Christine James & E Wyn James (goln)


Dagrau Tost: Cerddi Aber-fan

Barddas, 239tt, £11.95, 2016

Dagrau Tost Aber-fan
Adolygu

Dagrau Tost Aber-fan


Tomos Morgan

Amser darllen: 15 munud

23·10·2019

Ar fore 21 Hydref, 1966, yn dilyn cyfnod o law trwm, llithrodd tomen lo anferth ger pentref Aber-fan gan foddi Ysgol Gynradd Pantglas a nifer o adeiladau eraill. Cafodd 116 o blant ac 28 oedolyn eu lladd.

[...]

pan fo angau'n dipiau du
y mae iaith weithiau'n methu.

Y prifardd Idris Reynolds bia’r cwpled, o’i englyn ‘Methu (Aber-fan)’. Geiriau syml, ond dweud mawr, sy’n crynhoi’r teimlad o ddiymadferthwch wrth geisio amgyffred, heb sôn am wneud synnwyr, o’r drychineb. Mae cwestiwn yn codi, felly: os yw geiriau mor ddiffygiol, pam bod cynifer wedi troi at farddoni wrth ymateb i’r gyflafan? Mae Dagrau Tost: Cerddi Aber-fan yn dystiolaeth gref o’r angen greddfol i geisio rhoi mynegiant, waeth pa mor annigonol yw geiriau ar adegau, i’r teimladau dyfnaf – o anghredinedd a gobaith, i anobaith, tor calon a dicter. 

Ond, mae cwestiwn mwy sylfaenol yn ganolog i’r gyfrol hon, cwestiwn sy’n cael ei wyntyllu yn fanwl ac yn onest iawn gan y ddau olygydd, Christine James ac E Wyn James. Mae’n peri i’r ddau sôn am ‘(hunan)amheuaeth’ olygyddol: 

[...] pa gyfiawnhad y gellid ei gynnig dros agor hen greithiau yn awr, hanner canrif cyfan wedi’r drychineb ei hun, drwy gywain y cerddi hyn ynghyd a’u dwyn i sylw ac amlygrwydd o’r newydd?

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu ddarlledu eitem newyddion heb gyfiawnhad golygyddol digonol; heb sôn am effaith cyhoeddi gwybodaeth anghywir neu gelwyddog. (Mae’n siŵr mai honiad di-sail papur newydd y Sun, mai ‘cefnogwyr meddw Lerpwl’ oedd yn gyfrifol am achosi trychineb Hillsborough yn 1989, yw un o’r enghreifftiau amlycaf o hyn yn y blynyddoedd diwethaf); ac nid yw’r perygl o dramgwyddo dioddefwyr yn lleihau â threigl y blynyddoedd.     

Cyfiawnhad golygyddol

Ar adegau, mae'r ddau olygydd yn mynd allan o’u ffordd i geisio cyfiawnhau dwyn y gyfrol i olau dydd. Meddent yn eu rhagair: y ‘prif reswm dros gyhoeddi Dagrau Tost yw oherwydd pwysigrwydd ac arwyddocâd Trychineb Aber-fan’. Dyfynnir barn Alan Llwyd, (o Barddoniaeth y Chwedegau, 1986), mai agor cronfa ddŵr Llyn Celyn yn 1965 a thrychineb Aber-fan yn 1966 oedd '[d]au ddigwyddiad mwyaf dirdynnol ac arwyddocaol y Chwedegau. [...] Dau bentref cymharol ddinod a disylw [...] ond erbyn diwedd y degawd yr oeddynt wedi tyfu’n symbolau grymus yn ein hymwybod cenedlaethol', ac ‘yn symbolau o’r ofnau am dranc y bywyd Cymraeg traddodiadol ac am rym dinistriol materoliaeth a thechnoleg’. Dyma’r cyfiawnhad hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol (nid ansylweddol) felly.

