Adolygu

Dal gafael ar y tlysau

Hanes hoyw Cymru

Daryl Leeworthy

A Little Gay History of Wales

Gwasg Prifysgol Cymru, 160tt, £11.99, Medi 2019

Dal gafael ar y tlysau
Mike Parker

Amser darllen: 4 munud

29·11·2019

Er na chefais gyfle hyd yma i gyfarfod â Daryl Leeworthy, awdur y gyfrol hon, rwyf wedi dod i’w nabod yn lled dda yn rhithfyd Twitter. Dywedodd wrthyf bod A Little Gay History of Wales yn ‘very “me”, as it were’. Ni allwn fod wedi cyfleu hynny’n well. Yn gyson â’i hawdur, mae’r gyfrol hon yn addysgu, yn ysbrydoli ac yn pryfocio. Mae’r drafodaeth yn sobor o ddeallus, yn fentrus, yr ymchwil yn fanwl, ac mae’r awdur yn amlwg yn falch o fynd yn groes i’r graen.

Mae astudiaethau queer yn faes ymchwil sydd ar gynnydd, er bod astudiaeth feirniadol o’r profiad Cymreig wedi bod ar ei hôl hi, am lawer rheswm. Archwilir nifer o’r rhesymau hyn gan Leeworthy. Mae rhagymadrodd hir yr awdur yn gosod ei stondin yn glir: dyma fydd ‘the active recovery of the margins and the marginalised’. Wrth hynny golyga nid yn unig y rhai a yrrwyd i’r ymylon o achos eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth rywiol, ond o achos eu dosbarth cymdeithasol, eu statws a’u modd ariannol hefyd. Mae llawer yn gyffredin rhwng y ffactorau hyn, dadleua Leeworthy.

Dyma ei haeriad mawr, ac eir ar ôl goblygiadau hynny mewn ffyrdd y bu hir ddisgwyl amdanynt. Mae’r ychydig hanes queer Cymreig a fu gennym hyd yma wedi canolbwyntio’n anorfod ar y lleisiau cryfaf: yr ariannog a’r tirfeddianwyr, y mewnfudwr â thafod arian, yr alltud artistig wedi ei biclo mewn hiraeth. Diolch i durio gofalus Leeworthy mewn archifau a thestunau cynradd, a’i dalent fel pioden yn gweld a dal gafael ar y tlysau ac yn eu gweu ynghyd, mae’r persbectif a gawn yn y gyfrol hon yn un dyfnach, llawnach. Mae’r cyfan wedi ei hidlo’n fedrus: o fân hysbysebion Edwardaidd i lyfrau log llinellau cymorth ffôn y 1980au, o gofrestrau llongau i gofnodion cyfarfodydd myfyrwyr ac undebau llafur; cofnodion heddlu, papurau lleol, Hansard, dadleuon cynghorau a thaflenni etholiadol; dyddiaduron, llythyrau a chyfweliadau. Mae’r cipolwg a gawn yn denu ac yn herio ar yr un pryd. Cymerwch, er enghraifft, y darn hwn o bapur ceidwadol y South Wales Weekly Post, a lwyddodd, wrth ddisgrifio erchyllterau fin nos Abertawe, i asio hiliaeth, homoffobia a digon o anlladrwydd i foddhau awch:

Last night the writer ... saw ... two men (foreigners) in dungarees committing an offence against elementary decency in an archway where there happened to be just sufficient lamplight to enable passers-by to see what they were up to.

Yn naturiol, o ystyried daearyddiaeth Leeworthy a Chymru fel ei gilydd, y de-ddwyrain sy’n cael ei sylw ac yn dwyn y baich mwyaf, felly, a’r dinasoedd yn arbennig. Am resymau amlwg, mae porthladdoedd bob amser wedi mwynhau mwy o ryddid rhywiol: un o rannau mwyaf annisgwyl y gyfrol ydi’r cofnod o’r nifer fawr o adegau pan y bu i forwyr tramor, neu Cardiffiaid ag enwau ‘estron’, gael eu trin gymaint yn fwy haearnaidd na’r ‘bobl leol’ wrth gael eu dal mewn sefyllfaoedd amheus. Gellir, wrth gwrs, ychwanegu hil hefyd at ormes ar sail rhywioldeb, cenedl, dosbarth a modd ariannol. Dyma groesdoriadaeth ar ei mwyaf bywiol. 

F’unig gŵyn yw bod Leeworthy yn ymestyn y pwyslais anorfod ar y de-ddwyrain yn bleidgarwch gwleidyddol. Mae’n trafod dan gymeradwyo ‘the concentration of the gay rights movement in Glamorgan and Monmouthshire where Labour was strongest’, fel petai’r cysylltiad hwnnw yn brif ffactor, yn hytrach na’r ffaith symlach bod y ddwy sir honno yn gartref i ddwy ran o dair o’r boblogaeth Gymreig. Yn waeth, mae’n awgrymu llwytholdeb dyfnach sy’n dod i’r wyneb ar ffurf gosodiadau moel megis ‘South Wales was often less hostile than the north’, sy’n osodiad na ellir bod yn sicr yn ei gylch, ac a gefnogir ganddo ag un hanesyn yn unig am unigolyn yn gadael Cricieth yn 1990 ‘because of prejudice and victimisation’. (Ar ben hynny, mae fel petasai rhannau eraill o’r llyfr yn gwrth-ddweud hyn fwy nag unwaith.) Mae’r adegau hyn lle mae’r awdur yn gadael i’w ragfarn bersonol liwio ei naratif yn merwino’r glust, yn arbennig o gofio ei fod wedi ei drwytho mewn manwl gywirdeb academaidd, a’i fod mor ofalus ei ymchwil.

Tydi hynny ddim i ddweud nad y Blaid Lafur sydd wedi symud ymlaen fwyaf yn y deuopoli yn San Steffan, ac fe geir enghreifftiau nobl i gefnogi hynny. Un a oedd yn newydd i mi oedd y Parch Llywelyn Williams, AS ar gyfer Abertyleri, a siaradodd â thrugaredd a mewnwelediad syfrdanol yn y ddadl ar Adroddiad Wolfenden yn Nhŷ’r Cyffredin yn 1958, y cam seneddol cyntaf, os un petrusgar, tuag at ddad-droseddu naw mlynedd yn ddiweddarach. Pan fu’r pwyllgor yn casglu tystiolaeth mewn perthynas â chyfraith gwrywgydiaeth (a phuteiniaeth hefyd), Prif Gwnstabl Sir Forgannwg oedd un o’r ychydig dystion o Gymru i gael ei alw ger bron. Nid oedd o’r farn fod ganddo lawer i’w gynnig ychwaith, oherwydd meddai: ‘this was a vice created in London which little troubled the provinces.’  

Mae A Little Gay History of Wales yn wrthgyffur gwerth chweil yn erbyn y dybiaeth hen gyfarwydd hon, sy’n ymestyn yn ôl i gyfnod Gerallt Gymru yn y 12g ac sy’n codi ei phen eto heddiw. Yn fwy na dim, mae’n dangos nad ydi newid cymdeithasol yn dilyn llinell syth, y gall cynnydd nogio a llithro. Yn yr amseroedd anodd hyn, dyna rybudd i’w ystyried yn feunyddiol.

Pynciau:

#Rhifyn 11
#Mike Parker
#Hanes