Tom Bullough


Addlands

Granta, 304tt, £14.99, Mehefin 2016

Caryl Lewis


Y Bwthyn

Y Lolfa, 160tt, £8.99, Hydref 2015

Adolygu

Meddiannu cefn gwlad Cymru


Tomos Owen

Amser darllen: 10 munud

17·10·2016

Fel sawl tŷ unnos go iawn sy’n dal i fritho cefn gwlad, mae i ddelwedd y bwthyn yn ein llenyddiaeth ryw wytnwch cadarn. Os codwyd nhw ar frys, i ateb galw ac angen penodol, safasant am genedlaethau ddigon wedyn. Ac er mor gyflym y codwyd nhw, daethant yn symbolau o groeso a chartref, yn gorlannau teuluol ac yn gonglfeini cymuned a diwylliant – onid yn ddelwedd o genedl gyfan. Er hynny, nid gwlad o dai unnos mo Cymru bellach ac, o edrych ar ei bythynnod a'i hen dai fferm, cawn ar y naill law gip ar y Gymru ddiflanedig ac, ar y llaw arall, ymwybyddiaeth gynyddol o ddadfeiliad a dirywiad y byd hwnnw – os bodolai yn y lle cyntaf – a hynny dan bwysau di-ildio modernedd. Un modd o ystyried y toreth o ysgrifennu cyfoes am gefn gwlad Cymru – gan gynnwys nofelau diweddar Caryl Lewis a Tom Bullough – yw cydnabod y cymhelliad dwbl hwn: tystio i barhad y cynefin hwnnw a'i ddiwylliant wrth amlygu hefyd y grymoedd hynny sy'n ei beryglu.

Llaethbwlch ger Llanfyllin, Powys

Fel y dangosodd Hywel Teifi Edwards yn O'r Pentre Gwyn i Gwmderi, ei astudiaeth ardderchog o ddelwedd y pentref yn llenyddiaeth Cymru, symbolaeth oedd prif swyddogaeth y pentrefi llenyddol: 'Fel llefydd yn y meddwl yr oeddent yn cyfrif: fel mannau na allai'r byd mo'u rheibio.' O M Edwards, heb os, yw eu prif bensaer. Bu Llanuwchllyn ei febyd yn lens a ganiatâi iddo edrych ar bob un o bentrefi Cymru lân, Cymru lonydd, a'u gwerin bobl. Dyma'r ddelwedd ‘longyfarchol ohoni ei hun a greodd cenedl glwyfedig' yn dilyn Brad y Llyfrau Gleision; ymgais i adfer yr union elfennau hynny o fywyd gwledig Cymru – iaith, cymuned a chrefydd yn eu plith – a gollfarnwyd mor llym yn 1847. Mae'n werth oedi ac ystyried beth sy'n digwydd, felly, pan â llenorion ati i godi bythynnod. Os oes angen adeiladu'r pentref fel cysegrfa na all y byd mo'i rheibio, mae hynny ynddo'i hun yn arwydd o fygythiad y byd allanol rheibus hwnnw.

Gellid cynnig 'modernedd' yn air arall ar gyfer y grymoedd rheibus hyn. Mae'r pentre’ llenyddol, ers ei godi, wedi bod o dan warchae, o'r tu allan neu, o bryd i’w gilydd, o'r tu mewn. Yn ei gerdd hir gyntaf, ‘The Soul's Destroyer’ (1905), deffroa'r bardd-grwydryn o Gasnewydd, W H Davies, yn y gwter gyda phen mawr yn dilyn noson o gyfeddach yn yr East End yn Llundain. Er gwaethaf ei gur pen y bore wedyn, dyrchafa ei olygon yn ôl at Gymru gan benderfynu mai o'r lle hwnnw y daw ei gymorth: mae e’n meddwl am 'home and of the purer life, / Of Nature's air, and having room to breathe'.  Ac wrth nesáu at y fan, fe wêl y crwydryn 'a cottage lone and small / And such a place was my ideal to live, / Where I might walk it round, touch its four sides, / Free to the sun in every latitude'. Ond, wedi cyrraedd, ar ôl bron i wythnos yn cerdded o Lundain adref i Gymru, caiff siom ysgytwol wrth iddo sylweddoli nad gwynfyd mo Pentre’ Gwyn ei ddychymyg: yn hytrach nag annedd i’w lochesu rhag ei flinderau, mae'r bwthyn yn gartref i ffrind bore oes sydd bellach yn curo’i wraig ac yn gaeth i alcohol, ‘in manner of a beast / That's drinking from a trough, but more the greed'.

