Christopher Meredith


Brief Lives

Seren, 144tt, £9.99, Mehefin 2018

Diana Wallace


Christopher Meredith

Cyfres ‘Writers of Wales’, GPC, 208tt, £16.99, Mai 2018

O Gefn Golau i’r sêr ac yn ôl
Adolygu

O Gefn Golau i’r sêr ac yn ôl


Katie Gramich

Amser darllen: 12 munud

30·11·2018

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country other than Wales, or any people other than the Welsh people.’ Gellir dweud rhywbeth tebyg am ffuglen a barddoniaeth Christopher Meredith, yr awdur o Dredegar, sydd, fel Jones o’i flaen, wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Yn wir, yn ei chyfrol drwyadl ar Christopher Meredith yn y gyfres ‘Writers of Wales’, mae Diana Wallace yn dadlau bod gwaith Meredith yn ffurfio ‘a sustained meditation on the history and geography of south-east Wales’ sy’n ymestyn o’r canoloesoedd i’r cyfnod ôl-ddiwydiannol sydd ohoni. Ond nid hanes a daearyddiaeth yn unig sy’n ysgogi awen Meredith: mae iaith hefyd wedi bod yn ganolog i’w weledigaeth. Awdur arbrofol ydyw, un sydd wedi cyhoeddi pedair cyfrol o farddoniaeth yn ogystal â phedair o nofelau, ac mae pob un o’r rhain yn cynnig i ni leisiau ac acenion gwahanol, mewn ffurfiau syfrdanol o amrywiol. Yn fwy na dim, mae’r iaith Gymraeg, ei rhythmau, ei hanes, a’i seiniau, yn cordeddu â geiriau Saesneg ei gyfrolau i greu plethwaith sy’n adrodd hanes cymysg a chymysglyd cymoedd y de.

Nofel fwyaf adnabyddus Meredith yw Shifts (1988), ei nofel gyntaf, sy’n cael ei hystyried erbyn hyn yn glasur. Mae’n sôn am ddyddiau olaf gwaith dur yn y cymoedd yn 1977, ac yn lleisio’r profiad a fyddai’n cael ei alw’n ‘ôl-ddiwydiannol’ maes o law. Fel y noda Diana Wallace, o’n safbwynt ‘ni’ y mae Meredith yn siarad – Cymry dosbarth gweithiol yw ei gymeriadau, ac rydym yn clywed eu meddyliau a’u geiriau yn eu lleisiau a’u hacenion hwy eu hunain. Er bod Shifts wedi cael clod haeddiannol pan gyhoeddwyd y llyfr yn 1988, roedd yna duedd ar ran beirniaid Seisnig i ganmol yr hyn a elwid ganddynt yn ‘gritty realism’ y nofel, ac rwy’n gwybod fod Meredith – a’i edmygwyr – wedi teimlo’n rhwystredig ynglŷn â hyn. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer mwy yn digwydd yn y nofel gywrain hon nag y mae’r term ‘realism’, pa mor ‘gritty’ bynnag y bo, yn ei awgrymu. Roedd Shifts yn torri tir newydd am ei bod yn dangos nad oedd raid i ffuglen sy’n codi o’r dosbarth gweithiol Cymreig fod yn ddogfennol; i’r gwrthwyneb, roedd ein ffuglen ‘ni’ yn gallu bod yn arbrofol, yn uchelgeisiol, yn symbolaidd, yn synhwyrus, ac ambell dro yn astrus ac yn heriol. Rhaid cyfaddef fod Glyn Jones eisoes wedi profi hyn yn ei gampwaith The Island of Apples (1969), llyfr a edmygir gan Meredith ac sydd efallai wedi dylanwadu arno i raddau. Ond mae Shifts yn llawer agosach at fyd gwaith diwydiannol go iawn – byd y ffatri, byd y gegin – na nofel fwy swreal Glyn Jones.

