Richard Veasey


Thomas Jones Pencerrig Artist – Traveller Country Squire

Y Lolfa, 256tt, £12.99, Chwefror 2017

O Gymru a Napoli ‘con amore’
Adolygu

O Gymru a Napoli ‘con amore’


Ruth Richards

Amser darllen: 5 munud

03·05·2017

Ryw drigain mlynedd yn ôl, datgelwyd rhai o gyfrinachau Thomas Jones Pencerrig i'r byd. Daeth nifer o'i luniau ar y farchnad am y tro cyntaf - rheiny'n fychain eu maint, personol eu naws ac arloesol eu mynegiant. Delweddau digon diymhongar ar un wedd, ac eto syfrdanwyd y byd celf gan eu gwreiddioldeb, a’u hymddangosiad yn herio'r oll a oedd yn hysbys am yrfa'r arlunydd.

Ymysg y lluniau hyn roedd brasluniau - mewn olew ar bapur - o dirwedd ei gartref, sef ystâd Pencerrig ym Mhowys, gyda'r golygfeydd yn datgelu nemor ddim ond effaith goleuni a thywydd ar y tir a'r ffurfafen. Mor wahanol i dirluniau'r cyfnod, ac i weithiau mwy uchelgeisiol a chonfensiynol Thomas Jones ei hun, ble mygir unrhyw chwa o awyr iach gan law drom clasuriaeth, neu ymgais i droi natur yn felodrama.

Os yw'r brasluniau o Bowys yn cynnig rhagflas o dueddiadau diweddarach mewn perthynas â’r tirlun, yna ymddengys rhai o luniau eraill Thomas Jones - golygfeydd o Napoli - yn fwy proffwydol fyth. Tydi'r testunau'n fawr mwy na chyfres o waliau; darnau o adeiladau wedi'u tocio a'u fframio mewn modd sy'n ymylu ar yr haniaethol. Ffenestr yma ac acw i liniaru anwastadrwydd y garreg a'r plastar, ac ambell i ddilledyn yn hongian i sychu a chyfrannu fymryn o liw. Bywyd cyffredin dan archwiliad anghyffredin o graff; mwy anghyffredin fyth, o ystyried mai yn 1782 y'u paentiwyd.

Gwyddwn am y lluniau hyn cyn cychwyn darllen bywgraffiad Richard Veasey, a gwyddwn hefyd am ddarluniad cyfarwydd (a mwy confensiynol) Thomas Jones o'r Bardd. Hwnnw, druan ohono, yn baglu o drallod rhyfel i anobaith hunanladdiad dros dirwedd greigiog, mewn toga anaddas a heb fath o sandal am ei droed. Golygfa gwbl ffansïol o Gymru a gyflwynai Thomas Jones yn y llun hwn; trawsblannodd Stonehenge bychan i entrychion Eryri, gan beri i rywun amau'n afresymol os mai'r henfyd, yntau set lwyfan Spinal Tap a fu’n ysbrydoliaeth iddo. Yn y darlun hwn, dengys Thomas Jones dirwedd Cymru nid fel y darluniai’r caeau o gwmpas Pencerrig, ond yn hytrach fel ffantasi ei gyfnod; yn Orllewin gwyllt, a fodolai er mwyn cyffroi, ac fel safle i barcio syniadau anhreuliedig am ramant yr oesoedd cynnar. Rhaid i mi gyfaddef yn dawel bach fy mod i'n hoff o'r Bardd, ac o'i ramantiaeth hurt, ond erys y benbleth o gysoni'r ddelwedd hon â gwreiddioldeb tirwedd llonydd Pencerrig a waliau enigmatig Napoli.

Thomas Jones Pencerrig

Llun: 'Dyffryn Pencerrig' gan Thomas Jones, 1776. Olew ar bapur.

Troi at gyfrinachau llenyddol Thomas Jones, sef ei Hunangofiant a'i lyfrau cownt, a wna Richard Veasey er mwyn canfod esboniad. Fel rhai o'r lluniau, bu'r rhain hefyd yn casglu llwch yn archifau'r teulu tan ganol yr ugeinfed ganrif. Drwy ganolbwyntio ar ddeunydd ysgrifenedig yr arlunydd, hanes bywgraffiadol yn fwy na chelfyddydol a gyflwynir yn y gyfrol. I'r sawl a fynnai ddadansoddiad o'r deunydd gweledol, byddai'n werth darllen y llyfr yng nghyd-destun catalog Oriel Genedlaethol Cymru o arddangosfa Thomas Jones, a gyhoeddwyd yn 2003*.

Mae unigrywiaeth, swmp ac ansawdd cynnyrch ysgrifenedig yr arlunydd, yn ogystal â'i werth hanesyddol, yn llawn gyfiawnhau'r ymdriniaeth fywgraffiadol, ac yn cyflwyno cyfoeth o wybodaeth am y byd celf, ei rwydweithiau a'i wleidyddiaeth yn y ddeunawfed ganrif. Mae Thomas Jones yn rhannu ei farn amhendant am ei athro, Richard Wilson; am Joshua Reynolds (pwysigyn); am y ffraeo ynglŷn â sefydlu'r Academi Frenhinol; ac am statws amwys y man-fonheddwr o arlunydd yng nghyd-destun ei berthynas â'i noddwyr. Yn fwy trawiadol fyth, ceir cyfrif manwl gan yr artist o'r Orymdaith Fawreddog i'r Eidal. Roedd hon yn ddefod angenrheidiol a gwareiddiol i unrhyw fonheddwr ifanc yn y cyfnod, ac yn gyfle i arlunydd roi sglein ar ei enw a chanfod noddwyr.

Bu'r amser a dreuliodd Thomas Jones yn yr Eidal ymhell o fod yn fawreddog. Cafodd siwrne faith a diflas a lletyau truenus. Gwaeth fyth, o gyrraedd pen y daith, bu'n rhaid iddo geisio ymdopi â chymdeithas o Brydeinwyr, yn dwristiaid, bonheddwyr ac asiantwyr, a'r rheiny, ac eithrio ambell i gyfaill hynaws, yn rhai enwadol a checrus. Yn Rhufain, drwy letchwithdod a chamddealltwriaeth yn fwy na dim, llwyddodd Thomas Jones i bechu dau gymeriad a oedd yn allweddol i'w lwyddiant yn y ddinas.

Ond, er gwaethaf yr ansicrwydd ac ambell anffawd, daliodd Thomas Jones ati. Wedi derbyn mai oferedd oedd ceisio plesio pawb, ymlaciodd, a dechreuodd wneud y gorau o'i gyfnod yn yr Eidal. Erbyn diwedd y cyfnod hwn, hawliodd ryddid creadigol a phersonol wrth iddo gynefino â'i leoliad dieithr, a chymdeithasu fwyfwy â chymuned ac arlunwyr brodorol Napoli. Tua'r un cyfnod, ceir awgrym o newid yn ei agwedd tuag at ei waith; gwerthfawrogai lawenydd y foment, a throdd ei baentio'n bleser yn hytrach na thestun pryder. Wrth baentio golygfa o'i gegin yn Napoli (llun sydd bellach ar goll) dywed iddo weithio 'con amore', a'r cyflwr hyfryd hwn, mi dybiwn i, yn cyfateb i’r rhyddid a’r pleser a ddatgelir yn ei frasluniau o’r dirwedd Gymreig.

Ysgrifennodd Thomas Jones ei Hunangofiant tua diwedd ei oes, rai blynyddoedd wedi dychwelyd i Gymru ac etifeddu ystadau a thiroedd y teulu. Cyfeiriodd at y cyfnod diweddarach fel ymddeoliad. Ac eto nid yw hyn yn taro rhywun fel disgrifiad addas ychwaith gan i'w gofnodion dyddiol ddangos ei ymroddiad brwd i feithrin a gwella'r ystadau. Mae'n edrych yn ôl ar ei yrfa greadigol gydag elfen o siomiant; yn tanseilio ei orchestion ac yn mynnu gwadu unrhyw lwyddiant iddo'i hun. Nododd Richard Veasey mai naws ddisgynnol sydd i'r naratif; un sy'n arwain yn anochel at ddiwedd gyrfa - gyrfa a farnwyd yn ddiddrwg ddidda gan Jones ei hun. Wrth ddewis a dethol gwahanol elfennau’r Hunangofiant, ceir argraff o ansicrwydd yr arlunydd, a'i anesmwythder mewn cylchoedd llyfn a mursennaidd yr oedd yn rhaid eu porthi.

Mae'n debyg nad oedd Thomas Jones yn llwyr feddu'r uchelgais a'r chwant a yrrai arlunwyr eraill a oedd yn gwbl ddibynnol ar rwydweithio a ffalsio am eu bywoliaeth. Ac efallai bod gennym yn yr achos hwn reswm dros fod yn ddiolchgar am y drefn dadofalaethol. Yn ystod cyfnodau byrhoedlog, rhoddodd hynny sicrwydd ariannol iddo a'i alluogi i ddyrchafu ei weledigaeth ymhell y tu hwnt i'r cyffredin, y tu hwnt i'r hyn a oedd yn siŵr o apelio. Trwy fanteisio ar ambell seibiant, i'w blesio’i hun, creodd wrthbwynt trawiadol i naratif diymhongar ei waith ysgrifenedig: gadawodd ar ei ôl gorff o waith sy’n datgelu'r gwahaniaeth syfrdanol rhwng cynnyrch a gynhyrchwyd i fformiwla, a gwaith sy'n pefrio â grym trosgynnol ymserchu yn y fan a'r lle.

 

* Ann Sumner a Greg Smith (goln), Thomas Jones 1742 - 1803 (Yale University Press ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, 2003)


Mae Ruth Richards yn Brif Weithredwr Dyfodol i'r Iaith ac yn Gynorthwy-ydd Golygu a Chynhyrchu O'r Pedwar Gwynt. Gallwch ddarllen pennod o'i nofel, Pantywennol (Y Lolfa, 2016), fan hyn ac adolygiad ohoni fan hyn.


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Ruth Richards, Celfyddyd weledol

 


Wrth baentio golygfa o'i gegin yn Napoli dywed iddo weithio 'con amore', a'r cyflwr hyfryd hwn, mi dybiwn i, yn cyfateb i’r rhyddid a’r pleser a ddatgelir yn ei frasluniau o’r dirwedd Gymreig

Dyddiad cyhoeddi: 03·05·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ruth Richards

Ai peth fel ’ma, mewn difri, oedd Eisteddfod y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Rhyfeddwn at ffotograffau John Thomas o Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1884, a'r un pryd fe'n gorfodir i'w cydnabod fel cofnod cywir. Ffotograffiaeth, wedi'r cwbl, yw un o'r cyfryngau amlycaf i gyflwyno'r…

Dadansoddi


Angharad Price

Bob blwyddyn, mae dwy filiwn o deithwyr yn mynd trwy Gaergybi, porthladd fferi prysuraf-ond-un y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn rhan allweddol o briffordd fawr Ewropeaidd yr E22 sy’n ymestyn o Ddulyn i Fosgo a thu hwnt. Flina’ i byth ar y wefr o ddod yma.

Dadansoddi


Simon Brooks & Daniel Williams

'Roedd yna berygl ar ôl Brexit, ac yng nghyd-destun yr etholiad hwn yn benodol, dw i’n meddwl, i Blaid Cymru ddiflannu’n llwyr o olwg pleidleiswyr mewn rhai rhannau o Gymru. Un o sgil-effeithiau Brexit oedd rhannu’r ardaloedd hynny o Gymru a esgorodd ar y bleidlais o…

Dadansoddi


Sarah Hill

Eleni rydym yn cyrraedd carreg filltir liwgar: pum deg mlynedd ers y ‘Summer of Love’, neu Haf Cariad. Yng Nghymru, roedd pop dipyn bach ar ei hôl hi ym 1967 ond roedd yna drobwynt pwysig, serch hynny, a chwyldro diwylliannol ar lan Llyn Tegid.

Cyfansoddi


Aled Jones Williams

Penderfynodd Bet ar y pafin na fyddai’n mynd drwy’r dref i dŷ ei modryb y bore hwn. Fe gadwai’r pleser hwnnw – a phleser fyddai, cael gweld yr hen le eto – at yn hwyrach. Fe wyddai am siort cyt. Os a’ i lawr ffor’ hyn, meddai wrthi…

Colofnau


Mihangel Morgan

Er mwyn dianc rhag twymyn yr ymgyrch etholiadol – Carwyn nad yw’n Corbyn bondigrybwyll, arweinydd Prennaidd Plaid Cymru ac ymddangosiad brawychus anochel Mark Williams neu Ann Clwyd ar garreg y drws (yr unig adeg y cewch chi gipolwg ar y troglodeitau hyn yw pan…

Adolygu


Gwydion Gruffudd

Beth ’sgwn i yw’r rhesymau dros y diffyg cydnabyddiaeth i gyraeddiadau y tu hwnt i’r ‘pethe’ traddodiadol yng Nghymru? Wrth gofio’r Athro Phil Williams, ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae dyn yn meddwl y dylai fod wedi cael cymaint os nad mwy o gydnabyddiaeth am ei waith ffiseg…

Cyfweld


Emanuele Severino

Yn 1961, lansiwyd archwiliad gan Chwil-lys y Fatican o waith yr athronydd Emanuele Severino (1929- ). Parhaodd yr archwiliad hwn am bron i ddegawd. Penderfynwyd bod ei syniadaeth yn 'sylfaenol anghydnaws' ag athrawiaeth Gristnogol ac o ganlyniad fe'i hesgymunwyd o'i swydd fel Athro…