Adolygu

Y pâr rhyfeddol


Angharad Tomos

Amser darllen: 8 munud

31·07·2019

Dod ar ei thraws yn annisgwyl wnes i. Clywais fod torf o 2,000 o wragedd wedi dod i Benygroes ym 1926, i gychwyn ar daith i Lundain yn enw 'Hedd Nid Cledd'. Taith o filoedd o wragedd oedd hon o bob cwr o Brydain, a ddaeth ynghyd i ofyn i'r Llywodraeth ddod at ei gilydd i drafod yn hytrach na chodi arfau. Ond pam Penygroes? Yn y diwedd, cawsom yr ateb – Mary Silyn. Hi oedd un o'r trefnwyr, a diau mai hi benderfynodd mai o Ddyffryn Nantlle y byddai criw'r gogledd orllewin yn teithio. Hi oedd un o'r rhai siaradodd yn Hyde Park wedi i'r dorf gyrraedd Llundain, a gwnaeth hynny yn Gymraeg. Er nad oes tystiolaeth ei bod yn syffrajét, ar batrwm gorymdeithiau'r syffrajéts y trefnwyd Gorymdaith y Merched 1926.

Ond pwy oedd Mary Silyn? Gwyddwn yn fras amdani, ond doedd manylion am ei bywyd ddim yn rhai hawdd i'w cael. Yn gynharach eleni, daeth tair ohonom at ein gilydd i ganfod mwy am y wraig ryfeddol hon, ac i osod plac i nodi lle y bu hi a'i gŵr yn byw tra oedd yn Nhanygrisiau. Mae llechi i nodi cartrefi Gwyn Thomas a Meredydd Evans, ond teimlem fod Afallon yn haeddu ei nodi hefyd. Bellach, gallwch fynd yno i weld y llechen, a daeth dros hanner cant i'r dadorchuddio ar 18 Mai eleni. 

Beth sy'n peri fod diddordeb o hyd yn y pâr hwn oedd yn eu bri gan mlynedd yn ôl? O'r hyn rydym wedi ei ganfod, un o Gymry Llundain oedd Mary Parry – ei mam o Lanrhychwyn ger Llanrwst, a'i thad yn deiliwr o Gilcain. Symudodd y teulu i fyw i Lundain pan oedd Mary yn dair oed ym 1880, a daeth ei thad yn flaenor yn y Capel Cymraeg yn Hammersmith. Ni wyddom lle cafodd Mary ei haddysg, ond bu'n ddisgybl ddigon disglair i ennill ysgoloriaeth i Ddenmarc yn ddeunaw oed. Aeth yn ei blaen i raddio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yna cafodd waith yn darlithio yno. Cyfarfu â Silyn yn ddeunaw oed, ym 1895.

Brodor o Ddyffryn Nantlle oedd Robert Silyn Roberts, a aned ym 1871 i chwarelwr. Gadawodd yr ysgol yn dair ar ddeg oed, a mynd i'r chwarel am bum mlynedd. Y gŵr a'i dysgodd i drin llechi oedd y gŵr a ddysgodd gynghanedd iddo hefyd. Yn wir, fe'i dysgodd mor dda nes i Silyn ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1902 am ei gerdd i 'Trystan ac Esyllt'. O'r chwarel, aeth i Ysgol Clynnog, ac oddi yno i Brifysgol Bangor. Wedi graddio ym Mangor, aeth i wneud ei MA a mynd yn fyfyriwr diwinyddol yng Ngholeg y Bala.

Ar ei ffordd adre o gyhoeddiad yr oedd yn 1895 pan aeth heibio ei hen athro yn y chwarel, a dyna lle cyfarfu â Mary Parry. Roedd hi yn yr ardal ar wyliau, wedi iddi ddod i nabod merched Hendre Cennin yn y capel yn Hammersmith. Roedd Mary yn awyddus i gerdded i gopa Cwm Silyn, a daeth Silyn efo nhw yn gwmni. O'r diwrnod hwnnw, roeddent yn gariadon. A phan gafodd Silyn eglwys yn Llundain, yn Lewisham, roedd yn dod i brifddinas yr oedd wrth ei fodd efo hi. Ym 1903, roedd yn astudio yn y Llyfrgell Brydeinig, a daeth yn gyfeillgar â Lenin. Ffoadur disylw oedd Lenin yr adeg honno, a difyr fyddai gwybod natur eu sgyrsiau. Pan ddaeth y chwyldro yn Rwsia ym 1917, ysgrifennodd Silyn at Lysgenhadaeth Rwsia a chael cadarnhad mai'r gŵr ifanc a adwaenai yn y Llyfrgell bron i bymtheg mlynedd ynghynt oedd Lenin.

