Adolygu

Gêm y gorseddau Cymreig

Ifan Morgan Jones

Dadeni

Y Lolfa, 336tt, £9.99, Mai 2017

Gêm y gorseddau Cymreig
Math Wiliam

Amser darllen: 12 munud

12·07·2017

Y peth a fu, a fydd; a’r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul.
Pregethwr 1:9

Mae’n syniad sydd wedi croesi meddwl mwy nag ambell i Gymro a Chymraes wrth wylio Game of Thrones: ‘Fe ddylai rhywun roi’r driniaeth hon i’r Mabinogi’. Nid dyna'n union a geir yn Dadeni ond mae digon yma i fodloni chwant selogion y gyfres honno am drais, rhyw a chyffro, diolch i antics ansbaradigaethus cymeriadau fel y Saith, Ceridwen a’r Bwtler. Nofel yw hon sy’n plethu chwedlau’r Mabinogi, gwleidyddiaeth y Cynulliad a’r Gymru fodern er mwyn ceisio rhoi bywyd newydd (yn llythrennol) i arwyr mytholegol Cymru, a hynny wrth gynnig dadansoddiad craff o gyflwr gwleidyddol a chymdeithasol ein cenedl yn y cyfnod cyfoes. Roedd y dasg a osododd yr awdur iddo’i hun yn un a fyddai wedi codi braw ar Culhwch ei hun. O ystyried bod diddordeb a dealltwriaeth y Cymry cyffredin o’u hanes chwedlonol eu hunain yn fregus a dweud y lleiaf, roedd angen addysgu’r darllenwr am arwyddocâd y straeon a’r cymeriadau sy’n greiddiol i’r nofel er mwyn iddynt allu deall be ar wyneb y ddaear (ac Annwn) sy’n digwydd, a hynny mewn modd na fyddai’n nawddoglyd i’r darllenwyr hynny sydd eisoes yn gyfarwydd â’r Mabinogi. Llwyddodd yr awdur i wneud hyn yn grefftus dros ben trwy gyflwyno trwch y naratif drwy lygaid Joni, bachgen ysgol sydd ar fin eistedd ei arholiadau Lefel A. Dyw Cymraeg ddim yn un o’i bynciau felly mae Joni’n crafu’i ben wrth geisio amgyffred pam goblyn y mae pen Bendigeidfran mor fawr â pham bod y Pair Dadeni yn rhywbeth y mae lladron rhyngwladol yn awyddus i’w ddwyn. Trwy lwc, mae ei dad Bleddyn yn un o brif arbenigwyr y byd yn y maes, ac ato ef y mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth gwyrdroëdig Llywodraeth Cymru yn troi am gymorth pan ddaw i’r amlwg bod gan drosedd anesboniadwy yn Nhŵr Llundain gysylltiad annelwig â chwedloniaeth Cymru. Mae’r ddyfais blot yma’n un o nifer yn y llyfr sy’n gweithio’n neilltuol o dda ac yn sicrhau bod y nofel yn hunangynhwysol – hynny yw, does dim angen unrhyw wybodaeth flaenorol ar ddarllenydd i’w mwynhau ond bydd y rheiny sy’n ddigon craff i ddatrys ambell bos cyn i’r esboniad gael ei gyflwyno hefyd yn cael eu gwobrwyo.

Mae’r cymeriadu ar y cyfan yn neilltuol o gryf ac argyhoeddiadol. Mae angst Joni a’r ffordd y mae’n ymateb i ddigwyddiadau o’i gwmpas yn hollol gredadwy ac fe’m cefais fy hun yn ei annog neu eisiau ei gysuro ar sawl achlysur, yn enwedig ar ôl y drasiedi sy’n ei wynebu ef a’i gariad – Iaco – ar ddechrau’r nofel. Mae stori’r ddau yn fwy ‘Romeo a Juliet’ nag unrhyw beth y gwn amdano yn y Mabinogi. Er y tristwch sy’n dilyn, mae naturioldeb y berthynas hoyw hon yn braf i’w ddarllen ac yn hoelio’r darllenydd yn y presennol – mae hyn yn bwysig am fod y syniad o amser yn beth hydrin mewn rhannau o’r naratif. Mae Isgoed yr heddwas hefyd yn gymeriad y gallwn uniaethu’n llwyr ag o – yn wir, teimlwn yn aml ei fod yn gyfaill mynwesol i mi. Daw golygfa fwyaf dirdynnol y nofel wrth i Isgoed gysuro ei fab marw-anedig yn ei freichiau. Mae'r ysgrifennu yn y fan hon yn feistrolgar ac fe fydd ôl sawl deigryn ar dudalen 62 y nofel mewn tai hyd a lled y wlad, gan gynnwys yn fy nghopi i.

