth i ni fynd i'r wasg roedd yr economegydd Thomas Piketty yn dychwelyd o Cannes, lle cyhoeddwyd y byddai ffilm yn cael ei chreu ar sail Capital in the Twenty-first Century. Bu'r gyfrol, sy'n archwilio effeithiau cyfalafiaeth ar y byd, ar frig rhestr gwerthwyr gorau y New York Times; gwerthodd bron i dair miliwn o gopïau'n fyd-eang.

Jane Aaron

Ar nos Lun olaf y mis daw criw ohonom ynghyd yn nhafarn y Cŵps yn Aberystwyth i drafod testun llenyddol, hanesyddol neu wleidyddol asgell chwith. Cangen ydym o Gymdeithas Niclas y Glais a sefydlwyd gan Gareth Miles ym Mhontypridd rhyw ddegawd yn ôl. Cychwynnwyd cangen Aber yn 2012 ac, erbyn hyn, rydym wedi trafod rhyw hanner cant o destunau, y mwyafrif ohonynt yn destunau llenyddol. Ond, ym mis Chwefror eleni, cawsom ein herio gan rai o’n haelodau i lenwi bwlch amlwg yn ein rhaglen trwy drafod testun economaidd cyfoes, a dewiswyd Capital in the Twenty-first Century Thomas Piketty.

Prif ddadl Piketty yw na ellir rhoi rhwydd hynt i’r system gyfalafol ac ar yr un pryd ddisgwyl cynnal trefn ddemocrataidd. Oni ddaw chwalfa economaidd, fel rhyfel byd neu ddirwasgiad, i amharu ar bethau, bydd canran lai a llai o gyfoethogion yn berchen ar fwy a mwy o'r adnoddau a fydd yn brin yn fyd-eang, a hynny i'r fath raddau fel bod llais y mwyafrif yn cael ei dawelu, i bob pwrpas. Cawn ein prynu a’n distewi bob un. Ateb Piketty i’r anghyfiawnder systematig hwn yw treth gynyddol ar gyfalaf, nid yn enw sosialaeth na chomiwnyddiaeth ond er mwyn cynnal democratiaeth. Wrth ei ddarllen, sylweddolais yn fwy eglur nag o’r blaen bod y cyfleoedd i godi o’r dosbarth gweithiol i’r dosbarth canol a oedd ar gael i aelodau cenhedlaeth blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif (a'r ffaith bod yna fwy o gyfleoedd bryd hynny nag sydd yna heddiw) yn ganlyniad nid yn gymaint i frwdfrydedd dros addysg, nac agweddau mwy goleuedig yng ngwleidyddiaeth y cyfnod, ond, yn syml ddigon, yn ganlyniad i effeithiau economaidd dau ryfel byd a dirwasgiad yr 1920au.

Bron nad oedd darllen Piketty yn ddigon i’n perswadio ni i droi fel grŵp at astudio economeg yn gyfan gwbl. Ar y llaw arall, beth fyddai gwerth democratiaeth oni bai ein bod hefyd yn ehangu ac yn diwallu ein dealltwriaeth ohoni trwy ddarllen a thrafod y dyniaethau? Yn wir, mae Piketty ei hun yn troi at lenyddiaeth, nofelau Balzac a Jane Austen yn enwedig, er mwyn egluro natur lygredig cymdeithasau etifeddol, lle mae statws dyn a gobaith merch am briodi yn dibynnu nid ar eu teilyngdod ond ar union swm y cyfalaf ddaw iddynt yn etifeddiant. Ai grym tebyg fydd i gyfalafiaeth yn yr unfed ganrif ar hugain? Mae tystiolaeth ein llên, yn ogystal ag economeg gyfoes, yn ein rhybuddio rhag goddef y fath bosibilrwydd.

