Adolygu

Ailgyflwyno John Gwilym Jones


Llio Mai Hughes

Amser darllen: 7 munud

20·03·2019

Perfformiad cyntaf Ac Eto Nid Myfi gan John Gwilym Jones (ar y chwith yn y llun) ym Mhrifysgol Bangor, 1976
 

Nos Wener, 15 Mawrth, perfformiodd Cymdeithas John Gwilym Jones eu cynhyrchiad cyntaf yn Stiwdio Pontio, Bangor. Ac Eto Nid Myfi oedd y ddrama, a phob tocyn wedi’i werthu. Roedd Pontio yn llawn bwrlwm wrth i’r dorf ymgasglu; yn eu mysg roedd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, darlithwyr, actorion, dramodwyr, aelodau o gast gwreiddiol y ddrama, a chyfeillion a disgyblion i’r dramodydd o’r Groeslon ger Pen-y-groes. 

Gwyddom am enw da Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, Prifysgol Bangor, neu Chwaraewyr y Gogledd fel y’i gelwid ar un adeg. Fe’i sefydlwyd ym 1923, ac o’r 1940au nes diwedd y 1970au y llenor, y dramodydd a’r darlithydd John Gwilym Jones oedd canolbwynt y gymdeithas honno. Daeth ei gweithgarwch i ben oddeutu troad y mileniwm, ond fe’i hatgyfodwyd yn 2012 gan griw o fyfyrwyr o Ysgol y Gymraeg. Sefydlwyd cymdeithas newydd sbon fis Hydref 2018, Cymdeithas Lenyddiaeth Gymraeg Prifysgol Bangor. Penderfynwyd ei henwi ar ôl John Gwilym Jones ‘am y cred nifer o bobl na wnaed digon i goffau’r llenor o’r Groeslon wedi ei farwolaeth’. Dyma ‘anfarwoli a thalu teyrnged i rywun oedd wedi cyfrannu cymaint at fywyd myfyrwyr y Brifysgol’ fel y nododd y cadeirydd, Osian Owen. 

Ar gyfer eu cynhyrchiad cyntaf, llwyfanwyd Ac Eto Nid Myfi, un o ddramâu mwyaf adnabyddus John Gwilym Jones ac uchafbwynt ei yrfa fel dramodydd. Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, Prifysgol Bangor berfformiodd y ddrama yn wreiddiol, ym 1976, a hynny dan gyfarwyddyd John Gwilym Jones ei hun. Braf oedd gweld y gwaith hwn yn fyw unwaith yn rhagor, dros ddeugain mlynedd ers y perfformiad cyntaf ohoni. I gyd-fynd â’r perfformiad, ceir arddangosfa ‘Gwaddol John Gwil’ yn Pontio hyd 5 Mai, lle ceir casgliad hynod ddifyr ac amrywiol o wrthrychau sy’n gysylltiedig â bywyd a gwaith y dramodydd.  

Nid ar chwarae bach y mae rhywun yn mynd ati i gyflwyno un o ddramâu John Gwilym Jones, wrth gwrs. Ond roedd hwn yn gynhyrchiad trawiadol a chadarn. Rhaid nodi camp y cast a’r criw amatur, yn enwedig Carwyn Jones a chwaraeodd ran Huw, y prif gymeriad, a’r cyfarwyddwyr, Caryl Bryn ac Osian Owen.

Wrth astudio dramâu o’r cyfnod rhwng 1945 a 1979 ar gyfer fy noethuriaeth yn yr un adran ym Mangor, fe’m tarodd mai dim ond tair ohonynt a welais yn fyw ar lwyfan (pedair bellach, diolch i’r Gymdeithas). Y dramâu rheiny ydi BlodeuweddSiwan gan Saunders Lewis ac Y Tŵr gan Gwenlyn Parry (y gwelais dri chynhyrchiad gwahanol ohoni).

Theatr Genedlaethol Cymru a gynhyrchodd Blodeuwedd, a chyflwynwyd Siwan a’r Tŵr gan gwmni Theatr Fach Llangefni, sy’n dangos ymhellach bwysigrwydd cwmnïau amatur i’r theatr Gymraeg hyd heddiw. Cwmni cymharol newydd ar y pryd a welais yn cyflwyno fersiwn fodern o’r Tŵr, sef cwmni theatr Invertigo, a’r trydydd llwyfaniad a welais oedd y cynhyrchiad ar ffurf opera gan Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru. 

I gynnal theatr Gymraeg fywiog ac iach rhaid wrth amrywiaeth. Y mae angen dramâu Cymraeg newydd a gwreiddiol, dramâu arbrofol, cyfieithiadau – ac ailgyflwyniadau o ddramâu a berthyn i’r canon. Sicrhawyd yr amrywiaeth hon yn y gorffennol gan Gwmni Theatr Cymru, Cwmni Theatr Gwynedd a Theatr yr Ymylon, i enwi rhai yn unig. Ceir amrywiaeth ac arbrofi gan ein cwmnïau presennol hefyd, megis Theatr Bara Caws, Cwmni’r Frân Wen a Theatr Genedlaethol Cymru, ond yn ddiweddar, esgeuluswyd yr ymrywmiad a fu i ailgyflwyno clasuron y ddrama Gymraeg.

Mae addysgu'r genhedlaeth newydd am hanes a thraddodiad ein theatr, ac am yr hyn sydd wedi dylanwadu ac arwain at greu’r theatr Gymraeg fel yr adnabyddwn ni hi heddiw, yn ddyletswydd yn fy marn i. Gwneir gwaith o’r fath yn gyson gan y National Theatre yn Llundain, gan gyflwyno yn ddiweddar weithiau Tennessee Williams, Luigi Pirandello ac Edward Albee i gynulleidfa newydd ledled y wlad trwy’r cynllun National Theatre Live. Tystia’r ffaith fod pob tocyn wedi’i werthu ar gyfer perfformiad Cymdeithas John Gwilym Jones bod galw a chynulleidfa sy’n awyddus i weld perfformiadau o ddramâu’r canon Cymraeg. 

Wrth reswm, mae rhai o’r dramâu hyn yn perthyn i’w cyfnod, wedi dyddio ac yn siŵr o gael eu hystyried yn ‘hen ffasiwn’ erbyn hyn. Ond gall cyflwyno darn o hanes fod yn werth ei wneud, o’i wneud â dychymyg. Petai’r elfennau dyddiedig yn peri problem, onid oes yma her i gwmni theatr fynd ati i addasu a rhoi gwedd newydd ar y dramâu rheiny? Felly dyma fentro cyflwyno rhestr fer o ddramâu o’r cyfnod ar ôl y rhyfel hyd ddiwedd y saithdegau y credaf fod gwerth gwirioneddol mewn ailymweld â nhw:


Y Tad a’r Mab – John Gwilym Jones (1963)

Yn y Trên – Saunders Lewis (1965)

Cymru Fydd – Saunders Lewis (1967)

Pros Kairon – Huw Lloyd Edwards (1967)

Dinas Barhaus – Wil Sam (1968)

Y Cymro Cyffredin – Tom Richards (1969)

Y Llyffantod – Huw Lloyd Edwards (1973)

Alffa Beta – cyfieithiad John Ogwen o ddrama E. A. Whitehead (1974; anghyhoeddedig)

Y Ffin – Gwenlyn Parry (1975)

Y Cadfridog – Meic Povey (1975; anghyhoeddedig)


Mae’r rhan helaethaf o’r dramâu hyn yn rhai y byddai modd eu perfformio fel ag y maent, gan eu bod naill ai’n ddramâu nad ydynt wedi’u gwreiddio mewn cyfnod penodol, neu’n ddramâu y mae eu themâu a’u negeseuon yn parhau i fod yn berthnasol. Y maent oll, fel Ac Eto Nid Myfi, yn haeddu cael y llwch wedi ei dynnu oddi arnynt a’u cyflwyno i olau dydd unwaith yn rhagor. 

Diolch i Gymdeithas John Gwilym Jones am ddangos mor berthnasol yw gwaith y dramodydd hwnnw hyd heddiw, ac am dynnu cynulleidfa at ei gilydd, a gynrychiolai dair cenhedlaeth o leiaf, i gyd-chwerthin, i gyd-fwynhau a chyd-ryfeddu at ddawn y dramodydd o’r Groeslon. Edrychaf ymlaen at weld pa ddrama fydd y nesaf i’w thynnu o’r cysgodion a’i gosod ar flaen y llwyfan.


Myfyrwraig PhD yn Ysgol Y Gymraeg, Prifysgol Bangor yw Llio Mai Hughes, yn astudio agweddau ar y theatr Gymraeg rhwng 1945 a 1979.

‘Un o brif themâu John Gwilym Jones yw’r modd y mae dyn ‘yn gaeth i’w gromosomau’ ar drugaredd ei etifeddeg a’i amgylchedd, ac yn yr erthygl hon, ystyrir y thema honno yn ei ddrama fawr Ac Eto Nid Myfi. Er mwyn ymdrin â’r llenor, yn hytrach na’r dramodydd yn unig, archwilir detholiad o’i straeon byrion yn ogystal. Trafodir pa mor ddylanwadol fu syniadau Darwin am etifeddeg ar y mudiad Naturiolaidd ac asesir y modd yr oedd John Gwilym Jones ei hun yn etifedd i’r syniadau Darwinaidd hynny.’

Darllenwch erthygl Gareth Evans-Jones ar Gwerddon: ‘‘Does dim gwadu ar Etifeddiaeth’: Astudiaeth o’r modd yr ymdrinnir ag etifeddiaeth yn Ac Eto Nid Myfi a detholiad o straeon byrion John Gwilym Jones’


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Theatr

 


Yn ddiweddar, esgeuluswyd yr ymrywmiad a fu i ailgyflwyno clasuron y ddrama Gymraeg

Dyddiad cyhoeddi: 20·03·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Boz Groden

Bu ein cartwnydd yn y Gwrthryfel yn erbyn Difodiant ac yn tynnu lluniau o'r hyn a welai'n digwydd o'i gwmpas yn ystod y pythefnos dwys hwn o brotestio yn Llundain.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…