Adolygu

O ‘Te yn y Grug’ i ‘Pan’s Labyrinth’

Janet Aethwy

Amser darllen: 7 munud

09·05·2018

Te yn y Grug gan Kate Roberts (1959)

Bu'r llyfr hwn yn ddylanwad mawr arna i. Dyma un o'r darnau cyntaf erioed i mi ei berfformio ar lwyfan ac roedd geiriau Kate Roberts yn rhan annatod o’r cyfareddu. Bûm yn ffodus i’m hathro Cymraeg ar y pryd benderfynu addasu'r gyfrol hon o straeon a’i dramateiddio yn arbennig i ni griw o ferched ysgol awyddus. Dwi’n dal i gofio'r gwisgoedd a’r props a Mrs Jones dros-y-ffordd yn ein helpu, yn mynd i drafferth i wneud crempogau a jeli i ni gael eu bwyta go iawn ar y llwyfan.

Mae’r straeon mor fyw ag erioed o'u darllen heddiw. Wrth ysgrifennu sioe un ddynes am Kate Roberts yn ddiweddar cefais fy synnu'n fawr wrth ddarganfod mai yn ei phumdegau yr ysgrifennodd Te yn y Grug; chyhoeddwyd mo’r gyfrol tan oedd Kate Roberts yn 68 mlwydd oed. Dyma brawf sicr o’i dawn ryfeddol i fynd i fyd plentyn a gweld y manion bach rheiny rydan ni gyd wedi eu hanghofio ond yn gallu uniaethu â nhw, o gael ein hatgoffa ohonynt.
 

Kate Roberts a John Gwilym Jones ar achlysur cyflwyno ei chartref, Cae'r gors i'r genedl yn Rhosgadfan, 1971

Wrth iddi dyfu, mae Begw yn gorfod delio gyda rhai o brofiadau mwyaf annymunol a brawychus bywyd. Yn y stori gyntaf, mae hi’n dod wyneb yn wyneb â marwolaeth, ond yn fwy arwyddocaol na hynny, mae’n dod wyneb yn wyneb â chreulondeb byd oedolion pan ddaw i wybod mai ei thad sydd wedi boddi Sgiatan ei chath. Mae’r themâu oesol hyn wastad wedi fy niddori yng ngwaith Kate Roberts a dwi’n credu'n gryf fod blynyddoedd ein plentyndod a’u holl ryfeddodau, o ddysgu a darganfod y drwg a’r da, yn dylanwadu arnom am weddill ein hoes. Yn amlach na pheidio, mae’r gelfyddyd orau, yn fy marn i, yn tynnu ar y profiadau oesol hyn. 

Pan’s Labyrinth gan Guillermo del Toro (2006)

Ffilm dywyll, ffantasïol gan y cyfarwyddwr Mecsicanaidd Guillermo del Toro ydi Pan's Labyrinth. Fe'i gosodwyd yn y flwyddyn 1944, rai blynyddoedd ar ôl diwedd y rhyfel cartref yn Sbaen. Mae’r naratif yn gweu’r byd treisgar, real hwnnw gyda byd ffantasïol, mytholegol ynghudd yn nrysni coedwig. Merch fach un-ar-ddeg oed yw'r prif gymeriad, Ofelia. Mae Ofelia yn dywysoges ond mae wedi anghofio pwy ydi hi. Dilyn ei hynt mae'r naratif wrth iddi fynd ar daith i'r byd arall lle daw creadur dirgel yn ffrind iddi. Dameg sydd yma a honno’n cael ei hadrodd fel petai’n stori dylwyth teg. 

Ffilm dreisgar a dychrynllyd ydi hon mewn gwirionedd sy'n adlewyrchu poen y ddynoliaeth a'r gynneddf i chwilio am ddihangfa. Mae effeithiau arswydus rhyfel yn gyrru'r cymeriadau i isfyd lle mae creaduriaid dychrynllyd o hardd yn byw. Dyma hunllef drawsffurfiol sydd eto'n llawn gobaith bywyd. Ceir cymysgedd o realiti a ffantasi, gwleidyddiaeth a barddoniaeth, poen a phleser, gan greu ffilm epig ei naws. Wrth weu'r cyfanwaith ynghyd, mae de Toro yn rhoi ei ffydd mewn gweledigaeth farddonol, gan awgrymu mai trwy gyfrwng barddoniaeth mae dod o hyd i wirioneddau bywyd. 

Dydi’r elfen arswyd yn y ffilm hon ddim yn apelio ata i yn arbennig; i ddweud y gwir, mae’n codi gormod o ofn ar brydiau. Mae cryfder y ffilm ym mharodrwydd del Toro i wynebu poen; mae'n archwilio a chyfleu natur poen emosiynol drwy ystyried y berthynas rhwng diniweidrwydd, creulondeb a phrydferthwch mewn modd medrus iawn. Yn hynny o beth, mae’r themâu’n rhai tebyg i Te yn y Grug. Y gonestrwydd ciaidd hwn yn y gwaith sydd yn fy swyno. Gwobrwywyd y cyfarwyddwr eleni eto am ei ffilm ddiweddaraf, The Shape of Water (2017).

Theatr Bara Caws yn y 70au

Dyma theatr syml, yn dibynnu ar set sylfaenol, gwisgoedd lliwgar, sgript arbennig ac actio hyblyg, egnïol. Wrth weld a theimlo agosatrwydd Valmai Jones a Iola Gregory yn dawnsio’n wyllt ac efo hiwmor mewn sgertiau pinc ffriliog, yn dynwared ac yn creu darnau o waith dychanol a gwleidyddol mewn rhyw neuadd fach bentref gyffredin, mi feddyliais wrth fy hun mai rhywbeth felna faswn i’n lecio ei wneud rhyw ddiwrnod.

Roedd yr elfen werinol, llawn hiwmor a choegni yn fy nenu a’r actio di-flewyn-ar-dafod yn cyfathrebu'n uniongyrchol â’r gynulleidfa. Ac roedd gan y rhain rywbeth i ddweud wrthym; roeddan nhw am greu cyswllt efo ni mewn ffordd uniongyrchol a phowld – a hynny drwy gomedi a chân, dawns a rhialtwch, ond mewn ffordd syml, ansoffistigedig a chartrefol. Yn rhyfedd hefyd roedd agosatrwydd corfforol yr actorion yn denu ac yn rhoi'r profiad i'r gynulleidfa o fod wedi closio atynt mewn ffordd cwbl wahanol i ffilm. Bron na allwn i ddweud mod i’n gallu eu clywed yn anadlu a theimlo gwres eu hegni wrth i’w gwisgoedd ysgubo heibio. Roedd hynny’n rhoi gwefr fach dawel i un nad oedd wedi profi rhyw lawer o theatr fel hyn o'r blaen. [Yn y llun: Mei Jones, Valmai Jones, Dyfan Roberts, Iola Gregory, Catrin Edwards; hawlfraint y llun: Theatr Bara Caws.]

The Cook, The Thief, His Wife and Her Lover gan Peter Greenway (1989)

Wedi ei chyfarwyddo gan Peter Greenway, mae hon yn ffilm theatrig, operatig ac esthetig ei naws. Ar ei ffurf fwyaf syml mae hi’n stori gignoeth am gogydd, lleidr, ei wraig a’i chariad, fel yr awgryma'r teitl. Defnyddir alegori mewn ffordd wleidyddol gan Greenway i ymosod ar Thatcheriaeth. Dyma ffilm sy'n dal i fod yn berthnasol iawn i'n cyfnod ni, yn ein cymell i ystyried dinistr cwmnïau mawr diegwyddor o'r amgylchfyd, eu herlid o'r diniwed, a'u gormes dros gwmnïau bychain.

Tydi hi ddim yn ffilm hawdd i'w gwylio. Mae pob golygfa'n ddigyfaddawd, yr actio'n fawr a dramatig a’r golygfeydd yn codi cyfog ar adegau, yn rhywiol iawn brydiau eraill. Mae'r golygfeydd yn dreisgar, yn hyll, yn egsotig a grotésg. Ond mae fel petai holl elfennau'r ffilm hon wedi eu hystyried yn fanwl ac er bod yr arddull yn alegorïaidd, mae'r cymeriadau'n gredadwy a chryf. Cawn bortread gwirioneddol atgas o'r lleidr gan Michael Gambon. Helen Mirren sydd yn actio ei wraig. Fe'i gwelwn yn gweddnewid yn ystod y ffilm o fod yn wraig ymostyngol i fod yn gariad mentrus ac yn droseddwraig greulon sy’n mynnu dialedd.

Gwneir defnydd symbolaidd, hynod drawiadol o liw gan Greenway. Ceir gwahanol liwiau i wahanol adrannau o’r set a phan mae’r actorion yn symud o un lle i’r llall mae eu gwisgoedd hefyd yn newid lliw; mae’r camera wedyn yn symud o un set i’r llall fel petai’n symud o un llwyfan i lwyfan arall. Nid y goleuo yn unig sy'n newid, mae'r gwisgoedd hefyd yn newid lliw. Cynlluniwyd y dillad gan Jean-Paul Gaultier; maent yn danbaid ac yn adlewyrchu natur personoliaethau’r cymeriadau a datblygiad y naratif. Llwydda cynllun y set hefyd, fel y goleuo a'r defnydd arbennig hwn o liw, i gyfrannu at greu cyfanwaith tanllyd ac ysblennydd.   

Mae hon yn ffilm drawiadol, eithafol, i'w gwylio eto, ei harchwilio a'i hystyried. Mae'n apelio at fy mhum synnwyr. Mae’n wledd sy'n aflonyddu mewn mwy nag un ffordd. 

Y Sagrada Família gan Antoni Gaudí (1882 hyd heddiw)

O weld yr adeilad hynod hwn o’r tu allan, rhyfeddu at ei fawredd mae rhywun i ddechrau ac yna rhyfeddu at yr elfen ffantasïol, anhrefnus a lletchwith sy’n ymylu ar fod yn ormesol. Ond does dim byd yn paratoi rhywun at yr ysblander sy’n eich taro wrth fynd i mewn i’r adeilad. Mae’r golau sydd yn tywynnu drwy’r ffenestri yn hudo’n syth bin a’r lliwiau fel diamwntiau yn wincio o bellafoedd nen wrth i chi ymestyn i edrych yn bell uwchben a methu â rhoi gorau i syllu ar y fath ogoniant. Mae'r eglwys hon yn teimlo mor fodern hyd yn oed heddiw, 136 mlynedd ers dechrau ei hadeiladu yn 1882. Wrth i’r haul symud yn ystod y dydd mae’r golau’n treiddio o wahanol gyfeiriadau a'r amrywiol ffenestri’n cyfryngu'r golau mewn ffyrdd neilltuol. Mae Gaudí yn hoff o dynnu ar natur am ei syniadau cynllunio; mae’r colofnau gwyn gosgeiddig sy'n cynnal yr eglwys yn ymddangos fel petaent yn tyfu’n organig o’r ddaear a’r ffenestri lliwgar yn adlewyrchiad o liwiau natur ar ei gorau. Dwi di gweld sawl eglwys gywrain, hardd a chlasurol ei ffurf, ond does dim byd yn debyg i’r ehangder ysblennydd ac arallfydol hwn gan Gaudí.

Janet Aethwy yw Cyfarwyddwr Estron, gwaith buddugol y Fedal Ddrama, 2017 gan Hefin Robinson. Mae'r cynhyrchiad ar daith gyda'r Theatr Genedlaethol hyd 19 Mai 2018.

Wrth weld a theimlo agosatrwydd Valmai Jones a Iola Gregory yn dawnsio’n wyllt ac efo hiwmor, yn dynwared ac yn creu darnau o waith dychanol a gwleidyddol mewn rhyw neuadd fach bentref gyffredin, mi feddyliais wrth fy hun mai rhywbeth felna faswn i’n lecio ei wneud rhyw ddiwrnod

Pynciau:

#Pensaernïaeth
#Kate Roberts
#Theatr