Jonathan Miles


Try the Wilderness First: Eric Gill and David Jones at Capel-y-ffin

Seren, 220tt, £12.99, Ebrill 2018

Gwersi’r Gwylltir yng Nghapel-y-ffin
Adolygu

Gwersi’r Gwylltir yng Nghapel-y-ffin


Ruth Richards

Amser darllen: 5 munud

12·06·2018

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl o dueddiad artistig.

Nid tad a mab mohonynt, er y bu'r hynaf, y cerflunydd a’r dylunydd Eric Gill, yn fath o fentor am gyfnod i'r ieuengaf, David Jones. David Jones druan, a sonnir amdano ers degawdau bellach fel athrylith o fardd-arlunydd na chafodd eto ei lawn haeddiant; ei waith yn rhy gymhleth a dwys i'w ganrif ei hun, heb sôn am hon. Ac Eric Gill - nid druan o bell ffordd - ond yn druenus o anffasiynol, a phroblemus.

Yn dilyn y Rhyfel Mawr, daeth y ddau yn gyfeillion. Croesawyd David Jones i deulu a chymuned Gill. Yn Nitchling, Swydd Sussex yn gyntaf, ac yna yng Nghapel-y-ffin yn Sir Frycheiniog. Roedd yn gymdeithas â threfniant a oedd ar yr un pryd yn ganoloesol a Bohemaidd; yn deulu a chymuned yn seiliedig ar urddau'r crefftwyr a defosiynau’r Eglwys Gatholig. Heriasant dywydd a thirwedd Capel-y-ffin i greu swigen greadigol ymhell o hagrwch y byd modern a'i chyfalafiaeth. Syniad Eric Gill oedd symud i Gymru; bu anghydfod yn Nitchling, ond yr un mor bwysig oedd ei awydd am leoliad anghysbell a chuddfan i'w drachwant: roedd ei arbrofi rhywiol (er waethaf ei ffydd) yn troi'n rhemp.

A dyna wraidd y broblem gydag Eric Gill - rhywbeth mwy trafferthus na libido afreolus yn unig - ymestynnai ei drachwant at ei ferched ei hun, a hynny tra roeddynt yn eu harddegau. Ers datgelu hyn ym mywgraffiad Fiona McCarthy o Gill yn 1989, anodd iawn yw anwybyddu'r sgandal a'r tabŵ; dro ar ôl tro, saif ei drachwant yn rhwystr i olwg wrthrychol ar ei waith. Ac er i'r gyfrol hon gyflwyno portread manwl a chytbwys ohono, daw ei obsesiwn i'r wyneb drachefn. Tua'r un pryd ag y mentrai David Jones fynd i'r afael â melltith y Rhyfel, wrth weithio ar ddrafft cynnar o In Parenthesis, sonnir bod Eric Gill yn gweithio ar nofel erotig. Dyfynnir darn ohoni yn y gyfrol: ‘Throb, throb, throb ...’ yw ymadrodd dofaf y paragraff.

Wrth farnu ei gelfyddyd yn ogystal, ni all yr awdur anwybyddu trachwant eithafol Gill, a daw hyn yn esboniad o'i ddylunio diog. Dadleuai Jonathan Miles mai obsesiwn ffalosentrig Gill sy'n gyfrifol am ddelweddau llib; fel petai ei ymateb greddfol i noethni'n gofyn am haen o sglein, a hynny ar draul disgyblaeth ac arsylliad. Fel arfer, byddai rhywun yn wyliadwrus o feirniadu celf ar sail y sawl a'i creodd, ond wir, y mae'n anodd osgoi hyn yn achos Eric Gill, yn enwedig pan mae'n darlunio unrhyw agwedd ar ryw. O geisio cysoni'r cymeriad a'r gwaith, bron na theimlwn adlais o'r un tensiynau a brofasai yntau o frwydro i gyfiawnhau ei ymddygiad yng nghyd-destun ei ffydd.
 

