Angela V John


Rocking the Boat: Welsh Women Who Championed Equality 1840-1990

Parthian, 250tt, £20, Mawrth 2018

‘Myfi yw’r gwynt’: ugain mlynedd o weithredu
Adolygu

‘Myfi yw’r gwynt’: ugain mlynedd o weithredu

Pen-blwydd sefydlu Archif Menywod Cymru


Jane Aaron

Amser darllen: 6 munud

14·03·2018

Pan ddaw’r chwyldro hir i’w lawn dwf o’r diwedd, a phawb yn gyfartal a chytûn, go brin y byddwn wedyn yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mwy na Diwrnod Rhyngwladol y Dynion. Mae’r angen am ddydd o’r fath, i’n hatgoffa o ymgyrchoedd y gorffennol, i’n sbarduno ymlaen at ddyfodol gwell, yn arwydd o’n pellter oddi wrth y nod. Fodd bynnag, ym Mhrydain eleni yr oedd arwyddocâd arbennig i’r ŵyl hon. Roedd yn gyfle i gofio canmlwyddiant pasio Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 a roddodd y bleidlais i rai menywod (y rhai dros ddeg ar hugain oed a oedd yn meddu ar dŷ, neu ŵr â thŷ, neu radd). Ac i’r criw ohonom a ddaeth ynghyd ar yr wythfed o Fawrth ym Mae Caerdydd, dan arweiniad Archif Menywod Cymru a’r grŵp ymchwil o Brifysgol De Cymru, Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru, yr oedd cerrig milltir eraill i’w cofio hefyd. Roedd hi’n ugain mlynedd oddi ar sefydlu'r Archif yn 1998, ac yn ddeng mlynedd oddi ar inni golli Ursula Masson, yr hanesydd a fu’n weithgar yn sefydlu’r Archif a grŵp ymchwil y Brifysgol cyn ei marwolaeth annhymig yn 2008.

O naw o'r gloch y bore tan naw'r nos buom yn trafod hanes mudiadau menywod yng Nghymru ac yn ystyried sefyllfa’r Gymraes heddiw. Dechreuwyd y trafodaethau gan Dr Elin Jones (yno ar fyr rybudd, yn lle’r Athro Deirdre Beddoe a drawyd yn wael), a roddodd inni ddarlun difyr a bywiog o ymdrechion nifer o Gymraësau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg tuag at gyfartaledd rhwng y rhywiau. Gorffennodd trwy adleisio arwyddair yr Americanes Susan Brownell Anthony yn 1868: ‘I bob dyn ei hawliau - a dim mwy; i bob menyw ei hawliau - a dim llai.’

Cafwyd panel o weithwyr diwyd Archif Menywod Cymru: Catrin Stevens, y cadeirydd; Jenny Sabine, y cyn-gadeirydd; Avril Rolph, yr ysgrifennydd; a’r hanesydd Neil Evans fel ‘gwryw symbolaidd’, neu ‘token man’, yn ei eiriau ei hun. Clywsom am lwyddiannau’r Archif yn y gorffennol, er enghraifft, ei Sioeau ar Daith, 17 ohonynt ledled Cymru yn 2008-9, yn casglu oddi wrth y cyhoedd hen lythyrau, lluniau ac eitemau cyffelyb, i gyd yn cofnodi hanes bywydau menywod yng Nghymru. Enillodd yr Archif grant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer cynnal y Sioeau a’r Daith, ac fe fu’r Gronfa hefyd yn hael yn ei chefnogaeth o’i gweithgareddau mwy diweddar, fel yr ymgyrch i gasglu ‘Lleisiau o Lawr y Ffatri’, sef profiadau menywod fu’n gweithio yn ffatrïoedd Cymru rhwng 1945-75, a’r prosiect ‘Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf: y Profiad Cymreig’. Eleni cychwynnwyd ar brosiect newydd arall, sef ‘Canrif Gobaith: Dathlu canrif o dreftadaeth menywod yng Nghymru’. Y bwriad yw cynnal nifer o ddigwyddiad ledled Cymru yn ystod 2018, o ‘Weithdy Baner Heddwch’ yn y Fenni ym mis Ebrill, i ‘Helfa Drysor Ddigidol Hanes Menywod’ yn Aberystwyth ym Mehefin, a ‘Thaith Gerdded Heddwch’ ym mis Awst i gofio’r daith o Gaerdydd i Greenham yn 1981. Trwy gyfrwng y fath ymgyrchoedd mae’r Archif, dros y blynyddoedd, wedi gwneud gwaith gwych, yn casglu trwch o dystiolaeth a fyddai fel arall wedi mynd ar goll, ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o hanes menywod Cymru.

