Tomi Ungerer, cyf. M Jarman


Allumette

Y Dref Wen, 31tt, £3.50, 1975 (1974)

Er mwyn y plant, o ddifri
Adolygu

Er mwyn y plant, o ddifri

Cofio Tomi Ungerer / 1931-2019


Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 5 munud

13·02·2019

Wrth edrych am yn ôl i'r saithdegau a thurio cof plentyndod, synhwyraf bâr o lygaid yn serio'r tywyllwch. Ymhlith y gwmnïaeth a aeth yn bapur wal ymwybod wrth i mi aeddfedu, ynghanol cymdeithas ddigon ecsentrig Mary Vaughan Jones, gwelaf lygaid dolefus a phenderfynol Allumette. Hon ydi un o greadigaethau'r darlunydd a'r awdur Tomi Ungerer, a fu farw ar 8 Chwefror yn 87 oed.

Roedd yna deimlad stori 'go iawn' am y llyfr hwn dan glawr caled brown ac Allumette wedi ei fframio'n bictiwr yn ei ganol, yn pefrio fel pen eirias y fatsien yn ei llaw. Realaeth ddianwes ac anarferol oedd gwedd y byd a ddarganfyddais rhwng y cloriau, golygfeydd a oedd serch hynny'n cyfleu rhyw brydferthwch rhyfedd. Gwasg Y Dref Wen gyhoeddodd y cyfieithiad Cymraeg gan M Jarman, yn 1975. 

Y cof sydd gen i ydi mai stori am ferch dlawd sy'n byw dan bontydd tamp yn gwerthu matsis ydi Allumette. Mae Ungerer fel petai'n ceisio dychmygu be wnaethai 'hogan fach y matsis' Hans Christian Andersen pe byddai ganddi holl bethau materol y byd hwn. Wedi i'r nen agor ac iddi ddechrau bwrw nid hen wragedd a ffyn ond y moethbethau hyn, mae Allumette yn penderfynu eu rhoi i helpu eraill. 

Mae gen i gof am lyfr arall gan Tomi Ungerer yn gorweddian o gwmpas y tŷ yn yr un cyfnod, â chawr mawr aneniadol ar ei flaen. Ond wn i ddim ai yn Gymraeg oedd y llyfr hwn. Ac un arall am angerdd dyn y lleuad, yn Saesneg – Moon Man (1966). Oherwydd ei bod yn medru fy mamiaith, Allumette adawodd ei hôl arnaf fwyaf. Llyfrau oedd yn osgoi ffug foesau oedd y rhain, yn darlunio camweddau cymdeithas heb ddim ffỳs ac eto'n ymestyn ymhell ac yn dal gogoniannau – a afaelai yn y dychymyg gymaint yn dynnach o fod yn fregus.

Sgwennu am bethau sylfaenol bywyd, yr hyn sydd yn rhoi iddo ei ddwyster a'i ddyfnder, yr oedd Tomi Ungerer. Roedd yn barod i droedio llwybrau dadleuol a chonsurio bydoedd mewn lliw a llun lle mae popeth yn sownd yn ei gilydd, gan gynnwys y da a'r drwg. Meddai mewn cyfweliad i wasg Phaidon am un o'i lyfrau mwyaf adnabyddus i blant, 'Y Tri Lleidr' (1962): 'Evil can be the most fertile ground for good, and the good can learn from the cleverness of evil ... The Three Robbers, I could say, is a fable of how good and evil are really tied to each other, and how together they can be quite entertaining.' Wn i ddim am y cymal olaf, er difyrred ei straeon, ond yn sicr yr argraff a gefais oedd nad un i gymryd fo'i hun ormod o ddifri oedd Ungerer.

Cafodd ei eni yn Strasbourg yn 1931, ar groesffordd ddiwylliannol rhwng Ffrainc a'r Almaen, mewn cyfnod cythryblus, wrth gwrs, yn hanes Alsace. Yr ieuengaf o blith pedwar o blant, roedd yn fab i reolwr ffatri clociau astronomegol a fu farw pan oedd Ungerer yn dair oed. Pan gyfeddianwyd Alsace dan y Trydydd Reich cafodd y ffatri deuluol ei chymryd oddi arnynt, a Tomi yn wyth oed. Roedd yn adeg pan oedd gorfodaeth i siarad Almaeneg yn yr ysgol, i ganu caneuon Natsïaidd; a chafodd ei enw, nad oedd yn ddigon Almaenaidd, ei newid i Hans. Mewn cyfweliad i bapur Le Monde yn 2016 dywedodd am y cyfnod hwn: 

Dysgais [yn y cyfnod hwn] beth oedd ystyr bod yn lleiafrif. Pan ddychwelodd y Ffrancwyr i Alsace yn dilyn ymadawiad y Natsïaid ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd pawb yn grediniol y byddai bywyd cymaint gwell. Roedd hynny ymhell o fod yn wir. Cofiaf am un athro a ddywedodd wrthyf fod rhaid i mi wared f'acen os oeddwn am ymddiddori o ddifri mewn llenyddiaeth. Yn bymtheg oed, roeddwn yn trefnu protestiadau yn yr ysgol i sicrhau'r hawl i ni siarad Alsasieg ar yr iard amser chwarae. 

