Adolygu

Mae’n bryd darllen Philip Roth

Hanner canrif yn hanes America

O’r Pedwar Gwynt

Amser darllen: 3 munud

06·06·2018

Flickr/Creative Commons: Gregory di Folco


Lle mae'r nofelydd Cymraeg sy'n abl i gymell cenedl gyfan i sefyll o flaen ei gwell? Dyma gwestiwn sy'n codi'n gyson yn sgyrsiau anffurfiol O'r Pedwar Gwynt. Gyda marwolaeth Philip Roth ar 23 Mai 2018, awdur yr enwog American Pastoral (1997), mae’r cwestiwn yn codi ei ben eto fyth. 

I gyflawni'r dasg anferthol hon, rhaid i awdur fod yn barod i edrych ar ei hun yn gyntaf, a hynny yn ei holl amherffeithrwydd. Dadleua rhai mai dyna oedd gallu prin Roth: y gallu i ddweud y gwir bob amser, er gwaethaf, neu fallai oherwydd, ei ragfarnau. Roedd ar dân i adnabod America o'i phen i'w sawdl, dim ots pa mor anhrefnus y profiad. Dywedodd yntau nad cystadleuaeth harddwch moesol mo lenyddiaeth.

Fel rhiant sy'n dod i ddeall mai tasg fwyaf arswydus bywyd yw dysgu sut i garu, roedd Roth yn barod i dderbyn America yn ei holl gymhlethdod. Aeth i lawes ei bobl i ddatgelu ôl y wladwriaeth - er iddo haeru lawer tro nad awdur engagé mohono.

Yn ystod y misoedd diwethaf, clywais grybwyll y geiriau 'rhyfel cartref' ac 'America' yn yr un gwynt ar fwy nag un achlysur, os yn gynnil. Fallai mai gonestrwydd yw'r unig arf sy'n medru goroesi dirmyg Trump tuag at y gwir, fel y cawsom ein hatgoffa gan John McCain yn ddiweddar, wrth iddo ymddiheuro a chydnabod ei wendidau mewn cyffes gyhoeddus ac yntau ar ei 'wely' angau. Tybed a ydi hi'n amser i ninnau wynebu ein rhagfarnau wrth ddarllen Roth? Dyma ddetholiad o bump o’i lyfrau i ddechrau, i’n hannog i fynd i'r afael â'r hanner canrif o hanes a roddwyd yn ernes i ni. [SPR]

Sabbath's Theater

Pypedwr di-waith sy'n gwneud yn fawr o'r cyfle i odinebu yw Mickey Sabbath. Mae prydferthwch bob dydd y byd o'i gwmpas fel petai'n ei gymell i loddesta ar ei hagrwch ei hun. Trwy gyfrwng ei stori, mae Roth yn rhoi greddfau rhemp America dan y chwyddwydr.

Caiff y nofel hon ei dyfynnu'n aml fel enghraifft o Roth ar ei orau.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Houghton Mifflin Harcourt, 1995; 451tt.

 


American Pastoral

Dadrithiad y 1960au trwy lygaid dyn gonest y tro hwn. Mae Swede Levov yn ceisio dygymod â goblygiadau gweithredoedd ei ferch - cannwyll ei lygad - sydd wedi penderfynu cysegru ei bywyd i weithredu treisgar yn erbyn rhyfel Fietnam.

Y gyntaf yn y casgliad The American Trilogy.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Houghton Mifflin Harcourt, 1997; 423tt.




I Married a Communist 

Caiff seren radio ei fradychu gan ei wraig yn America gwrth-Gomiwnyddol
diwedd y 40au a dechrau'r 50au, yng nghyfnod hel gwrachod McCarthy.

Yr ail yn y casgliad The American Trilogy.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Houghton Mifflin Harcourt, 1998; 336tt.

 


The Humain Stain

Mae Coleman Silk yn Athro prifysgol yn y clasuron, yn New England wledig. Caiff ei gyhuddo ar gam o hiliaeth gan ei gydweithwyr a'i orfodi i adael ei swydd. Trwy gyfrwng ei helbulon, cawn ddarlun o gywirdeb gwleidyddol cyfnod Clinton ar waith.

Y drydedd a'r olaf yn y casgliad The American Trilogy.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Houghton Mifflin Harcourt, 2000; 352tt.

 



The Plot Against America

Mae Charles Lindbergh, a gyhuddwyd o dueddiadau ffasgaidd,
yn curo Roosevelt yn etholiad arlywyddol 1940. Gwelir gwrth-Semitiaeth
yn lledu'n araf bach, ei effaith ar deuluoedd Iddewig America,
fel y Rothiaid, a hynny trwy lygaid Philip yn hogyn ifanc.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Houghton Mifflin Harcourt, 2004; 400tt.

Fis Awst byddwn yn cyhoeddi darn gan Wiliam Owen Roberts yn trafod I Married a Communist.

Fel rhiant sy’n dod i ddeall mai tasg fwyaf arswydus bywyd yw dysgu sut i garu, roedd Roth yn barod i dderbyn America yn ei holl gymhlethdod

Pynciau:

#Pum llyfr
#Sioned Puw Rowlands