Mae gyrfa academaidd y ddau yn ychwanegu at eu ‘hawl’ i ymgymryd â’r gwaith, gellid dadlau. Dros y blynyddoedd, yn ôl eu rhagair, mae’r ddau ‘wedi dysgu modiwlau ar lenyddiaeth Gymraeg Cymoedd y De, Christine ym Mhrifysgol Abertawe a Wyn ym Mhrifysgol Caerdydd’. Ond mae ganddyn nhw hefyd ‘resymau eraill, mwy personol, dros lunio’r gyfrol’. Cafodd y ddau eu magu ‘yn yr 1950au a’r 1960au yng nghymoedd diwydiannol y de-ddwyrain, nid nepell o Aber-fan – Christine yn Nhonypandy yng Nghwm Rhondda a Wyn yn Nhroed-y-rhiw, y pentref nesaf i Aber-fan’. Does dim gwadu bod y cyfuniad yna – ymwybyddiaeth gref o arwyddocâd hanesyddol a gwleidyddol y digwyddiad, cyneddfau ysgolheigaidd sicr, ynghyd â’u hadnabyddiaeth ddofn o’r cymoedd a’u pobl – yn rhoi’r hawl yna iddyn nhw. 

‘Ymateb cenedl gyfan’

Yn y Rhagymadrodd mae’r golygyddion yn dadlau fel hyn: 

Nid gormod fyddai honni bod y canu i Aber-fan yn ffenomenon lenyddol unigryw – yn sicr yng nghyd-destun llenyddiaeth Gymraeg – a hynny nid yn unig ar gyfrif lluosoced y cerddi sy’n ymateb yn uniongyrchol i’r drychineb, ond hefyd oherwydd eu bod yn ffurfio corff o ganu hynod amrywiol ei natur, ei ddull a’i gywair – a’i safon. Y mae’n ganu hefyd sy’n rhychwantu hanner cant o flynyddoedd (hyd yma) [...] a dadleuwn fod y corff hwn o ganu, o’i gymryd ynghyd, yn cynrychioli ymateb cenedl gyfan – ymateb cenedlaethol...

Ymateb ‘cenedl gyfan’? Mewn troednodyn maen nhw’n egluro: ‘Canwyd llawer o gerddi Saesneg mewn ymateb i Drychineb Aber-fan hefyd, ond – ag un eithriad – nid oes a wnelo’r gyfrol bresennol â’r deunydd Saesneg’. Mae hynny’n ddigon teg; wedi’r cyfan, mae pendraw i sgôp unrhyw gyfrol. Ond tybed a ydy hi’n rhesymol priodoli i’r ymateb barddol Cymraeg ei iaith yr hawl i gynrychioli ymateb ‘cenedl gyfan’? Gormodiaith ddiniwed anfwriadol o bosib? Mae un peth yn sicr, pe byddai’r un statws yn cael ei roi i gerddi Saesneg eu hiaith, does dim angen llawer o ddychymyg i ddyfalu beth fyddai ymateb rhai o’r beirdd sy’n canu yn Gymraeg! 

Ond beth am y cerddi eu hunain? Mae Christine James ac E Wyn James yn cydnabod bod safon y cerddi – ‘82 ohonynt gan 77 o feirdd unigol’ – yn amrywiol: ‘mae yma brentisiaid yn ogystal â phenceirddiaid’, medden nhw, gydag amrywiaeth oedran a dosbarthiad daearyddol y beirdd yn nodwedd amlwg. Cawn gyfraniadau gan, ymhlith eraill, Euros Bowen, Aled Lewis Evans, Siwsann George, Nia Wyn Griffiths, Mathonwy Hughes, Bobi Jones, Lisi Jones, Wil Morgan, T E Nicholas, Jack Oliver, W Leslie Richards, Marged Selway-Jones a Rhydwen Williams. Yn ddiplomataidd, y darllenydd sy’n cael penderfynu pwy yw’r ‘beirdd-brentisiaid’ a phwy yw’r ‘penceirddiaid’.

