Lleuwen
Gwn Glân Beibl Budr
Sain, 13 trac, £12.98, Tachwedd 2018

Llafnau o oleuni
Albwm diweddaraf Lleuwen
Amser darllen: 5 munud
Mae Gwn Glân Beibl Budr yn albwm sydd yn cydio yn eich calon o’r dechrau un ac yn gwrthod llacio gafael tan y nodyn olaf. Mae i’r caneuon hyn deimlad elfennol, oesol. Dyma albwm tywyll, dirdynnol; mae’n gynnil ac yn treiddio i’ch cwsg, yn tarfu ar eich breuddwydion; mae’n gampwaith ac mi fydd yn glasur.
Gwyddom fod Lleuwen Steffan yn gerddor unigryw â llais trawiadol a gonestrwydd amrwd i’w mynegiant. Gyda’r albwm hwn, mae hi wedi cyrraedd ei hanterth. Mae’n waith cyfoethog sy’n plethu ynghyd ddylanwadau gwerin, jazz, cerddoriaeth gospel, soul, canu gwlad, a’r hen emynau Cymreig. Cydweithiodd Lleuwen â rhai o gerddorion mwyaf dawnus ein cenedl er mwyn crefftio’r traciau arbennig hyn – criw amrywiol tu hwnt, yn cynnwys y delynores Llio Rhydderch, y pianydd jazz Neil Cowley, y tenor clasurol Rhys Meirion, a’r brodyr Aled a Dafydd Huws o Cowbois Rhos Botwnnog. Amhosib ydy categoreiddio’r albwm, felly, a dyma un o’i gryfderau. Wrth wrando ar y tri trac ar ddeg, clywaf adlais Bob Delyn a’r Ebillion, fflamenco, Meic Stevens, Opera Roc o’r wythdegau, canu gospel y de Americanaidd, drymio Affricanaidd, emynau ro’n i’n arfer eu canu yn yr Ysgol Sul, cerddoriaeth agoriadol y gyfres deledu Six Feet Under, a llawer mwy nad ydw i’n medru ei enwi ond sy'n atseinio’n ddwfn yn yr isymwybod; cerddoriaeth sy'n ‘llifo yn fy ngwaed / fel atgof ges i gan fy nhaid’ (‘Cân Taid’).
Cyfeiria teitl yr albwm at un o ddywediadau tad yr emynydd John Williams Brynsiencyn, fel yr eglurodd Lleuwen mewn cyfweliad i’r BBC:
Gwn glân er mwyn cael anelu'n dda wrth hela, a Beibl budr o'i ddefnyddio fo'n aml. Gan ein bod ni mewn cyfnod eithafol eto, mae'r ymadrodd yn taro deuddeg. Roedd 'na ddau begwn i John Williams Brynsiencyn, ac mae 'na begynau go eithafol o fewn y record hefyd.
Albwm llawn gwrthgyferbyniadau ydy hwn, does dim dwywaith: pendilia rhwng y dramatig a’r tyner, y bras a’r cywrain, y traddodiadol a’r arbrofol. Mae iddo rychwant emosiynol a cherddorol syfrdanol.
Clywaf adlais yn y traciau o albwm cyntaf Lleuwen, Duw a Ŵyr, â’i dehongliadau jazz o emynau’r Diwygiad. Ond mae i’r cyfanwaith hwn naws tra gwahanol. Ceir nid yn unig stamp arbennig artist sydd wedi cyrraedd ei brig, bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, ond hefyd bresenoldeb cantores sy’n mynegi mwy fyth o angerdd, egni ac emosiwn. Fel y dywedodd Rhys Mwyn, mae hi wedi creu rhywbeth organig, fel petai’r caneuon wedi codi o’r pridd, yn amrwd a gwyllt; maent ymhell o fod wedi eu gorgynhyrchu. Fallai mai dim ond artist â gwir aeddfedrwydd sydd â’r hyder i recordio’n fyw, i osgoi'r sglein plastig a’r auto-tune, i gadw’r elfennau garw a’r anghyseinedd. Dywedodd Lleuwen mewn cyfweliad ar gyfer Golwg:
Mae yma amherffeithrwydd mewn recordio byw sy’n gallu bod yn bwerus. Mae modd perffeithio popeth gyda stwff digidol ond dwi wedi laru ar y ffilters a’r sglein [...] Well gen i’r gwir.