Yr unig gŵyn sydd gen i yw bod mwyafrif y cymeriadau benywaidd braidd yn ddau-ddimensiynol ac yn gaeth i’w tynged. Mae’r Aelod Cynulliad Alaw Watkins, er enghraifft, yn cael ei harwain a’i manipiwleiddio gan bobl (a gwrthrychau) o’i chwmpas. Un o’r bobl hynny yw’r gwleidydd Plaid Cymru profiadol, Dafydd Morris-Hopkins. Wedi iddo ymddangos, ffliciais yn ôl i’r dechrau i weld a oedd y datganiad arferol yno – sef bod unrhyw debygrwydd rhwng y cymeriadau a phobl go iawn yn ‘gyd-ddigwyddiad llwyr’. Oedd, roedd yno, ond mae binsiad go dda o halen yma hefyd, ddywedwn i, fel ar ddechrau’r gyfres deledu South Park, sydd yn ymdrin â phobl go iawn heb wneud unrhyw ymdrech o gwbl i guddio am bwy y sonnir. Gallaf ddweud â chryn sicrwydd y bydd darllenwyr sy’n lled-gyfarwydd â gwleidyddiaeth Cymru yn gallu dyfalu’n union yr hyn y mae’r ‘cymeriad’ dadleuol hwn yn ceisio’i gyflawni o’r dechrau!

Mae hi’n her sylweddol ceisio gwneud gwleidyddiaeth Gymreig yn ddiddorol i bobl am nad oes fawr ddim yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Ateb yr awdur i’r broblem hon yw gwneud gwleidyddiaeth Cymru yn ddiddorol. Mae Alaw’n brwydro yn erbyn y biwrocrat o Brif Weinidog â gwallt llwyd (swnio’n gyfarwydd?), â chymysgedd o arddeliad, hud a chynllwynio o’r math a welir gan gymeriad Kevin Spacey yn House of Cards. Mae yna fargeinion y tu ôl i ddrysau caeedig, isetholiadau, dwbl-ddelio, clymbleidio ac, yn goron ar y cyfan, caiff Aelod Cynulliad ei lofruddio. Mae’r cwbl yn gweithio; mae’n ddiddorol ac fe gaiff y tudalennau eu troi’n awchus er mwyn darganfod beth yw’r tro nesaf yn y plot. Tipyn o gamp. Efallai nad yw’r hanes yn gwbl realistig, ond pan fo duwiau’n troedio ein tir, brain milain yn rhempio drwy Brydain a hen ddynes yn galw ar storm o geffylau i achub y dydd, oes ots? Nofel ffantasi yw hon wedi’r cwbl a hynny yng ngwir ystyr cyffrous y gair.

Mae’r berthynas rhwng gorffennol Cymru a’i phresennol yn thema sy’n rhedeg ar hyd y nofel ac yn clymu’r gwahanol blethi at ei gilydd. Ceir ymdriniaeth â chwestiynau fel ‘Pam fod holl hanes y Natsïaid ond y nesaf peth i ddim am ein hanes ein hunain ar ein cwricwlwm cenedlaethol?’, ‘Beth yw gwir ystyr cenedl?’ ac ‘I ba raddau y dylid gweithredu er mwyn ei hachub?’.