Dros yr awr ginio, yn Adeilad y Senedd, lansiwyd cyfrol newydd yr hanesydd Angela John, Rocking the Boat: Welsh Women Who Championed Equality 1840-1990. Mae’r gyfrol arloesol hon yn cynnwys traethodau bywgraffyddol ar saith o Gymraësau. Mae rhai’n enwau cyfarwydd, er enghraifft y fenyw gyntaf o Brydain i ennill gradd mewn meddyginiaeth, Frances Hoggan, neu’r swffragét Margaret Haig Thomas, Arglwyddes Rhondda; mae eraill yn hollol annisgwyl, megis Myfanwy ac Olwen Rhys, merched yr ysgolhaig Celtaidd John Rhys. Tystia brwydrau’r unigolion hyn yn erbyn systemau patriarchaidd eu hoes i’r ymdrechu hir a fu yng Nghymru tua’r nod o gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac yr oedd panel cyntaf y prynhawn, gyda nifer o dystion yn sôn am eu gweithgareddau gyda mudiad y merched trwy’r 70au, yr 80au a’r 90au, hefyd yn adleisio’r un neges.

Mynegir syndod yn aml fod cymaint o fenywod wedi eu hethol yn aelodau o’n Cynulliad Cenedlaethol ym 1999. Nifer bychan, wedi'r cyfan, a gafodd eu gyrru o Gymru i San Steffan yn yr ugeinfed ganrif. Ond yn aml yr un oedd y merched hynny a ddaeth i’r brig ym 1999 â’r rhai fu’n gweithio’n ddiwyd ym Mudiad y Menywod yng Nghymru trwy’r 70au a’r 80au, menywod fel Jane Hutt a Val Feld, Julie Morgan a Jill Evans. Cawsom beth o hanes yr ymgyrchu hwnnw gan Gill Boden, un o’r rhai a sefydlodd y grŵp codi ymwybyddiaeth ffeminyddol cyntaf yng Nghymru, yng Nghaerdydd yn 1970, ac a fu’n weithgar wedi hynny yn sicrhau hawliau gwell i famau. Fel un o arweinwyr Cymorth i Ferched Cymru, a agorodd eu cartref cyntaf yng Nghaerdydd yn 1975, bu Jane Hutt, a oedd hefyd yn aelod o’r panel, yn brwydro’n hir fel rhan o Fudiad y Menywod ymhell cyn dyfod yn Ysgrifennydd Iechyd yn y Cynulliad. Tystiodd eraill, fel Meg Elis, i’r modd y sbardunwyd merched i sefyll a siarad ar lwyfannau eu gwlad gan fudiadau megis Cymdeithas yr Iaith, y Mudiad Heddwch, Mudiad Amddiffyn Streic y Glowyr 1984-5, a’r cydweithfaoedd ffeminyddol fel Gwasg Honno a Red Flannel Films, y ddwy wedi’u sefydlu yn 1986. Fe’n atgoffwyd hefyd o gyfraniad Cymru i Wersyll Heddwch Comin Greenham, a gychwynnwyd gan Ann Pettit o Lanpumsaint yn 1981, ac a hyrwyddwyd wedyn mor ddiwyd gan Karmen Thomas, Helen John a llawer merch arall o Gymru, gan gynnwys Helen Thomas, y Gymraes Gymraeg ei hiaith o Gaerdydd a laddwyd mewn damwain â lorri’r heddlu yn Greenham yn 1989.

Tro’r to iau oedd hi ym mhanel olaf y prynhawn - yr Aelod Cynulliad Bethan Sayed, gyda’r myfyrwyr Aimee Gilkes a Leah Ellis yn sôn am y problemau sy’n wynebu merched heddiw, a llawer o’r rheiny yn deillio o’r modd y mae ein cymdeithas yn dal i wthio delweddau sarhaus ar y fenyw. Yn ôl Aimee Gilkes, yr hyn a’i gwnaeth yn ffeminydd oedd y sioc o glywed ar y cyfryngau mai unig uchelgais merched dosbarth gweithiol y Cymoedd, fel hithau, oedd cael baban er mwyn cofrestru ar gyfer tŷ cyngor. Yn y cyswllt hwn soniwyd am groestoriadoldeb (‘intersectionality’). Dyma arwyddair y don newydd o ffeminyddiaeth, sy’n cyfleu ei hymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi sylw i anghenion croestoriad o’r gymdeithas, gan gynnwys pob dosbarth cymdeithasol, pob ethnigrwydd, yr anabl a phobl o bob rhywioldeb a rhywedd. Cytunwyd fod angen tipyn mwy o ymroddiad eto cyn inni gyrraedd at gydraddoldeb go iawn.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd clywed merched ifanc ysgolion dociau Caerdydd yn canu ag arddeliad y geiriau ‘Myfi yw’r gwynt, rwy’n anorchfygol!’ (‘I am the wind/ I am invincible!’) mewn cyngerdd gyda'r hwyr yn Adeilad y Senedd. Unodd aelodau o Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru gyda chôr o blant ysgol i gyflwyno golygfeydd o opera newydd ar ymgyrchoedd y swffragét Margaret Haig Thomas, ‘Rhondda Rips It Up!’.

Yr hanesydd Ryland Wallace a draddododd Ddarlith Goffa Ursula Masson eleni, ar ‘Y Mudiad Rhyddfreinio Menywod yng Nghymru’; cymerodd y cyfle i’n hatgoffa am gyfraniad llawer merch anghofiedig i’r mudiad yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ei ôl ef, nid Arglwyddes Rhondda ond Rachel Barrett, Cymraes Gymraeg o Gaerfyrddin, oedd y swffragét bwysicaf o blith y Cymry - merch ymddangosiadol ddi-nod a aberthodd ei haddysg a’i gyrfa ar allor y mudiad, gan weithio fel golygydd eu cylchgrawn The Suffragette a newynu bron i farwolaeth yng ngharchar Holloway. Ond dim ond un enghraifft oedd hi o blith y menywod niferus o Gymru a ymgyrchodd mor ddygn dros hawliau merched trwy’r ugeinfed ganrif. Yr her yn awr yw cyfieithu eu llwyddiannau hwy yn gydraddoldeb cymdeithasol llawn, a hynny yn y blynyddoedd caled sydd, ar ôl Refferendwm Ewrop, yn debyg o’n hwynebu.


Mae Jane Aaron yn Athro Emeritws yn Ysgol y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru ac yn awdur Pur fel y Dur: Y Gymraeg yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, ymhlith cyfrolau eraill.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Ffeministiaeth, Jane Aaron, Hanes

 


Yn ôl Aimee Gilkes, yr hyn a’i gwnaeth yn ffeminydd oedd y sioc o glywed ar y cyfryngau mai unig uchelgais merched dosbarth gweithiol y Cymoedd, fel hithau, oedd cael baban er mwyn cofrestru ar gyfer tŷ cyngor

Dyddiad cyhoeddi: 14·03·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…