Malan Wilkinson


Rhyddhau'r Cranc

Y Lolfa, 147tt, £6.99, 2018

Dechrau eto
Adolygu

Dechrau eto

Adolygu ‘Rhyddhau’r Cranc’ gan Malan Wilkinson


Angharad Penrhyn Jones

Amser darllen: 7 munud

09·10·2019

Noder: Mae’r erthygl hon yn cyfeirio at hunanladdiad ac fe allai eich hatgoffa o deimladau anodd. Os ydych yn profi teimladau hunanladdol, cysylltwch â’r Samariaid ar 0808 164 0123 neu ffoniwch 999. Gweler hefyd y wefan hon.

Rhybudd cynnwys: Hunanladdiad


Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y penodau yn gryno ac yn llifo. Ac eto mae’n brofiad affwysol o anodd hefyd. Nid dim ond hanes problemau seicolegol un ferch 32 mlwydd oed sydd yma: cawn oll weld ein hadlewyrchiad mewn drych sy’n dadlennu pethau anghyfforddus a phoenus am ein bodolaeth ninnau. Ond nid cyfrol morbid mohoni, o bell ffordd: gyda’r hiwmor sych ac ysgafnder y dweud, a gydag angerdd yr awdur dros gerddoriaeth, ei theulu, a’i chi, Wini Llwyd, hawdd fyddai anghofio ein bod yn darllen am bynciau mor ddwys: anhwylder personoliaeth ffiniol (borderline personality disorder), galar, iselder, seicosis, bywyd mewn uned seiciatryddol, a hunanladdiad. 

Ganed Malan Wilkinson yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn un o driffliaid (triplets), ac fel y gwelwn yn y lluniau a gyhoeddir yn nhudalennau’r gyfrol, anodd iawn ydi gwahaniaethu rhwng y dair chwaer. Cawn glywed am y sylw a roddwyd iddynt yn y wasg ar y pryd, ac yn yr ysgol hefyd, fel petasai’r dair yn rhyw fath o freak show. (‘Diflas oedd yr holl gyfeirio aton ni fel uned rownd y ril, y jôcs a’r dychanu.’) Fel efaill, gallwn uniaethu ag elfennau o brofiadau’r awdur, a braf gweld bod agweddau wedi newid rhywfaint erbyn hyn, wrth i enedigaethau lluosog ddod yn fwy cyffredin.

Ond yr hyn newidiodd Wilkinson ‘ar y tu mewn a’r tu allan’ oedd ail ddegawd ei bywyd, a ddisgrifir ganddi fel ‘y degawd tywyll’. Collodd ei mam i ganser y fron tra roedd hi’n ddisgybl chweched dosbarth. Digwyddodd hyn yn fuan wedi iddi golli ei nain i’r un math o ganser – dynes yr oedd hi’n agos iawn ati hi. Yn 21 mlwydd oed, collodd ei nain arall, oedd yn hanu o Rwsia. Anodd ydi dychymygu effaith y fath drawma ar ferch ifanc, ac mae’n amhosib peidio â cholli dagrau wrth ddarllen am ei hymweliad ag Ysbyty Bryn Seiont, a hithau heb ddeall bod ei mam ar fin marw, am nad oedd neb wedi esbonio hynny iddi. Credai Wilkinson bod y gair ‘Macmillan’ uwchben drws ei mam yn dynodi enw’r stafell. Credai mai ysbyty gyffredin oedd hon, a bod ei mam yn mynd i ddychwelyd adref. 

Mae’n amlwg bod y ferch ysgol, oedd yn academaidd tu hwnt ac yn bianydd dawnus dros ben, wedi gorfod ymgymryd â chyfrifoldebau oedolyn yn gynnar iawn yn ei bywyd. Chwalwyd ei huchelgais i fod yn bianydd proffesiynol. Ond nid oes argoel o chwerwder na dicter na hunan-dosturi yn y gyfrol. Trafoda’r awdur ei deiagnosis seiciatryddol a’i phrofiadau trawmatig mewn modd diflewyn, a rhyfeddol o uniongyrchol – nid yw’n dawnsio o gwmpas y pynciau tabŵ, megis ei rhywioldeb a’i hymdrechion i roi terfyn ar ei bywyd. Mae’r siarad plaen hwn fel bwa yn anelu’n syth am galon y darllenydd. ‘Ar fy isa,’ meddai, ‘mi fydda i’n teimlo fel swp o esgyrn yn clecian mewn corff sydd wedi marw, a hwnnw’n llawn cyffuriau. Pan dwi’n teimlo fel hyn, mae marwolaeth yn teimlo’n felys.’