Mae angen hyder ac aeddfedrwydd i fynegi’r gwir, i fentro, i ddeall bod ceisio perffeithrwydd technegol yn y stiwdio yn medru lladd enaid darn o waith creadigol. Yng ngeiriau athrylith cerddorol arall, Leonard Cohen: ‘There is a crack in everything. That’s how the light gets in.’ Ac yn sicr mae llafnau o oleuni i’w canfod yn yr albwm barddonol hwn, sy’n treiddio trwy’r tywyllwch. Ceir cydnabyddiaeth o drasiedi bywyd a’r sefyllfa affwysol o drist yr ydym ynddi fel Cymry ac fel ceidwaid y Ddaear mewn byd sydd yn ‘colli ei blwc’, a mynegir hyn oll yn y cywair lleddf; ond nid albwm sy’n pwyso ar y galon mo hwn – yn hytrach, darn o gelfyddyd sydd yn ein dyrchafu, yn dirgrynu gydag egni, ac sydd bob amser yn chwilio am y golau. Ydi, mae’r ‘hen gastanwydden wedi torri ers tro’ a ‘fawr neb yn y pentref / yn siarad iaith eich mam’, ond mae’r ‘byd yn dal i droi / Yr adar yn dal i ganu fel tasa hi’n ddoe / Plant yn dal i chwarae ar erwau’r hen fro’. Mae yma obaith i’w ganfod mewn dyddiau duon, a hynny’n deillio o’n cysylltiad gyda’r ysbrydol a’r oesol.
Mae’r ddelwedd o bontydd yn edefyn sy’n plethu trwy’r caneuon. Gellid dadansoddi hyn fel trosiad sy'n cyfleu trasiedi’r cyfnod yr ydym yn byw ynddo: y syniad o bontydd yn cael eu dymchwel, cymdeithas yn cael ei rhwygo fwyfwy, yr hunaniaeth Gymreig, wledig o dan fygythiad, a Phrydain yn cael ei hynysu yn wyneb Brexit – yn codi waliau yn lle pontydd. ‘Gymaint o bontydd yn llosgi / Gymaint o hanes / Wedi mynd o’n cof’, meddai Lleuwen yn ‘Hwyr’. Yn ‘Tir Na Nog’ cyfeiria at y ‘Pontydd annelwig rhwng yma ac acw’n / Diflannu fel llwch o dan draed’. Yn Bendigeidfran – cân a gyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer ei phlant, drannoeth y bleidlais Brexit, ac nad ydw i’n medru gwrando arni heb golli dagrau – cyfeiria at yr angen i godi pontydd:
Gorwedd dros y dyfroedd, gorwedd dros y lli
Sôn am bontydd pobl fel ti
Yn uno ddoe a heddiw,
y dde a’r chwith
A’r gofod rhwng y gofod
sy’n tyfu bob dydd.
Er gwaetha’r gofod hwn, y gagendor sydd yn agor rhyngom bob un, yn ‘Mynyddoedd’ cawn glywed am dirwedd Eryri sydd ‘yma ers cyn co’ a’r hen ffrind sydd ‘tu hwnt i’r mynyddoedd / Yn aros i ddal yn dy law’: dyma eto’r syniad o gysylltiad, o godi pont fydd yn ein harwain at y meirw ac at yr hyn sydd tu hwnt i'r materol, sydd yn cynnig rhyw fath o achubiaeth yn wyneb trasiedi ein bodolaeth. Mae yma lygedyn o oleuni, felly: mewn cyfnod o wacter ystyr, gellir cryfhau’r cysylltiad rhwng y materol a’r ysbrydol, y ddynoliaeth a byd natur, rhwng pobl â’i gilydd. A waeth beth sy’n digwydd i’r gymdeithas sydd ohoni, parhau y mae’r mynyddoedd.
Mynydd Mawr, Eryri. Llun gan Angharad Penrhyn Jones.
Yn y ‘Y Don Olaf’ ceir portread o’n bywydau gwag, ‘yr eda sy’n frau ac yn datod’, cymdeithas lle rydym wedi ein dieithrio, yn rhwym i Facebook, wedi ein datgysylltu oddi wrth yr ysbrydol, oddi wrth fyd natur. Mae’r côr angylaidd sydd yn gefndir i lais Lleuwen yn drefniant annisgwyl a phwerus wrth iddi ganu am ‘emojis’ a natur bedestraidd bywyd cyfoes:
Meddwi, cysgu, gweithio
Gwario’r pres ar benwythnosau
Pawb isio anghofio yn sydyn
Bod y ddaear yn cyrraedd ei therfyn
Ceir thema debyg yn ‘Caerdydd’, fy hoff drac, sydd â’r pwyslais ar y ‘tri chant a phedwar deg chwech o filoedd’ o drigolion sy’n byw yn y ddinas. Eto, mae’r cyferbyniad rhwng cyffredinedd y ffigwr hwn a’r llais arallfydol o brydferth yn creu effaith grymus, yn cyfleu’r cysyniad o sychder ysbrydol ac unigrwydd cymdeithasol y bywyd dinesig, heb fod angen manylu trwy ddisgrifiadau llythrennol ac ystrydebol o’r ddinas fodern. Mae llais Lleuwen rhywsut yn cyfleu’r sychder hwn, yr hiraethu am rywbeth mwy, am ystyr dyfnach.
Mae hyn yn ein harwain at gân olaf yr albwm, sydd yn cynnig rhybudd o fath. Nid gor-ddweud fyddai awgrymu bod Lleuwen yn rhagweld y dyfodol yma: mae hi’n deall yr argyfwng yr ydym yn ei wynebu gyda thwf ‘chwarae soldiwrs hogiau bach’ a’r bygythiad difrifol i’r amgylchedd. Yn y trac ysgytwol hwn – a hynny heb fod yn bregethwrol o gwbl, oherwydd naws hwiangerdd sydd iddi – cawn ein hatgoffa o freuder ein bodolaeth ar ‘y ddaear ffyddlon’, a bod marwolaeth yn gysgod sydd yn ein dilyn i bobman. ‘Mae’n hwyr, hwyr, hwyr, hwyr / Yn hwyrach na ti feddwl / Yn hwyrach na hwyr… Gymaint o addewidion i’w gwireddu / Gymaint o gyrff i’w dal efo’r breichiau hyn.’
Cawn ein codi i’r entrychion gan yr albwm hwn, a dylid ei ystyried fel cyfanwaith a gwrando arno yn ei gyfanrwydd, nid dim ond lawrlwytho ambell i drac. Mae iddo naratif a siâp gofalus, a dim ond trwy wrando o’r dechrau i’r diwedd y gallwn wir werthfawrogi gweledigaeth ac athrylith Lleuwen Steffan: cantores-gyfansoddwraig sydd yn torri ei chwys ei hun, ac sydd yn haeddu cynulleidfa fawr.
#Gwrandewch ar ddetholiad o'r albwm yn y fan hon. Fe fydd Lleuwen yn perfformio mewn capeli yn Llanymddyfri, Caerdydd, Aberystwyth a Phenygroes, 14-18 Chwefror 2019.
Angharad Penrhyn Jones yw Golygydd Cysylltiol O’r Pedwar Gwynt. Mae hi’n byw ym Machynlleth.
Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.
Dyddiad cyhoeddi: 06·02·2019