Einion Gruffudd

Dw i'n cofio astudio Economeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd yng nghyfnod Thatcher, pan fyddai rhywun wedi colli marciau am beidio â chlodfori damcaniaeth ‘Rational Expectations’ a'r gred bod y farchnad rydd bob amser yn dod o hyd i ddatrysiadau effeithiol yn y pen draw. Teimlwn yn rhwystredig iawn ac fe gollais ddiddordeb yn y pwnc, tan i mi ddarllen y llyfr ardderchog hwn gan Thomas Piketty, Ffrancwr sy’n dilyn trywydd gwahanol iawn ac yn defnyddio ffynonellau tra amrywiol i drafod hanes economaidd Ffrainc, yr Almaen a Sweden yn ogystal â'r Unol Daleithiau a Phrydain ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chyn hynny hyd yn oed.

Mae Piketty’n defnyddio set o ddata llawer iawn mwy na'r economegwyr yr oeddwn i’n gyfarwydd â nhw ddeng mlynedd ar hugain yn ôl a fodlonodd ar ddata, o 1950 ymlaen, o'r byd bach cyfyng Eingl-Americanaidd. Mae Piketty’n beirniadu mathemateg orgymhleth y rhan fwyaf o economegwyr, gwaith a oedd yn gwbl amhriodol i'r data tila yr oeddent yn ei ddefnyddio. Efallai na ddylai fod yn syndod, felly, i gymaint o economegwyr fethu â rhagweld chwalfa 2008. Dengys Piketty mai eithriadol, nid arferol, oedd ymddygiad economïau'r byd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif a bod tueddiad economïau cyfalafol i or-grynhoi cyfoeth ac incwm yn nwylo lleiafrif bychan yn creu tensiynau peryglus tu hwnt yn y tymor hir, sy'n arwain at ganlyniadau anrhagweladwy, fel y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wrth drafod hyn yng Nghymdeithas Niclas y Glais, gallem weld y tebygrwydd rhwng y dadansoddiad hwn a dadansoddiad Karl Marx (mae teitl gwreiddiol llyfr Piketty, Le capital au XXIème siècle, yn adlais o Das Kapital) – ond mae yna wahaniaethau hefyd. Mae Piketty'n gweld anghydraddoldeb fel rhywbeth y mae angen ei gyfiawnhau, a'i reoli ar fyrder.

Mae'n argymell ailddosbarthu cyfoeth trwy gyfrwng trethi ar gyfalaf a dal y bobl sy'n cuddio eu harian ar ynysoedd di-dreth. Dyma bynciau trafod cwbl amserol wrth gwrs. Cyfeiria'r awdur at y ffaith bod holl wledydd y byd, ar gyfartaledd, mewn dyled. Mae hon yn sefyllfa amhosib, sy'n awgrymu'n gryf bod yna arian ynghudd yn rhywle. Gwyddom fwy am hyn bellach wrth gwrs yn sgil sgandal y 'Panama Papers'. Nid mater hawdd yw darbwyllo prif arianwyr y byd i drafod yn agored eu sefyllfaoedd ariannol a'u systemau trethiant. Dywed Piketty fod gwledydd ‘bychain’ Ewrop, e.e. Prydain, Ffrainc, yn rhy fach i oresgyn trefniadau ariannol y cyfalafwyr mwyaf a bod angen yr Undeb Ewropeaidd, ar y cyd ag UDA a Tsieina, i  ddatrys problem anghydraddoldeb.

Mae ffresni, hyder a thrylwyredd gwaith Piketty'n gredadwy a'i ddadleuon yn berthnasol iawn i'r byd a welwn o'n cwmpas heddiw. Gwerthodd y llyfr hwn dros filiwn a hanner o gopïau eisoes ac, erbyn heddiw, gwelwn feirniadaeth gynyddol o fanciau, busnesau ac unigolion sy'n osgoi talu trethi. A yw hyn yn ganlyniad i ddylanwad y llyfr neu a lwyddodd Piketty, yn wahanol i'r rhan fwyaf o economegwyr, i ragweld yr hyn sydd ar waith heddiw?

Robert Lacey

Awgrymir braidd yn sbeitlyd yn y cyfryngau nad yw’r gwerthiant iach sydd wedi bod ar y llyfr hwn yn adlewyrchu’r darllen a fu arno. Mae cyfrol drwchus o’r fath yn edrych cystal ar silff fel nad oes angen fyth ei thynnu i lawr. Os yw’n wir, mi fyddai hynny’n drueni. Ychydig o lyfrau ar economeg yr wyf wedi eu darllen ond cefais hwn yn hynod ddarllenadwy. Dim ond mewn ambell fan yr oedd yn rhaid ymbwyllo ac ailddarllen er mwyn deall diffiniad neu gysyniad anghyfarwydd – ac nid peth drwg mo hynny.

Mae prif fyrdwn y gwaith yn gwbl eglur. Mewn byd lle mae incwm yn tyfu’n ara’ deg iawn (os o gwbl), mae’r lleiafrif sydd hefyd yn meddu ar gyfalaf (hynny yw, cyfoeth nad yw’n dod o gyflog misol) yn mynd i weld y cyfalaf hwnnw’n tyfu’n gynt – hyd yn oed ar adeg pan mae cyfraddau llog ac elw ar fuddsoddiadau yn cael eu hystyried yn hanesyddol isel. Roedd hyn yn wir yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn ôl yr awdur, arweiniodd hyn eisoes at anghydraddoldeb cymdeithasol cynyddol yn ein hoes ni. Mae grym economaidd – a grym gwleidyddol, felly – y bobl ffodus hynny yn tyfu. Yn tyfu digon, yn wir, i lurgunio systemau llywodraethol democrataidd at eu dibenion nhw eu hunain – yn hytrach na chaniatáu iddynt fod yn atebol i’n hanghenion ni i gyd. Chwyldro, wrth gwrs, yw’r unig ateb, a hwnnw’n chwyldro ym myd trethi. Cafodd yr awdur ei feirniadu gan rai ar y chwith am gynnig rhywbeth mor ddof â threth fyd-eang ar gyfalaf fel un o’r atebion i’r broblem.

Yn amlwg, mae llawer mwy na hynny mewn llyfr mor swmpus. Ceir ymdriniaethau dadlennol â hanes economaidd gwahanol gyfnodau ac awgrymir bod y twf economaidd carlamus a welwyd yn Ewrop yn ystod yr ugeinfed ganrif yn ganlyniad i geisio dal i fyny ar ôl rhyfeloedd trychinebus yn hytrach nag yn enghraifft o ddatblygiad normal – rhyfeloedd a roesant dolc difrifol yng nghyfoeth y dosbarth cyfalafol a chynnig cyfle hefyd i’r wladwriaeth les ehangu, gan ehangu cydraddoldeb cymdeithasol yn sgil hynny. Cred yr awdur yw bod twf economaidd ‘isel’ ein cyfnod ni heddiw yn llawer mwy arferol yn hanesyddol ac, o dipyn i beth, gwelwn rai sylwebyddion yn dechrau cytuno ag ef.


Cyfrol ddiweddaraf Jane Aaron yw Welsh Gothic (GPC, 2013).

Mae Einion Gruffudd yn Rheolwr Prosiect yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn sacsoffonydd i Bob Delyn a'r Ebillion a Geraint Løvgreen a'r Enw Da.

Cyfrol ddiweddaraf Robert Lacey yw Sut i fod yn hapus (Barddas, 2012). Mae’n Bennaeth Datblygu Casgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Jane Aaron, Rhifyn 1, Economeg

 


Mae Piketty yn troi at nofelau Balzac a Jane Austen er mwyn egluro natur lygredig cymdeithasau etifeddol

Dyddiad cyhoeddi: 09·12·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Rhys Llwyd

Yn 1974, bu R Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw na ddylai ddatgan a…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Boz Groden

Bu ein cartwnydd yn y Gwrthryfel yn erbyn Difodiant ac yn tynnu lluniau o'r hyn a welai'n digwydd o'i gwmpas yn ystod y pythefnos dwys hwn o brotestio yn Llundain.