Mae’r ddyfais a ddefnyddir i symboleiddio’r drosedd o anghofio am ein gorffennol yn un a fydd yn gyfarwydd i ddarllenwyr sydd wedi gwylio’r gyfres deledu American Gods. Mae’r duwiau a gredwn ynddynt yn troedio’r ddaear ond mae eu bodolaeth yn ddibynnol ar gael eu cofio, ac mewn rhai achosion, eu haddoli. Yr enw ar y cysyniad hwn, mae’n debyg, yw thoughtform. Cafodd y llyfr y seilir y gyfres honno arno ei ysgrifennu yn 2001 felly cyd-ddigwyddiad pur yw ei bod ar ein sgriniau tua'r un pryd ag y cafodd Dadeni ei chyhoeddi. Mae hi’n gwbl bosib, wrth gwrs, bod Ifan Morgan Jones a Neil Gaiman wedi cael y syniad ar wahân i’w gilydd heb fod yn ymwybodol o waith y llall – fel yr honnir yn achos Darwin ac Alfred Russel Wallace a’u damcaniaethau nhw am esblygiad. Ta waeth am hynny, does dim ots yn y pen draw am fod syniad gwreiddiol ar blaned â saith biliwn o bobl arni yn rhywbeth sydd mor brin â’r dodo, bron iawn. Does dim byd newydd dan haul wedi’r cwbl – ond mae yna lawer sy’n unigryw. Y peth pwysig yw bod y ddyfais yn gweithio yn y cyd-destun penodol. Ac yng nghyd-destun y nofel hon, mae’n rhoi gwedd real a brawychus i’r ffaith ein bod yn gwneud cam mawr â ni’n hunain, ein cenedl ac â chenedlaethau’r dyfodol, drwy esgeuluso’r hyn sydd nid yn unig yn greiddiol i’n bodolaeth ond sydd hefyd yn ddiddorol ac yn unigryw ac yn haeddu cael ei gofio.

Nodwedd hynod arall ar y nofel yw arferiad yr awdur i synfyfyrio a chynnig ei ddadansoddiadau ei hun o wleidyddiaeth, ynghyd â datrysiadau posib, a hynny yn lleisiau ei gymeriadau. Mae yma sawl testun sgwrs a fydd yn gyfarwydd i unrhyw un sy’n ymdrybaeddu mewn cylchoedd gwleidyddol yn nhai potas Cymru. ‘Paham nad oes gan Gymru ffordd gall rhwng y gogledd a’r de?’, er enghraifft. Bydd darllenwyr yn eu cael eu hunain yn cytuno, yn damnio ac yn cyffroi o bryd i’w gilydd gan fomentau ‘Eureka’ ar y naill llaw a chan rwystredigaeth ar y llall. Mae hyn yn werthfawr – bydd yn gwneud i bobl feddwl, ystyried ac efallai geisio gweithredu. Ac onid hynny yw un o brif amcanion llenyddiaeth fawr? Byddai Tolstoy yn siŵr o gytuno.

Mae Dadeni yn glasur modern. Mae hi’n glasur am ei bod hi’n ymdrin â’r cwestiynau mawr sy’n wynebu ein cenedl mewn modd arbennig o ddeallus a threiddgar. Mae hi’n fodern am ei bod wedi ei gosod yn y presennol, ac yn benthyg yn helaeth o ddiwylliant cyfoes y naill ochr i’r Iwerydd. Nid beirniadaeth yw hynny - os yw iaith a diwylliant Cymraeg am barhau dros y canrifoedd nesaf, dyna’n union y mae angen ei wneud, sef gwneud Cymru, y Gymraeg a Chymreictod yn berthnasol i genhedlaeth ifanc heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. O na bai gan ryw uwch-gynhyrchydd yn S4C y dewrder i droi’r nofel yn gyfres deledu!

Mae Dadeni yn chwip o nofel afaelgar a chyffrous. Prynwch hi ar unwaith i’ch plant a’ch wyrion – cewch ei darllen ar eu holau. Ni fydd angen i chi aros yn hir, byddan nhw wedi ei chwblhau mewn dim o dro.

Mae Math Wiliam yn gyn-newyddiadurwr sydd bellach yn gweithio ym maes cyfathrebu gwleidyddol.

Mae’r cwbl yn gweithio ... ac fe gaiff y tudalennau eu troi’n awchus er mwyn darganfod beth yw’r tro nesaf yn y plot. Tipyn o gamp.

Pynciau:

#Ifan Morgan Jones
#Nofelau