Adolygu

Merched a ffotograffiaeth: tu ôl i’r lens

Rhwng realaeth a dychymyg


Ruth Richards

Amser darllen: 5 munud

11·09·2018

Y dyn eira cyntaf y tynwyd ei lun yng Nghymru?
Ffotograff a briodolir i Mary Dillwyn neu Tereza Llewelyn, 1853/4


Mewn sawl arddangosfa sy'n canolbwyntio ar waith merched, ceir, hyd heddiw, ddwy stori: stori'r gwaith a arddangosir a stori'r frwydr i'w greu ac iddo gael ei gymryd o ddifrif. Fawr o syndod felly mai dyma un o negeseuon arddangosfa'r Amgueddfa Genedlaethol o ffotograffau gan ferched o'u casgliad parhaol ('Merched a Ffotograffiaeth: Tu ôl i'r Lens'): '... yn hanesyddol,' meddai'r rhagarweiniad, 'nid yw eu gwaith wedi cael yr un sylw, cefnogaeth a dealltwriaeth ag a gafodd dynion.'

Dyma osodiad amlwg a pherthnasol hefyd, wrth gwrs, i ystod syfrdanol eang o weithgaredd, yn cynnwys, nid yn unig y celfyddydol, ond y gwyddonol a'r athronyddol. Wn i ddim, fodd bynnag, os yw ffotograffiaeth yn cynrychioli'r esiampl orau (neu'n hytrach, waethaf) o'r ffenomen anghyfiawn hon. A rhaid cydnabod bod dosbarth, cyfoeth a diwylliant, yn ogystal â rhyw, yn chwarae eu rhan yn y ras rwystrau hanesyddol tuag at hunan-wireddiad. Ond o'r cychwyn, ymddengys bod ffotograffiaeth yn gyfrwng a oedd yn gymharol agored i ferched – i ferched cefnog, beth bynnag. Yn sicr mi roedd ffotograffiaeth yn rhydd o ragdybiaethau a disgwyliadau celfyddyd academaidd, gyda'i delfryd wrywaidd o'r hyn a gynrychiolai'r cysyniad o 'athrylith' a'i strwythurau hyfforddiant caeth. Roedd ffotograffiaeth hefyd, wrth gwrs, yn gyfrwng newydd, yn llechen lân, heb reol na dealltwriaeth gyflawn o’i holl bosibiliadau. Efallai i hynny ganiatáu bwlch i ferched gamu iddo a'u galluogi i fod ymysg y cyntaf i arbrofi â phosibiliadau'r dechnoleg.

Bron i flwyddyn cyn i William Henry Fox Talbot gyhoeddi ei draethawd darluniedig arloesol ar ffotograffiaeth, 'The Pencil of Nature' yn 1843, roedd Anna Atkins eisoes wedi cyhoeddi llyfr gyda delweddau ffotograffig o sbesimenau algae. Ac yn yr arddangosfa hon, ceir cynrychiolaeth o'r cyfnod cynharaf ar ffurf gwaith Mary Dillwyn (gweler Willy ar y dde, a dynwyd ganddi yn 1853) a Thereza Mary Llewelyn, ill dwy yn aelodau o deulu o arloeswyr y cyfrwng, sef y Fox Talbots a'r Dillwyn Llewelyns o Abertawe. Roeddent mewn safle perffaith i gyfrannu at ddatblygiad y cyfrwng. Ond mae'r capsiynau a roddir i'w lluniau'n datgelu'r manteision a'r felltith o fod ar ochr fenywaidd llinach o ffotograffwyr blaengar. Er iddynt gael mynediad i'r cyfrwng, eto, gwelwn mor rhwydd oedd hi i'w gwaith gael ei golli ynghanol cynnyrch ehangach y teulu. Dan lun bach hyfryd a bregus o osodiad blodau ffurfiol gwelwn mai delwedd wedi'i 'briodoli' i Mary Dillwyn ydyw, yn hytrach nag esiampl gadarn o'i gwaith. Ond teg fyddai nodi’n ogystal llwyddiant diweddarach Julia Margaret Cameron a Clementina Iarlles Penarlâg, a sefydlodd eu hunain o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel ffotograffwyr gyda gweledigaeth benodol ac unigryw; yn wir, rhoddwyd lle blaenllaw iddynt yng nghanon datblygol y cyfrwng.

Un elfen o ddatblygiad ffotograffiaeth a ddarlunnir yn ddifyr iawn yn yr arddangosfa hon yw arwyddocâd y broses o ddemocrateiddio ffotograffiaeth. Wrth i gamerâu cryno a rhad gyrraedd y farchnad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwn y cwmni Kodak yn anelu eu nwyddau at ferched ifanc. Dyma grŵp demograffaidd a elwir ganddynt yn 'Kodak Girl', enw sy'n cyfleu a manteisio ar feiddgarwch ac optimistiaeth merched ifanc troad y ganrif newydd a cham ymlaen o'r ddelwedd a gyflwynwyd o'r ffotograffwraig fenywaidd fentrus fel 'Kodak Fiend' (gweler y cerdyn post ar y chwith lle dylunnir merch amheus yn tynnu lluniau yn Ffair Byd Chicago, 1893). Cyflwynir 'Kodak Girl' fel ymgorfforiad o'r dyhead modern am ryddid ac annibyniaeth. Dyma ddelwedd fyddai'n apelio at y math o ferch a fyddai'n cefnogi'r galw am bleidlais, a fyddai’n barod i fentro tu hwnt i'r cynefin domestig gyda'i chamera 'Brownie' i gofnodi golygfeydd a gweithgaredd byd a oedd yn llawer ehangach na'r un a ganiatawyd i'w chyn-famau.

Ar y sylfaen hwn, datblygir naratif sydd yn pwysleisio ehangder ac amrywiaeth; yn ddathliad o hyblygrwydd y cyfrwng a'i allu i gyfleu amryfal negeseuon. Ceir esiamplau o ffoto-ohebiaeth cyfoes yng ngwaith Bieke Depoorter, Chloe Dewe Mathews a Cristina de Middel; dogfen gymdeithasol yn lluniau Helen Muspratt o'r Rhondda yn y tridegau; ac fel byddai rhywun yn gobeithio, delweddau fyrdd sy'n herio ein hystrydebau gweledol.

Nodwedd arall sy'n cyfleu amrywiaeth yr arddangosfa yw'r gymysgedd amheuthun o waith ffotograffwyr adnabyddus a nifer a oedd, i mi beth bynnag, yn gwbl ddieithr. Ymysg delweddau cyfarwydd o waith Diane Arbus ac Eve Arnold, ceir lluniau sydd yr un mor drawiadol, ond sy'n cynnig y wefr ychwanegol o ddieithrwch. Synnais, er enghraifft, nad oeddwn yn ymwybodol o waith Tish Murtha, a gofnodai dlodi gogledd-orllewin Lloegr yn ystod y saithdegau a'r wythdegau gyda chynhesrwydd a chydymdeimlad treiddgar. Os nad yw Tish Murtha wedi cael ei llawn haeddiant hyd yma, mae'n debyg nad ei rhyw yn gymaint â’i harddull realaeth gymdeithasol – a aeth allan o ffasiwn gyda Thatcheriaeth ac Ôl-foderniaeth – sydd i gyfrif am hynny.
 

Karen on an overturned chair gan Tish Murtha, 1980 (hawlfraint Ella Murtha)


Mae’n fwriad gan yr Amgueddfa gynnal chwaer-arddangosfa yn y flwyddyn newydd fydd yn canolbwyntio ar ddelweddau o ferched – y merched o flaen yn hytrach na thu ôl i’r lens, felly. Mi dybiwn y bydd honno’n arddangosfa dra gwahanol, mwy problemus efallai, ac yn un fydd yn sicr o amlygu hanfod y drafodaeth ffeministaidd ar gelfyddyd weledol, sef i ba raddau y darlunnir a chyflwynir merched drwy lygaid y gwryw a thrwy lens patriarchaeth. Yn y cyfamser, dylid manteisio ar y cyfle i ymateb i ddelweddau’r arddangosfa hon mewn ysbryd o ddathliad.

Gan ddilyn trefn gronolegol, mae'r arddangosfa'n diweddu yr un mor drawiadol ag y mae'n agor, gyda gwaith sydd fel petai'n cynnig rhagflas o'r arddangosfa i ddod. Ers 2016, bu Clémentine Schneidermann yn gweithio ar brosiect mewn cydweithrediad annisgwyl â steilydd ffasiwn a chlybiau ieuenctid yng Nghymoedd y De. Yn erbyn tirwedd ôl-ddiwydiannol didrugaredd, darluniai ferched ifanc a phlant mewn gwisgoedd difyfyr ac ysblennydd yn arbrofi'n ddiwahardd gyda gwahanol hunaniaethau a ffyrdd o gyflwyno eu hunain. Lluniau i godi'r galon ar un wedd yw'r rhain, lluniau sydd yn ein hatgoffa mewn modd heintus o’r reddf i wisgo i fyny, ac o rym dychymyg plentyn i herio diflastod ei amgylchiadau – tan i rywun ystyried sut y gall profiad osod ffiniau a lluchio dŵr oer ar y dychymyg hwnnw. Yn achos eisteddwyr ifanc Clémentine Schneidermann, bron na allwn ragweld yr amser yn dod pan fydd hwyl a chreadigrwydd y gwisgo i fyny, y colur a'r ffrils yn peidio, a’r un broses yn troi'n ddiflastod, yn ufudd-dod, ac yn orthrwm, hyd yn oed. 


Merched a Ffotograffiaeth, arddangosfa yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd.

Rhan Un: Tu Ôl i'r Lens, 5 Mai – 11 Tachwedd 2018

Rhan Dau: O Flaen y Lens, 1 Rhagfyr 2018 – 9 Mehefin 2019


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Wrth i gamerâu cryno a rhad gyrraedd y farchnad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwn y cwmni Kodak yn anelu eu nwyddau at ferched ifanc

Dyddiad cyhoeddi: 11·09·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Sioned Puw Rowlands

Wrth edrych am yn ôl i'r saithdegau a thurio cof plentyndod, synhwyraf bâr o lygaid yn serio'r tywyllwch. Ymhlith y gwmnïaeth a aeth yn bapur wal ymwybod wrth i mi aeddfedu, ynghanol cymdeithas ddigon ecsentrig Mary Vaughan Jones, gwelaf lygaid dolefus a phenderfynol…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae Gwn Glân Beibl Budr yn albwm sydd yn cydio yn eich calon o’r dechrau un ac yn gwrthod llacio gafael tan y nodyn olaf. Mae i’r caneuon hyn deimlad elfennol, oesol. Dyma albwm tywyll, dirdynnol; mae’n gynnil ac yn treiddio i’ch cwsg, yn tarfu ar eich…

Adolygu


Ceri Williams

Nodweddir perfformiadau Public Service Broadcasting gan gyfuniad unigryw o gerddoriaeth roc electronig egnïol a ffilmiau archif gwreiddiol – 'think Pathé meets Pet Shop Boys,' meddai'r Guardian. Trefnwyd y daith ddiweddaraf, a ddaeth i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe yn yr hydref, ar gefn llwyddiant yr albwm Every Valley.

Dyma un…

Dadansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Alla’i ddim bod yn sicr pryd oedd y tro cyntaf i mi glywed y dawn chorus yn iawn. Rwy’n siŵr fy mod i’n ymwybodol o’r ffenomen cyn i mi glywed y peth ei hun. A hynny, dybiwn i, oherwydd bod yr ymadrodd yn un sy’n gafael.…

Cyfansoddi


Giacomo Leopardi

Cyhoeddir ar ddiwrnod Santes Dwynwen eleni gyfieithiad Saesneg newydd o gasgliad o feddyliau a gwirebau un o awduron mwyaf nodedig yr Eidal, Giacomo Leopardi (1798-1837). Mae Leopardi fwyaf adnabyddus am ei gasgliad o gerddi, Canti (1835), a ystyrir yn un o binaclau llenyddiaeth Eidaleg. Dywedodd Italo Calvino amdano: 'Yr hyn sy'n wyrthiol am…

Dadansoddi


Morgan Owen

Pan symudais, dros dro, i ogledd-orllewin Cymru i fyw mewn cymuned Gymraeg lle mae’r iaith i’w chlywed o hyd yn hollol naturiol – i’r ‘Fro Gymraeg’, beth bynnag yw honno – darganfûm rywbeth annisgwyl: fy mod ers blynyddoedd wedi bod yn atal a chladdu fy nghefndir, sef y Cymoedd.…

Adolygu


Rhys Watkin

Cyflwynwyd cyngerdd o weithiau gan Ralph Vaughan Williams, Lili Boulanger, a’r Gymraes Rhian Samuel gan Gerddorfa Symffoni’r Coleg Cerdd a Drama fis Tachwedd, ar y thema ‘tirluniau’. Roedd cysgod Sul y Cofio a’r Rhyfel Mawr yn drwm ar y rhaglen, a gynhwysai The Lark Ascending (1914) a…

Dadansoddi


Qing Niao

Y diwrnod hwnnw, mi es i fy hen ysgol uwchradd. Dilynais yr un llwybr ag yr arferwn droedio’n ystod fy nhair blynedd yn ddisgybl yno. Bob haf, mae’r sefydliad hwn yn agored am fis ychwanegol ar gyfer y disgyblion sydd ar fin dechrau ar eu…