Wedi methu ei arholiadau ysgol aeth, ymhen amser, i drio ei lwc yn Efrog Newydd. Daeth o hyd i waith fel darlunydd i'r New York Times a chyhoeddiadau dylanwadol eraill. Dyluniodd hysbysebion a phosteri, gan gynnwys yr un cyfarwydd ar gyfer ffilm Stanley Kubrick, Dr Strangelove (1964). Bu hefyd yn creu posteri yn erbyn rhyfel Fietnam ac yn erbyn hiliaeth. Un o'r rhai mwyaf cofiadwy ydi Black Power, White Power, lle dylunnir dyn du a dyn gwyn yn gorwedd ben wrth draed, eu safnau am goesau ei gilydd.

'I was brought up and educated with hate,' meddai Ungerer mewn cyfweliad yn gynharach eleni i The Comics Journal. 'Hatred of the neighbours, hatred of the Germans, hatred of the Catholics. It was nothing but hate, hate, hate.' 'I know how it feels to be different,' meddai mewn cyfweliad arall gyda chylchgrawn Print y llynedd, 'and I must say that all the children's books I did after that were all actually ostracized animals. I did one about the rats, about a chauve-souris – a bat – about a vulture.'

Flix (1997), stori am gi sy'n cael ei eni i ddwy gath, oedd un o hoff lyfrau fy mhlant pan oeddent yn iau. Un arall a brynais iddynt yn fwy diweddar oedd No Kiss for Mother a gyhoeddwyd yn Almaeneg yn wreiddiol, yn 1974. Hawdd camgymryd mai llyfr gwrthffeministaidd ydi hwn: mae'r stori'n cydnabod – ac yn cyfreithloni bron – deimladau blin hogiau tuag at eu mamau. Meddyliais ddwywaith cyn rhannu'r stori efo'u tad. Ond eto, mae hon yn gyfrol sydd wedi ennill lle anrhydeddus ar yr aelwyd, yn rhan o'r gyfeiriadaeth deuluol erbyn hyn, ei hiwmor sych yn abl i'n hachub rhag tanchwa ffrae. Cofiaf hefyd fel y byddwn ambell dro, ar ganol darllen un o lyfrau Ungerer ar erchwyn gwely'r plant, yn dod i stop ac yn meddwl: lle mae o wedi mynd â ni rŵan – i sefyll yn noeth ynghanol synwyrusrwydd golygfa erotig, a hynny mewn llyfr lliw a llun?

Doedd hynny'n poeni dim ar Ungerer, hyd yn oed pan gafodd ei lyfrau eu gwahardd o nifer o lyfrgelloedd plant yn America yn dilyn cyhoeddi llyfr o ddarluniau erotig dychanol i oedolion ganddo (Fornicon, 1969). Problem Eingl-Sacsonaidd oedd hon, meddai, sydd ond yn broblem ar dir Lloegr ac America, nid, wrth reswm, ar gyfandir Ewrop. A phan ofynnwyd iddo gan y llyfrgellwyr cynddeiriog sut y gallai ddarlunio cyfathrach rywiol mewn ffordd mor graffig, atebodd: 'If people didn't f**k, you wouldn't have any children, and without children you would be out of work.' Fallai'n llai adnabyddus, hyd yn oed i rieni llyfrboeth, y mae ei gyfrol o gyfweliadau gyda dominatrixes mewn bordelo yn Hamburg – Schutzengel der Hölle (1986; Angylion Gwarcheidiol Uffern). Tydi o ddim syndod clywed iddo rannu llety efo Philip Roth ar un adeg. Roedd yn llawiach hefyd ag un arall o awduron hoff lyfrau fy mhlentyndod, Maurice Sendak. 

Wedi byw am flynyddoedd yn yr Unol Daleithiau, symudodd i Ganada, ac yn 1976 i Iwerddon, lle bu farw rai diwrnodau'n ôl, yng ngorllewin swydd Corc. Yn Iwerddon y lleolir un o'i gyfrolau olaf i blant, Fog Island (2013). Yn ogystal â'r gweithiau amrywiol hyn a'r degau ar ddegau o lyfrau plant a ysgrifennodd yn Ffrangeg, Almaeneg a Saesneg yn ôl ei hwyliau, ceir dau hunanfywgraffiad gwerth eu darllen: Tomi: A Childhood Under the Nazis (1991) a Far Out Isn't Far Enough (1983). Yn 2007, agorwyd amgueddfa yn Strasbourg, Musée Tomi Ungerer, yn ddathliad o'i gyfraniad i fyd dyn a'i bethau. Os nad oedd Tomi Ungerer am gymryd ei hun ormod o ddifri, nac unrhyw oedolyn a fynnai arddel yr athrawiaeth ragrithiol honno, roedd yn benderfynol o gymryd plant o ddifri. A dyna oedd ei gyfraniad mawr.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Sgwennu am bethau sylfaenol bywyd, yr hyn sydd yn rhoi iddo ei ddwyster a’i ddyfnder, yr oedd Tomi Ungerer. Roedd yn barod i droedio llwybrau dadleuol

Dyddiad cyhoeddi: 13·02·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Llio Mai Hughes

Nos Wener, 15 Mawrth, perfformiodd Cymdeithas John Gwilym Jones eu cynhyrchiad cyntaf yn Stiwdio Pontio, Bangor. Ac Eto Nid Myfi oedd y ddrama, a phob tocyn wedi’i werthu. Roedd Pontio yn llawn bwrlwm wrth i’r dorf ymgasglu; yn eu mysg roedd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, darlithwyr,…

Cyfansoddi


Emyr Lewis

Mae Lana Turner 'di colapsio! O'n i'n trotian heibio ac yn sydyn ddechreuodd hi fwrw glaw a bwrw eira a deudist di ei bod hi'n bwrw cenllysg ond mae cenllysg yn dy hitio di ar dy ben yn galad felly go iawn ... 

Adolygu


Angharad Tomos

Da oedd gweld y theatr yn Pontio yn gyfforddus lawn ar nos Iau, 21 Chwefror ar gyfer y ddrama Anweledig. Roedd y cynhwysion cywir ar gyfer noson dda yno – Ffion Dafis yn gwneud sioe un wraig, ac Aled Jones Williams yn awdur. Ychwanegwch ddyfeisgarwch…

Dadansoddi


Huw L Williams

Undod – sy’n sefyll dros annibyniaeth radical i Gymru – yw un o’r grwpiau diweddaraf i ymuno â’r mudiad ehangach #indywales. Mae ambell ymateb i ddyfodiad y grŵp hwn wedi bod yn ddadlennol. Holwyd yn lled gyson ‘Pam?’, gyda rhai yn ei ystyried fel rhaniad diangen, eraill yn mynnu…

Dadansoddi


Sioned Puw Rowlands

Ar yr ymosodiadau gwrth-Semitaidd yn Ffrainc yr wythnos hon.

Roeddwn i'n methu â dod dros y ffaith ei bod hi'n gwisgo wig; byddwn yn ei dychmygu yn ei dynnu i ddatgelu pen moel, yn gyfrinachol, yng ngŵydd ei gŵr; gwnaethwn fy ngorau i wthio'r…

Adolygu


Sioned Puw Rowlands

Wrth edrych am yn ôl i'r saithdegau a thurio cof plentyndod, synhwyraf bâr o lygaid yn serio'r tywyllwch. Ymhlith y gwmnïaeth a aeth yn bapur wal ymwybod wrth i mi aeddfedu, ynghanol cymdeithas ddigon ecsentrig Mary Vaughan Jones, gwelaf lygaid dolefus a phenderfynol…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae Gwn Glân Beibl Budr yn albwm sydd yn cydio yn eich calon o’r dechrau un ac yn gwrthod llacio gafael tan y nodyn olaf. Mae i’r caneuon hyn deimlad elfennol, oesol. Dyma albwm tywyll, dirdynnol; mae’n gynnil ac yn treiddio i’ch cwsg, yn tarfu ar eich…

Adolygu


Ceri Williams

Nodweddir perfformiadau Public Service Broadcasting gan gyfuniad unigryw o gerddoriaeth roc electronig egnïol a ffilmiau archif gwreiddiol – 'think Pathé meets Pet Shop Boys,' meddai'r Guardian. Trefnwyd y daith ddiweddaraf, a ddaeth i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe yn yr hydref, ar gefn llwyddiant yr albwm Every Valley.

Dyma un…