David Jones, 1965

O osod y gwaith ochr yn ochr â doniau cywrain David Jones, mae gwaith Eric Gill ar ei golled drachefn, ac yn yr un modd, ei syniadaeth. Dywed Jonathan Miles mai rheolau a strwythurau a fynnai Gill; patrymau meddyliol cadarn a fyddai'n ffrwyno, os nad cysoni, pegynau ei natur, a chaniatáu iddo fwrw ymlaen â'i waith a'i fywyd gyda hyder. Man cychwyn fu trafodaethau maith Capel-y-ffin ar gelf a chrefydd i David Jones a dengys ei waith mor eang oedd ei ddarllen, mor agored a disgybledig ei ddychymyg.

Ac eto, er gwaethaf y tanseilio sydd dal bron yn anochel, Eric Gill, y cymeriad na feiddiai'r un dramodydd na nofelydd ei ddychmygu, sy'n mynnu sylw drwy'r gyfrol. Ceir awgrym fod i'r hen fwch rhyw fesur o garisma. Y fo yn y pendraw sy'n galluogi'r stori hon. Ei egni a'i hyder a ddenodd griw amryfal o bobl i berfeddion gwlad i adnewyddu adfeilion a mynachdy diarffordd. Yn gwbl anhygoel i ni bellach, dywedodd ei ferch a gam-driniwyd ganddo - o safbwynt arwahanrwydd ei magwraeth, mae'n wir - ei bod yn ei ystyried yn dad da. Ond soniodd yn ogystal i'w chyn-ddyweddi, David Jones, wneud yn ysgafn o'r Rhyfel Mawr, sy'n gamsyniad aruthrol yng ngoleuni ei waith diweddarach. Drwy sylwadau Petra Gill, gwelwn nad oedd cymuned amgen Capel-y-ffin yn rhydd o ataliaeth emosiynol y cyfnod. Yn wir, gelid dadlau mai dyma'r union ataliaeth a fu’n gymaint o gymorth i gelu llosgach ei thad. 

Daw Jonathan Miles i'r casgliad, fodd bynnag, mai bendith ddigymysg fu amgylchedd rhyfeddol Capel-y-ffin i David Jones. Bu'r dirwedd fynyddog yn gyfoethocach cynefin iddo na Brockley maestrefol ei febyd. Roedd hefyd ymhell, bell o'r Rhyfel ac erchylltra Mametz Wood. Bu'n safle diogel iddo gael trafod, meddwl, creu, a datblygu. Ac yn wahanol iawn i Eric Gill, na roddodd, fe ymddengys, unrhyw sylw i arwyddocâd diwylliannol Cymru, atseiniodd y dirwedd, yr iaith a'r lenyddiaeth drwy holl waith David Jones, a hynny trwy gydol ei oes.

Ceir naws fytholegol i naratif y gyfrol hon: yr ifanc yn datblygu tu hwnt i'r genhedlaeth flaenorol; y prentis yn meistroli a datblygu'r grefft tu hwnt i allu'r meistr. Mae'n naratif sy'n dilyn a chadarnhau'r hanesyddiaeth gyfredol yn ogystal, sef bod David Jones yn haeddu mwy o sylw, ac Eric Gill, o bosib, wedi cael gormod.

Hyd heddiw, fodd bynnag, cydnabyddir dylanwad aruthrol Gill ar lythrennu a theipograffeg, ac at ddiwedd y gyfrol, ceir cyfeiriad at y gwaith llythrennu a gynhyrchodd David Jones yn ddiweddarach yn ei yrfa. Ar YouTube ceir cyfweliad hynod rhwng Saunders Lewis a David Jones, ac nid presenoldeb Saunders Lewis ar YouTube yn unig sy'n ei wneud yn hynod. Esbonia Jones, dan ei wynt ac yn ei ddyblau'n ceisio ffurfio ei eiriau, mai sacrament yw pob gweithred o greu, a'i fod yn trin ac yn ystyried y cyfansoddiadau hyn o lythrennau a geiriau yn union fel unrhyw ddelwedd baentiedig arall. Er bod dylanwad Gill i'w weld yn ffurf a gloywder y llythrennau, y mae'n amlwg nad her iwtilitaraidd oedd hon i David Jones. Yn hytrach, deuant yn gyfrwng i uno'r gweledol a'r gair; ac fel mewn sacrament, yr arwydd a'i ystyr.