Mae defnyddio’r ansoddair ‘dewr’ i ddisgrifio cyfrol wedi mynd yn dipyn o ystrydeb; ond mae Rhyddhau’r Cranc yn gwbl deilwng o’r disgrifiad hwn. Mewn cymdeithas Fethodistaidd, draddodiadol (a beirniadol, yn enwedig o ferched ‘gorffwyll’ sy’n cael eu gyrru i ‘ysbyty meddwl’) nid ar chwarae bach y mae Cymraes Gymraeg yn mynd ati, heb guddio y tu ôl i gymeriadau ffuglennol, i ddisgrifio sut y ceisiodd ladd ei hun. Hyd yn oed heddiw, ceir agweddau caled tu hwnt tuag at y sawl sydd yn dewis marw – fe’u cyhuddir o fod yn hunanol a gwan, o fod yn gachgwn. Trwy ddarllen am brofiadau Malan Wilkinson, cawn ein hatgoffa pa mor greulon ydi’r agweddau hyn. Meddai: ‘Fyddwn i fyth, o ddewis, yn rhoi’r un enaid byw drwy loes a phoen meddwl […] Y gwir ydy, does gen i ddim dewis ynghylch fy iechyd meddwl. Does gen i na gweddill yr un mewn pedwar ym Mhrydain ddim dewis. Salwch ydi o.’ Mewn un bennod, myfyria ar y teimlad o gael ei beirniadu am fod wedi gwario cyfnodau hir yn Hergest, uned seiciatryddol Ysbyty Gwynedd.  (‘Alla i ddim newid yr olwg yn llygaid ambell un sydd wedi newid tuag ata i ers i mi fod yn yr ysbyty, nac anwybyddu’r ansicrwydd a’r amheuaeth yn eu lleisiau pan dwi’n sgwrsio efo nhw.’) 

Ond nid pawb sydd mor ragfarnllyd, a cheir llu o enghreifftiau o unigolion cariadus, ei ‘hangylion gwarcheidiol’ – teulu a chyfeillion a staff meddygol – sydd yn ei chadw ar y ddaear, yn drosiadol ac yn llythrennol. Wna i fyth anghofio’r disgrifiad ohoni’n paratoi i neidio oddi ar bont, a dieithryn yn dwyn perswâd arni i gamu o’r dibyn, trwy ofyn iddi am ‘hyg’. (‘Pa enaid mewn gwirionedd all wrthod HYG i un arall ar ochr pont yng nghanol gaeaf?’) Weithiau y profiadau tyner, y llafnau o obaith, sy’n cyffwrdd fwyaf wrth ddarllen. Gwelwn y tywyllwch a’r goleuni ochr yn ochr, y naill yn dwysâu’r llall. 

Cefais fy atgoffa, wrth ddarllen am Hergest, o nofel Angharad Tomos, Wrth fy Nagrau i (2007). Mae’r disgrifiadau o’r cleifion eraill ar y ward, sydd yn gwmni i Malan Wilkinson ar ôl iddi gael ei thynnu o ‘Statws 3’ (sy’n golygu bod mewn ward gloëdig, o dan oruchwyliaeth barhaus) – yn cynnwys yr hiwmor direidus sy’n nodweddu gwaith Tomos. Darllenwn am Chev, sydd â resistant schizophrenia ac yn credu ei bod yn byw fel tylluan, ei chnawd yn ‘amrwd dyllog’ ar ôl iddi drio cael gwared â’r plu. Cawn glywed am Lynwen, sy’n gwbl argyhoeddiedig ei bod yn disgwyl efeilliaid o’r enw Iolo ac Eirian ac yn treulio ei hamser yn sgwrsio efo hi ei hun. Down ar draws dau ddyn sydd ill dau yn credu mai fo, a fo yn unig, ydi Duw. (‘Daeth tensiwn heb ei ail pan sylweddolodd y ddau eu bod nhw’n dduwiau!’) Mewn dwylo ambell i awdur, byddai’r golygfeydd hyn wedi teimlo’n ddi-chwaeth a voyeuraidd. Yn nwylo Wilkinson, maen nhw’n teimlo’n naturiol a diffuant. Nid yw’n gweld y cleifion hyn fel bodau ar wahân iddi hi; mae hi’n osgoi eu harallu. Profiad diddorol tu hwnt ydi darllen am yr is-fyd hwn, sydd wedi ei guddio rhag cymdeithas. Mi allai pob un ohonom ganfod ein hunain mewn byd o’r fath. Ac nid lle tywyll yn unig mohono: ‘Roedd ’na deimlad o gymuned a theulu yng ngardd Hergest – teimlad na theimlais i ‘rioed y tu allan i furiau’r ysbyty.’

Cyfeiria teitl y gyfrol at granc y daw’r awdur ar ei draws ar draeth Dinas Dinlle wrth fynd â’i chi am dro. Mae’r creadur wedi ei glymu â llinyn ac yn methu â dianc. Wedi straffaglio am yn hir â siswrn o’i phecyn cymorth cyntaf, llwydda Wilkinson i’w ryddhau yn ôl i’r môr. ‘Ar ôl disgyn,’ meddai, ar ddiwedd y gyfrol, ‘ailgodwn fel yr hen granc, a mentro drwy’r tywod yn syth yn ein blaenau i’r môr mawr – a dechrau eto.’ Dyma drosiad nid yn unig am gyflyrau meddwl sy’n medru carcharu’r unigolyn, a phwysigrwydd gwydnwch a gobaith yn wyneb episodau hunllefus, ond hefyd stori sy’n dadlennu cymaint am yr awdur: ei hempathi at ei chyd-greaduriaid, sydd yn aml yn dod law yn llaw â phroblemau iechyd meddwl. ‘Rhodd fwyaf bywyd ydi cariad,’ ysgrifenna, a noda ein bod yn ‘byw mewn byd sy’n gosod llwyddo a chyflawni uwchlaw popeth’: rydym oll mewn peryg o gaethiwo ein hunain i werthoedd dinistriol.

Mae hanesion Malan Wilkinson mor amrwd, maen nhw’n dod â dŵr i’r llygaid – fel wynebu gwynt oer, oer yn Dinas Dinlle. Dylem fod yn ddiolchgar iddi am rannu ei phrofiadau mewn modd mor hael a gonest a doeth, gan ddyfnhau ein dealltwriaeth o gyflyrau seicolegol cymhleth, ac am wneud hynny mewn Cymraeg lliwgar sy’n byrlymu â throsiadau annisgwyl. Diolch i wasg y Lolfa hefyd am gyhoeddi cyfres ehangach o gyfrolau ar iechyd meddwl – Gyrru Drwy Storom (2015) – sy’n cynnwys ysgrif arbennig gan Wilkinson; Galar a Fi (2017), Byw yn fy Nghroen (2019), Roedd gen i Gi Du (2019), yn ogystal â chyfrol ddirdynnol Ffion Dafis, Syllu ar Walia’ (2017), sy’n trafod gorbryder, galar ac alcoholiaeth. Dylid cydnabod yn ogystal waith pwysig y criw gwirfoddol sydd y tu ôl i wefan Meddwl.org. Mae’n hen bryd i ni’r Cymry fedru trafod yr epidemig anhwylderau meddwl sy’n effeithio arnom bob un – yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol – a hynny heb embaras na chywilydd, trwy gyfrwng ein hiaith ein hunain. Mae Malan Wilkinson, yn hyn o beth, yn arwain y gad, a gwych oedd gweld ei chyfrol yn cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2019.


Angharad Penrhyn Jones yw Golygydd Cysylltiol cylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt. Ceir ysgrif ganddi am ei phrofiad o orbryder ac am wleidyddiaeth meddylgarwch fan hyn.
 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Darllenwn am Chev, sydd â ‘resistant schizophrenia’ ac yn credu ei bod yn byw fel tylluan, ei chnawd yn ‘amrwd dyllog’ ar ôl iddi drio cael gwared â’r plu

Dyddiad cyhoeddi: 09·10·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Aled Llion Jones

11 Tachwedd yw Gŵyl Annibyniaeth Gwlad Pwyl, pryd y dethlir adennill sofraniaeth yn 1918, yn dilyn dros ganrif o ddiddymiad. Er 2010 trefnir gorymdaith yn y brifddinas, digwyddiad mwya’r flwyddyn i’r adain dde eithafol. Y llynedd gorymdeithiodd 250,000.

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ...