Adolygu

Gweld yr Anweledig

Cynhyrchiad y Frân Wen o ddrama Aled Jones Williams


Angharad Tomos

Amser darllen: 5 munud

06·03·2019


Da oedd gweld y theatr yn Pontio yn gyfforddus lawn ar nos Iau, 21 Chwefror ar gyfer y ddrama Anweledig. Roedd y cynhwysion cywir ar gyfer noson dda yno – Ffion Dafis yn gwneud sioe un wraig, ac Aled Jones Williams yn awdur. Ychwanegwch ddyfeisgarwch Cwmni'r Frân Wen, gweledigaeth Gwyn Eiddior, mewnbwn rhai fel Osian Gwynedd ac Eddie Ladd, ac fe wyddech nad oedd hwn am fethu. Eisiau gweld beth oedd yn newydd yn y gwaith oeddwn i.

Cymerais ddiddordeb yn y prosiect hwn o'r cychwyn cyntaf. Yn wreiddiol, Seiciatrydd Nodedig yn ei Faes oedd wedi gofyn am waith ymchwil i ddogfennu profiadau cleifion iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Y bwriad oedd herio'r stigma sydd ynglŷn â salwch meddwl. Mae camau breision wedi eu gwneud yn y maes hwn yn y saith mlynedd ers llwyfanu monolog cyntaf o'r ddrama hon yn y Lle Celf yn Steddfod Dinbych 2012. Dwi'n ddigon hen i gofio'r stigma oedd yn gysylltiedig ag Ysbyty Meddwl Gogledd Cymru, Dinbych. Fel dywed Aled yn y ddrama, doedd neb yn dweud 'Dimbach', dim ond yn gwneud siâp ceg. Neu, os oeddech chi'n llai o ddifri, ac eisiau dweud fod rhywun 'off ei phen', roedd hi 'wedi mynd i Denbi'. 

Fel un fu'n glaf yn Ward Hergest (y fersiwn gyfoes o 'Dinbach'), ac efo Nain yn Ysbyty Dinbych am dros ugain mlynedd, roedd y testun yn un tra pherthnasol i mi, a dydw i ddim yn ystyried fy hun mewn lleiafrif. Rhan o orffennol cudd ydyw salwch meddwl i gymaint o bobl, ac mae cael drama Gymraeg yn trafod y mater yn gyhoeddus yn ddigwyddiad go radical. Ys dywed Aled, 'Rhoi ryw hawl i bobl mae o [y perfformiad] i fedru deud ... mae'n oce, mae'n iawn i mi fedru mynegi hyn a salwch ydi salwch, ac os oes gennych chi broblem hefo'r salwch hwnnw, yna eich problem chi ydi o, nid fy mhroblem i.'

Dim ond ei fod o'n amhosibl rhoi geiriau i'r salwch pan ydach chi'n dioddef ohono. Sawl un ddywedodd wrthyf pan es i Hergest, 'Bydd yn brofiad cyfoethog i chi, fedrwch chi sgwennu amdano', heb ddeall ar y pryd na fedrwn i godi pensil, heb sôn am ei defnyddio. A taswn i'n ddigon cryf i godi pensil, ni fyddai gen i'r eirfa i fynegi'r profiad. Dyna gamp Aled Jones Williams yn yr achos hwn.

Cefais fy magu efo Aled, bu'r ddau ohonom yn mynychu Ysgol Dyffryn Nantlle, ac mae'n awdur y mae gen i barch mawr tuag ato. Mae gen i'r un parch at Ffion Dafis, a gwn gymaint y mae wedi ei fuddsoddi yn y prosiect. Ond daeth fy mab pymtheg oed i weld y cynhyrchiad hefyd, heb fod yn ymwybodol o'r fersiynau cynnar, a'i eiriau oedd: 'profiad pwerus iawn', ac ro'n i'n falch.

O'r hyn a gofiaf o'r darn cychwynnol, Ar Lan y Môr, rhoi llais i rywun yn dioddef o salwch meddwl oedd Ffion Dafis, ar ffurf y cymeriad Gwenda. Erbyn Anweledig, mae'n rhoi mynegiant i'r broses o wella yn ogystal. Ac mae hynny ynddo'i hun yn dyblu'r her.

Pan ddaethom i'r theatr, roedd Glenda eisioes ar y llwyfan, wedi ei chodi ar ryw ffurf ar fwrdd. Mae'n gwneud defnydd llawn o'r gofod. Clywais Ffion Dafis ar y radio yn ddiweddarach yn trafod yr ugain munud tawel a llonydd hwn cyn i'r ddrama gychwyn a sut mae'n gallu trethu'r nerfau. Mewn perfformiadau blaenorol, cyflwynwyd y fonolog mewn pabell Steddfod, oriel, stiwdio a seler â Ffion Dafis yn gaeth i gadair, sy'n sialens ynddo'i hun. Ond fe gredwn i ei bod yn fwy o her cael llwyfan agored, a dim ond y chi i'w lenwi. Pan gododd y wal ar y cefn a throi'n borth, cefais wefr, ac roedd y modd y crëwyd y set yn y drydedd rhan yn dangos gwreiddioldeb a dychymyg. Er cystal oedd y fonolog ar ei ffurfiau blaenorol mewn llefydd moel, mae cael holl fanteision theatr, a goleuo a sain, yn cyfoethogi'r profiad yn arw. Gyda pherfformiad sy'n para bron i awr a hanner, mae cynnal diddordeb y gynulleidfa yn glamp o her ynddo'i hun, heb sôn am gynnal y diddordeb yn weledol, ond mae Ffion Dafis, Aled Jones Williams a'r gyfarwyddwraig Sara Llwyd yn llwyddo i gynnal y cyfanwaith. 

A dyma ddod at y geiriau, at y sgript: heb gael y rhain yn iawn, mae'r cyfan yn dymchwel. Nes ymlaen y mis hwn bydd Cymdeithas John Gwilym Jones yn Pontio yn perfformio Ac Eto Nid Myfi John Gwilym Jones, a chawn gyfle drachefn i glywed y darnau enwog hyn ar lwyfan:

Bydd môr a mynydd a chloddiau cerrig ardal fy ngeni ac arogleuon Hen Ŵr gardd nain a melyn briallu cynnar a smotiau coch saethau o frithyll a 'mewn hiraeth dwys, Nel a Huw' yn ysgrifen dlws mam o dan wydr y dorch ar fedd nhad yng ngwead fy nghyfansoddiad i hyd fy medd.

Byddai'n ddifyr astudio dylanwad John Gwilym Jones ar Aled Jones Williams, y ddau wedi eu magu gwta filltir oddi wrth ei gilydd, a 'John Gwil' yn athro Saesneg ar Aled yn ogystal â meithrin cenhedlaeth o bobl ifanc Dyffryn Nantlle i actio. Gallwch deimlo'r dylanwad ar un o'r brawddegau cychwynnol yng ngwaith Aled:

Mond hogan fach sy'n hapus, yn geg eis crîm, yn bwdlyd mewn het biws, yn hogan efo corff hogyn, yn ofni 'i bronna' newydd a golwg 'o-lle-dutho-nhw' arni hi'n y llun, yn hŷn yn fferio swimming costiwm am bicini, yn gefnoeth ar 'i bol yn y tywod yn Algarve ...

Sydd ddim yn ddarn nodweddiadol o ddrama am salwch meddwl, meddech chi. Mae Salwch Meddwl yn Fater Difrifol, Dwys, Trwm. Dyma ddywed Aled wrth drafod y ddrama yn y rhaglen:

Ond nid ysgrifennu am 'bwnc' y mae dramodydd – newyddiaduraeth, mae'n debyg, yw hynny – ysgrifennu am gymeriad a wneir. Neu'n well fyth, clustfeinio ar gymeriad a cheisio cofnodi orau bosibl y meddyliau driphlith-draphlith, poenus a digrif, a hyn a ddywedir mewn geiriau, ond yn bwysicach, yr hyn y mae'r geiriau'n ceisio ei guddied.

Dyna'n union a wneir. Glenda sy'n bwysig yn y ddrama hon, nid y salwch. 'Clustfeinio' ar Gwenda a wnawn, a chofnodi dyrys drywydd ei meddwl, yr 'hyn mae'r geiriau yn ceisio ei guddied'. Byddai dramodydd llai abl wedi rhoi mwy nag un cymeriad ar y llwyfan a byddem wedi cael yr olygfa rhwng Glenda a'i gŵr yn trafod pam na fedr fynd i'w gwaith un bore ar gychwyn y chwalfa. Ond yn ogystal â chreu 'Huw y gŵr' cawn hefyd 'Beryl y ffrind' ac yn Ffion Dafis, caiff y cyfan ei gyflwyno inni'n lliwgar ac yn fendigedig fyw.

A'r hyn sy'n cynnal y cyfan? Hiwmor. Mae hwnnw'n drybowndian drwy'r ddrama. Sawl gwaith yn ystod y perfformiad, clywsom y gynulleidfa yn chwerthin yn harti. Dydi Glenda ddim wedi colli hwnnw. Ei golwg hi ar y byd a gawn; dydan ni ddim am eiliad yn edrych arni fel 'gwraig wedi colli ei phwyll'. Drwy ei sbectol hi y gwelwn y byd, a Huw a Beryl yn aml iawn sydd ar gyfeiliorn. Y frawddeg a aeth fel cyllell drywdda i oedd: 'Dwi'n gwbod be 'di chwerthin ond fedra i mo'i neud o.' Hwnna ydi o, ac i ddilyn: 'Dwi'n gwbod be' di hapusrwydd ond fedra i'm ca'l gafal arno fo. Sbïo ar deimlada' dwi nid 'i teimlo nhw.' Petai pobl ond yn deall cymaint â hynny, byddai'n gam mawr ymlaen wrth geisio deall salwch meddwl.

Mae Huw a Beryl yn bobl glên iawn, yn torri yn eu hanner eisiau helpu Glenda i wella. Eisiau i'r 'hen Glenda' ddod yn ôl y mae nhw, fel ei bod wedi ei thrwsio, a bod bob dim run fath ag oedd o o'r blaen. Ond wnaiff holl Fadingos Llandudno ddim gwella'r clwyf, achos peth felly ydi o. Ac mae'n rhaid i Glenda yn y diwedd ei fynegi yn y ffordd fwyaf uniongyrchol:

Dwi'm isho ffwc. Dwi'm isho buta. Dwi'm isho piso. Dwi'm eisiau cachu. Dwi'm isho mynd i ngwely. Dwi'm isho codi o ngwely. Dwi'm isio gola dydd. Dwi'm isho'r nos. Dwi'm isho cysgu. Dwi'm isho deffro. Dwi'm isho. Dwi'm isho. Dwi'm isho. Dwi'm isho.

O ddod yn agos at amgyffred y cyflwr hwn o feddwl, gellir dod gam yn nes at ddeall y salwch, ac o wneud hynny, efallai na fyddai cymdeithas mor llawdrwm ar bobl sy'n lladd eu hunain. Pan mae bywyd yn gymaint o hunllef â hyn, dim ond un drws sy'n agored. Rhwng y darnau doniol a'r darnau deifiol, caiff rywun wirioneddau megis: 'Hen fasdad o air ydi 'Pam?' Am i fod o'n gwbod nad oes 'na 'rochr arall iddo fo. Mond nos. Uffar o nos. Ac 'AM BYTH!' yn cyfarth tu mewn iddi.'

Ond yn Anweledig mae yna wella, ac fel mae Aled yn ei ddweud, peth blêr ydi o. Mae'n broses 'sydd mor anodd â'r salwch ei hun'. Meddai: 'Nid oes neb yn [...] gwella ar eu pennau eu hunain, mwy nad oes neb yn sâl ar eu pennau eu hunain. Yr ydym yn ddwfn gyd-berthyn i'n gilydd. Yn ein dyfnderoedd, un ydym.' Daeth adlais o gerdd John Donne i mi, 'No man is an island', ond mewn goleuni newydd.

Nid mond y fi oedd o. Roedd Glenda yr un fath â mi, a miloedd o Glendas eraill drwy Gymru a thu hwnt. A dw innau'n cofio teimlo fod pethau yn raddol wella. Pan mae Glenda'n defnyddio'r gair 'tlws' am y tro cyntaf ers oes, dyma sy'n dilyn: 'Ma salwch yn medru heintio iaith. A nadu i chi ddeud rhai geiria'. Clafychu geiria' a pheri iddyn nhw fudo ohonoch chi. Fel y gair 'tlws'.'

Tasai unrhyw feddyg wedi dweud hynny wrthyf yn Hergest, byddwn wedi bod yn ddiolchgar iddo. Ond doedd yna'r un yno yn siarad fy iaith. Diolch i Aled Jones Williams am y geiriau ac i Ffion Dafis am roi ffurf ac anadl iddynt. Campwaith yn wir.


Mae'r ddrama Anweledig gan Aled Jones Williams ar daith tan 27 Mawrth 2019. Ceir manylion y perfformiadau ar wefan Frân Wen.

Lluniau: Kristina Banholzer


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Rhan o orffennol cudd ydyw salwch meddwl i gymaint o bobl, ac mae cael drama Gymraeg yn trafod y mater yn gyhoeddus yn ddigwyddiad go radical

Dyddiad cyhoeddi: 06·03·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Owain Schiavone, Toni Schiavone ac Y Cyrff

Roedd y bws ola i Lanrwst o Ganolfan Aberconwy, Llandudno nos Sadwrn 12 Awst 1989 dan ei sang. Wrth deithio i lawr y dyffryn trwy Glan Conwy ac ymlaen i Maenan roedd pawb mewn hwyliau da ar ddiwedd noson gofiadwy…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

Fe lynai’r smwclaw’n styfnig at ffensys dur y gwaith ac arwydd ‘stop’ annhymig y reilwe’n grachen-graith pan o’wn heb styried clywed clais ym mhen y lein, mond cwmni’i lais ... 

Adolygu


Morgan Owen

Er mwyn creu hanes, sef naratif yn y bôn, mae’r hanesydd yn dethol o blith digwyddiadau di-ben-draw nad ydynt o anghenraid yn gysylltiedig â'i gilydd yn yr ystyr wrthrychol, ddilyniannol. Yn yr un modd, mae’r ffotograffydd, wrth dynnu a threfnu lluniau at gasgliad, yn dethol o blith…

Cyfansoddi


Qing Niao

Yn Tsieina, ceir diwylliant y sgwâr cyhoeddus: Sgwâr Tiananmen, Sgwâr y Weriniaeth, sgwariau bychain mewn trefi, a’r gerddi, a ddefnyddir ar gyfer ymgynulliadau mawr, cyhoeddus. Mae’r gofod hwn ar gyfer pawb; yn ystod y bore, maent yn aml wedi eu llenwi gan bensiynwyr, o bump tan…

Dadansoddi


Rhys Llwyd

Yn 1974, bu R Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw na ddylai ddatgan a…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…