Neil MacGregor


A history of the world in 100 objects

Penguin, 614tt, £10.99, 2010; 2012

Andrew Green


Cymru mewn 100 gwrthrych

Gomer, 222tt, £19.99, 2018

Adolygu

Dethol hanes, hanes dethol?


Ceridwen Lloyd-Morgan

Amser darllen: 15 munud

30·04·2019

Het Gymreig (o'r gyfrol Cymru mewn 100 Gwrthrych; lluniau gan Rolant Dafis)


Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw, deuddeg, tri ar ddeg, pedwar ar hugain. Erbyn yr 20g daeth rhestri o gant yn boblogaidd, megis ‘cant uchaf’ hierarchaidd y siartiau, neu’r gyfres radio Your Hundred Best Tunes a ddarlledwyd gan y BBC o 1959 ymlaen. Detholiad goddrychol, heb fod yn hierarchaidd, a gawn mewn dwy gyfrol sy’n ceisio cyfleu hanes o’r byd cynnar tan heddiw: A History of the World in 100 Objects gan Neil MacGregor, cyn-Gyfarwyddwr yr Amgueddfa Brydeinig, a Hanes Cymru mewn 100 Gwrthrych gan Andrew Green, cyn-Bennaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bwriad y naill a’r llall yw creu naratif fwy neu lai’n gronolegol trwy gyflwyno cant o wrthrychau y gellid dadlau eu bod yn cynrychioli rhyw agwedd ar hanes: 

Telling history through things is what museums are for. And because the British Museum has for over 250 years been collecting things from all round the globe, it is not a bad place to start if you want to use objects to tell a history of the world. (Macgregor, xiii)

Gŵyr athrawon a churaduron ers tro mai un o’r ffyrdd gorau o ennyn diddordeb mewn hanes a’i syniadau yw cychwyn gyda pheth go iawn ... Y lle gorau i weld y ‘pethau go iawn’ hyn yw mewn sefydliad cof. Mae pob gwrthrych yn y llyfr hwn i’w weld mewn amgueddfa, archif, llyfrgell neu le arall sydd ar agor i’r cyhoedd yng Nghymru. (Green, 6)

Wrth dynnu sylw at gasgliadau cyhoeddus, mae Green yn amlwg yn annog y darllenydd i ddarganfod a defnyddio’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig. Digon teg, o gofio’r pwysau parhaus ar y sefydliadau hynny i sicrhau bod digon o ymwelwyr [sic] yn dod trwy’r drysau, er mwyn darparu ystadegau boddhaol i gyfiawnhau’r gost i’r pwrs cyhoeddus. A gorau oll, wrth gwrs, os medrir perswadio’r ymwelydd i wario punt neu ddwy yn y siop a’r caffi sydd bellach yn rhan hanfodol o’r sefydliadau mwy o faint, sydd wedi troi’n ‘gyrchfannau’ i dwristiaid yn gymaint â chanolfannau ar gyfer addysgu ‘gydol oes’. Afraid dweud mai ymateb y mae’r ddau awdur i hinsawdd wleidyddol lle mae pwyslais mawr ar ‘estyn allan’ a denu cynulleidfaoedd newydd, yn arbennig o blith grwpiau cymdeithasol a ddiffinir fel rhai llai breintiedig.