Drwy osod y cerddi yn gronolegol, ceir cyferbyniadau trawiadol rhwng y gwahanol arddulliau: mae cerdd gyfarwydd T Llew Jones, ‘Aber-fan (21 Hydref 1966)’, er enghraifft, lle nad oes sôn am hunllef Aber-fan tan air olaf llinell olaf y pennill olaf o bump: 

Trist iawn fu colli 
    y plant diniwed, gwan –               
yn Hamelin erstalwm,                                                                                                                                                  
    heddiw yn Aber-fan. 

...yn llifo’n rhwydd, a hynny’n cyferbynnu â rhediad trwsgwl cerdd Abiah Roderick, ‘Aber-fan’, sydd ar y ddalen gyferbyn, â’i disgrifiad o’r ‘colier tlawd / bu’n ‘ddiddan ŵr y befr wên’ a ‘[m]ud gloch Pant-glas’. Neu, cymharer symylrwydd twyllodrus o hudolus ‘hwiangerdd’ – o ran ei sŵn o leia – Gwyneth Glyn, ‘Aber-fan’, sy’n dechrau:

Cusan Mam yn c’nesu dy rudd                                                         
ar ddechrau dy oes,                                                                            
ar drothwy dy ddydd.

Emyn y bore’n meithrin hedd                                                          
fel suo-gân                                                                                         
ar lan y bedd.

...â miniogrwydd amrwd englyn Gruffudd Owen, ‘Ateb (Cofrestr Ysgol pant-glas, Aber-fan)’:

Hen friw y gri foreol a dreiddia                                                                              
          drwy’r huddyg pentrefol                                                          
   yn ddieiriau fyddarol:                                                                      
   nid oes neb yn ateb ’nôl.  

Mae ystod eang o deimladau yn y cerddi, gyda ‘Cofio Aber-fan (1966-1991)’, Alan Llwyd, â’i llinell ddigyfaddawd, ‘un hydref pan lofruddiwyd diniweidrwydd’, yn mynd â’r darllenydd i’r pegwn eithaf o ddiogelwch ‘[t]eyrnas diniweidrwydd’ Rhydwen Williams ar ddechrau’r gyfrol. 

Tanchwa Senghennydd

Os yw’r cerddi am drychineb Aber-fan yn gorffen gydag un o’r gweithiau diweddara i gael eu cyfansoddi (‘Lacrimosa ’Maban Glân’, Mererid Hopwood), yna mae cerdd olaf y gyfrol yn mynd â ni yn ôl dros hanner can mlynedd cyn Hydref 1966.

Ar 14 Hydref, 1913, cafodd 439 o lowyr a gweithwyr eu lladd mewn ffrwydriad ym mhwll glo Universal, Senghennydd – y ddamwain lofaol waethaf erioed ym Maes Glo De Cymru. Ond, fel y cawn ein hatgoffa gan Christine James ac E Wyn James:

yr oedd gwahaniaethau arwyddocaol yn amgylchiadau’r ddwy ddamwain: y naill yn y gweithle a’r rhan fwyaf o’r lladdedigion yn weithwyr yn y diwydiant glo, er bod rhai o’r rheiny mor ifanc â 14 oed; y llall yn y gymuned a’r rhan fwyaf o’r lladdedigion yn blant ifanc a oedd yn niogelwch (tybiedig) yr ysgol.  

‘Senghennydd’, T Gwynn Jones, yw’r gerdd. Soned ‘hynod lafurus a di-wefr’, yn ôl Gwynn ap Gwilym, sylw sy’n cael ei ddyfynnu (o Cyfres y Meistri 3, Thomas Gwynn Jones, 1982) yn y nodiadau nodweddiadol gynhwysfawr. Felly, o ystyried y feirniadaeth o’r gerdd a’r ‘gwahaniaethau arwyddocaol’ rhwng amgylchiadau’r ddwy ddamwain, pam cyfeirio o gwbl at Senghennydd ar ddiwedd cyfrol mor swmpus ar Aber-fan? Daw’r eglurhad ar ddwy dudalen olaf y 75 tudalen o nodiadau yn y gyfrol: ‘Ond’, meddai’r golygyddion, er gwaetha beirniadaeth Gwynn ap Gwilym o’r gerdd, ‘gellid dadlau fod grym anghyffredin yn perthyn i’w llinellau olaf a’u dicter’:

                          A thraw mewn tŷ,
roedd gwŷr y gyfraith ac arglwyddi gwanc
            y llogau mawrion, wrthi'n holi'n hir
ar bwy yr oedd y bai, pa fodd y bu
            ysgubo'r cannoedd i druenus dranc:
                   er nad oedd yno un na wyddai'r gwir.                        

