John Osmond


Ten Million Stars are Burning

Gomer, 672tt, £11.99, Mawrth 2018

Achub eneidiau trwy wneud jig-so
Adolygu

Achub eneidiau trwy wneud jig-so

Adolygu nofel wleidyddol gan John Osmond


Mike Parker

Amser darllen: 7 munud

16·05·2018

Wrth ymddeol, troi at yoga neu jig-sos mae ambell un. Ond her go swmpus mae John Osmond – cyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig ac, ar un adeg, ymgeisydd Plaid Cymru yn ei ardal enedigol, Sir Benfro – wedi gosod iddo'i hun. Mae wrthi'n ysgrifennu, ar ffurf trioleg ffuglennol, hanes diweddar Cymru o'r 1970au hyd at refferendwm datganoli 1997, y refferendwm a roddodd fodolaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae ganddo lawer i'w ddweud: mae'r gyfrol gyntaf hon, sy'n ymwneud â hanes y pum mlynedd diwethaf hyd refferendwm trychinebus 1979, ymhell dros chwe chant o dudalennau.

Ac mae pawb yma: y gwleidyddion, y beirdd, yr ymgyrchwyr, yr academyddion – ysgogwyr a chynhyrfwyr Cymru'r saithdegau. Atgyfodir rhai o ysbrydion ysblennydd y Gymru a Fu: Gwynfor Evans, Phil Williams, John Tripp, Leopold Kohr, Raymond Williams, Nigel Jenkins, Waldo, sylfaenydd y Ganolfan Dechnoleg Amgen Gerard Morgan-Grenville, yn ogystal â dihirod dibynadwy megis George Thomas, Leo Abse a nifer o Aelodau Seneddol Llafur o'r hen do deinasoraidd a aeth yn angof. Cawn ein hatgoffa gan Osmond o araith yn y Tŷ Cyffredin gan Ioan Evans, AS Aberdâr, oedd yn ymgais i godi'r bar ar gyfer y refferendwm i bum deg y cant o'r holl etholaeth – refferendwm fyddai, ar ei orau, dros ddim mwy na chynulliad datganoledig cwbl lastwredig.

Mae Osmond yn gafael yn ei gynfas gydag arddeliad ac yn ei throchi â lliw; a hynny yn aml o brofiad personol. Roedd yn newyddiadurwr ifanc gyda'r Western Mail yn ystod y cyfnod dan sylw; roedd ganddo sêt rhes flaen yn y sesiynau bargeinio brwnt a gafodd eu cynllwynio yng nghyfnod llywodraeth cynyddol fregus Callaghan. Ymhlith cast helaeth, a ysbrydolwyd gan brofiadau a hanesion go-iawn, mae dau gymeriad ffuglennol yn gyrru'r naratif. Mae un, yr ymgyrchwraig Cymdeithas yr Iaith ifanc Rhiannon Jones-Davies, yn ymgais i dymheru gafael y cymeriadau gwrywaidd di-ben-draw ar y stori hon, ond nid yw'n llwyddo cweit i godi'n fyw o'r tudalennau. (Gwerth nodi nad oedd yr un AS benywaidd yng Nghymru trwy gydol y 1970au; mae mwy na mwg sigaréts, felly, yn dyddio'r cyfnod.) Ar dir tipyn mwy cadarn mae Osmond gyda'i brif ddyfais arall, dyn ifanc o'r enw Owen James, sy'n newyddiadurwr i'r Western Mail; nid dim ond llythrennau cyntaf ei enw o chwith sydd yn adlais o'r awdur ei hun, John Osmond (gw. David Copperfield).

Tybed ai fel cofiant, yn wir, y dechreuodd y nofel uchelgeisiol hon, cyn i Osmond sylweddoli y gallai wneud cymaint mwy ar ffurf led ffuglennol? O'i holl arwyr a atgyfodir ganddo yn nhudalennau'r nofel, yr un a fawrygir fwyaf yw Raymond Williams, a ddywedodd yn un o'i gyfweliadau olaf:

There is a sense, I would say, in which history [...] can only find its way through to personal substance if it then becomes a novel, becomes a story.

Mae'n gwbl amlwg mai Border Country Raymond Williams – ei drioleg o nofelau Cymreig – yw prif ysbrydoliaeth Osmond, o ran ffurf a thema, os nad arddull. Hogwyd hanesion Williams hyd at y manylyn lleiaf, ond rhoddwyd gormod o raff i Osmond. Ychydig a ychwanegir gan rai o'r digwyddiadau a'r cymeriadau yn y nofel (penodau cyfan, hyd yn oed); gellid fod wedi torri cymaint â chwarter y nofel.

Wedi dweud hynny, mae hon yn gyfraniad o bwys i lenyddiaeth a hanes Cymru. Mae'n nofel hynod ddadlennol, yn sylweddol ei chynfas ac yn hwyl i'w darllen hefyd. Tua'r diwedd, mewn golygfa lle ceir Rhiannon mewn carchar yn Lloegr a'i chyd-letywr yn Aberystwyth yn llwyddo yn ei ymgais i gael llyfrau ati, cawn yr hyn a dybiaf yn ddatganiad o genhadaeth gan Osmond – yn y carchar, mae'r gair ysgrifenedig, yn arbennig 'yn yr hen iaith', yn fanna a gwaredigaeth i Rhiannon: 'she realised she had been handed a lifeline'.

Dyma ymgais Osmond i anrhegu rhaff achub o fath i'r Gymru gyfoes: trwy gyfrwng cannoedd o filoedd o eiriau ysgrifenedig sy'n darlunio cynfas ysgubol, ar gyfer ein cyfnod gwleidyddol a diwylliannol ninnau sydd wedi hen ddechrau codi pwys a gwersi hanes wedi eu colli. Fallai mai gwneud jig-so y mae John Osmond wedi'r cyfan, dim ond bod o leiaf dair miliwn o ddarnau i'w rhoi at ei gilydd y tro hwn.


Dewiswyd Mike Parker yn ymgeisydd dros Plaid Cymru yng Ngheredigion yn etholiad 2015. Ei gyfrol ddiweddaraf yw The Greasy Poll: diary of a controversial election (Y Lolfa, 2016). Bydd ei gyfrol nesaf, On the Red Hill, yn cael ei chyhoeddi fis Mai 2019. 

@mikeparkerwales


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Nofelau, Gwleidyddiaeth, Mike Parker

 


Gwerth nodi nad oedd yr un AS benywaidd yng Nghymru trwy gydol y 1970au; mae mwy na mwg sigaréts, felly, yn dyddio’r cyfnod

Dyddiad cyhoeddi: 16·05·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Guto Dafydd

Mae cerddi arobryn cadair a choron eleni’n gweddu i’r dim i’r brifwyl agored, orfoleddus, herfeiddiol a gafwyd ym Mae Caerdydd. O ran arddull, maent yn hygyrch – yn rhwydd i’w darllen, a throeon ymadrodd yn pefrio oddi ar y dudalen. O ran cynnwys, maent yn…

Dadansoddi


Nathan Abrams

Ydw i o'r farn bod Jeremy Corbyn yn wrth-Semitaidd? Nac ydw. A yw'n fygythiad dirfodol i Iddewon y Deyrnas Unedig? Nac ydi. Ydi maniffesto Llafur yn wrth-Iddewig? Nac ydi. A oes gan Corbyn broblem gydag Israel? Oes, mae ganddo. Ond nid…

Adolygu


Ruth Richards

Wrth i gamerâu cryno a rhad gyrraedd y farchnad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwn y cwmni Kodak yn anelu eu nwyddau at ferched ifanc. Dyma grŵp demograffaidd a elwir ganddynt yn 'Kodak Girl', enw sy'n cyfleu a manteisio ar feiddgarwch ac…

Dadansoddi


Annwyl Olygyddion,

Yn yr awyrgylch anoddefgar sydd ohoni, hoffwn dynnu eich sylw at garreg fedd go arbennig ym mynwent Bethesda Manod, Blaenau Ffestiniog. Yn wynebu'r Moelwyn Mawr ceir carreg fedd syml o lechfaen 'Stiniog gyda'r arysgrif canlynol arni: In Loving Memory of Professor Achill Rappaport of Vienna,…

Dadansoddi


Fflur Arwel

Bore digon tebyg i’r arfer oedd y bore Sadwrn hwnnw yn y Shaftesbury Hand Car Wash yng Nghasnewydd. Roedd haul Mehefin yn crasu'r tarmac ac arogl coffi rhad yn cymysgu gyda sebon wrth i’r gweithwyr fynd ati i lanhau’r ceir. Yn eu plith yr oedd dyn ifanc tair ar hugain mlwydd oed o’r enw Mustafa Dawood.…

Adolygu


Diane Bailey

Fel cyfanwaith, mae'r arddangosfa hon yn rhoi i ni bortread o gymoedd de Cymru, heb y bobl. Meddai Stokes, ‘I was well into this endeavour before I saw that the Valleys people were absent. Or were they?' Mewn gwrthgyferbyniad gyda'r tai teras twt a…

Dadansoddi


Huw L Williams

Eisteddfod hamddenol oedd hi fod. Roedd y maes, yn gyfleus iawn, nepell o fy nghartref yn Grangetown. A minnau wedi cael hen ddigon o ruthro'n chwyslyd rhwng gormod o bebyll yn Eisteddfodau'r blynyddoedd diwethaf y bwriad y tro hwn oedd mwynhau’r adloniant,…

Adolygu


Elin Meredith

Nofel a ddatblygir ar gynfas eang yw Taith yr Aderyn. Mae’n ein tywys i diroedd pell, i fyd o lynnoedd, mynyddoedd a choedwigoedd. Dyma'r byd digyfnod y lluniodd Alun Jones yn wreiddiol yn Lliwiau’r Eira (Gomer, 2012). Mae’r amwysedd o ran lleoliad a chyfnod yn ei gosod ar wahân i…