Er na synnwn i damaid na fu llwyddiant cyfrol MacGregor yn un ffactor ym mhen-derfyniad Green i baratoi ei restr Gymreig, mae ei ddechreubwynt yn dra gwahanol. Tra bod MacGregor yn ymgymryd â’r prosiect yn rhinwedd ei swydd fel pennaeth yr Amgueddfa Brydeinig ar y pryd, roedd Andrew Green wedi hen adael y Llyfrgell Genedlaethol ac yn rhydd i ddilyn trywydd personol, gan sefydlu ei ganllawiau ei hun. Pwysleisia mai ei ddewis personol yw’r eitemau unigol hyn ond bod pob un, yn ei farn ef, yn cynrychioli rhyw agwedd ar hanes Cymru, ac mae’n ein hannog i feddwl beth fyddai ar ein rhestrau personol ni. Fel mater o egwyddor penderfynodd Green ddewis eitemau nid yn unig o ddau sefydliad cenedlaethol Cymru, yr Amgueddfa a’r Llyfrgell, ond hefyd o sefydliadau llai o ranbarthau Cymru, penderfyniad diplomataidd iawn o gofio’r cwyno a glywyd ar adegau yn y gorffennol am ‘sefydliadau cenedlaethol yn hwfro’r holl adnoddau’! Ond mae modd hefyd gweld y tu ôl i’r gyfrol Gymraeg gysgod dau brosiect cynharach. Ddechrau’r mileniwm newydd, yn nyddiau cynnar digido, ac yn ystod cyfnod Green fel pennaeth y Llyfrgell Genedlaethol, gofynnodd Llywodraeth y Cynulliad (fel y’i gelwid ar y pryd) i’r Llyfrgell gymryd rhan flaenllaw mewn prosiect o’r enw ‘Casglu’r Tlysau’. Cynllun oedd hwn i greu arddangosfa rithwir ar gyfer y rhyngrwyd trwy ddigido eitemau arwyddocaol neu ‘drysorau’ o holl archifdai, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd Cymru. Olynwyd hyn yn ddiweddarach gan Gasgliad y Werin, sydd yn gwahodd cyfraniadau gan unigolion a mudiadau yn ogystal â sefydliadau. 

Ond mae cymhlethdod yn codi wrth gadw o fewn ffiniau Cymru heddiw, fel y gwna’r 100 Gwrthrych. Yn gyntaf, mae’r eitemau cynhararaf yn perthyn i gyfnod filoedd o flynyddoedd yn ôl lle nad oedd ‘Cymru’ fel y cyfryw yn bodoli, a phan oedd diwylliant materol go debyg i’w weld ar draws pellteroedd byd: nid oes unrhyw nodwedd ‘Gymreig’ yn perthyn i fflint neu lawfwyell a ganfuwyd yn y wlad a elwir Cymru heddiw. Ac wrth gwrs bu rhaid diystyru’r holl greiriau hanesyddol hynny a greuwyd neu a ddarganfuwyd o fewn tiriogaeth bresennol Cymru ond sydd mewn casgliadau y tu hwnt i ffiniau’r wlad, gan gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig.

Yn achos prosiect MacGregor, fodd bynnag, y man cychwyn oedd gwahoddiad gan y BBC i baratoi cyfres radio gyda llyfr i gyd-fynd â hi. Un o’r rheolau a osododd Mark Damazer, rheolwr BBC Radio 4 ar y pryd, oedd mai aelodau staff yr Amgueddfa Brydeinig fyddai’n dewis y gwrthrychau: nhw, wedi’r cwbl, sydd yn gwybod mwy am y casgliadau na neb arall. Sicrhawyd hefyd gyfraniadau gan arbenigwyr o bedwar ban byd. Nid prosiect personol ond cywaith fu hwn, a gweithredai MacGregor fel golygydd yn hytrach nag awdur:

Although I appear as the author of the series and this book, they are in fact the work of many hands. A History of the World in 100 Objects has been in every sense a team effort, which would not have been possible without the knowledge and skills, hard work and dedication of many colleagues. This book is the culmination of many people’s work. (684)

Ac yn falm i enaid unrhyw guradur, ychwanegodd:

I should also like to thank curatorial colleagues and the scientists and conservation experts whose research and knowledge underpin every chapter of this book. (684)

Mewn gwirionedd mae’r ddau lyfr yn dibynnu’n helaeth ar waith yr arbenigwyr anweledig sydd yn gyfrifol am y gwaith catalogio. Ni all neb fod yn arbenigwr ar bopeth, a heb y staff proffesiynol fu’n dyddio, disgrifio a dehongli’r gwrthrychau, ni fuasai modd i’r naill awdur na’r llall lunio’r cyhoeddiadau hyn. Ac yn wir, hawdd iawn, yn aml, yw dirnad y disgrifiad catalog y tu ôl i destun Andrew Green.