Edrychwn drachefn ar lun y clawr, ac anodd yw osgoi dehongli pellach - gorddehongli, o bosib. Dau arlunydd yn yr un lle, ar yr un amrant yn edrych ar yr un gwrthrych, ond y ddau'n rhoi'r argraff iddo weld rhywbeth cwbl wahanol. 

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Ruth Richards, Celfyddyd weledol

 


Ac eto ... Eric Gill, y cymeriad na feiddiai’r un dramodydd na nofelydd ei ddychmygu, sy’n mynnu sylw drwy’r gyfrol. Ceir awgrym fod i’r hen fwch rhyw fesur o garisma

Dyddiad cyhoeddi: 12·06·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Ned Thomas

Braf oedd cael cymaint â deuddeg yn ymgeisio yn yr Her Gyfieithu eleni. Ers i PEN Cymru a'r Gyfnewidfa Lên noddi'r gystadleuaeth dyma'r nifer mwyaf a gafwyd yn cystadlu ar yr ochr Gymraeg, a hynny pan oedd gofyn cyfieithu o iaith leiafrifol. Yr…

Colofnau


Boz Groden

Marcsiaeth, Marcsaeth [yr e. prs. Marx+-(i)aeth] eb.

Damcaniaeth wleidyddol ac economaidd Karl Marx (1818-83) sy'n dal mai sylfaen economaidd sydd i weithredoedd a sefydliadau dynol ac y bydd Comiwnyddiaeth drwy frwydr ddosbarth yn disodli cyfalafiaeth.

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Es i am dro yn y wlad. Hynny ydi, es i am dro drwy'r caeau ar gyrion y dre. Roedd y meddyg yn mynnu'i bod hi'n broblem y tro diwetha es i i'r Lle Gwyn. Hynny ydi, y dre.

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Yn y dafarn gwelais i Hi am y tro cyntaf. Roedd hi'n eistedd mewn cornel, a'r golau arni hi gan fod y cysgodion yn y llefydd anhgywir anghywir. 

Cyfansoddi


Tony Bianchi

Rhwng pladur a blaguryn; rhwng afal/ a’r anghofio sydyn;/ rhwng y gwaed a’r angau gwyn;/ o wynfa i bla: trwch blewyn.

Colofnau


Sioned Puw Rowlands

Hanner canrif yn ôl, ar 21 Awst 1968, rowliodd tanciau’r Sofietiaid i ganol prifddinas Tsiecoslofacia. Dros nos, caewyd y drws yn glep ar Wanwyn Prâg. Ymosodwyd ar y Tsieciaid gan chwarter miliwn o filwyr gwledydd Cytundeb Warszawa, sef yr Undeb Sofietaidd, Bwlgaria,…

Colofnau


Huw L Williams

Dyma eiriau John Stuart Mill, un o gewri’r traddodiad rhyddfrydol, yn ei draethawd ‘On Representative Government’. Rwyf wedi dyfynnu’r geiriau hyn droeon; maent hyd yn oed yn addurno’r pinfwrdd ar bwys fy swyddfa. A minnau’r unig Gymro Cymraeg mewn swydd lawn-amser ym maes athroniaeth, mae geiriau…

Colofnau


Dylan Foster Evans

Ai’r un person ydwyf heddiw ag yr oeddwn ddeng mlynedd, ugain mlynedd, ddeugain mlynedd yn ôl? Dyma gwestiwn oesol y gall y llenor a’r gwyddonydd fel ei gilydd geisio ei ateb. Mae un ystadegyn yn awgrymu bod oddeutu 98 y cant o’r atomau yn…