Adolygu

Trin y corff a’r meddwl

Anne Elizabeth Williams

Meddyginiaethau Gwerin Cymru

Y Lolfa, 480tt, £19.99, Gorffennaf 2017

Trin y corff a’r meddwl
Ceridwen Lloyd-Morgan

Amser darllen: 10 munud

25·11·2017

Ddechrau’r 1980au gosododd ffermwr o ucheldir Ceredigion fwthyn ar ei dir i Gymraes leol a’i chymar o Sais. Difarodd yn syth pan ddechreuodd y Sais greu llanastr yn y tŷ a cham-drin y wraig ifanc – hyd heddiw, erys craith ar un o’r drysau lle taflodd wrthrych trwm ati. Feiddiai’r ffermwr ddim ymyrryd, gan fod y Gymraes yn ferch i ddyn hysbys pwerus, sef Brinley Richards, Ystumtuen. Ofnai gael rhaib ar y fferm. Yn y diwedd, mynd draw i Ystumtuen fu raid, ond cyn iddo fedru dweud gair, anfonodd Brinley ef adref. O fewn dyddiau roedd y tenantiaid wedi mynd, a’r dyn hysbys ei hun wedi ymweld â’r tŷ er mwyn tynnu ohono unrhyw ddrwg allai fod ar ôl. Hyd heddiw, mae’r tŷ â naws dawel, warchodol iddo: dyma fy nghartref i ers 1982, ac ni chefais y stori tan ar ôl imi symud i mewn.

Yr hyn na wyddwn nes i mi ddarllen Meddyginiaethau Gwerin Cymru oedd bod Brinley yn arfer nifer o ddulliau traddodiadol o drin gwahanol anhwylderau’r corff a’r meddwl. Roedd yn adnabyddus fel iachäwr ‘clwy’r edau wlân’, lle mesurid y corff mewn ffordd arbennig gyda darn o edafedd gwlân. Yn nhermau meddyginiaeth fodern, anodd diffinio union natur y salwch a drinnid yn y modd hwn, ond cyfeirir ato’n aml fel ‘clefyd y galon’, sef digalondid neu iselder. Medrai Brinley hefyd wella llosg tân ac atal gwaedlif. Yn yr un cyfnod roedd eraill y medrid troi atynt i’r un dibenion: cofiaf un o’m cyd-weithwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol, pan gafodd waedlif o’i drwyn, yn cael ei anfon at y prif borthor, a ataliodd y gwaedu mor sydyn ac effeithiol nes codi ofn ar y dyn ifanc.

Mae i swyngyfaredd ran bwysig yn hanes trin anhwylderau, a dichon bod elfen gref o gyflyru yn y grefft – bod y dyn hysbys yn deall cyflwr meddwl claf a grym effaith placebo. Ac o gofio mor ddrud oedd ffi’r meddyg cyn sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, hawdd deall ffydd y werin yn y dulliau iacháu a arferid yn lleol. Erys nifer ohonynt yn gyffredin, fel rhoi braw i rywun sy’n dioddef o’r igian (bygwth ei gŵr efo rasal ar ôl diwrnod neu ragor o igian di-stop wnaeth fy hen nain unwaith), neu wahanol ddulliau o gael gwared â defaid gwyllt ar y croen. Perthyn rhyw ddirgelwch i’r ddafaden o hyd: ar un adeg, blinwyd fy nai a minnau gan ddegau ohonynt dros ein dwylo, ond diflanasant dros nos pan drefnwyd i weld y meddyg. Cyn hynny bûm yn trin fy rhai i gyda sudd y llaethlys (llaeth y sgwarnog, Euphorbia) heb lwyddiant. Methais ddilyn cyngor cyfaill o Aberdâr, sef rwbio’r ddafaden gyda sleisen o facwn a’i rhoi i gi i’w bwyta: doedd dim ci gennyf ac ni cheir bacwn yng nghegin y sawl sy’n ymwrthod â chig.

Defnyddio beth oedd wrth law fyddai raid i’r werin dlawd, ond bydd rhai o’r cynghorion oedd yn dal yn bur gyffredin ganol yr 20fed ganrif yn codi ael onid arswyd ar ddarllenwyr iau. Pwy heddiw fyddai’n rwbio saim gŵydd ar frest plentyn, heb sôn am ei orchuddio â darn o wlanen goch i’w arbed rhag y peswch? Eto i gyd, pan wrthododd fy mam, fel gwyddonydd rhesymegol, roi’r driniaeth hon i ni’r plant, fe’i cyhuddwyd gan ei chymdogion a’i mam-yng-nghyfraith o fod yn anghyfrifol. Gwaeth na saim gŵydd (oedd yn denu’r cŵn yn ofnadwy), mewn rhai ardaloedd defnyddiwyd tail, i atal moelni, er enghraifft. Rhoddwyd yr un cyngor i gyfaill i mi (oedd yn moeli’n ifanc) mewn tafarn yn Nyfnaint ddiwedd y 1980au. Ond mewn cyfnod pan oedd pawb a’u cartrefi llwm yn drewi, beth fyddai’r ots am yr oglau drwg? Gellir dirnad elfen o ddewiniaeth sympathetig mewn nifer o’r ‘meddyginiaethau’ hyn, gan fod y lliw coch yn awgrymu gwres, tail yn peri i laswellt dyfu, ac yn y blaen, ond weithiau mae’n anodd deall tarddiad yr arfer – fel yr arfer o roi pennog coch yn yr esgidiau i leddfu cryd cymalau. Magnet dan y gobennydd oedd ateb fy nain ochr fy mam i boen arthritis, a hyd heddiw cred llawer yn rhinwedd y freichled gopr. Unwaith eto, effaith placebo sydd ar waith, fel pan gopïais i swyn at y ddannodd o lawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol a’i roi i ffrind dioddefus i’w osod dan y gobennydd – diflannodd y boen dros nos.

Meddyginiaethau llysieuol yn hytrach na swyngyfaredd oedd y ffordd fwyaf cyffredin o drin salwch, fodd bynnag, fel y dengys Anne Elizabeth Williams, ac roedd sail wyddonol i lawer o’r ryseitiau. Wedi’r cwbl, o risgl y fedwen y datblygwyd aspirin, er enghraifft, a heddiw dadansoddir planhigion o bob cyfandir er mwyn datblygu meddyginiaethau newydd. Mae’r traddodiad yn un hynafol, y gellir ei olrhain i waith awduron clasurol megis y Groegwr Galen. Yng Nghymru adlewyrchir pwysigrwydd traddodiad ‘Meddygon Myddfai’ a’u tebyg yn y llawysgrifau canoloesol niferus lle cofnodwyd cynghorion a ryseitiau llysfeddygaeth. Tynnu ar y traddodiad clasurol trwy weithiau Lladin a Saesneg awduron yr 16eg ganrif a wnaeth William Salesbury yn ei Lysieulyfr, ond llysieulyfr dylanwadol y Sais Nicholas Culpeper (1616-54) yw sail llawer o weithiau printiedig y 19eg ganrif, yn eu plith addasiad Cymraeg gan David T Jones (1779-1839), Llanllyfni. Bu ei Lyfr Dail neu Lysieulyfr Teuluaidd yn hynod o boblogaidd ac roedd yn dal mewn print yn y 1880au – y cyfnod pryd y ganwyd llawer o’r Cymry y cofnodwyd eu gwybodaeth gan staff Sain Ffagan yn ail hanner yr 20fed ganrif. Cyfuniad felly o ddylanwad dysgedig ac arferion lleol a esblygodd dros y canrifoedd yw’r meddyginiaethau a gofnodwyd ar lafar, gyda dylanwad testunau printiedig yn elfen bwysig o ran gwybodaeth ac ymarfer gwerin lythrennog Cymru’r 19eg a’r 20fed ganrif.

Rhwymwyd fy nghopi i o Lyfr Dail David Jones – argraffiad o tua 1881 – gyda Llysieuaeth Feddygol Thomas Parry, Glangors, Tregarth, gŵr, meddai’r rhagair, ‘oedd yn dra adnabyddus yn ei gymdogaeth a’r amgylchoedd fel llysieuwr hynod’. Yn y 1960au a’r 1970au clywais sôn gan hen bobl yn yr un ardal am feddyg llysieuol a fu'n byw yn ein tŷ yn Nhregarth, gan fanteisio ar yr hyn y byddem heddiw’n ei alw’n ‘fioamrywiaeth’ y llecyn hwnnw. Roeddem ninnau’n gyfarwydd â gweld gŵr oedd yn gwneud eli effeithiol iawn at yr eryr a’r darwden yn cerdded heibio yn casglu’r planhigion oedd eu hangen arno, ac anfonai’r meddygon lleol y cleifion a ddioddefai o’r anhwylderau hyn ato. Goroesodd yr un traddodiad hyd heddiw mewn ambell fan: yn ddiweddar iawn, soniodd gwraig yn ei hwythdegau o Bontrhydygroes wrthyf fel y cawsai eli y llynedd gan ddyn o bentref nid nepell o Aberystwyth i wella’r eryr pan oedd holl foddion y meddyg wedi methu â’i hesmwytho. Ond sylwais ar arwydd o newid yn agwedd y gymdeithas, gan na fynnai hi ddweud yr un gair am yr eli hwnnw, er ein bod yn adnabod ein gilydd yn dda, nes imi ddechrau sôn am ddyn yr eli o Dregarth.

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae’n debyg, ganodd gnul llawer o’r hen feddyginiaethau llysieuol ac a orseddodd driniaethau newydd gwyddonol yn eu lle. Yn ei gasgliad o ysgrifau, Moddion o Fag y Meddyg: Agweddau ar Hanes Meddygaeth (2005), noda Edward Davies fod ‘tua 70% o ragnodion y meddyg yn deillio o lysiau’ tan y 1940au. Yn wir, yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu perthnasau imi’n rhan o ymgyrch genedlaethol y Ministry of Supply i gasglu planhigion gwyllt at ddibenion meddygol. Trefnwyd y gwirfoddolwyr gan bwyllgorau sirol (Herb Committees), pob un yn canolbwyntio ar rywogaethau a dyfai’n helaeth yn lleol. Yn ôl Florence Ranson yn British Herbs (1949), yng Nghymru y casglwyd y cnwd mwyaf o fysedd y cŵn (digitalis) i wneud ffisig at reoli curiad y galon. O ran casglu egroes, parhaodd y drefn tan tua 1960, a buom ni blant yn mynd ati i gasglu 10 pwys yr un ohonynt a’u cario i’r ysgol er mwyn ennill bathodyn. Dibynnai’r ymgyrch, wrth gwrs, ar allu pobl y wlad i adnabod pob planhigyn a dyfai yn eu hardaloedd, gwybodaeth a amsugnem heb feddwl. Arferai fy mam sôn amdanaf yn bedair oed yn mynd â Taid am dro ar hyd y lôn gul heibio’n tŷ ni ac yn adrodd wrtho enw pob planhigyn a welwn. Testun gwawd i ni blant y pentref oedd unrhyw un – fisitors neu bobl o’r dref – nad oedd yn gwybod pa blanhigion neu aeron oedd yn dda i’w bwyta a pha rai oedd ddim. Erbyn hyn, fodd bynnag, prinhau mae’r ystod o blanhigion a welir, wedi blynyddoedd o blaleiddiaid a cholli cynefinoedd, a phrinhau hefyd y mae’r bobl sy’n adnabod enw a rhinweddau pob un.

Rhywogaethau sy’n darfod yw’r dyn hysbys a’r llysfeddyg lleol hefyd, ac yn y dyfodol rhaid fydd dibynnu ar ffynonellau ysgrifenedig. Dyna pam mae’r llyfr newydd hwn mor werthfawr. Mewn modd hygyrch a difyr, cyflwyna Anne Elizabeth Williams yr ystod o blanhigion a chynhwysion eraill a ddefnyddid, a thrwy nodi enw a chyfeiriad y sawl a gyfwelwyd yn y gorffennol, rhydd gyfle inni ddod i adnabod ugeiniau o unigolion a gynrychiolai’n aml y ddolen olaf un mewn cadwyn a ymestynnai’n ôl ganrifoedd. Afraid dweud bod yma ddata gwerthfawr i ieithgwn ac i naturiaethwyr sy’n ceisio mapio newidiadau yn nosbarthiad daearyddol planhigion. Trefnir y llyfr yn hwylus yn ôl y math o anhwylder, gyda phenodau ar friwiau a chlwyfau, er enghraifft, y llygaid a’r glust, yr esgyrn a’r cymalau ac ati, a bydd y lluniau lliw o gymorth er mwyn priodi enw(au) a phlanhigyn. Ond gresyn bod y mynegai’n llawer rhy denau i fod yn ddefnyddiol, a synnais at rai bylchau amlwg o ran ystod yr anhwylderau a drafodir, yn enwedig o ran iechyd merched. Ble mae’r ffisig i leddfu poen y misglwyf neu i reoli’r gwaedu misol? Beth a roddwyd er mwyn erthylu, neu i atal camesgor, i hwyluso esgor naturiol neu i gynyddu llaeth y fron? Eto i gyd, ceir cynghorion ar drin y rhain mewn testunau printiedig o’r 19eg ganrif, a gallaf dystio bod traddodiad llafar hyfyw ymhlith merched pan oeddwn i’n tyfu i fyny. Tybed a fu ymchwilwyr Sain Ffagan yn rhy swil i holi am y materion hyn?

Mae Ceridwen Lloyd-Morgan yn gyn-Archifydd a Phennaeth Llawysgrifau a Delweddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

Methais ddilyn cyngor cyfaill o Aberdâr, sef rwbio’r ddafaden gyda sleisen o facwn a’i rhoi i gi i’w bwyta

Pynciau:

#Rhifyn 5
#Ceridwen Lloyd-Morgan
#Iechyd
#Byd natur