Tri phrif gymeriad sydd yn Shifts: Keith, Jack, a Judith, ac mae llais a phrofiad pob un ohonynt yn llywio’r naratif o bryd i’w gilydd, ynghyd ag un cymeriad sinistr a rhyfedd arall o’r enw ‘O’. Clywn am feddyliau’r cymeriadau, eu gobeithion, a’u dyheadau. Mae’r disgrifiad o’r berthynas rywiol sy’n datblygu rhwng Judith, gwraig Keith, a’i hen ffrind Jack yn dangos agwedd arall ar waith Meredith sy’n hynod o rymus: ei ddadansoddiad craff o berthnasau cymhleth rhwng dynion a menywod, a rhwng dynion a’i gilydd. Cyfnod o naw mis yn 1977 a gwmpasir gan y nofel, ac mae hwn yn gyfnod tyngedfennol ym mywyd y fro: mae’r ffatri ddur yn graddol gau i lawr, a’r digwyddiad hwnnw’n symbol o’r ‘shift’ anferth sy’n digwydd yn hanes y genedl. Camp fwyaf y nofel efallai yw dangos sut y mae prosesau mawr, anochel hanes yn effeithio ar unigolion, nid yn unig o safbwynt eu gwaith bob dydd, ond o safbwynt eu breuddwydion, rythmau eu cyrff a’u bywydau, a’u cydberthynas.

Cofiaf imi ofyn i’r awdur un tro (braidd yn ysmala, efallai) pa un o’r prif gymeriadau yr oedd ef yn uniaethu ag ef: Keith, y gŵr pwyllog sy’n ymddiddori mewn hanes lleol ac sy’n dysgu Cymraeg, ynteu Jack, y menwotwr digywilydd sy’n dipyn o glown. Ei ateb oedd: ‘Dim un ohonynt – rwy’n llawer tebycach i Judith.’ Ac fel petai’n gwireddu’r ateb annisgwyl hwnnw, ddeng mlynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd Meredith nofel yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar gymeriad benywaidd – yr athrawes Sarah Bowen yn Sidereal Time (1998). Ond, cyn hynny, ymddangosodd Griffri (1991). Roedd Griffri yn nofel annisgwyl i olynu Shifts, a dweud y lleiaf. Nofel hanesyddol yw hi, wedi ei lleoli yn y ddeuddegfed ganrif, gyda bardd o’r enw Griffri yn adrodd stori’r cyfnod pan oedd yr Eingl-Normaniaid yn ymladd yn barhaus yn erbyn yr uchelwyr Cymreig, a’r rheini’n ymladd yn erbyn ei gilydd. Unwaith eto mae Meredith yn arbrofi, ac yn dangos i ni botensial ffurf y nofel hanesyddol. Nid ffantasi ddihangol sy’n mynd â ni yn ôl i oes aur y gorffennol mohoni; i’r gwrthwyneb, mae hi’n nofel sy’n dangos trais a brad erchyll y cyfnod, yn cynnwys dallu a sbaddu gelynion. Y rhan fwyaf o’r amser nid yw Griffri druan yn gwybod beth sy’n digwydd; fel y gweithwyr yn y ffatri ddur yn Shifts, mae’n cael ei chwyrlïo yn nhrobwll hanes, a’r unig beth mae’n ceisio’i wneud yw goroesi. Ond mae ei alwedigaeth fel bardd yn bwysig: mae’r nofel yn gofyn beth yw rôl y bardd, neu’r artist, mewn cyfnodau fel hyn? Mae stori Griffri yn dangos pa mor hawdd, hyd yn oed i fardd, yw bod yn gyfrannog o systemau gormesol. Fel Shifts, felly, mae hi’n nofel sy’n sôn am wleidyddiaeth diwedd yr ugeinfed ganrif, ac yn enwedig am wleidyddiaeth Cymru: wrth ddarllen Griffri, darllenwn am y cyfnod pan oedd Cymru’n dechrau colli ei hannibyniaeth, yn cael ei gormesu, a’r Cymry eu hunain yn troi ar ei gilydd ac yn bradychu ei gilydd. Fel y mae Diana Wallace yn nodi, mae’r nofel ‘hanesyddol’ hon yn cyd-fynd yn berffaith â cherddi Meredith, er enghraifft ‘Prisoners’, sy’n trafod carcharu un o’i ffrindiau yn yr wythdegau cynnar ar amheuaeth o fod wedi cynllwynio i fomio targedau yng Nghymru.

