Lleucu Roberts


Jwg ar Seld

Y Lolfa, 144tt, £7.99, 2016

Caryl Lewis


Y Gwreiddyn

Y Lolfa, 128tt, £7.99, 2016

Cymundod y pridd, cymundod Cymraeg
Adolygu

Cymundod y pridd, cymundod Cymraeg


Morgan Owen

Amser darllen: 5 munud

29·04·2017

Wrth dafoli ffurf yr ysgrif ac ymwneud awduron Cymraeg â hi, cyfeiriodd John Breese Davies at wireb honedig a ddeil mai ‘dawn at wneuthur gweithiau byrion ydyw dawn y Cymry’. Unllygeidiog fyddai cytuno â hynny, ond anodd yw peidio â sylwi ar y cnwd rhyfeddol o gyfrolau o straeon byrion a gafwyd yn ddiweddar. Dyma ffurf sydd wedi hen ennill ei phlwyf yn y Gymraeg, wrth gwrs, ond serch hynny, nid yw’n glir eto a ydyw’n ffurf sydd wedi ymsefydlu i’r graddau y gellir sôn am y stori fer Gymraeg, fel y gellir adnabod y stori fer Archentaidd a’i realaeth hudol Borgesaidd. Mae’n debyg fod cyfrolau diweddaraf Caryl Lewis a Lleucu Roberts yn cynnig rhyw lun ar ateb i’r cwestiwn hwn, am eu bod yn rhannu ac yn datblygu thema sydd yn ddigon cyffredin i ddarllenwyr nofelau a straeon byrion Cymraeg diweddar. Y thema gysylltiol hon yw priddoldeb. Ceir awgrym felly yn eu teitlau: Y Gwreiddyn, sydd yn dwyn i gof y tir sy’n sylfaen llythrennol i’n cymunedau ac yn gynhaliaeth i’n broydd gwledig; a Jwg ar Seld, sy’n gyfosodiad o wrthrych plaen, iwtilitaraidd a chelficyn ystrydebol Gymreig.

Cymeriadau a lleoliadau cefn gwlad a geir ar y cyfan yn Y Gwreiddyn, fel y disgwylir gan Caryl Lewis. Egyr y gyfrol â’r stori eponymaidd sy’n cychwyn gyda golwg gwibiog ar wraig ffarm a’i gŵr a’u haelwyd ymddangosiadol normal, os nad tlodaidd. Er bod holl elfennau disgwyliedig bywyd priodasol i’w canfod yn eu lle, mae rhyw gysgod bygythiol yn llechu dros y cyfan, cysgod a welir yn gyntaf oll ‘wrth ymyl teilsen’ ar lawr y gegin. Â bywyd rhagddo er gwaethaf presenoldeb aflonyddol y cysgod, ond daw’r wraig yn ymwybodol o ‘onnen ifanc wedi cyrraedd clawdd yr hen dŷ’. Gydag amser, mae’r onnen yn prifio nes ‘ymwthio o dan seiliau’r tŷ’ a’r deilsen hithau’n ymgodi’n rhyfedd o wastadrwydd y llawr. Cyrhaedda’r stori benllanw wrth i’r deilsen gael ei chicio’n rhydd gan ei gŵr gan ddatguddio gwreiddyn ‘ffyrnig yn nhywyllwch y pridd’. Mae hyn yn cyd-fynd â’r datguddiad bod ‘y fenyw y bu ei gŵr yn caru gyda hi’ ers talwm wedi marw, ac y gellir bellach dorri’r gwreiddyn. Daw’n amlwg wedyn mai cyfrwng cynnil i gyfleu anffyddlondeb yw’r gwreiddyn sy’n lledu’n llechwraidd i galon yr aelwyd, ac mae hynny’n gosod patrwm ar gyfer y straeon dilynol.

Gweithreda natur fel cyfrwng ar gyfer sythwelediad a sylwebaeth yn y straeon eraill hefyd. Yn ‘Bottom Drawer’ mae plu, a chwant dynion ffôl i’w casglu er mwyn ‘iddyn nhw gael teimlo’n bwysig’, yn drosiad cyrhaeddgar am ‘yr adar colledig’, sef milwyr rhyfeloedd diangen, ‘oedd wedi eu distewi gan chwant annioddefol’. Yn ‘Gwahaddod’ mae twmpathau gwahaddod – ‘cleisiau’ ar gaeau Tŷ’r Onnen – yn adlewyrchu cleisiau dyfnach gŵr ifanc na allai fodloni disgwyliadau ei ddiweddar dad, ac mae ei benderfyniad i roi llonydd i’r gwahaddod yn y man a gadael i bridd y caeau ‘anadlu’ yn amlygu ei ymwared â’i euogrwydd a’i rwystredigaeth; llwyddir i gyfleu dwyster dioddefaint â delweddau trawiadol, gan gydbwyso’r dialog pytiog. Erbyn cyrraedd y stori olaf, ‘Yr Awr Las’, fe’n cawn ein hunain ar groesffordd, rhyw ‘awr nad yw’n ddydd nac yn nos’: er bod unigedd, anffyddlondeb ac anobaith wedi cael rhwydd hynt i dyfu lawer gwaith yn y straeon, nid ydynt yn ddigon i ddisodli gobaith, ac mae gwraig hir-ddioddefus yn dewis aros gyda’i gŵr gorweiddiog hyd nes iddo ‘gyrraedd diwedd ei daith yn ddiogel’, er ei blinder yn gofalu amdano.

Argraffiadol a gwasgarog yw’r straeon yn Y Gwreiddyn gan mwyaf, a cheir aml i naid amseryddol ynddynt i gymylu’r naratif. Er eu bod yn tueddu at y Tsiechofaidd yn eu sôn moel am bobl gyffredin a’u dioddefaint, nid oes ynddynt ryw lawer o ddatblygiad amlwg fel darnau annibynnol, a cheisiant weithiau ymgyrraedd at gasgliadau rhy bendant. Byddai diweddgloeon mwy penagored yn gweddu’n well, efallai, i’r ansicrwydd a’r amwysedd sy’n britho’r holl gyfrol. Serch hynny, cydlynol ac argyhoeddiadol yw’r thema briddlyd waelodol. Gwreiddir y cymeriadau, fel eu ffaeleddau, ym mhridd eu cymuned, ac fel y gwreiddyn sy’n cyrraedd ei lawn dwf erbyn diwedd y gyfrol, maent yn prifio yn eu cyflawnder amherffaith. Gwelwn gymundod edaffig pobl a’u bro, a’r pridd yn gyfrwng eu hymwneud â’i gilydd wrth iddo lywio a siapio eu bywydau, yn gam ac yn gymwys. Dyrchefir blas y pridd ar leferydd pobl gyffredin a fyddai’n anweledig fel arall, ac mae rhywbeth arbennig o Gymreig am y sylw a roir i fro fel is-haen lythrennol cymdeithas.

Llinyn thematig Jwg ar Seld yw’r Gymraeg. Gallai seilio straeon byrion ar yr iaith fel hyn fod wedi troi’n bropaganda yn nwylo artist amhrofiadol, ond gwneir defnydd celfydd iawn ohoni yn y gyfrol hon, sydd yn llawn cynildeb deifiol. Synhwyrir hynny yn y stori gyntaf oll, ‘Yes’, lle ceir rhyw hen wleidydd profiadol yn ymarfer ac yna’n traethu araith fuddugoliaethus i ddatgan ‘dyfodiad y Gymru Rydd’ a ‘chenedl yn cerdded yn rhydd’. Arwyddocaol yw ei fod yn traethu’n huawdl yn y Saesneg ac, wrth iddo fwrw iddi, teimla ryw anesmwythyd ac mae’n gorfod gofyn i’w wraig dan ei anadl, ‘Was there something else ...?’ Ni chawn yr ateb yn syth bìn, mor arbedus yw’r naratif, ond buan y sylweddolir mai’r Gymraeg sydd ar goll. Mae’r diweddglo awgrymog ac amhendant yn creu naws soffistigedig o eironig.

Er bod i’r straeon eraill yr un miniogrwydd cynnil, teimlwn fod yna egluro ar brydiau yn hytrach na’r awgrymu celfydd a geir fel arall yn y gyfrol. Yn ‘Galw’, gwelwn ddynes a dreulia oriau bob dydd yn galw amryw byd o sefydliadau er mwyn gofyn iddynt am ddarpariaeth Gymraeg, nes iddi dderbyn galwad biwis gan ryw swyddog neu’i gilydd yn ei chyhuddo o greu ffug alw am yr iaith. Ychydig yn drwsgl wedyn yw brawddegau megis: ‘Sut roedd posib i’r ddynes hon, a’i phwys ar rifau, ffigurau a lefelau, ddeall yr awydd holl gwmpasog i sicrhau na châi’r iaith mo’i cholli ... ?’ Ond eithriadau yw’r rhain: defnyddir absenoldebau yn hynod gyrhaeddgar fel arall. Afraid gofyn beth yw’r ‘eliffant yn y Siambr’ yn y stori o’r un enw.

Megis Y Gwreiddyn, cymer Jwg ar Seld nodwedd gyfanfydol yn sail i’w straeon – y Gymraeg, y tro hwn―ac mae’r nodwedd hon yn ymwau drwy ymwneud ei chymeriadau â’i gilydd. Er bod y ddwy gyfrol yn gogwyddo tuag at gywair ysgafn, â defnydd helaeth o dafodiaith, nid oes rhyw lawer o orgyffwrdd ffurfiol rhyngddynt, am fod yr ail yn fwy strwythuredig a llai argraffiadol na’r gyntaf. Ond fel yr awgrymwyd, rhannant ryw briddoldeb gwaelodol yn eu pwyslais ar gymdeithas ddarniog ac amherffaith – ond cymdeithas gydlynol er gwaethaf popeth. Os mai bro yw’r cydlynydd yn Y Gwreiddyn, y Gymraeg ydyw yn Jwg ar Seld; ac os gellir sôn o gwbl am ffurf Gymraeg ar y stori fer, efallai mai’r ddawn a welir yn y cyfrolau hyn i ganfod undod mewn lluosogrwydd anystywallt yw honno.


Mae Morgan Owen yn astudio am radd MA yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Rhanna’r ddwy gyfrol ryw briddoldeb gwaelodol yn eu pwyslais ar gymdeithas ddarniog ac amherffaith

Dyddiad cyhoeddi: 29·04·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill ... 

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…

Dadansoddi


Angharad Penrhyn Jones

Roedd y symptomau wedi bod yno am sbel – teimlo’n fyr fy ngwynt wrth ddringo’r grisiau adref, er fy mod yn heini; fy nghalon yn carlamu’n afreolus yng nghanol y nos; y deffro’n-rhy-gynnar-yn-y-bore er ’mod i wedi ymlâdd – ond aeth pethau i’r pen y dydd Sadwrn hwnnw. Aros mewn…

Colofnau


Jan Morris gyda Twm Morys

Y bore ’ma mi ddaeth llais siriol hen gyfaill annwyl yr un oed â mi ar y ffôn. Ond sirioldeb smâl oedd o, fel y bydd yn aml y dyddiau hyn. Bu hi’n clebran am sbel, yr un fath ag arfer, am hyn a’r llall. Ond o dipyn i beth…

Cyfansoddi


Boz Groden

llygod

a  Creaduriaid bychain gwyllt brown neu lwydaidd o deulu’r Muridæ, sy’n ysglyfaeth i gathod a thylluanod; ceir rhai gwyn dof; hefyd am anifeiliaid eraill tebyg ac yn ffig.; delwau o’r cyfryw ...