Adolygu

Detholiad o hoff lyfrau pobl Môn am yr ynys

Mick Sharp, Jean Williamson, Frances Lynch

Môn: Tirluniau’r Arfordir Gynt

Windgather Press, 144tt, 2009, £20

Detholiad o hoff lyfrau pobl Môn am yr ynys
Amrywiol

Amser darllen: 5 munud

22·07·2017

David Crystal

Cyfuniad o ffotograffiaeth gain a chraffter academaidd a arweiniodd at gynhyrchu rhai o'r llyfrau gorau am Ynys Môn. Dwi'n meddwl yn benodol am Môn: Tirluniau'r Arfordir Gynt (Windgather Press), sy'n cyflwyno lluniau gan Mick Sharp a Jean Williamson a geiriau gan yr archaeolegydd Frances Lynch. Fe'i cyhoeddwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg yn 2009. Mae rhychwant y gyfrol yn syfrdanol – mae’n estyn o'r cyfnod cynhanesyddol tan y presennol. A hithau wedi'i rhannu'n saith pennod, mae'r gyfrol yn dechrau gyda'r helwyr, y ffermwyr a'r pysgotwyr cyntaf, yn symud ymlaen i drin beddrodau a charneddau yr Oes Efydd a'r cyfnod Neolithig, ymweliadau – os dyna'r gair cywir i'w disgrifio – y Rhufeiniaid, y Gwyddelod a'r Llychlynwyr, tirnodau'r cyfnod canoloesol a'r chwyldro diwydiannol. Trafodir y gwaith adeiladu pontydd rhyfeddol a welwyd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn i’r llyfr gloi ag ambell un o'r datblygiadau a newidiodd y tirwedd yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'r lluniau’n gafael ynoch. Yna, fel y mae pob llun da yn ei wneud, maent yn eich cymell i ofyn cwestiynau. Mae Frances Lynch yn rhagweld y rhain mewn cyfres o benawdau manwl a chyflwyniadau i'r gwahanol benodau. Dysgais rywbeth newydd am fy ynys fy hun ar y rhan fwyaf o'r tudalennau, ac ni allaf ddychmygu gwell cyflwyniad i'r lle i ymwelwyr.


Gareth Evans-Jones

Darllenais Gwyn eu Byd yr Adar Gwylltion (Gomer) gan John Idris Owen a mwynhau’n arw. Ôl-drem ar fywyd Huw Morris yn ystod ei arddegau ydy’r nofel, a cheir ynddi stori ddirdynnol wedi’i lliwio gan themâu diddorol, gan gynnwys crefydd, rhagrith cymdeithas, iechyd meddwl ac aeddfedu; hynny yn ogystal â nifer o gymeriadau hynod gofiadwy. Yr hyn a apeliodd yn fawr ataf hefyd oedd ei bod wedi’i lleoli yn fy milltir sgwâr a bod tafodiaith Môn yn britho’r dweud. O’r herwydd, a chan fy mod innau tua’r un oed â’r prif gymeriad pan ddarllenais y nofel am y tro cyntaf yn 2009, gallwn uniaethu â byd a stori’r nofel.
 

Annes Glynn

Mae dylanwad Môn a'i thirwedd i'w weld yn amlwg ar y nofel Mân Esgyrn (Gomer) gan Sian Owen cyn i chi agor ei chloriau hyd yn oed. Gwawr gopr sydd i'r cloriau hynny, awgrym cynnil o leoliad y cynnwys, sef ardal Amlwch a man allweddol, canolog y digwydd, Mynydd Parys. Oherwydd cynildeb nodweddiadol yr awdur, ei diléit mewn delweddau, ynghyd â'i gwybodaeth wyddonol a'i doniau dadansoddol, fe'i cefais yn nofel dynn, amlhaenog, sy'n dal i afael yn y cof. Profiad cyffrous – a chyfarwydd ar yr un pryd – oedd agor y cloriau pan gyhoeddwyd y nofel dri mis ar ôl iddi ddod yn agos at ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009. Y rheswm fod dilyn hynt y cymeriadau'n teimlo'n daith mor gyfarwydd oedd fy mod wedi cael y fraint o rannu'r daith honno dros gyfnod o ddwy flynedd a mwy wrth i Sian a minnau ddod yn gyfeillion yn ogystal ag yn ‘anogwyr’ llenyddol i'n gilydd. Cofiaf ddotio at fanylder ei phlotio er mwyn creu sefyllfaoedd a chymeriadau credadwy; rhyfeddu hefyd wrth iddi ddatgelu ei bod wedi mynd ati i gyfieithu ambell baragraff gan rai o'i hoff awduron – Anita Shreve ac Annie Proulx yn eu plith – er mwyn dadansoddi'n union pam mae eu harddull mor effeithiol, ac er mwyn dysgu sut i chwynnu geiriau diangen. Nid oedd Sian yn un i afradu geiriau. Oherwydd hynny, ac oherwydd y portreadau byw – a dirdynnol weithiau – o'r prif gymeriadau, Carol a Helen, a'u personoliaethau cryf, gwrthgyferbyniol, credaf fod Mân Esgyrn yn glasur cyfoes.
 

Mared Lewis

Bisgedi â’r toes wedi ei wasgu i gragen fawr agored ydy teisennau Berffro ym Môn, fel mai siâp y gragen sydd i’r bisgedi wedyn. A heb amheuaeth, siâp ac argraff pentref Berffro sydd i’r casgliad Teisennau Berffro (Gwasg Gee) gan Tom Parry Jones. Fel dyn bach main dwi’n cofio’r awdur, mewn cadair ger ffenast lydan yn ei gartref yn edrych i lawr dros ehangder bae Malltraeth. Yn rhyfedd ddigon, ‘Malltraeth’ oedd enw’r tŷ hefyd, er mai fel ‘Twm Tŷ Pigyn’ yr oedd pawb yn ei ’nabod yn yr ardal. Roedd o’n perthyn i Dad rywsut. Dim ond flynyddoedd wedyn y deuais i sylweddoli mai’r Prifardd Tom Parry Jones Eisteddfod Genedlaethol 1945 oedd hwn, gŵr a gerfiodd enwogrwydd pellach iddo’i hun drwy gyflawni’r gamp driphlyg Eisteddfodol, gan ennill y Fedal Ryddiaith yn 1957 ac yna’r Goron yn 1963. Teisennau Berffro a enillodd y Fedal iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni. Byd sy’n gogr-droi o’i gwmpas ei hun ydy byd y straeon byrion hynod hyn, am y pentref bach ar arfordir gorllewinol Môn. Cawn naws y lle yn syth, yn llinell agoriadol y stori gyntaf pan mae’r awdur yn datgan: ‘Y mae amser yn bnawn Sul fyth yn y Berffro; yn enwedig yn Bangor Street.’ Cegau, edliw a blagardio ydy idiom cyfathrebu nifer o’r cymeriadau wrth iddynt geisio cyd-fyw ar y ‘stryd ddiri-dani’ hon, a gwneir hynny yn nhafodiaith befriog yr ardal. Mae yma dynnu coes, chwarae triciau wrth rygnu byw, a’r môr yn bresenoldeb cyson, yn llyfu a brathu am yn ail ar gyrion eu byd. Mae yma elfennau Under Milk Wood-aidd weithiau yn y portread o’r cymeriadau brith sy’n swatio byw yng nghesail ei gilydd, o Twm Nan, ‘Y Main’, a ‘allai fynd drwy grai nodwydd ddur pe tynnai ei gap’, i’r hen Gapten Jâms, a’i lais ‘wedi ei bitsio yn hanner gêl’. Llareggub heb yr elfennau swrealaidd breuddwydiol a geir yma, ond gyda’r un adnabyddiaeth dyner a’r un cynhesrwydd. Ydy hi’n ‘bnawn Sul fyth yn y Berffro?’ Piciwch draw os cewch chi gyfle'r haf yma, a barnwch drosoch eich hun!
 

Caryl Bryn Hughes

Brodores o Fôn yw’r prif gymeriad yn nofel Sian Owen, Mân Esgyrn (Gomer). Mae Carol yn dychwelyd i’w bro enedigol wedi cyfnod o alltudiaeth yn Lloegr. Er mai canolbwyntio ar berthnasau’r cymeriadau â’i gilydd y mae'r nofel hon, mae lleoliad yn bwysig ynddi: ceir darlun lliwgar o atgofion Carol o’r ynys, y drwg a’r da, a chysylltiadau ingol yr atgofion am Ynys Môn â’i merch, Sera. Tafodiaith Môn a ddefnyddir, gyda chyffyrddiadau hynod farddonol i'w chyfoethogi, ynghyd â hiwmor tywyll yr ynys. Cynildeb yw cryfder y nofel hon i mi, a'r modd y mae’r cynildeb hwnnw’n cyfleu tensiynau rhwng cymeriadau. Mae'r enghraifft orau o hynny i’w gweld mewn sgwrs sydd wedi’i lleoli mewn eglwys. Fel brodores o Fôn, hyfryd yw gweld Gŵyl y Llychlynwyr, gweithleoedd a lleoliadau penodol yr ynys trwy lygaid yr awdures, a gallu plethu f’atgofion personol o’r lle â rhai agweddau o’r naratif. Mae hon yn nofel rymus a hynod o deimladwy. 
 

Ken Owen

Pentref Carreg-lefn – neu’r ‘Cen’ – yng ngogledd Môn yn y pedwardegau yw cefndir cyfrol Robin Rengan Las a’i Debyg (Carreg Gwalch) gan William Owen. Yma y daeth y diweddar J O Roberts yn faciwî adeg y Rhyfel. Rydym yn aildroedio llwybrau plentyndod yr awdur a hynny gyda thalp o hiwmor a chydymdeimlad. Er bod adeg y Rhyfel yn gyfnod o gyni a dogni, daw pobl at ei gilydd gan gryfhau’r ymdeimlad o berthyn i un gymdeithas glòs, uniaith Gymraeg, cyn i blant Alis ddylifo i’r pentref. Mae’r awdur yn meddu ar ddawn Môn i ddisgrifio cymeriadau – mae Meima, gwraig Jac Llainsibols, yn ‘hen glustog lonydd’, a gwên Robin ’Rengan Las ‘yn ddim namyn claspia’ pres ar gaead arch’. Dyma gyfnod o:

ddenu cywion nico i gawell yng nghoed y fynwent a chael dwy a dimai’r pen yn gyfnewid amdanynt gan Huw Jôs Câs Cloc, dilyn beindar yn Llanol a llwytho’r ysbail i fan y Daily Post a ddôi bob bore o Fangor, rhwydo’r doctor coch yn ffosydd Fferam Gyd, potsio ym Mhentre Heilyn, dal sliwod ym mhwll Alma, magu cathod yn y cwt mochyn a’u boddi yn y siafft ym mherllan Siop, rhedeg rasus malwod, bridio llygod, trapio gwencïod, blingo tyrchod ac yn rheolaidd bob blwyddyn ar Fawrth y cyntaf, diwrnod priodas y brain, hel grifft.

Mae’n gofnod o le a phobl sydd wedi hen ddiflannu o’r tir ac er bod y gyfrol allan o brint ers blynyddoedd mae’n werth pori mewn siop lyfrau ail-law am gopi.

Mae’r awdur yn meddu ar ddawn Môn i ddisgrifio cymeriadau – mae Meima, gwraig Jac Llainsibols, yn ‘hen glustog lonydd’, a gwên Robin ’Rengan Las ‘yn ddim namyn claspia’ pres ar gaead arch’

Pynciau:

#Rhifyn 4
#Môn