Er mai dechreubwynt Griffri oedd dyfyniad o Brut y Tywysogion, nofel sydd yn ymwneud â hunaniaeth Gymreig yr ugeinfed ganrif yw hi yn y bôn. Ond mae dychymyg hanesyddol ac athronyddol gan Meredith: mae’n cyflwyno i ni haenau o hanes ein gwlad ac yn ceisio cloddio drwy’r strata i ddangos sut y cyrhaeddon ni lle rydym nawr. Yn y nofel nesaf, fodd bynnag, mae’n dychwelyd at y presennol, ond mae’n parhau i fyfyrio ar natur amser a hanes. Troi o gwmpas bywyd prysur athrawes Saesneg o’r enw Sarah dros gyfnod o bum niwrnod y mae Sidereal Time (1998), ac mae’r nofel wedi ei rhannu yn bum rhan: Llun, Mawrth, Mercher, Iau, a Gwener (defnyddir y geiriau Cymraeg yn y nofel). Bu Meredith ei hun yn athro Saesneg yn Aberhonddu am rai blynyddoedd, felly mae’r disgrifiad o fywyd bob dydd a’r pwysau aruthrol sydd ar athrawon ysgol yn cael ei gyfleu mewn modd credadwy iawn. Unwaith eto, nid ‘gritty realism’ sydd gennym yma, ond rhywbeth llawer tebycach i lif yr ymwybod Joyceaidd. Disgrifia Wallace y testun fel ‘a condition of Wales novel’, a chafodd ei gyhoeddi toc ar ôl refferendwm datganoli 1997. Efallai’n wir fod rhyddhad y bleidlais honno wedi gadael ei ôl ar y llyfr oherwydd mae’n fwy gobeithiol na’r nofelau blaenorol mewn sawl ffordd. Ac eto, ychydig iawn o sylw mae Sidereal Time wedi ei gael gan feirniaid, efallai oherwydd dieithrwch y teitl: ystyr ‘sidereal’ yw amser wedi ei fesur yn ôl y sêr sefydlog, yn hytrach nag yn ôl yr haul; os mesurwn amser yn y modd hwn, mae diwrnod tua phedwar munud yn fyrrach na diwrnod arferol. Er bod y gair yn un technegol, yn perthyn i faes seryddiaeth, mae’r syniad o orfod ceisio gwthio popeth i ddiwrnod sydd â llai o amser ynddo na’r disgwyl yn un cyffredin i Sarah Bowen yn y nofel, a hefyd i ni fel darllenwyr, efallai. Mae’r nofel yn chwarae â syniadau gwahanol ynghylch mesur amser, a’r un pryd yn ein tywys yn ôl eto i ystyried hanes a’r gwahanol safbwyntiau posib arno. Mae un o ddisgyblion Sarah, David Leyshon, yn paratoi cyflwyniad ar Copernicus, y gwyddonydd a ddadleuodd gyntaf mai’r haul oedd canolbwynt y bydysawd, ac nid y ddaear. Dadl David, er ei fod yn brwydro i geisio’i mynegi, yw bod Copernicus wedi newid cwrs y byd mewn modd sylfaenol, a’i fod yn haeddu cael mwy o sylw na ffigyrau arferol y pwnc ‘Hanes’ yn y dosbarth, megis brenhinoedd fel Harri VII.

Mae cymeriadau tebyg i David Leyshon yn ymddangos yn aml yng ngwaith Meredith: dynion ifanc, clyfar, â thipyn o ddychymyg a dawn dweud, ond sydd hefyd yn llawn ffolineb ac yn tueddu i wneud llanast o’u bywydau (rwy’n meddwl am Jack yn Shifts a Griffri yn yr ail nofel hefyd). Fel petai’r awdur ei hun yn cydnabod hyn, mae’n dod â’i ffyliaid ynghyd yn ei nofel ddiweddaraf, The Book of Idiots (2012). Mantais hyn o ran y darllenydd yw bod y nofel yn ddoniol iawn. Mae ffrwd o gomedi yn rhedeg trwy waith Meredith, a’i ‘idiots’ sydd fel arfer yn darparu’r jôcs. Comedi dywyll iawn yw’r nofel ddiweddaraf, serch hynny, comedi’n ymwneud â marwolaeth, brad, gwrywdod o dan bwysau, ac ymddieithrio. Dean a’i ffrind Wil yw’r prif gymeriadau: mae Wil yn marw o ganser, ac mae Dean yn byw bywyd beunyddiol diystyr, yn gwneud swydd ddiystyr. Nid yw’r nofel yn trafod hunaniaeth Gymreig ryw lawer ar y dechrau, ond troir byd y nofel ar ei ben dros hanner ffordd drwodd: mewn tafarn, daw teulu Almaenig at Dean a Wil i ofyn pa iaith maen nhw’n ei siarad, ac yna cawn wybod eu bod yn siarad Cymraeg. Mae’r sefyllfa sy’n codi gyda’r teulu Almaenig fel ffars, ond mae’n dod â’r themâu cudd ôl-drefedigaethol i’r wyneb yn o amlwg: wrth iddo gael ei ganmol am siarad Saesneg mor dda, mae Wil (sydd braidd yn feddw) yn ateb, ‘Call me Caliban!’.

Yn ogystal â’r nofelau, mae Meredith wedi bod yn cyhoeddi barddoniaeth ar hyd y blynyddoedd. Cyfrol o farddoniaeth oedd ei gyhoeddiad cyntaf, sef This (1984), ac mae tair cyfrol arall wedi ymddangos ers hynny, sef Snaring Heaven (1990), The Meaning of Flight (2005), ac Air Histories (2013). Yn hytrach na thrin y farddoniaeth ar wahân i’r nofelau, mae Diana Wallace yn eu trefnu fesul pâr, gan ddadlau bod y cyfrolau o’r un cyfnod yn ymwneud â themâu tebyg. Ar y cyfan, mae’r drafodaeth yn gweithio’n dda, ac yn sicr gellir gweld, er enghraifft, sut y mae diddordeb yr awdur yn hanes a llenyddiaeth Gymraeg y canoloesoedd yn dylanwadu ar gerddi Snaring Heaven a’r nofel Griffri. Hefyd, mae delweddu’r sêr a’r bydysawd, yn ogystal â hedfan, yn gyffredin i’r cerddi a’r rhyddiaith fel ei gilydd. Wrth edrych yn ôl ar y farddoniaeth yn benodol, gellir gweld llais y bardd yn aeddfedu ac, yn galonogol, yn datblygu i fod yn fwy beiddgar ac arbrofol dros y blynyddoedd. Mewn cerdd gynnar fel ‘Six Poems for Troedrhiwgwair’ gellir gweld Meredith yn archwilio tirwedd bro ei fam, yn cofio’i blentyndod ei hun ac atgofion ei fam, yn ‘darllen’ hanes y tir. Yn hyn o beth mae pennod gyntaf, fywgraffyddol llyfr Wallace yn rhagarweiniad da wrth geisio deall o ble daw Meredith, ymhob ystyr. Wrth i’w farddoniaeth ddatblygu, mae’r chwilota am le yn ehangu i gwmpasu hen hanes ardal Tredegar, bro mebyd yr awdur, yn ogystal â hanes llenyddiaeth Gymraeg. Mae dyfyniadau a throsiadau o’r Gymraeg yn dod yn fwyfwy cyffredin yn ei waith, ac yn y gyfrol ddiweddaraf, Air Histories (2013), mae pum cerdd yn y Gymraeg, a fersiynau Saesneg ar y ddalen gyferbyn, fel bod y ddwy iaith yn ‘siarad’ â’i gilydd. Mae’r ffiniau rhwng ieithoedd a gwledydd yn datblygu i fod yn thema bwysig, megis yn y filanél feistrolgar ‘Borderland’, sy’n dechrau:

You’ll find a ffin inside each definition.
We see what is when we see what it’s not:
Edges are where meanings happen.

Wrth drefnu ei chyfrol i bontio’r ‘ffin’ rhwng y farddoniaeth a’r ffuglen, dengys Wallace ei bod hi’n effro i naws gwaith yr awdur yn ei gyfanrwydd. Mae ei chyfrol yn ychwanegiad penigamp i’r gyfres ‘Writers of Wales’; dengys ôl ymchwil fanwl ac mae’n amlwg wedi elwa o’r ffaith fod Chris Meredith yn dal yn fyw ac iach, ac yn medru cyfrannu ffeithiau allweddol, ynghyd â ffotograffau dadlennol o lefydd a phobl. Yr unig fai a welaf yw fod y llyfr weithiau yn orfanwl, yn cynnig ‘too much information’, ys dywedir yn Saesneg. Er enghraifft, a oedd gwir angen rhestru’r bobl eraill oedd yn dysgu yn yr adran pan ymunodd Meredith â staff Prifysgol Morgannwg? Ond, mewn ffordd, dyna’r demtasiwn i feirniad sy’n ysgrifennu am fywyd a gwaith awdur sy’n dal yn fyw – mae cymaint o wybodaeth ar gael fel y gall fod yn anodd gwybod beth i’w hepgor. Ar y cyfan, fodd bynnag, mae Diana Wallace yn cadw’r cydbwysedd yn ddestlus, ac mae’n llwyddo i ganolbwyntio ar y gwaith â’i darlleniadau craff o’r ffuglen a’r cerddi fel ei gilydd.

Cyhoeddwyd llyfr diweddaraf Meredith eleni, sef cyfrol o straeon byrion dan y teitl Brief Lives; mae’n cynnwys straeon adnabyddus fel ‘Averted Vision’, stori angerddol sy’n seiliedig ar atgofion am y rhyfel a glywodd Meredith gan ei dad. Mae ‘The Cavalry’ yn arddangos medrusrwydd yr awdur wrth drafod safbwyntiau plant yn ogystal â chywirdeb manwl ei fynegiant o dafodiaith ardal ei febyd. Un o’r straeon mwyaf gwreiddiol yw ‘Haptivox’, ffuglen wyddonol sy’n digwydd mewn rhyw fath o rithfyd, lle mae hen bobl yn gallu ail-fyw profiadau rhywiol angerddol mewn lleoliadau afreal yn seiliedig ar eu hatgofion. Rydym wedi teithio’n bell o Gefn Golau a Throedrhiw-gwair i sêr y bydysawd a rhithfydoedd y dyfodol, oll o fewn byd ffuglennol Chris Meredith. Mae arbrofion diweddaraf yr awdur yn mynd â ni y tu hwnt i Gymru, ac eto cawn yr argraff fod yr awdur wedi hen ddarganfod ei le, a’i fod yn trafaelu’n hyderus oddi yno i archwilio bydoedd gwahanol.

Mewn ffordd, gan ein bod yn treulio cymaint o’n hamser ar y we, mae hi’n addas heddiw fod Meredith yn creu rhithfyd. Dyma lle y byddwn ni i gyd yn byw, efallai, yn y dyfodol. Yno mae Cymru hefyd – ac yn ein pennau: yn ein breuddwydion, ein hatgofion, a’n gobeithion.


Mae Katie Gramich yn Athro yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.

Hawlfraint y llun: V A Meredith


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae’r Gymraeg, ei rhythmau a'i hanes, yn cordeddu â geiriau Saesneg i greu plethwaith sy’n adrodd hanes cymysg

Dyddiad cyhoeddi: 30·11·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…