Adolygu

Drysau’r dyfodol yn Awst


Dylan Huw

Amser darllen: 6 munud

04·09·2019

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y rhan fwyaf o'r drysau hyn yn Llanrwst yn ddu a'u gosod yn igam-ogam uwchlaw'r maes mwdlyd. Disgrifiwyd yr agora Eisteddfodol hwn gan y deunydd marchnata fel 'senedd dros dro', fel 'Pafiliwn y Bobl' – gofod am yr wythnos, felly, yn ganolfan i ddychmygu dyfodol torfol.

Yn sefyll mewn sgwaryn o goch ynghanol tref Llanrwst, mae'r berfformwraig Eddie Ladd yn ein cychwyn ar daith. Dwy law o'i blaen i adfywio ysbryd Llywelyn Fawr o’i fedd gerllaw. O fewn llinellau’r sgwâr, daw pytiau o hanes Cymru a Llanrwst yn fyw trwy gyfrwng ei chorff, trwy'r straeon a adroddir gan ei symudiadau.

Dyma gychwyn Ôl-Llywelyn: protest, taith gerdded, perfformiad promenâd, a digwyddiad agoriadol AGORA, sef strwythur lleoliad-benodol dan guraduriaeth nodweddiadol Marc Rees. Ar Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod caiff criw ohonom – yn siaradwyr Cymraeg ac yn ddi-Gymraeg, yn Steddfotwyr, yn bobl leol ac yn ddilynwyr y celfyddydau'n rhyngwladol – ein harwain gan Eddie Ladd o ganol y dref at safle'r AGORA, bob un yn cario placardiau o wyneb Llywelyn Fawr. Dyma grynhoi'n fyw yr hyn oedd i ddod trwy gydol yr wythnos: bloeddiwyd 'Cymru, Lloegr a Llanrwst' yn ddiddiwedd, do, ond cafwyd hefyd garnifal o ffyrdd newydd o feddwl am Gymreictod, am annibyniaeth a dyfodolau amgen.

Os nad oedd yr hanes a oedd yn sail i AGORA yn gyfarwydd i bawb ar ddechrau’r Eisteddfod, yn sicr mi oedd erbyn diwedd yr wythnos. Yn 1276, meddiannodd Llywelyn Fawr dref Llanrwst a datgan ei bod yn faestref rydd annibynnol o fewn Cymru. Yna, ynghanol yr 20g, yn ysbryd annibynnol y dref a gynhaliwyd am ganrifoedd, gwnaed cais aflwyddiannus gan Gyngor tref Llanrwst i’r Cenhedloedd Unedig am gydnabyddiaeth i'r dref fel gwladwriaeth annibynnol – un o'r anecdotau amhosib rheiny mae ein hanes yn llawn ohonynt. Am wythnos fis Awst eleni, daeth y dref unwaith eto’n llwyfan unigryw lle hawliwyd sylw gan sgyrsiau ynghylch hunaniaeth a pherchnogaeth a sut i'w gweld o'r newydd.

Aiff y daith gerdded yn ei blaen, ac Eddie Ladd yn feistr seremonïau. 'Beth y’n ni moyn?', gwaedda, i honcs ceir ac ymateb brwd gennym ni gerddwyr. 'Annibyniaeth!' bloeddia rhywun; 'Haul!' meddai un arall; 'Peint o gwrw!'. Ailadroddwn ein gofynion trwy gydol y daith awr a hanner o hyd. Eisteddwn ar y bont yn nhref Llanrwst a chofio am brotestwyr Pont Trefechan ym 1963; safwn ar bont arall, wrth ymyl y maes, yn ysgwyd y strwythur metal fel teyrnged i brotestwyr Hong Kong 2019. (Sonia Eddie Ladd am ei phrofiad o weld y protestiadau diweddar yno â'i llygaid ei hun; mae wedi treulio cryn amser yn y genedl ddi-wladwriaeth eleni fel rhan o ddatblygiad a pherfformiad It will come later, cydgynhyrchiad rhwng cwmnïau dawns o Gymru, Hong Kong, Romania, Sweden a Gwlad Pwyl, sy'n teithio Cymru ym mis Medi a Hydref.)

Cawn ein pryfocio gan Ladd i ymateb i enw prif weinidog y Deyrnas Gyfunol a chyn hir mae hi’n arwain côr pedwar llais ar y geiriau Boris Johnson – bwwww a hynny ar batsh llwyd o balmant yr A470. Mae'r naws yn llac ac yn ysgafn ond hefyd yn gyfoethog â chydnabyddiaeth o frwydrau hanesyddol lleol a rhyngwladol. Trwy gydol y daith, ry'n ni'n cael ein cymell i ystyried gwahanol ffyrdd o ymyrryd mewn gofodau cyhoeddus er mwyn gorfodi newid, i ystyried sut y gall protest fod yn theatr, a theatr yn brotest, a'r graddau y gall y dychymyg torfol fod yn arf, dim ots beth yw'r frwydr. 