Ymunodd Silyn â'r Fabian Society yn Llundain gan ddatgan ei hun yn Sosialydd. Erbyn 1905, roedd yn priodi â Mary yn Llundain, ac yna aethant i fyw i Danygrisiau, lle'r oedd Silyn yn weinidog gyda'r Methodistiaid ar eglwysi Bethel, Cwmorthin a Dolrhedyn.

Anodd yw mesur y cyfraniad wnaeth y ddau yma i'r gymdeithas chwarelyddol. Y peth cyntaf wnaed oedd clirio dyled y capel. Yn ail, nid oeddent yn hapus gyda'r festri fechan, a rhywsut cawsant ddigon o fodd i adeiladu festri newydd – un â llyfrgell ac ysgoldy a chegin. Er bod Bethel wedi ei ddymchwel bellach, mae'r festri anferth yn dal i sefyll ac yn stiwdio i Gai Toms.

Roedd y ddau yn weithgar â'r bobl ifanc, nid yn unig o ran pethau'r capel, ond yn gymdeithasol hefyd. Daeth Silyn yn gynghorydd, a sefydlodd gangen o'r Blaid Lafur Annibynnol (yr ILP). Gwahoddodd Silyn yr undebwr tanbaid o Iwerddon, Jim Larkin, i annerch yn y Blaenau, ac ar aelwyd Afallon cafodd groeso cynnes. Yno y daeth Keir Hardie yntau, George Lansbury a chewri'r Blaid Lafur gynnar. Bu Mary a Silyn ar daith arall i Ddenmarc, ac aeth Silyn efo Côr y Moelwyn ar daith i'r Unol Daleithiau i godi arian i gronfa yn erbyn y Ddarfodedigaeth. Teithiodd Silyn ar long o Efrog Newydd wythnos yn unig cyn i'r Titanic suddo ym 1912.

Wrth i'r dirwasgiad ledu, daeth yn amlwg na allai Bethel gynnal gweinidog a chafodd Silyn waith yn y Barri, lle bu'n gweithio i'r Brifysgol i ganfod gwaith i raddedigion. Yn y Barri y ganed eu merch, Rhiannon, ym 1915. Erbyn hynny, roedd y Rhyfel Mawr wedi cychwyn. Yn wahanol i nifer o'i gyfeillion yn yr ILP, nid oedd Silyn yn heddychwr. Yn wir roedd yn gyfeillgar â rhai fel Owen Thomas oedd yn recriwtio dynion ifanc. Yn ystod y rhyfel bu Mary hithau yn weithgar efo'r Land Army. Tebyg bod gan Silyn ddawn garismataidd. Llwyddodd i ddenu R Williams Parry o Gefnddwysarn i ddod i ddysgu i'r Barri. Mynnai W J Gruffydd yntau mai er mwyn Silyn y daeth yn ôl i Gymru.

Erbyn 1922, roedd Silyn a Mary wedi dod yn ôl i'r Gogledd – i Fangor – gan fod Silyn wedi cael gwaith fel trefnydd i ddosbarthiadau oedolion, gwaith oedd wrth fodd ei galon. Ac wedi iddynt wneud eu cartref yn Ffordd y Coleg, pwy ddaeth i fyw dros y ffordd iddynt ond fy nhaid a nain. Roedd fy nhaid, David Thomas, yn adnabod Silyn ers dyddiau cynnar yr ILP. Byddent yn cefnogi'r naill a'r llall wrth drefnu cyfarfodydd, ac meddai Silyn mewn llythyr i David Thomas,'Ond i chwi am minnau wneud ein gwaith, yna caiff yr enw hwn [Sosialaeth] le yn yr iaith Gymraeg.' Trodd Silyn a Mary ati gyda brwdfrydedd nodweddiadol. Mewn pum mlynedd, roedd nifer y dosbarthiadau wedi dyblu, a nifer y myfyrwyr. Roedd ysgol haf Bangor yr un fwyaf poblogaidd ym Mhrydain. Doedd dim pall ar y gwaith.

Yna, ym 1930, aeth Silyn ar daith i Rwsia. Ond wrth hwylio adre, ymosododd haid o fosgitos arno. Dychwelodd i Fangor ac yna i Goleg Harlech. Ysgrifennodd at fy nhaid yn dweud ei fod yn dioddef o'r dwymyn ac yn ymddiheuro na allai ddod i'r Ysgol Haf ym Mangor. Erbyn nos Wener yr Ysgol Haf, daeth y newyddion fod Silyn wedi marw, yn gwbl annisgwyl yn 59 oed.

Cafodd y newyddion am farw Silyn effaith fawr ar ei gyfeillion, yn fwy efallai ar R Williams Parry na neb arall. Mae ei gerdd 'Yr Hen Sosialydd' yn crynhoi teimladau ffrindiau,

Yna anadlwn drwy y glyn
Neges gyffrous y geiriau hyn,
'Yn Llanymynydd y mae gwanc
Addysg ar ddeunaw disglair lanc.'

'Eu doniau'r awron sy' dan rwd                                    
O ddiffyg cymorth athro brwd.'
Ni lwyddai bolltau'r dorau dwys                                  
I gadw Silyn dan y gŵys.

Yn wir, gymaint oedd ei lafur nes bod disgwyl i'r WEA yn y Gogledd ddod i ben gyda'i farwolaeth. Mary ddaeth i'r adwy. Cymerodd arni ei hun y gwaith o drefnu'r dosbarthiadau a gwnaeth hynny tan 1945 pan oedd yn 68 oed. Pan oedd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, a rhoi iddi ei henw Cymraeg, mewn trafferthion pan beidiodd y Brifysgol â rhoi swyddfa iddynt, Mary ddaeth i'r adwy. Caniataodd i ran o'i thŷ, Rhoslas, gael ei ddefnyddio fel swyddfa i'r mudiad. Pan oedd y WEA mewn trafferthion ariannol, gwnaeth Huw T Edwards apêl ar ffurf 'Cronfa Goffa Silyn' a chliriwyd y ddyled. Ymhen amser, gwerthodd Mary 'Rhoslas' am bris isel i'r WEA.

Roedd fy Nhaid a Mary Silyn mewn cyswllt dyddiol gan i fy nhaid gymryd golygyddiaeth Lleufer, cylchgrawn y WEA, o 1945 (wedi iddo ymddeol) tan ei farw ym 1967. Bu Mary yn crefu arno i sgwennu cofiant i Silyn a gwnaeth hynny ym 1956. Bu Mary byw tan 1972, a gresyn na fyddai rhywun wedi ysgrifennu ei chofiant hithau.

Mae'n werth nodi cyfraniad llenyddol Silyn, gan mai llenor ydoedd uwchlaw popeth arall. Dywedodd ym 1897 y byddai'n well ganddo gyfansoddi un englyn anfarwol na bod yn filionêr, ac ni newidiodd ei safbwynt ar hyn. Sgrifennodd lawer i Y Glorian, papur Blaenau Ffestiniog rhwng 1905 a 1912, ac i'r papur hwn y sgrifennodd dair stori hir. Cyhoeddwyd 'Llio Plas y Nos' ym 1945, stori wedi ei lleoli yn Nyffryn Nantlle. Yn Y Glorian yr ymddangosodd 'Bugail Geifr Lorraine' hefyd, a chyfieithiad o'r Ffrangeg yw hon a gyhoeddwyd fel cyfrol ym 1925. O ran barddoniaeth, cyfansoddodd lawer mwy. Cafodd Silyn ddylanwad mawr ar y W J Gruffudd ifanc, oedd ddeng mlynedd yn iau nag ef. Roedd yn berthynas agos, gynhyrchiol o'r noson gyntaf honno y treuliodd y ddau mewn cwch ar y Fenai yn dyfynnu gwaith Keats a Shelley. Erbyn 1900, roedd y ddau wedi cyhoeddi 'Telynegion' ar y cyd. Meddai Gruffudd ym 1941, wrth gofio'r gyfrol, 'Nid oedd na duwioldeb na moes na chyngor na heneiddrwydd na phwyll ... yn y caneuon hyn, dim ond cyfaredd llencyndod a'r cynhyrfiad hwnnw a ddaw unwaith ac am byth ar bob dyn pan syrthio gyntaf mewn cariad.' Roedd Gruffydd o'r farn bod Silyn wedi aberthu ei ddawn barddoni er mwyn gwleidyddiaeth. Bu'r dynfa rhwng cyfansoddi a gwleidyddiaeth yn frwydr iddo gydol ei fywyd, ac meddai unwaith, 'Anhraethol felysach i mi awen a chân na gwleidyddiaeth.' Dywedodd wrth T Gwynn Jones yn 1912 fod 'yr awen wedi tewi' ers saith mlynedd, ond roedd wedi cyhoeddi cerddi yn ystod y cyfnod hwn, dan ffugenw. Bu'n ymhél â llenyddiaeth drwy ei fywyd. Pan gyrhaeddodd y Barri, roedd yn is-Olygydd y Welsh Outlook, ond gwnâi'r gwaith yn ddienw oherwydd ei swydd. Bu'n feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac roedd yn gyfaill agos i Hedd Wyn. Dywedir fod Silyn yn rhannol gyfrifol am droi Hedd Wyn yn Sosialydd, a phan fu farw Hedd Wyn, cyhoeddwyd englyn gan Silyn yn y Welsh Outlook. Silyn oedd Ysgrifennydd Pwyllgor Coffa Cenedlaethol Hedd Wyn, bu'n cynorthwyo i gyhoeddi Cerddi'r Bugail, bu'n rhan o'r ymgyrch i gael cerflun iddo yn Nhrawsfynydd a sicrhaodd fod y geiriau 'Y Prifardd Hedd Wyn' ar ei fedd.

✒︎

Y tair ohonom ddaeth ynghyd i edrych ar fywyd a gwaith Mary oedd Iona Price o Danygrisiau, Luned Meredith a minnau. Tad Luned, Alun Llywelyn-Williams, fu'n drefnydd ar y WEA yn ddiweddarach, felly mae ein llwybrau yn cyd-blethu. Rydym wedi bod yn ceisio canfod beth ddaeth o blant Mary a Silyn. Un peth sy'n drist yw i'r teulu golli'r Gymraeg o fewn un genhedlaeth.

Aeth Glynn ab Silyn yn Vice Air Marshall efo'r RAF gan briodi gwraig ddi-Gymraeg, felly yn Saesneg y magwyd Siôn, ei fab. Gwraig ddi-Gymraeg briododd Meilir yntau, a di-Gymraeg oedd eu plant, Gareth a Sally. Penderfynodd Sally ddechrau dysgu Cymraeg a phan ddywedodd wrth ei hathrawes fod Silyn yn daid iddi, ysgrifennodd honno erthygl i bapur bro Y Bigwrn. Drwy'r erthygl honno y daethom i gysylltiad â hi, ac mae wedi taflu llawer o oleuni ar y teulu.

Plentyn ieuenga Mary a Silyn oedd Rhiannon Silyn. Gwyddom iddi hi fynychu Ysgol Haf Plaid Cymru ym 1962 ym Mhontarddulais, ac mai hi oedd un o'r ddwy ferch fynychodd y cyfarfod hanesyddol ym Mhontarddulais i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Yn Llundain yr oedd yn byw ar y pryd, ac yn fam i Bera, ond ni rwystrodd hynny hi rhag mynd ar y trên i Gaerdydd i fynychu'r cyfarfodydd. Yn wir, hi drefnodd fod y mudiad ifanc yn cwrdd â Saunders Lewis. Roedd hi hefyd ar Bont Trefechan (hi yw'r wraig gafodd ei thaflu ar y llawr). Yna, priododd ŵr o Wlad Pwyl, a diflannodd. Ŵyr neb ei hanes nes y daeth i gartref henoed ym Mhandy Tudur lle bu fyw tan 2013. Roedd yn nabod fy nhaid, ac yn ôl y stori, aeth i'w weld efo ei merch, Bera. Rhoddodd fy nhaid gopi o'i gofiant i Silyn i Bera gan ddweud wrthi am ddysgu Cymraeg fel y gallai ddarllen am ei thaid. Cofiodd Bera'r gorchymyn, ac wedi ymddeol, aeth ati i ddysgu'r iaith, gan gyfieithu'r cofiant ar gyfer gweddill ei theulu. Bu hi farw yn 2014, ac mae ei merch, Ruth yn fyw o hyd, yn Seland Newydd. Er hynny, mae wedi cadw gafael ar gartref Mary yn Llanrhychwyn.

Mae cynlluniau ar y gweill i gael cofeb i'r ddau brifardd ar 'Frynllidiart' ac mae archif y WEA sydd wedi ei chadw gan y Brifysgol ym Mangor ar fin cael ei throsglwyddo i'r Gymdeithas Addysg Oedolion er mwyn iddi gael ei chatalogio. O wneud hynny, daw llawer rhagor o wybodaeth i'r fei, does dim dwywaith, am y rhyfeddol Mary Silyn.



Digwyddiadau'r Steddfod yn Llanrwst

Betsan Llwyd ac Angharad Tomos yn cyflwyno Mary Silyn.
Trefnir gan Bara Caws.
12, dydd Mercher, 7 Awst 2019 / Caffi'r Theatrau

Mary a Silyn Roberts. Sgwrs gan Angharad Tomos a trafodaeth i ddilyn.
Trefnir gan Addysg Oedolion.
12, dydd Sadwrn, 10 Awst 2019 / Cymdeithasau 2

 


 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Angharad Tomos

 


Anodd yw mesur y cyfraniad wnaeth y ddau yma ar y gymdeithas chwarelyddol

Dyddiad cyhoeddi: 31·07·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…