Wrth gwrs y mae cynnull detholiad o wrthrychau penodol yn ffordd dda i ennyn diddordeb mewn hanes, wrth agor y drws ar hanes a cheisio annog y darllenydd i fynd i ymweld ag amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai er mwyn dysgu mwy am y gorffennol a greodd y byd sydd o’n cwmpas heddiw. A siawns fod ystyriaethau marchnata wedi dylanwadu i ryw raddau ar gynllun y gyfrol. Ond wrth ganolbwyntio ar y gwrthrychau mae yna berygl i greu argraff pytiog yn hytrach na llinyn arian o naratif, ac yn wir i greu ffetish o’r gwrthrych. Mae diwyg llyfr bwrdd coffi 100 Gwrthrych, gyda’i luniau deniadol, llawn lliw, tudalen cyfan, hefyd yn temtio’r defnyddiwr i bori yma ac acw heb fynd i’r afael â’r testun gyferbyn ac, er gwaethaf mynegai a rhai croesgyfeiriadau, mae hi’n hawdd colli gafael ar y dilyniant cronolegol a’r themâu sy’n codi. Ac fel y gŵyr pawb sydd wedi paratoi arddangosfa o wrthrychau hanesyddol, mae yna dyndra o hyd rhwng dewis yn ôl golwg eitem neu ei harwyddocâd neu ei chynnwys deallusol, heb sôn am ystyriaethau ymarferol megis medru tynnu llun effeithiol ohoni. 

Strwythur gwahanol iawn sydd i History of the World. Yn gyntaf, roedd rhaid cynrychioli hanes dynol ryw dros gyfnod o ddwy filiwn o flynyddoedd, gan geisio adlewyrchu holl wledydd a diwylliannau’r byd, a’r tlodion yn ogystal â’r cyfoethog a’r pwerus (xiii), ac roedd angen i’r eitemau gynrychioli’r datblygiadau, digwyddiadau neu dueddiadau y bernid eu bod yn allweddol neu’n arwyddocaol yn hanes y byd. Y weledigaeth a’r naratif sydd yn gosod yr agenda yma felly, a’r eitemau yn dilyn fel enghreifftiau diriaethol sy’n crynhoi pwnc neu thema arbennig. Rhennir y deunydd rhwng ugain o adrannau, pob un yn cynrychioli cyfnod a thema (e.e., ‘The Rise of World Faiths, AD 100-600’; ‘Status symbols, AD 110-1500’; ‘Mass Production, AD 1780-1914’), gyda phum gwrthrych i bob un o’r adrannau hyn, yn cynrychioli gwahanol agweddau ar y thema. Golyga hyn – a’r ffaith bod cyfres radio wrth fôn y prosiect – fod mwy o bwyslais ar yr hyn a gynrychiola’r gwrthrych nag ar ei agwedd weledol. Er mor odidog y lluniau lliw a geir o’r gwrthrychau yn yr argraffiadau clawr caled, a lluniau du a gwyn yn yr argraffiad clawr meddal, y geiriau, y syniadau a’r naratif sydd flaenaf. 

Un cwestiwn nad oedd rhaid i MacGregor ei ystyried, ond na fedrai Green ei osgoi, oedd iaith y cyhoeddiad. Yn achos 100 Gwrthrych, yn hytrach na chyhoeddi un llyfr dwyieithog, penderfynwyd darparu fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. O ran dylunio cynnwys y llyfr roedd hwn yn ddewis doeth. Mae’n caniatáu lle cyfartal i lun a thestun, a digon o le o ran y testun i fynd i’r afael â hanes ac arwyddocâd y gwrthrych. Ond fe ymddengys i mi mai cyfieithiad yw’r fersiwn Cymraeg, er na welaf unrhyw nodyn yn cydnabod hynny, ac yn sicr mi fyddai mwyafrif y disgrifiadau catalog sy’n sail i destun yr awdur wedi eu llunio yn Saesneg yn wreiddiol. 

