Adolygu

Colli dail

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol o Y Tad gan Florian Zeller


Llŷr Titus

Amser darllen: 5 munud

07·03·2018

‘Gobeithio na fyddan ni fel ’ma ynde.’

Dyma eiriau aelod o’r gynulleidfa wrth adael Theatr Bryn Terfel yn Pontio, Bangor – geiriau oedd, yn anad dim, yn dadlennu maint y gnoc emosiynol a gafwyd gan gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama'r Ffrancwr, Florian Zeller. Dyma eiriau sydd hefyd yn ein hatgoffa o'r ansicrwydd sydd yn rhan annatod o gyflwr dementia. Rydw i’n un o leiafrif – a fydd ymhen blynyddoedd, mae'n debyg, yn fwyafrif – sydd â phrofiad uniongyrchol o'r cyflwr hwn. Er bod y pwnc bellach rhyw fymryn yn dreuliedig, tydi hynny ddim yn golygu nad oes mwy i’w gynnig i gyfoethogi'r drafodaeth hon, a braf am newid ydi gweld drama yn Gymraeg, yn hytrach na cherdd arall ar y Talwrn, er enghraifft, yn trafod dementia.

Drama am ansicrwydd ydi Y Tad: ansicrwydd Arwyn y prif gymeriad wrth iddo lithro’n ddyfnach i afael dementia, ansicrwydd ei deulu ac ansicrwydd y gynulleidfa hefyd. Mae'r sgript yn un gref, fel y gellid disgwyl o gofio bod y ddrama wreiddiol wedi ennill Gwobr Molière 2014 am y ddrama orau yn Ffrainc, ac wedi cyrraedd llwyfannau Llundain a Broadway yn Saesneg. Yn sicr, mae crefftwaith Zeller fel dramodydd yn werth ei brofi. Mae ei ddull penodol o gyflwyno cymeriadau a golygfeydd yn llwyddo i gyfleu sefyllfa Arwyn mewn modd sy'n anesmwytho'n gynnil. Byddai disgrifio’r union ddull yn lleihau’r effaith i'r rhai nad ydynt eto wedi gweld y ddrama, ond yn sicr mae Zeller yn llwyddo i aflonyddu cynulleidfa ac i gynnig cip ar effaith y cyflwr hwn ar y bobl sydd yn gylch tystion i'w bŵer dinistriol.

Cyfieithwyd ac addaswyd y sgript i'r Gymraeg yn gelfydd gan Geraint Løvgreen. Troswyd y lleoliad a'r gyfeiriadaeth yn naturiol ddigon o'r cyd-destun gwreiddiol i gyd-destun Cymru. Pe bawn i ddim yn ymwybodol mai cyfieithiad oedd y cynhyrchiad hwn dan gyfarwyddyd Arwel Gruffydd, fyddwn i fawr callach, mor naturiol oedd y ddeialog.

Fel y trosi, doedd y set ddim yn tynnu gormod o sylw ati’i hun. Roedd yn ddigon gwyn a chlinigol i fod yn gartref modern neu’n gartref gofal ac roedd yr ansicrwydd ynghylch union swyddogaeth y lleoliad eto yn chwarae rhan ganolog yn y ddrama. Drwy newid y dodrefn yn unig rhwng golygfeydd, a chadw cragen y stafell, llwyddwyd i gynnig cip ar ddryswch Arwyn – yr un stafell oedd hi ac eto, roedd y dodrefn yn wahanol a’r cymeriadau eraill yn honni eu bod nhw wedi symud i leoliad arall. Drwy’r ffenest, roedd coeden foel i’w gweld ac fe ddaeth honno’n symbol o Arwyn wrth iddo yntau ‘golli’i ddail’.

Gan Dyfan Roberts oedd y gwaith mwyaf yn y cynhyrchiad hwn. Roedd ei bortread o Arwyn (gŵr uchel ei barch oedd wedi arfer bod wrth y llyw) wrth iddo lithro’n ddyfnach i afael yr afiechyd, ac yn llwyr ymwybodol o hynny, yn un sensitif a chaboledig. Rhaid ei longyfarch am lwyddo i bortreadu cymhlethdod ei gymeriad, nad oedd bob tro yn hoffus ond er hynny'n ennyn cydymdeimlad. O’m rhan fy hun, cynhesais ato wrth i’r ddrama ddatblygu. Buan y daeth dyfnder ei bersonoliaeth i’r wyneb er bod y portread cychwynnol yn gwyro rhyw fymryn yn rhy agos at hen ŵr ystrydebol yn brygowthan.

Rhaid canmol Catrin Mara yn ogystal ar ei phortread o Ann, y ferch a oedd hefyd yn gofalu am Arwyn. Nid yn unig roedd ei hymateb uniongyrchol i'r cymeriadau eraill yn gredadwy a theimladwy ond roedd ei hymateb anuniongyrchol, a hithau yn y cefndir wrth i Arwyn siarad a symud ar y llwyfan, yn werth ei weld hefyd. Mae hi wastad yn syniad edrych ar actorion sy'n dawel mewn cynhyrchiad, a chollodd Catrin Mara’r un cyfle i bortreadu mwy ar Ann, rhywun wedi cyrraedd pen ei thennyn, yn llawn dryswch a’r poen meddwl sydd yn dod yn sgil y pwysau i fod yn ofalwraig ac yn ferch.

Ym mhortread eglur Mirain Fflur o’r ofalwraig swyddogol, Laura, cafwyd ysgafnder a brofodd yn hanfodol i weddill y ddrama. Roedd cael cymeriad mor hwyliog â Laura yn codi hwyliau rhywun. Ond roedd y diffyg amrywiaeth yn nhôn y llais yn fy nharo'n broblematig ar adegau. Waeth os oedd y llinell yn llon neu’n lleddf doedd yna fawr ddim amrywiad i'w ddirnad. Mewn drama wahanol, efallai na fyddai hyn wedi bod mor amlwg, ond gan mai drama ddistaw a chynnil ydi Y Tad at ei gilydd, roedd y diffyg amrywiaeth tôn hwn yn amlygu ei hun yn ormodol i mi.

Er bod ganddi rôl lai amlwg, llwyddodd Fflur Medi Owen i gyfleu cynhesrwydd ei chymeriad tuag at Arwyn. Unwaith eto, anodd ydi rhoi canmoliaeth deg heb ddatgelu gormod, ond llwyddodd i osod ei stamp ei hun ar ei dehongliad o gymeriad Dynes, heb wneud hynny mewn ffordd rhy echblyg. Beth am y dynion a oedd yn rhan o stori Arwyn? Roedd Dafydd Emyr a Rhodri Siôn ill dau yn cynnig portreadau hyderus a chyhyrog o ddynion rhwystredig a oedd yn fygythiol a chlên am yn ail. Tua diwedd y ddrama llwyddodd Rhodri Siôn i fy sobri wrth wneud dim mwy na cherdded drwy ddrws a gwylio ymateb Dyfan Roberts o bell.

Clasurol fyddai’r ansoddair gorau i ddisgrifio’r cyfarwyddo. Roedd yr actorion yn dod ar y llwyfan ac yn gwneud yr hyn oedd yn rhaid ei wneud cyn gadael yn ôl y gofyn. Cafwyd monolog yn wynebu’r gynulleidfa mewn golau sbot gyda gweddill y llwyfan wedi ei dywyllu. Wrth gwrs does dim o’i le ar hyn fel y cyfryw. Ond fel sain y piano ar ddechrau’r ddrama a rhwng golygfeydd, roedd y cynhyrchydd wedi penderfynu dibynnu ar dechnegau braidd rhy saff at fy chwaeth i.

Drama solat ydi cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Florian Zeller. Mae'n werth ei gweld, petai ond er mwyn profi sut y mae Zeller yn chwarae gyda disgwyliadau cynulleidfa. Ond mae yna fwy i’w werthfawrogi a'i fwynhau na hynny, wrth gwrs.

Rhan o gyfres o ddramâu yn trafod gofal a lles ydi hon sy'n rhan o arlwy'r Theatr Genedlaethol i ddathlu pen-blwydd y gwasanaeth iechyd yn 70 eleni. Dyma weithred a allai, yn yr hinsawdd bresennol, gael ei gweld fel un wleidyddol. Newyddion da iawn ydi bod gan Theatr Cymru weledigaeth yn hyn o beth, yn enwedig wrth gofio bod theatr fel iechyd, yn wasanaeth cymdeithasol. Pwy a ŵyr os mai ‘fel hyn y byddan ni’, ond fe fydd celfyddyd yn parhau i drafod y cwestiynau mawr, gobeithio, ac fel Y Tad, yn peri i rywun feddwl a thrafod – a diolch byth am hynny.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Llŷr Titus, Theatr, Iechyd meddwl

 


Rhan o gyfres o ddramâu yn trafod gofal a lles ydi hon sy’n rhan o arlwy’r Theatr Genedlaethol i ddathlu pen-blwydd y gwasanaeth iechyd yn 70 eleni. Dyma weithred a allai, yn yr hinsawdd bresennol, gael ei gweld fel un wleidyddol

Dyddiad cyhoeddi: 07·03·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…

Adolygu


O’r Pedwar Gwynt

Lle mae'r nofelydd Cymraeg sy'n abl i gymell cenedl gyfan i sefyll o flaen ei gwell? Dyma gwestiwn sy'n codi'n gyson yn sgyrsiau anffurfiol O'r Pedwar Gwynt. Gyda marwolaeth Philip Roth ar 23 Mai 2018, awdur yr enwog American Pastoral (1997), mae’r cwestiwn yn codi ei ben eto fyth.

Dadansoddi


Nerys Williams

Roedd hawliau atgenhedlu ac iechyd menywod yn perthyn yn naturiol i diriogaeth ddi-nod fy mhlentyndod yng ngorllewin Cymru'r saithdegau. Nyrs ardal a bydwraig oedd fy mam ac yn ystod gwyliau'r haf byddwn yn mynd gyda hi ar ei rownds. Gwrando ar dapiau ar y stereo…

Dadansoddi


Qing Niao

Mae'r Tsieineaid yn hoff o ddilyn ffasiwn ac wrth eu boddau yn trwytho eu hunain mewn moethusrwydd, lliwiau a phatrymau. Yn bwysicach na dim i'r Tsieineaid y mae gwneud yr argraff iawn: mae'r awydd i dynnu sylw yn gryf ond hefyd yr awydd i…

Adolygu


Mike Parker

Wrth ymddeol, troi at yoga neu jig-sos mae ambell un. Ond her go swmpus mae John Osmond – cyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig ac, ar un adeg, ymgeisydd Plaid Cymru yn ei ardal enedigol, Sir Benfro – wedi gosod iddo'i hun. Mae wrthi'n…

Adolygu


Alan Llwyd

Rhyw fath o Bum Llyfr Kerddwriaeth sydd gen i, sef pum llyfr o farddoniaeth. Mae gen i lyfrgell eang o ryw dair mil o lyfrau yn fy nghartref, a bûm yn ddarllenwr mawr oddi ar fy arddegau cynnar. Mae cannoedd o…

Adolygu


Janet Aethwy

Te yn y Grug gan Kate Roberts (1959)

Bu'r llyfr hwn yn ddylanwad mawr arna i. Dyma un o'r darnau cyntaf erioed i mi ei berfformio ar lwyfan ac roedd geiriau Kate Roberts yn rhan annatod o’r cyfareddu. Bûm yn ffodus i’m hathro Cymraeg ar y pryd benderfynu…