Cam eithafol pellach gan Gymro Llundain arall oedd ymosodiad Caradoc Evans ar ddelfryd y Pentre’ Gwyn yn My People yn 1915. Yn ei stori enwog 'Be this Her Memorial', daw'r bwthyn tlawd yn llwyfan ar gyfer delwedd o aberth a dioddefaint grotésg wrth i lygod ffyrnig ymosod ar wyneb Nanni, yr hen wraig a fu'n cynilo ac yn newynu (ar wahân i fwyta ambell lygoden ei hun) er mwyn prynu rhodd i'r gweinidog ar achlysur ei ymddeoliad. Fel cŵn i'w cyfog, â Davies ac Evans yn ôl at yr hyn a wrthodasant ac, wrth ddychwelyd, holant a yw'r pentre’ gwynfydedig yn gallu gwrthsefyll grymoedd y byd allanol: gwae’r sawl a gredo fod y Gymru lân, lonydd yn unrhyw beth ond delwedd neu ddelfryd.

Ffurf fwyaf hunllefus modernedd, wrth gwrs, yw rhyfel ac mae digon o enghreifftiau yn ein llenyddiaeth o’i ‘gysgod ar fythynnod tlawd’, fel y dywed Hedd Wyn. Meddylier am Traed Mewn Cyffion Kate Roberts. Daw rheibus rym yr Ail Ryfel Byd dros riniog y bwthyn ym mhennod gyntaf Addlands, nofel ddiweddaraf Tom Bullough. Mae’r nofel wych hon yn rhychwantu 70 o flynyddoedd ac mae cyfnodau o ryw bum mlynedd yn gwahanu digwyddiadau’r penodau yn eu tro. Un o effeithiau’r dechneg hon yw tynnu’r ffocws oddi ar fanylion hanesion y cymeriadau – mae genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn digwydd yn y bylchau rhwng y penodau – ac fe gaiff treigl amser a’r newidiadau a ddaw yn ei sgil eu blaenoriaethu. A newidiadau dramatig yw’r rheiny hefyd. Mae Idris, yr amaethwr, yn perthyn i genhedlaeth y ffurfiwyd ei byd-olwg gan y bedwaredd ganrif ar bymtheg: mae’n flaenor yn y capel, yn draddodiadol ei feddwl ac yn ddrwgdybus o unrhyw sôn am foderneiddio. Ond dysgwn, trwy gyfrwng ambell gyfeiriad cynnil, ei fod yntau hefyd yn cario baich y gorffennol, sef ei brofiad yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae e’n ddyn rhy breifat i sôn am ei atgofion trawmatig yn uniongyrchol ond, ar ôl damwain ar yr aradr tua dechrau’r nofel, daw i deimlo ‘as if he had been gassed, as if his lungs were blistering all over again’ – yr ‘all over again’ yw’r cyfeiriad hollbwysig fan hyn, ac mae’n gyfeiriad sy’n ymagor ar hyd y nofel yn ymdriniaeth ehangach o’r tensiwn rhwng cerddediad amser a gorffennol sy’n brigo i’r wyneb o bryd i’w gilydd. Erbyn y diwedd gwelwn yn ymateb annisgwyl ac ymarferol ei weddw, Etty, i glwy’r traed a’r genau fod y bywyd amaethyddol o dan fygythiad eto, a bod yr hen ffyrdd traddodiadol yn annhebygol o allu ymdopi â’r pwysau. Mae cynaliadwyedd ffermydd cymharol fychain fel y Funnon yn y fantol. Rhydd rhychwant amseryddol y nofel bersbectif hanesyddol i’r darllenydd er mwyn deall, er mor ddiniwed ei gymhellion, mai ffolineb llwyr yw gwrthodiad Idris tua dechrau'r llyfr i werthu’r ceffyl fferm a buddsoddi mewn tractor.