Er gwaethaf y gwahaniaethau, ymhlyg yn y ddau lyfr mae rhai o’r un cwestiynau pwysig am natur a hanes ein sefydliadau a’r sector diwylliant/etifeddiaeth, ond sydd heb eu hamlygu oherwydd y pwyslais ar nodweddion ac arwyddocâd y gwrthrychau a gyflwynir. O bosibl y gellir gweld cyfres radio The History of the World fel adlais o’r hen weledigaeth Reithaidd o wasanaeth darlledu fyddai’n addysgu’r gwrandawyr wrth eu diddanu, ond gwelir ynddi hefyd ymgais i fod yn wleidyddol gywir yn nhermau’r 21g, gan gydnabod sut y mae disgwrs hanes yn cyflyru ac yn newid yn ôl amgylchiadau hanesyddol a gwleidyddol. Serch hynny, nid aeth MacGregor i’r afael â’r ffaith anghysurus na ellir diystyru hanes yr Amgueddfa Brydeinig ei hun a goblygiadau ei gorffennol fel rhan o wladwriaeth ymerodrol. Wrth drafod un o gerfluniau enwog y Parthenon cydnebydd yr awdur fod yr Arglwydd Elgin wedi eu cymryd ymaith (‘removed’) ac na ellid cyfeirio atynt heb grybwyll y dadleuon am eu perchnogaeth. Eto i gyd, dwy frawddeg yn unig a gysegrir i’r pwnc llosg hwn, un yn gynnil symud y cyfrifoldeb oddi ar ysgwyddau’r pennaeth i rai yr Ymddiriedolwyr di-enw, a’r ail yn ochrgamu’n frysiog er mwyn rhuthro ymlaen at dir mwy diogel:

The Greek government insists they should be in Athens; the British Museum’s Trustees believe that in London they’re an integral part of the story of world cultures. [fi piau’r pwyslais]

It’s a passionate debate in which everyone has a view; but I want to focus on one sculpture in particular, and what that sculpture meant to the people who made it... (171)

Efallai y teimlai MacGregor a’i gydweithwyr eu bod ar dir llai sigledig wrth ofalu eu bod yn cynnwys gwrthrychau o bob rhan o Brydain (ni esbonir pam nad oes dim o Ogledd Iwerddon – osgoi trafferth, efallai?), ond codir cwestiynau go debyg gan yr eitemau hyn. Cynrychiolir Cymru gan y ‘Mold gold cape’ o’r Oes Efydd, mantell aur fer i orchuddio’r ysgwyddau, a ddargan-fuwyd yn 1833 ym Mryn-yr-Ellyllon ger yr Wyddgrug (117-23). ‘The location of the burial site, near the town of Mold, not far from the north coast of Wales,’ meddai MacGregor, ‘meant that the wider world could easily have continued in igorance of its existence’ (120), sylw sydd yn anfwriadol drymlwythog.

O Athen i’r Wyddgrug, gall yr Amgueddfa Brydeinig ddadlau iddi ddiogelu creiriau a fuasai fel arall wedi eu niweidio neu eu colli, a’i bod yn croesawu pawb o bobl y byd i’w gweld. Ond nid oes modd celu hanes (ac agwedd meddwl) ymerodrol yr Amgueddfa ers ei sefydlu yn y 18g na gwadu bod ei chasgliadau yn cynnwys llawer o greiriau crefyddol a diwylliannol pobloedd a drefedigaethwyd. Tan yn gymharol ddiweddar amlygwyd agwedd nawddoglyd at y brodorion a greodd y gwrthrychau hyn: fe’u gwelwyd fel pobl ecsotig, neu’n gyntefig, neu fel plant. Yn ddiweddarach, newidiodd y ddadl ychydig i ganolbwyntio ar eu hanallu i warchod creiriau oedd yn ‘perthyn i ddiwylliant y byd’, boed hynny oherwydd diffyg sefydliadau addas yn eu gwledydd tlawd i’w gwarchod, eu dehongli a’u harddangos, neu oherwydd ansefydlogrwydd gwleidyddol neu fygythiadau milwrol. O blaid y ddadl olaf gallwn nodi bod llawer o greiriau wedi goroesi oherwydd iddynt gael eu hysbeilio. Buasai cerfluniau’r Parthenon yn sicr wedi dirywio pe tasen nhw wedi aros yn eu lle ar yr Acropolis, oherwydd cyflwr gwael awyr y ddinas. Heb yr ysbeilio, buasai rhai gwrthrychau wedi diflannu i gasgliadau preifat, fel sydd wedi digwydd yn achos cynifer o drysorau archeolegol o Affganistan ac Irac yn sgil y rhyfeloedd diweddar. Rhaid cydnabod y buasai darnau mantell aur Bryn yr Ellyllon wedi eu hysbeilio a’u gwerthu’n unigol gan bobl yr ardal oni bai am y ficer yn eu dwyn i sylw hynafiaethwyr Llundain. Ac ni fydd pob perchennog preifat yn cadw eitemau bregus dan yr amodau amgylcheddol priodol i sicrhau eu hirhoedledd; yn yr un modd, gall llawysgrifau, gweithiau celf a ffotograffau, er enghraifft, ddirywio’n gyflym os na reolir tymheredd, lleithder a golau. Nid yw pob perchennog chwaith yn caniatáu mynediad i’w casgliadau preifat. 

Ar un olwg nid oes angen i sefydliadau cenedlaethol Cymru boeni gormod am y problemau sy’n wynebu sefydliadau ôl-ymerodrol fel yr Amgueddfa Brydeinig neu Amgueddfa’r Louvre ym Mharis. Serch hynny, yma hefyd ceir adlais o rai o’r un cwestiynau, er mor wahanol yw’r cyd-destun, gan fod sefydliadau Cymreig â chasgliadau a ddaw o wledydd a diwylliannau eraill. Yn y Llyfrgell Genedlaethol y cedwir un o’r casgliadau pwysicaf o lawysgrifau o ddramâu Llydaweg o’r 18g a’r 19g, yn ogystal ag archifau preifat nifer o lenorion ac ymgyrchwyr dros iaith a diwylliant Llydaw yn yr 20g, yn eu plith Taldir, Roparz Hemon, Armañs Ar C’halvez. Ond dewis y Llydawyr eu hunain oedd hyn, gan na theimlent fod unrhyw sefydliad addas yn Llydaw ar y pryd ble y câi’r archifau hyn yr un gofal a pharch. Serch hynny, mae yna ambell lawysgrif neu gasgliad â hanes mwy amwys, er enghraifft, y tri darn o blith y domen o filoedd o ddogfennau papyrus o’r 3g CC ymlaen, a ddarganfuwyd yn yr Aifft yn yr 1890au gan aelodau o’r Egypt Exploration Society. Penderfynwyd anfon rhai o’r papyri at sefydliadau trwy orllewin Ewrop, a chyf-lwynwyd tri i’r Llyfrgell yn 1922. 

O droi at ochr arall y geiniog, yn ystod y 19g, aethpwyd â nifer o wrthrychau hanes-yddol a swolegol o ogledd Cymru i Gaer neu i Lerpwl, gan nad oedd eto amgueddfeydd neu sefydliadau eraill addas yr ochr yma i’r ffin. Unwaith y sefydlwyd yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yno yr aethpwyd â thrysorau archeolegol megis celc Llyn Cerrig Bach ym Môn (Green, §5) a phentan haearn Capel Garmon (Green, §6). Gan fod prifddinas ein gwlad mor sobr o anhygyrch, yn eironig ddigon mi fuasai hi’n haws i bobl o’r gogledd fynd draw i Gaer neu Lerpwl i’w gweld. Dyna un rheswm pam y penderfynodd fy mam, a fu farw yn 1998, adael cyfran bwysig o’i chasgliadau entomolegol i amgueddfa yn Lerpwl. 

Tra bod brodorion nifer o gyn-drefedigaethau yn galw ar amgueddfeydd megis yr Amgueddfa Brydeinig a’r Louvre ym Mharis i ddychwelyd trysorau, dros y degawdau diweddar bu rhai Cymry yn yr un modd yn galw am ddychwelyd ‘adref’ rai eitemau adnabyddus. Ni lwyddodd mynediad rhwydd i ffacsimilïau o ansawdd ragorol dros y rhyngrwyd i leddfu’r galw am ddychwelyd gwrthrychau i Gymru. Yn ddiddorol iawn, o graffu ar hanes nifer o’r eitemau a hawlwyd, gwelir bod perchnogaeth bresennol y rhain yn ddigon dilys. Cymerwn rai llawysgrifau adnabyddus fel enghreifftiau. 

Yr hynaf ohonynt yw’r Llyfr Efengylau o eglwys gadeiriol Caer Lwytcoed, llawysgrif oreuredig o’r 8g, sydd yn cynnwys nodiadau mewn Hen Gymraeg ar ymylon rhai o’r dail. Yn y 9g bu’r llawysgrif yn Llandeilo, gan aros yno am ryw ganrif cyn dychwelyd i Gaer Lwytcoed rywbryd cyn y flwyddyn 963. Mae yna dystiolaeth fod y llawysgrif wedi ei dwyn o’r gadeirlan – enghraifft o ysbeilio canoloesol – a rhaid cydnabod bod y gyfrol wedi (ail)ymgartrefu yng Nghaer Lwytcoed ers ymhell dros fil o flynyddoedd erbyn hyn. Ac er bod ambell un yn dadlau mai yng Nghymru y copïwyd ac yr addurnwyd y gyfrol, nid oes sail gadarn i’r gosodiad, er nad yw’n gwbl amhosibl chwaith. Rhaid sylweddoli bod arddull hynod o debyg i weld mewn llyfrau Efengylau o’r un cyfnod y gellir eu cysylltu’n bendant ag Iwerddon (llyfrau Kells a Durrow), Northymbria (llyfr Lindisfarne), neu hyd yn oed swydd Stafford. Y gwir amdani yw fod y llyfrau Lladin hyn i gyd yn perthyn i’r un byd diwylliannol Cristnogol, waeth ble roedd y ffiniau daearyddol, gwleidyddol ac ieithyddol ar y pryd. Bum canrif yn ddiweddarach, yn y 13g copïwyd Beibl Abaty Tyndeyrn sydd bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Er bod ynddi nodyn mewn llaw o’r 15g yn tystio mai i’r abaty y perthynai, o ran ei diwyg, yr ysgrifen a’r gwaith addurno gall y llawysgrif darddu o Gymru, Lloegr neu Ffrainc, gan ei bod yn dilyn patrwm cyffredin a ddatblygodd o fewn Urdd y Sistersiaid. Cyfyd problemau tebyg yn ogystal mewn llawysgrifau lleyg yn Lladin neu rai Ffrangeg o’r cyfnod pan y bu honno’n iaith llenyddiaeth a llywodraethiant y ddwy ochr i’r Sianel, heb sôn am y ddwy ochr i Glawdd Offa. Dylid cofio hefyd fod rhai llawysgrifau wedi eu hysgrifennu yn Gymraeg yn Lloegr neu ar y Cyfandir, sydd eto’n cymhlethu’r darlun. Ond da gennyf eich sicrhau nad oes galw mawr (eto) yng Nghalais am ddychwelyd y llawysgrifau pwysig a ysgrifennodd Elis Gruffydd tra bu’n byw yno yn hanner cyntaf yr 16g.

Perthyn fy nwy enghraifft arall i droad y 15g. Yn 1400 anfonodd Owain Glyndŵr ei lythyr enwog o Bennal. Gan mai at frenin Ffrainc y cyfeiriwyd y llythyr, yn gwbl naturiol a phriodol mae’r llythyr hwn bellach yn eiddo i archifdy gwladol Ffrainc: ysgrifennwch lythyr ataf fi ac yn fy meddiant y bydd, ac nid oes hawl gennych chi i fynnu fy mod i’n ei ddychwelyd atoch. Rhaid cofio hefyd fod llythyr Pennal yn berthnasol i hanes Ffrainc yn ogystal â Chymru, gan ei fod yn adlewyrchu polisïau tramor y brenin ar y pryd. Tra oedd rhyfel Glyndŵr yn dal ar ei anterth, draw yng Nghwm Tawe gorffennai criw o ysgrifwyr eu gwaith ar y llawysgrif fwyaf erioed yn y Gymraeg, sef Llyfr Coch Hergest, sydd bellach yn Rhydychen. Yng Nghymru roedd y llawysgrif ddechrau’r 18g, pryd y cafodd Edward Lhuyd ei benthyg hi gan Thomas Wilkins o Lanbleddian, a mynd â hi i Rydychen. Wilkins a’i hanrhegodd i Goleg yr Iesu ar ôl marwolaeth Lhuyd yn 1714, gan sicrhau cartref parhaol, diogel iddi. 

Yn anffodus, dadleuon du a gwyn, emosiynol hyd yn oed, a glywir gan amlaf pan godir cwestiynau am darddiad a pherchnogaeth gwrthrychau sydd ag ystyr symbolaidd neu werth diwylliannol arbennig i gymuned neu genedl. Efallai ei bod hi’n bryd inni gael trafodaeth gyhoeddus, drylwyr, wybodus a chytbwys ar y cwestiynau cymhleth hyn sydd yn llechu y tu ôl i gyfrolau MacGregor a Green. 

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae cymhlethdod yn codi wrth gadw o fewn ffiniau Cymru heddiw

Dyddiad cyhoeddi: 30·04·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ... 

Dadansoddi


Sioned Puw Rowlands

Fis Hydref eleni, yn fuan wedi cyhoeddi enw enillydd gwobr Nobel llenyddiaeth 2019 – Peter Handke (Griffen, Awstria, 1942) – cyhoeddodd PEN America eu bod yn gegrwth: ‘We are dumbfounded by the selection of a writer who has used his public voice to undercut…

Adolygu


Siân Melangell Dafydd

Sylwch ar ddarlun y nico bach, mor gysáct ei ystumiau, yn hedfan hyd glawr y gyfrol hon. Bron na ellir clywed fflap ei adenydd, ei gân benysgafn, sionc. Ond mae awgrym o rywbeth arall ar y clawr: darlun manwl berffaith cloc dant y llew…

Adolygu


Jerry Hunter

Mae hanes Unol Daleithiau America yn hanes ymerodraeth: dyna neges graidd y llyfr hwn. Yn ogystal â chraffu ar hynt imperialaeth Americanaidd, mae Daniel Immerwahr yn archwilio’r berthynas ryfedd rhwng dinasyddion yr Unol Daleithiau ac ymerodraeth eu gwlad. Fel yr awgryma teitl y gyfrol, ymerodraeth gudd ydyw o…

Adolygu


Mike Parker

Er na chefais gyfle hyd yma i gyfarfod â Daryl Leeworthy, awdur y gyfrol hon, rwyf wedi dod i’w nabod yn lled dda yn rhithfyd Twitter. Dywedodd wrthyf bod A Little Gay History of Wales yn ‘very “me”, as it were’. Ni allwn fod wedi cyfleu hynny’n…

Adolygu


Grug Muse

Dilyn hanes teulu ifanc o Grangetown mae’r nofel hon, a hynny yn sgil Brexit. Adroddir y stori o safbwynt tad ifanc o Gwm Gwendraeth, sef Carwyn. Dyma deulu bach niwclear dosbarth canol, efo morgais, y rhieni â graddau da i’w henwau, ac o leiaf un…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

1. y noson honno. 2. gadael yr Eglwys Gadeiriol. 3. dweud rhywbeth [fel hyn] wrtho fo [:]. 4. chwara teg, roedd yr hen gastrato na yn canu'n wych. Dwi wrth modd â'r math yna o sŵn – pedwar llais yn dod ynghyd felna, yn…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Mae'n haws gosod popeth mewn trefn. Llyma dechreu [sic] rhoddi trefn ar ... Rhaid eu rhestru: pry genwair / hunangenhedlahalogol / O bosibl ymysg y rhai a oedd wedi bwyta Liwsi a'r lleill ac amlygu'r esgyrn ...