Ruth Richards


Pantywennol

Y Lolfa, 128 tt, £7.99, Tachwedd 2016

Llyfr y Fedwen – camp a gorchest
Adolygu

Llyfr y Fedwen – camp a gorchest


Bethan Mair

Amser darllen: 3 munud

23·05·2017

Cefais gais gan Elwyn Williams, swyddog Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru a threfnydd gŵyl Bedwen Lyfrau, i gynnig ‘Llyfr y Fedwen’ yn ystod y dathliad blynyddol o lyfrau Cymraeg a gynhelir ym mis Mai bob blwyddyn. Gan nad oes sicrwydd o hyd am gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, a weinyddwyd tan y llynedd gan Lenyddiaeth Cymru, teimlai’r gweisg Cymraeg sy’n aelodau o’r Cwlwm y byddai’n dda cael o leiaf un digwyddiad sy’n denu pobl i drafod, darllen a phrynu rhyw lyfr Cymraeg y tu allan i’r Eisteddfod a’i adladd.

Doedd dim pwysau arnaf o gwbl gan ei bod hi’n amlwg i mi y byddai unrhyw un yn sylweddoli mai fy chwaeth, fy newis, fy mympwy i, a hynny’n unig, fyddai’n arwain at ddethol Llyfr y Fedwen. Felly y bu hi. Tasg hawdd oedd ystyried pa lyfr a’m syfrdanodd fwyaf gyda’i ddyfeisgarwch, pa lyfr a’m tywysodd yn llwyr i fyd nad oeddwn am ddianc ohono wrth i mi droi dalen olaf y gyfrol, pa awdur a oedd wedi defnyddio’i adnoddau orau i lunio cyfrol gofiadwy a darllenadwy. Yn fwy na hynny, roeddwn i’n teimlo fod yr awdur a’r gyfrol wedi cael cam, gan hollti’r beirniaid yng Nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2016, ac felly roedd elfen, fechan iawn, o unioni hynny yn fy newis.

Heb oedi ymhellach, Pantywennol gan Ruth Richards yw Llyfr y Fedwen 2017. Mae ysgrifennu nofel hanesyddol nad yw’n rhamantu dim ar y gorffennol, nac ychwaith yn cilio oddi wrth yr agweddau ofergoelus, cul a diobaith oedd yn gymaint nodwedd o’r gorffennol hwnnw, a gwneud hynny wrth ddiddanu a swyno, yn dipyn o gamp. Pan lwydda awdur i wneud hynny gyda’r nofel gyntaf a gyhoeddodd, try’r gamp yn orchest. Nofel fodern, yn delio â themâu sy’n dal i achosi pryder yw Pantywennol, er mai yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y gosodwyd hi. Mae hi’n nofel dafodieithol, blwyfol, wrth-grefyddol, ffeministaidd, Farcsaidd, dywyll. Ac mae hi hefyd yn chwip o stori – wir – a adroddwyd ag arddeliad a chredinedd sy’n gwneud i rywun amau weithiau fod gan yr awdur beiriant amser i fynd yn ôl i blith trueiniaid Llŷn yn Oes Fictoria. Ar ben hyn oll, mae yma hiwmor. Waw!

Sut y gall nofel hanesyddol fod yn nofel gyfoes, dywedwch? Wedi’r cyfan, cymeriad a lethwyd gan gyfyngderau’i hoes yw Elin Ifans, y prif gymeriad. Mae hi’n ddeallus, yn ddychmygus, yn anturus. Ar y llaw arall, mae hi’n dlawd, mae hi’n ferch, ac mae hi’n byw ym mherfeddion Llŷn. Meddyliwch, onid dyna yw ffawd merched mewn cymunedau caeedig heddiw? Wythnos ddiwethaf, gorfodais fy hun i wylio Three Girls, dramateiddiad teledu o’r digwyddiadau erchyll a arweiniodd at garcharu nifer o ddynion am droseddau rhyw yn ardal Rochdale yn Lloegr. Onid stori bwgan Pantywennol, ar ryw wedd, yw stori’r merched ifainc hynny a oedd mor ddiobaith ynghylch posibiliadau’u bywydau fel mai troi at ryw dan oedran, dan orfodaeth, oedd eu hunig ddihangfa? Troi at fân-droseddu a dyfodd yn ellyll wnaeth Elin, ond tybed beth fyddai’i throseddau heddiw? Pydew yw tlodi y mae hi’n eithriadol anodd crafangu allan ohono, ble bynnag, a phryd bynnag, yr ydych yn gaeth iddo.

Prin y byddaf i’n ailddarllen llyfrau. Mae gormodedd o gyfoeth newydd yn ymddangos i allu fforddio amser i ailbori’r un ddôl. Ond ar ôl i mi orffen darllen Pantywennol, euthum ati’n ddiymdroi i’w hailddarllen. Dyna’r clod uchaf y gallaf ei roi i gyfrol – rhoi fy amser yn hael iddi, ac ymgolli yr un faint yr eilwaith ag y gwnes y tro cyntaf. Llyfr y Fedwen a, gobeithio – os caiff y cyfle – Llyfr y Flwyddyn.


Mae Bethan Mair yn gyfieithydd, golygydd a hyrwyddwr llyfrau. 


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Prin y byddaf i’n ailddarllen llyfrau ... Ond ar ôl i mi orffen darllen Pantywennol, euthum ati’n ddiymdroi

Dyddiad cyhoeddi: 23·05·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Casia Wiliam

Dwi wedi symud tŷ naw o weithiau yn ystod fy mywyd, ac ym mis Hydref, a minnau bellach yn byw yng Nghaerdydd ers deng mlynedd, fe fydda i’n symud eto. Rydw i a Tom wedi bod yn byw yn ein fflat…

Adolygu


Elan Grug Muse

Petawn i’n gorfod disgrifio Gwales mewn un gair, uchelgeisiol fyddai hwnnw. A taswn i’n cael ychwanegu dau arall, mi fyddwn i’n ychwanegu mentrus a chwareus. Mae darllenwyr Cymru wedi arfer efo nofelau realaidd, pridd-ac-adfeilion-a-charcasau-ŵyn-bach, a thros y blynyddoedd mae nhw wedi glynu’n reit ystyfnig at yr hyn maen nhw’n ei hoffi. Pwy a ŵyr, wedyn, be wnân nhw efo nofel…

Dadansoddi


Gwyn Griffiths

Derbyniodd Gwyn Griffiths wobr gyfieithu Ostana yn yr Eidal, am ei waith yn cyd-olygu dwy flodeugerdd yng nghyfres Francis Boutle o ieithoedd llai-eu-defnydd Ewrop. Llenyddiaeth Llydaw yw testun y gyfrol gyntaf ac mae’r ail, The Old Red Tongue, yn gyfrol swmpus o ryw 1,000…

Dadansoddi


Gerald Morgan

Mae tinc o euogrwydd yn poeni’r meddwl. Newydd ddychwelyd o Lydaw wedi wythnos o wyliau gyda pherthnasau – braf iawn. Bwyta’n dda, mwynhau’r traethau, trefi Pont-Aven, Pontivy, Concarneau a Landerneau. Cyngerdd egnȉol gan gôr meibion Tregunc yn canu caneuon y môr, arddangosfa fawr o waith Picasso, ac yn…

Cyfansoddi


David Elwyn Lewis

Ar fore gwlyb a thywyll ddiwedd mis Hydref ym 1964 eisteddai'r bachgen 10 oed mewn caffi di-nod nepell o Orsaf Fictoria, Llundain. Arhosai'n eiddgar gyda'i rieni am frecwast; wedi taith dros nos o Gymru roedd y bachgen yn flinedig ac anniddig. Nid dyma'r…

Adolygu


Elan Grug Muse

‘Trwy ddrych’ oedd testun y Goron yn Eisteddfod Môn 2017. Y mae drych, yn ôl ei natur, yn dangos i ni ryw ddarlun o’n byd. Llun sydd efallai’n gyfarwydd, ond nid yr union lun yr ydym wedi arfer ei weld gyda’n llygaid noeth. Dyna oedd yng nghefn fy meddwl wrth…

Cyfansoddi


Siân Cleaver

Enillydd Her Gyfieithu 2017 Cyfnewidfa Lên Cymru a PEN Cymru yw Siân Cleaver, sy'n hanu o Gastell-nedd. Yn y fan hon gallwch ddarllen cyfieithiad buddugol Siân o gerdd gan y bardd Twrcaidd Nâzim Hikmet, ynghyd â'i hymateb i'r heriau penodol sy'n deillio o gyfieithu o 'iaith bontio'.

Dadansoddi


Manon Steffan Ros

Bu farw fy mam yn yr oriau mân un bore crasboeth ym mis Gorffennaf. O’r ystafell ar Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, roeddwn i’n gallu gweld goleuadau ein pentref ni fel llygaid wedi cau ar lethrau’r foel.