Cwymp byrdwn yr etifeddiaeth hon ar ysgwyddau’r mab, Oliver. Deallwn iddo ddangos, pan oedd yn ddyn ifanc, dipyn o addewid academaidd ond, yn y blynyddoedd sy’n hedfan heibio â throad tudalen o un bennod i’r nesaf, down i ddeall hefyd fod gwreiddiau Oliver wedi gafael yn rhy dynn yn y llecyn hwn yn Sir Faesyfed. Wrth iddo yfed, ymladd a ffermio wrth i’r nofel fynd rhagddi, a chyda’i gigfran ddof ar ei ysgwydd, mae iddo naws arallfydol, rhyw gyfuniad o’r naturiol a’r goruwchnaturiol: mae’n tyfu o’r tir a’i ffurfiodd, ond fe’i ffurfiwyd yn gawr. Erbyn diwedd y nofel, codir y cwestiwn o etifeddiaeth a pharhad unwaith eto wrth i’w fab, Cefin, ddychwelyd i’r ardal i fyw wedi cyfnod o deithio’r byd.

Ffordd ym Mhowys gan Tom Gunn

Os taw etifeddiaeth yw’r hyn sy’n cael ei adael ar ôl – mater o olion – yna mae honno’n thema sy’n cael ei thrin yn ddwys yn nofelau Caryl Lewis. Mae olion dros bob man yn Y Bwthyn. Yn llythrennol, mae olion traed y sgwarnog (a ddaw’n bresenoldeb pwysig i Owen yn y nofel) i’w gweld yn rhannu rhai o’r penodau ac, yn wir, maent yn bwrw llwybr dros a thu hwnt i ddalen olaf y nofel: Duw a ŵyr i ble y bydd yr olion yn ein harwain. Mae ymwneud Addlands ac Y Bwthyn ag etifeddiaeth ac olion yn digwydd ar lefel strwythurol hefyd, gan fod y ddwy nofel yn sôn am y symudiad o un genhedlaeth i’r nesaf. Yn Y Bwthyn, gwelwn y trafferthion sy’n deillio o geisio trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros gadw’r fferm o ysgwyddau’r Enoch oedrannus i’w fab anniddig, canol oed, Isaac. Daw tensiwn i’r nofel gyda dyfodiad Owen; mae hwnnw’n awdur ifanc sy’n dod yn denant i fwthyn y teitl ac sydd o’r herwydd, er yn ddiarwybod iddo, yn dod ag ‘anhrefn’ yn ei sgil. Deallwn fod Owen wedi ffoi i’r wlad gan adael teulu a ffrindiau ar ei ôl yn y ddinas. Ac er nad yw Owen mor fygythiol nac mor ymosodol â chlwy’r traed a’r genau neu ddyn y trethi yn Addlands, mae ei ddyfodiad i gynefin Enoch ac Isaac yn ddelwedd arall mewn llenyddiaeth gyfoes o’r peryg dinistriol, rheibus a ddaw o ganlyniad i ymyrraeth y byd allanol.