Yna – ac yn y darn hwn y ceir yr allwedd i ddeall pam gosod ‘Senghennydd’ yn glo i’r gyfrol – dyfynnir yn helaeth o golofn olygyddol Alwyn D Rees yn rhifyn mis Tachwedd 1966 o’r cylchgrawn Barn. Dyma flas o’i baragraff agoriadol ‘chwerw-rymus’, chwedl golygyddion Dagrau Tost

‘Mi heriaf unrhyw grwner i alw hon [trychineb Aber-fan] yn un o “Weithredoedd Duw”.’ Dyna gri gweinidog o ganol yr ing a’r gwae. A phwy all ddioddef datganiad y Bwrdd Glo fod y glaw a feiir am y difrod yn beth ‘abnormal’ yng Nghymoedd y De? Na, nid Duw na’r glaw sy’n gyfrifol ond diofalwch dynion [...]. Pe bygythid trigolion Hampstead neu Landâf gan berygl fel hwn nid oes amheuaeth na fyddai wedi cael ei symud mewn pryd – ond ble mae Aber-fan? A fedr neb gredu y beiddiai corfforaeth ddiwydiannol godi’r fath enbydrwydd uwch ben Ysgol Eaton neu Harrow, ac y caniateid i’r plant aros yno er gwaethaf rhybuddion? Ond plant y werin weithfaol oedd y rhain.

Eglura’r golygyddion bod Alwyn D Rees wedi mynd yn ei flaen i ddadlau, ‘am fod y Bwrdd Glo wedi ei wladoli ers ugain mlynedd, fod hynny’n gosod “cyfrifoldeb moesol aruthrol ar ysgwyddau’r gymdeithas gyfan”’. ‘Nid sbwriel a adawyd ar ôl gan yr hen gyfalafwyr oedd hwn’, yn ôl Alwyn D Rees, ‘ond sbwriel a bentyrrwyd uwch ben yr ysgol gan y Bwrdd Glo Gwladol, ac yr ydym oll yn atebol am weithredoedd y corff hwnnw’; ac mae brawddeg olaf Alwyn D Rees (ar dudalen olaf Dagrau Tost) yn clymu trychineb Aber-fan a chyflafan Senghennydd: 

Heddiw yn 1966 ni fydd eisiau newid dim ar linell olaf soned T. Gwynn Jones i laddfa Senghennydd yn 1914 [sic] – ond yn lle ‘arglwyddi gwanc’ darllener ‘nyni a’n gweision cyflog’.

Mae ymhelaethu ar gefndir tanchwa Senghennydd yn gosod cyd-destun hanesyddol pwysig i drychineb Aber-fan, ac, fe ellid dadlau, yn ffurfio rhan bwysig o’r cyfiawnhad dros gyhoeddi’r gyfrol. Fel y gofynna Christine James ac E Wyn James ar ddiwedd eu rhagymadrodd: ‘Senghennydd 1913: Aber-fan 1966. Hanner canrif, a beth – ie beth, yn wir – oedd wedi newid?’ 

Grym y lluniau

Prin bod angen lluniau mewn cyfrol sy’n canolbwyntio ar rym – yn ogystal â gwendid – geiriau. Ond, mae’r unarddeg o ffotograffau sydd wedi eu cynnwys – o’r cloc larwm ‘a’r bysedd yn dangos yr union foment y trawyd y tŷ’, i’r geiriau ‘Cofiwch Aberfan’ gafodd eu paentio o dan yr ymbiliad ‘Cofiwch Dryweryn’ ar ddarn o hen wal nid anenwog i’r de o Aberystwyth – yn ychwanegu at ei llwyddiant .

Mae’r llun sydd ar glawr Dagrau Tost yn un o’r delweddau mwyaf eiconaidd sy’n gysylltiedig â’r drychineb – llun cefn dau fachgen ifanc yn syllu i lawr ar weddillion yr ysgol o’u blaenau, oriau’n unig wedi’r drychineb, y naill a’i fraich yn warchodol o amgylch ysgwydd y llall. Mae’r ffotograffydd uchel ei barch, David Hurn, sydd o dras Cymreig ei hun (ac sy’n gysylltiedig ag asiantaeth enwog Magnum), wedi mynegi ei deimladau cymysg wrth dynnu’r llun hwn: ‘how can anything be more obscene than kids being suffocated by coal crap’. Aeth Hurn yn ei flaen i ymhelaethu ar fater dyrys cyfiawnhad golygyddol mewn amgylchiadau o’r fath: 

It was extremely tense, because what you had was miners digging, looking for bodies. By and large, very understandably, they didn’t want you there. Against that, if you are a photographer, you build up this thing in your mind of saying, my job is to record for history […] this was the ultimate in sensitivity – so it was that balance between the tension of knowing that they didn’t want you there and the tension of you knowing that you had to be there – that was the justification for being a photographer and at the same time trying to be sensitive. It turned out afterwards that my pictures were published all over the world and there’s no doubt that it contributed a lot towards money coming in for the disaster fund and so I got quite a lot of letters later – you know – people thanking me […] So in the end you realise that actually you had done the right thing. (Wales Arts Review, 2015)

A phe bai angen cefnogaeth bellach i gyfiawnhad David Hurn, mae cyfeiriad ‘bron wrth basio’ at ffotograffydd arall o Gymro yn gyrru’r maen i’r wal. Yn y nodiadau ar gerdd Owen D Timothy, ‘Ysgubau’, dysgwn fod Timothy, ar ôl astudio Fferylliaeth, wedi agor siop fferyllydd yn Rhuddlan yn 1948. Yna: ‘Un a fwriodd ei brentisiaeth yn siop Owen Timothy oedd y ffotograffydd enwog, Philip Jones Griffiths (1936–2008), a fu hefyd yn astudio Fferylliaeth yn Lerpwl’; ac i unrhyw un fyddai’n gofyn ‘Beth sydd a wnelo hynny â chynnwys y gyfrol yma?’, cawn yr ateb gan y ddau olygydd: ‘bu’r lluniau a dynnodd [PhJG] yn Fietnam o 1966 ymlaen yn gyfrwng pwysig i droi’r farn gyhoeddus yn America yn erbyn y rhyfel’.

‘Fulturiaid’?

A dyna ni yn ôl yng nghanol pwnc dadleuol ymwneud neu ymyrryd â thrychineb. Mae adrodd stori, neu dynnu lluniau, ar gyfer cyhoeddiadau neu raglenni newyddion ar y pryd yn ddealladwy, o leiaf. Mater gwahanol yw ymateb ar ffurf barddoniaeth. Mater arall eto yw casglu’r cerddi yna a’u hailgyhoeddi, flynyddoedd yn ddiweddarach, â holl beryglon corddi teimladau dioddefwyr o’r newydd. 

Yn eu rhagymadrodd, mae Christine James ac E Wyn James yn neilltuo cryn ofod i drafod sylwadau’r prifardd Twm Morys yn ei adolygiad o gyfrol Meirion Macintyre Huws, Y Llong Wen a Cherddi Eraill (1996). ‘Ymatebodd Twm Morys yn gryf’, meddent, yn erbyn y cywydd i Jamie Bulger (y plentyn a gipiwyd ac a lofruddiwyd gan ddau fachgen dengmlwydd oed yn Lerpwl yn 1993). ‘Er iddo [Twm Morys] gydnabod fod “pawb sydd â chalon dan ei fron yn wylo’n amal gan ofid y byd”, â Twm Morys yn ei flaen i ddilorni arfer beirdd Cymru o ymateb ar gân i brofedigaethau a thrychinebau nad oes a wnelont â hwy yn bersonol neu’n uniongyrchol’. Dyma ran o’r dyfyniad o adolygiad trawiadol Twm Morys:  

Ond ydi hi’n rhaid i’r beirdd Cymraeg landio yn sgîl pob un ddamwain a chnebrwng a newyn a daeargryn a thrychineb? Mrs. Bulger! Our most sincere sympathy at this very sad time ... But here are some poems we’ve done about poor little Jamie, and all, mind you, in the strict metre we call cynghanedd [...] Hwyrach, cofiwch, fod y fulturiaid sy’n cylchu a chylchu uwchben y paith sych yn colli deigryn ambell waith cyn rhwygo’r carw bach â’r llygaid mawr, a fu farw o syched, yn gyrbibion. (Barddas, 240 Ebrill/Mai 1997)

Yna, dyfynnir o lythyr a gyhoeddwyd ymhen dau rifyn, gan un o drigolion Dunblane. Roedd Nerys Ann Jones am ddiolch i Twm Morys ‘am ei sylwadau eithriadol ddewr’:

Profiad y rheini sy’n cael eu cyffwrdd yn uniongyrchol gan gyflafan megis Hillsborough, Hungerford neu Dunblane yw fod geiriau bellach yn annigonol i gyfleu yr hyn a deimlant. Eto i gyd, esgora’r trychinebau hyn ar filoedd ar filoedd o eiriau gan rai o’r tu allan i’r cymunedau hynny a gredant yn ddiffuant fod dyletswydd arnynt i’w huniaethau eu hunain â’r dioddefaint neu i ddoethinebu amdano.                                                       (Barddas, 242 Awst/Medi 1997)                   

Roedd geiriau Twm Morys a Nerys Ann Jones yn amlwg yn pwyso ar gydwybod Christine James ac E Wyn James. Mae dadleuon Twm Morys a Nerys Ann Jones yn rhai cryf a dyma’r dadleuon sy’n gyfrifol am yr ‘(hunan)amheuaeth’ olygyddol sy’n arwain at y cwestiwn canolog ynglŷn â chyhoeddi Dagrau Tost

Onid ydym ninnau, golygyddion y casgliad hwn, fawr gwell mewn gwirionedd na’r ‘fulturiaid’ y soniodd Twm Morys amdanynt?

Mae ateb y ddau olygydd i’r cwestiwn, ar ddiwedd eu rhagymadrodd, yn argyhoeddi:

Fel golygyddion, credwn yn ddidwyll nad cerddi gan feirdd y cyfeiriodd Nerys Ann Jones atynt fel rhai ‘o’r tu allan i’r cymunedau [...] a gredant yn ddiffuant fod dyletswydd arnynt i’w huniaethau eu hunain â’r dioddefaint neu i ddoethinebu amdano’ yw’r rhai a gyhoeddwn yma, ond yn hytrach gerddi a ganwyd ‘am fod raid’ [...] gan feirdd a deimlai eu bod, mewn un ystyr, yn rhan o’r un gymuned Gymraeg a Chymreig â phobl Aber-fan [...] Dyma ymatebion dilys a greddfol gan feirdd a gafodd eu symud hyd at ddagrau tost yn aml wrth weld erchylltra’r hyn ddigwyddodd ar fore 21 Hydref 1966 [...] Mynegiant torfol o gydymdeimlad cymhleth sydd yn y cerddi hyn, a’n nod fel golygyddion wrth gasglu’r cerddi ynghyd yw ‘nid cylchu a chylchu uwchben y paith sych’ fel y fulturiaid y soniodd Twm Morys amdanynt, ond yn hytrach gyflawni gweithred lawer mwy cymdogol.

Mae brawddeg nesaf y ddau olygydd yn crynhoi yn dawel ym mha ysbyrd y cyhoeddwyd y gyfrol:

Fel y bachgen yn y llun ar glawr y gyfrol hon, ysgogwyd y cerddi hyn gan y dymuniad i estyn braich cydymdeimlad i drigolion Aber-fan, a dyna’n dymuniad ninnau hefyd fel golygyddion y gyfrol hon.

Cyfnod gwahanol 

Oherwydd hyd a lled y canu am Aber-fan – nifer y cerddi sydd wedi eu cyfansoddi (hyd yma), dosbarthiad daearyddol, cymdeithasol ac oedran y beirdd, a’r cyfan dros gyfnod o hanner can mlynedd – ‘nid gormod fyddai honni’, yn ôl Christine James ac E Wyn James, ‘bod trychineb Aber-fan wedi gwreiddio’n ddwfn bellach yn ein cof cenedlaethol’. 

Os yw hynny’n wir, tybed i ba raddau y mae’r ymdreiddio yna i’r ‘cof cenedlaethol’ i’w briodoli i’r ffaith fod y cyfryngau Cymraeg – yn bapurau newydd, radio a theledu – wedi bod mor flaenllaw ar y pryd? Yn ôl y ddau olygydd, bu’r teledu ‘yn arbennig yn gyfrwng grymus [...] wrth gyfleu mewn ffordd weledol’ y dychryn a’r dinistr. Rhwng gwaith rhaglenni megis Y Dydd a Heddiw, a phapurau fel Y Cymro a Baner ac Amserau Cymru, meddent: 

fe grëwyd ymwybyddiaeth o drychineb Gymreig ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, a daethpwyd â delweddau ysgytwol o’r drychineb honno i mewn i gartrefi’r genedl a’u harddangos o’n blaenau ar ein haelwydydd mewn ffordd frawychus o uniongyrchol nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.      

Eto i gyd, mewn cyfrol gynhwysfawr arall a olygwyd ganddi, Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn (2001), nododd Christine James, mai ‘Eithriadau prin bellach, a barnu yn ôl y myfyrwyr sydd yn cyrraedd adrannau Cymraeg Prifysgol Cymru, yw’r bobl ifainc hynny sydd yn hyddysg yn “Y Pethe”’. Oherwydd tranc y capeli, meddai, does ganddyn nhw ddim gafael ar ‘yr wybodaeth ysgrythurol ac emynyddol a ganiatâ iddynt synhwyro a gwerthfawrogi’r adleisio neu barodïo ar adnod a phennill sydd yn rhan mor amlwg o waith Gwenallt’. Ond yn ôl Christine James, nid yw’r anwybodaeth yma yn gyfyngedig i’r ‘Pethe’:

Yn yr un modd, mae strwythur economaidd, diwydiannol a gwleidyddol Cymru yn dra gwahanol bellach i’r hyn ydoedd yn niwedd oes Gwenallt [...] Os yw Cymru bellach yn wlad ôl-Gristnogol, mae hefyd yn ôl-ddiwydiannol [...] Caeodd y pyllau-glo, diflannodd y tipiau [...]

A dyma ddod at yr ergyd, sy’n adleisio sylwadau Alan Llwyd y cyfeiriwyd atynt ar ddechrau’r adolygiad: 

termau hanesyddol digon dieithr yw y Dirwasgiad Mawr a Sosialaeth Ryngwladol bellach, ac i ddarllenwyr na chawsant eu geni tan y 1970au neu’r 1980au, mae digwyddiadau cenedlaethol eu pwys fel boddi Capel Celyn a thrychineb Aber-fan mor ddieithr bell â chwymp Llywelyn a gwrthryfel Owain Glyndŵr.    

Felly, pa un o’r ddau ddweud sy’n gywir? A yw trychineb Aber-fan ‘wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein cof cenedlaethol’, neu a ydyw ‘mor ddieithr bell â chwymp Llywelyn a gwrthryfel Owain Glyndŵr’? Dagrau’r sefyllfa, a barnu yn ôl profiad Christine James y darlithydd, yw nad oes nifer cynyddol o’n ‘pobl ifanc’ i’w gweld yn gyfarwydd â cherrig milltir pwysig hanes ein cenedl a’u hoblygiadau, megis yr hyn ddigwyddodd yn Aber-fan – ‘trasiedi fwyaf alaethus hanes diweddar Cymru’, yn ôl yr hanesydd John Davies (Hanes Cymru, 1990). 

Oes, mae angen gofal aruthrol cyn meiddio tarfu, mewn unrhyw ffordd, ar hawl dioddefwyr i gael dygymod mewn heddwch â’u colled a’u galar, waeth faint o amser sydd wedi pasio. Gall elfen o ‘(hunan)amheuaeth’ olygyddol fod yn nodwedd iach, yn enwedig mewn amgylchiadau lle mae perygl tramgwyddo yn ddi-angen. Ond, yn ateb i gwestiwn canolog y gyfrol: does dim dwywaith, mae swyddogaeth holl-bwysig i gyfrol fel hon. Fel y cerddi a gasglwyd ynghyd rhwng ei chloriau, mae hi'n cyflawni rhan o’r gwaith parhaus o gadw’r cof am drychineb Aber-fan yn fyw, o atgoffa ac addysgu cenhedlaeth(au) newydd am y sgandal – ei bod hi’n drychineb na ddylai fyth fod wedi digwydd. Mae pob cyfiawnhad dros gyhoeddi’r gyfrol. 

Er gwaetha gwirionedd diamheuol geiriau Idris Reynolds bod ‘iaith weithiau’n methu’ – ac mae sawl bardd yn y gyfrol yn adleisio’r rhwystredigaeth hon – camp Dagrau Tost: Cerddi Aber-fan yw dangos cynifer o feirdd a lwyddodd, yn eu hamrywiol ffyrdd ac i wahanol raddau, i roi mynegiant didwyll i’r ing a’r emosiynau dyfnaf a lifodd, ac sy’n dal i lifo, wrth feddwl am gelanedd Aber-fan.   

Mae’n eironig bod englyn Idris Reynolds i’w ganfod ar y dudalen gyferbyn ag un o gerddi mwyaf ysgytwol y gyfrol. Er i sawl bardd ganu’n gofiadwy am y drychineb, ni lwyddodd yr un ohonynt grynhoi a chyfleu y cymysgedd o deimladau sy’n corddi – o dristwch i gynddaredd ac euogrwydd – mewn modd mwy iasol nag y gwnaeth prifardd arall, y diweddar Dic Jones, yn ei soned ‘Y Dwthwn Hwnnw’, a gyhoeddwyd (yn Golwg) adeg y deugain mlwyddiant yn 2006. Mae’r soned hithau yn ateb huawdl i’r cwestiwn canolog hwnnw:   

Y Dwthwn Hwnnw

Tomennwyd gennym holl drueni'r cread
     uwchben y diniweitiaid ym Mhant-glas,
a'u dwyn yn enw'n materoliaeth afrad
     yn offrwm i ysbwriel elw'r ffas.
Pob deigryn am ei phlant a wylodd Rahel,
     pob galar am bob llong na ddaeth i'r lan,
pob elor drom o laddedigion rhyfel:
     fe'u cafwyd oll yn llaca Aber-fan.

Gwae i ni gredu fod haelioni arfer
     yn lleddfu undim ar gydwybod byd,
ac nad yw'r sôn am gysur eli amser
    ond cerdyn cydymdeimlad ar y pryd.
Ni all y bys a fo'n tadogi'r bai
   wneud ing y galon unig ddim yn llai.                                                                                              
 


Dyfarnwyd yr ail wobr i Tomos Morgan am y darn hwn yng nghystadleuaeth ‘Adolygiad cynhwysfawr o gyfrol wedi ei chyhoeddi yn y ganrif hon’, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017. Yn ôl y beirniad, Dylan Iorwerth: 'Mae’r darn yn codi nifer o gwestiynau craff, er enghraifft am allu (neu hawl) geiriau i fynegi trallod o’r fath, am rôl (neu hawl) golygyddion wrth agor hen greithiau ac am allu (neu hawl) beirdd i ysgrifennu o bell am drychineb pobl eraill.'


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd

Dyddiad cyhoeddi: 23·10·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…