Fel cysyniad, mae'r strwythur hwn o ddrysau duon ar faes yr Eisteddfod – pafiliwn i ystyried gwahanol ystyron annibyniaeth mewn modd democrataidd – yn ddatblygiad naturiol yng ngwaith Marc Rees. O’i ddyddiau cynnar fel perfformiwr i gwmnïau theatr dylanwadol fel Brith Gof, i’w gyfnod yn y 90au a’r 00au fel lluniwr gweithiau theatrig amlgyfrwng, corfforol a phryfoclyd, mae Rees wedi bod yn herio cynulleidfaoedd yng Nghymru (ac ymhell tu hwnt) i ailystyried eu perthynas â gofodau ac amgylcheddau cyfarwydd, a hynny mewn ffyrdd chwareus a queer, â phwyslais ar y gwrthdaro rhwng cyd-destunau amrywiol – a'u mannau cwrdd annisgwyl. Yn AGORA, mae’n ein cymell i deimlo cysylltiad ag ysbryd safle penodol: Llanrwst, maes yr Eisteddfod – yr hyn y mae hynny’n ei olygu i wahanol bobl – a hefyd i daflunio’n deisyfiadau ar y ddelwedd hon o'r drws.
 

Golygfa o'r gosodwaith Niwl yn Oriel Ffin y Parc gan Sébastian Preschoux


Ar y nos Sadwrn agoriadol honno, wedi Ôl-Llywelyn ac agoriad swyddogol y senedd dros dro ar faes yr Eisteddfod, cynhaliwyd perfformiad arall fel rhan o raglen eang AGORA, yn oriel gelf fasnachol Ffin y Parc, funudau'n unig o'r maes. Ers ychydig wythnosau, roedd Niwl, gosodwaith ysbrydol o linyn coch gan y Ffrancwr Sébastian Preschoux, wedi ei osod o goeden i goeden tu allan i'r oriel. Daeth yn fyw, fel trydan, trwy gyfrwng gwaith coreograffig Matteo Marfoglia yn Llinyn / Llinell. Gwyliom y dawnswyr Angharad Harrop ac Angharad Jones yn crwydro o gwmpas y cerflun mewn symudiadau cynnil, wrth i sain telyn byw gael ei drin yn electronig o’u cwmpas, gan atseinio rhwng y coed. Parodd y perfformiad rhyw awr, oedd yn ddigon iddo bontio llwydlesni amwys y dydd a thywyllwch gwresog y nos. Pan orffennodd, roedd niwl arallfydol yn llenwi’r aer. Teimlai bron fel petai’r niwl yn rhan o’r cywaith unigryw hwn, rhwng y dawnswyr, y cerflun, a’r cerddorion.

✒︎

Ar y maes eleni mae stondin Yes Cymru yn brysur. Dyma’r Eisteddfod gyntaf ers i sticeri coch y mudiad ddod yn rhan eiconig ac anochel o wead gweledol strydoedd ein dinasoedd a’n ffyrdd gwledig. Ac mae’r mis Awst dryslyd hwn wedi teimlo i mi fel un o lanw a thrai, o newid yn sicr, a llif yn troi. Cynhaliwyd AGORA yn y cyfnod rhwng yr orymdaith dros annibyniaeth yng Nghaernarfon ddiwedd mis Gorffennaf, a’r un fawr nesaf, ar 7 Medi ym Merthyr. Cyfnod cymharol dawel, os oes ffasiwn beth heddiw, ym mhandemoniwm Brexit a gwleidyddiaeth San Steffan a Bae Caerdydd. Ac fe'i lleolwyd – trwy gyd-ddigwyddiad, am wn i – mor agos ag y gallai fod at stondinau Yes Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol.

Cofiaf naws unigryw Eisteddfod y Fenni yn 2016, wythnosau’n unig wedi’r bleidlais Gadael a’r myfyrio apocalyptaidd a gydiodd yn ein diwylliant yn ei sgil. Gadewais yr Eisteddfod honno yn fwy optimistaidd nag erioed am ddiwylliant Cymreig a Chymraeg: roedd yr wythnos yn wledd o ddiwylliant amgen, yn ysgogi deialog gadarnhaol a brwdfrydig, a theimlad hefyd o gymuned dorfol Gymreig oedd yn ymateb yn benodol i’r foment heriol honno. I mi, dyma oedd cymuned yn ystyried ei chyflwr o'r newydd, yn cwestiynu ei ffordd o fod yn wyneb heriau'r dyfodol, heb anghofio'r breintiau a'r naïfrwydd a'i galluogodd i gyrraedd moment llawn tensiwn fel hon. Os mai Eisteddfod o ailgydio mewn ymdeimlad torfol hyderus o Gymreictod yn sgil Brexit oedd y Fenni, Eisteddfod annibyniaeth oedd Eisteddfod Llanrwst. 

Er gwaethaf tuedd draddodiadol enillwyr y prif wobrau, dyma'r Eisteddfod ieuengaf ei hysbryd i mi ei chofio, a’r fwyaf uniongyrchol wleidyddol ei naws hefyd. Roedd ymdeimlad o egni newydd yn codi o'r holl fudiadau a phrosiectau annibynnol a gwleidyddol ar y maes eleni: gan bobl ifanc Codi Pais a Chyhoeddiadau'r Stamp, y llif eclectig o fandiau gwrthsefydliadol, esoterig sydd wedi ymddangos ar y sin, fel Pasta Hull, Pys Melyn, Tri Hwr Doeth a Kim Hon. A'r teimlad clir gefais oedd mai artistiaid yn eu hugeiniau oedd yn gyfrifol am fwyafrif y gwaith graenus a chyfoes yn Y Lle Celf eleni, o fideo remix tyner Gweni Llwyd i bortreadau Ab-Ex-aidd bythgofiadwy Tomos Sparnon i osodiad amlgyfrwng bywiol Hannah Cash. A fuodd diwylliant ifanc, annibynnol Cymraeg erioed mor iach â hyn? 

Bydd y pafiliwn democrataidd o ddrysau duon yn Eisteddfod Llanrwst, y drysau oedd yn ein gwahodd i daflunio strategaethau dychmygus torfol arnynt, yn aros yn y cof, fel symbol o'r trothwy ry'n ni arno heddiw. Gofod a delwedd awgrymog, ac ymdeimlad o lif yn dechrau troi. 


Mae gwaith Sébastian Preschoux i'w weld yn Oriel Ffin y Parc ger Llanrwst hyd 28 Medi 2019. 

Mae Dylan Huw yn gweithio yn arddangosfa Cymru yn Fenis yn ystod Medi 2019. Mae'n un o dîm National Theatre Wales.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Eisteddfod, Theatr, Dylan Huw

 


Mae’r mis Awst dryslyd hwn wedi teimlo i mi fel un o lanw a thrai, o newid yn sicr, a llif yn troi

Dyddiad cyhoeddi: 04·09·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ... 

Dadansoddi


Sioned Puw Rowlands

Fis Hydref eleni, yn fuan wedi cyhoeddi enw enillydd gwobr Nobel llenyddiaeth 2019 – Peter Handke (Griffen, Awstria, 1942) – cyhoeddodd PEN America eu bod yn gegrwth: ‘We are dumbfounded by the selection of a writer who has used his public voice to undercut…

Adolygu


Siân Melangell Dafydd

Sylwch ar ddarlun y nico bach, mor gysáct ei ystumiau, yn hedfan hyd glawr y gyfrol hon. Bron na ellir clywed fflap ei adenydd, ei gân benysgafn, sionc. Ond mae awgrym o rywbeth arall ar y clawr: darlun manwl berffaith cloc dant y llew…

Adolygu


Jerry Hunter

Mae hanes Unol Daleithiau America yn hanes ymerodraeth: dyna neges graidd y llyfr hwn. Yn ogystal â chraffu ar hynt imperialaeth Americanaidd, mae Daniel Immerwahr yn archwilio’r berthynas ryfedd rhwng dinasyddion yr Unol Daleithiau ac ymerodraeth eu gwlad. Fel yr awgryma teitl y gyfrol, ymerodraeth gudd ydyw o…

Adolygu


Mike Parker

Er na chefais gyfle hyd yma i gyfarfod â Daryl Leeworthy, awdur y gyfrol hon, rwyf wedi dod i’w nabod yn lled dda yn rhithfyd Twitter. Dywedodd wrthyf bod A Little Gay History of Wales yn ‘very “me”, as it were’. Ni allwn fod wedi cyfleu hynny’n…

Adolygu


Grug Muse

Dilyn hanes teulu ifanc o Grangetown mae’r nofel hon, a hynny yn sgil Brexit. Adroddir y stori o safbwynt tad ifanc o Gwm Gwendraeth, sef Carwyn. Dyma deulu bach niwclear dosbarth canol, efo morgais, y rhieni â graddau da i’w henwau, ac o leiaf un…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

1. y noson honno. 2. gadael yr Eglwys Gadeiriol. 3. dweud rhywbeth [fel hyn] wrtho fo [:]. 4. chwara teg, roedd yr hen gastrato na yn canu'n wych. Dwi wrth modd â'r math yna o sŵn – pedwar llais yn dod ynghyd felna, yn…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Mae'n haws gosod popeth mewn trefn. Llyma dechreu [sic] rhoddi trefn ar ... Rhaid eu rhestru: pry genwair / hunangenhedlahalogol / O bosibl ymysg y rhai a oedd wedi bwyta Liwsi a'r lleill ac amlygu'r esgyrn ...