Os yw’r Gymru lân, lonydd yn ddelwedd lenyddol gyfarwydd, mae Addlands ac Y Bwthyn yn dangos eu bod yn ymwybodol o hynny. Mae yna awduron yn y ddwy nofel sydd yn ceisio mynd ati i lenydda am y byd anghyfarwydd ond atyniadol hwn. Yn Y Bwthyn daw Owen â’i nofel yn ei bac ac, yn llythrennol, wrth iddo ollwng y llawysgrif i’r nant o flaen y bwthyn, daw i ddeall bod y bywyd go iawn yn groes i ddelweddu’r meddwl. Yn wir, yn y wlad, yn wahanol i’w dref frodorol ddienw, mae’r ‘busnes ymarferol o fyw yn ei gadw’n brysur’ beth bynnag. Dim ond ar ôl amser y dychwela’i allu fel storïwr. Yn Addlands, wedi iddo wahanu â’i wraig, mae Oliver yn cael ymweliad annisgwyl gan Siriol (‘What was your name again? Cereal?’), myfyriwr sy’n ymddiddori ym marddoniaeth ei gyn-wraig, Naomi. Yn ôl Siriol, mae casgliad Naomi o gerddi yn ‘one of the formative works of post-pastoral poetry’. ‘Post-pastoral?’ yw ymateb swrth Oliver. ‘We in’t done yet, girl.’ Mae hwn yn ymateb swrth i fyfyriwr o fyd arall, o bosib, ond y mae hefyd yn ddatganiad am barhad bywyd cefn gwlad, sydd yn mynd yn groes i asesiad y rheiny sy’n tybio bod hwnnw eisoes wedi trengi. Wrth gwrs, y mae hefyd yn arwydd o fedrusrwydd a hiwmor Tom Bullough, sydd yn llwyddo i blethu i’w waith gyfarchiad i’r darpar adolygwr neu feirniad llenyddol (yn enwedig y rheiny nad ydynt eisoes yn gwybod y ffordd) wrth iddo fentro i’r tir daearol a llenyddol hwn. Hyd yn oed os oes rhaid i Owen roi'r gorau i ysgrifennu tra bydd yn y bwthyn, ac os taw dim ond ar ôl dirywiad priodasol ac ymadawiad â chefn gwlad y mae Naomi'n gallu barddoni'n llwyddiannus, mae yna ffyrdd eraill o ddarllen i’w gweld yn y cyfrolau hyn hefyd. Daw’r tir yn destun i’w ddadansoddi ac mae angen llygaid craff er mwyn darllen ei arwyddion, boed hynny wrth geisio canfod llwybr, adnabod aderyn neu blanhigyn neu wrth broffwydo’r tywydd.

Ceir yn y ddwy nofel ddelwedd sydd i’w gweld yn gynyddol mewn llenyddiaeth am gefn gwlad, sef yr oen trig (gweler hefyd, er enghraifft, Sheepshagger gan Niall Griffiths neu The Dig gan Cynan Jones). Â’r ddafad – fel y gwyddom oll, mae’n siŵr – yn symbol anochel os nad yn ystrydeb o’r Gymru wledig, dengys y disgrifiadau annifyr, manwl o anifeiliaid meirwon neu farw-anedig nad yw ei pharhad yn sicr o bell ffordd. Mae yna ddelwedd arall yn nofel Caryl Lewis hefyd sy’n cymhlethu’r syniad o barhad – yr ‘hen dderwen a choeden ffawydden yn tyfu o’i chrombil’ ger y bwthyn. Os mai tyfiant a pharhad a geir yn y ddelwedd hon, tyfiant annisgwyl, annifyr ydyw sy’n anesmwytho â phob cyfeiriad ato yn y nofel. Mae rhywbeth rhyfedd o annaturiol yn perthyn i fyd natur o dro i dro.

Yn Y Bwthyn ac Addlands, daw cymeriadau wyneb yn wyneb ag anifeiliaid, ac maent yn edrych i fyw eu llygaid yn llythrennol ar sawl achlysur. Mae’r barcud coch yn aml i’w weld yn hedfan uwch Y Bwthyn. Yn ogystal â’r gigfran ddof ar ysgwydd Oliver yn Addlands (ac mae’r nofel yn holi ai’r un aderyn sydd ar ei ysgwydd, ynteu genedlaethau o adar gwahanol), mae gallu Oliver i adnabod planhigion, coed ac adar o bob rhyw – fel ei dad gynt – yn nodedig. Daw’r sgwarnog yn bwysig i Owen yn Y Bwthyn, yn obsesiwn, hyd yn oed: mae’n symbol o natur, creadur prin, swil, anodd ei weld, un sydd dan fygythiad parhaus gan ysglyfaethwyr. Mae Owen yn meddwl yn nes ymlaen am ‘Ei llygaid euraid yn syllu arno. Fel pe bai’n ei adnabod. Fel pe bai’n hen gyfarwydd ag ef. Roedd ’na rhyw olwg yn ei llygaid fel pe bai hi’n uniaethu ag ef. Yn gwybod am ei broblemau.’ Ar yr olwg gyntaf, moment o gytgord a chymundeb yw hon rhwng dyn a natur: mae yna berthynas a dealltwriaeth ddilafar rhyngddynt. Ond wrth ddal i edrych daw pethau’n gynyddol anesmwyth. Os oes rhaid troi at ffawna am uniaethiad ac er mwyn rhannu problemau, beth ddywed hynny am awdurdod dyn dros ei amgylchedd, a’i feistrolaeth o fyd natur? Ar ba sail y mynnwn ein goruchafiaeth dros ein cynefin? Gwlad pwy yw hon? Yn y ddwy nofel gwelwn amser yn mynd rhagddo a phroblemau a pheryglon bywydau dynion. Ond mae hi’n bosib hefyd bod y nofel, trwy edrych i fyw llygaid anifail, yn ein atgoffa mai cael y tirwedd a’r amgylchedd ar fenthyg yn unig a wnawn. Ni waeth am ffiniau a ffensys, elw a threth, aradr a thractor, tenantiaid byr-dymor yn unig yw pobl yn yr amgylchedd hon; mae i fodau eraill, o darddiad cwbl wahanol, bresenoldeb yn y fan hon.

Un arall o agweddau’r nofelau y rhoddir iddi gryn bwyslais yw llafur caled a diddiwedd y fferm. Ond peidied â meddwl mai ar lafur dynion yn unig y mae’r pwyslais hwnnw; os taw gwaith gwrywaidd yw llafur fferm, mae’r ddwy nofel yn tystio i gyfraniad a dylanwad hollbwysig merched. Etty yw gwraig fferm Funnon yn Addlands. Mae’r nofel yn rhychwantu ei bywyd hi: mae hi’n wraig (ac yna’n weddw) i Idris, yn fam i Oliver ac yn fam-gu i Cefin. I raddau helaeth, canolir ystyriaeth y nofel o dreigl amser ar Etty gan mai hi yw’r ddolen gyswllt yn hanes yr holl gymeriadau. Yn hyn o beth, corff y ferch yw’r llinyn sy’n mesur y newid drwy gydol y stori: deallwn ei nwydau a’i chreadigrwydd cynnar, ei pharodrwydd i geisio addasu bywyd y fferm er mwyn symud gyda’r oes (er gwaethaf ystyfnigrwydd ei gŵr), a’i gallu yn nes ymlaen i wneud penderfyniadau anodd a pheryglus er mwyn cadw pethau i fynd. Yn Y Bwthyn, Hannah yw’r wraig fferm, er ein bod yn deall o’r bennod gyntaf ei bod hi wedi marw. Ond nid yw absenoldeb Hannah yn gyfystyr ag anfodolaeth: mae ei holion ymhob man, boed hynny yn atgofion a breuddwydion Enoch ac Isaac neu yn y tameidiau a’r mân-ddarnau hynny – llwch, dillad, celfi – sy’n dal i fod ar hyd y lle. (Gellid cymharu unwaith eto â The Dig yn hyn o beth.) Os nad yw Hannah yn bresennol yn y nofel, dyw hi ddim yn gwbl absennol chwaith.

Yn Addlands, mae yna ddau gloc yn yr un ystafell sydd bron – eto, bron – wedi’u cydamseru. Yn Y Bwthyn, cyfeiria Caryl Lewis ar sawl achlysur at ‘gerdded’ y cloc. Mae amser yng nghefn gwlad – bywyd y tymhorau, y tir, y tywydd – yn troi, yn treiglo, yn cylchredeg. Mae gofynion y gymdeithas oddi allan, ar y llaw arall, yn dilyn amser llinellog: elw, datblygiad, cynnydd a moderneiddio yw’r gwerthoedd sy’n cyflyru’r math hwn o amser. Daw cryn dipyn o rym y ddwy nofel, felly, o’r tensiwn rhwng y naill ffordd o feddwl am amser a’r llall, un yn troi a’r llall yn rhedeg. 

Wrth gloi ei astudiaeth, fe ddisgrifia Hywel Teifi Edwards y Pentre’ Gwyn ar droad ein canrif ni fel lle sydd ‘wedi mynd ac yna o hyd’. Absenoldeb presennol; presenoldeb absenoldeb: dyma ffordd arall o feddwl am y cwestiynau ‘Beth yw olion?’ a ‘Beth yw etifeddiaeth?’ Erbyn heddiw, mae’r bwthyn gwledig, yn hytrach na bod yn symbol o berthyn a chartref, yn symbol o ymadawiad neu o’r ymdrech i barhau. Os oes rhaid byw gydag anifeiliaid, rhaid i’r rhai sy’n poblogi’r tir fyw gyda drychiolaethau hefyd. Ac fel yn achos drychiolaeth, dim ond olion sy’n weddill. Ond tystia’r ddwy nofel hyn i bwysigrwydd olion – ac maent yn gwrthod eu hanwybyddu.


Mae Tomos Owen yn ddarlithydd yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor.

Lluniau: 'Llaethbwlch ger Llanfyllin, Powys' a 'Lôn yn arwain i gefn gwlad Powys' 
gan Tom Gunn www.seasideman.com


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rhifyn 1, Tomos Owen, Caryl Lewis, Nofelau

 


Gellid cynnig ‘modernedd’ yn air arall ar gyfer y grymoedd rheibus hyn

Dyddiad cyhoeddi: 17·10·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ned Thomas

Y mis hwn, hanner canrif yn ôl, daeth rhyfel Biafra i ben. Methodd yr ymdrech i sefydlu gwlad annibynnol i'r bobl Igbo (yn bennaf) yn ne a de-ddwyrain Nigeria. Parhaodd y rhyfel am dros ddwy flynedd a hanner, a lladdwyd o gwmpas…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Ysbrydolwyd Hel y Mynydd (12 Ionawr 2020, S4C) gan y ffenomen sakte-TV yn Llychlyn: ‘teledu araf’. Yn 2009 darlledwyd rhaglen saith awr hynod boblogaidd ar y sianel NRK2 yn dogfennu siwrnai drên o Bergen i Oslo, prosiect a ddisgrifwyd yn y New Yorker fel ‘the iconic slow-TV programme’ ac a sbardunodd genre newydd. Enghraifft…

Cyfansoddi


Geraint Lewis

Ro’n i wedi bwriadu ysgrifennu stori, wir i chi. Dyna oedd y syniad. Ro’n i’n teimlo’n weddol hyderus, yn gwybod am y diffiniad clasurol o orfod cael dechrau, canol a diwedd – er nid o anghenraid yn y drefn yna, chwedl Samuel Beckett.

Dadansoddi


Huw L Williams

Mae pyrth dy fforest di, o wlad y Brutaniaid presennol, yn agored i’r eirias dân. Oni ddygwch ffrwyth yr awron, fe a’ch torrir rhag bod yn bobl.

Geiriau Morgan Llwyd yn Llyfr y Tri Aderyn (1653) yw y rhain, yn fynegiant o’r athrawiaeth a fyddai, yn ôl M Wynn Thomas, yn…

Cyfweld


Ivan Krastev

Wrth i'w gyfrol ddiweddaraf gael ei chyhoeddi – The Light That Failed: A Reckoning (2019, gyda Stephen Holmes) – bu Eurozine yn cyfweld ag Ivan Krastev, un o ddadansoddwyr amlycaf y newidiadau mawr ar waith yn Ewrop ar hyn o bryd, gan gynnwys cysyniadau sydd ynghlwm wrth Brexit megis 'y mwyafrif dan fygythiad'. Dadleua Ivan Krastev a Stephen Holmes…

Adolygu


Jane Aaron

Yn ôl rhagair Tegwen Morris, cyfarwyddwraig bresennol Merched y Wawr, ‘nid ffeministiaeth sy’n cael ei bortreadu’ yn y gyfrol hon ond ‘bywyd bob dydd’ menywod Cymru rhwng 1920 a 1960. Eto i gyd, yr hyn sydd yn debyg o daro darllenwyr yr 21g wrth iddynt droi tudalennau’r…

Dadansoddi


Keith Chapin

Cysyniad hynafol yw’r ‘aruchel’ a gafodd ei ddychmygu o’r newydd dro ar ôl tro. Hupsous yn yr hen Roeg, sublimis yn Lladin, sublime yn Ffrangeg a Saesneg, Erhaben yn Almaeneg: mae’n dynodi uchelder arbennig (neu’r safle oddi tano, sef ‘sub’ ‘limen’ – yn llythrennol, o dan drothwy). Roedd ‘arddull yr aruchel’ (stilus sublimus) â’i holl ddefnydd o drosiadau llachar, cymalau coeth ac ieithwedd gain, yn rhan…

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ...