E Gwynn Matthews (gol.)


Llenydda, Gwleidydda a Pherfformio

Y Lolfa, 120tt, £7.99, 2019

O Parry-Williams i athroniaeth ‘stand-up’
Adolygu

O Parry-Williams i athroniaeth ‘stand-up’


Gareth Evans-Jones

Amser darllen: 7 munud

24·04·2019

Egyr y gyfrol hon gydag ysgrif gan Howard Williams sy’n gosod gwaith a syniadaeth T H Parry-Williams mewn cyd-destun athronyddol. Dechreuir trwy olrhain y gwahanol agweddau a ddylanwadodd ar y bardd a’r ysgrifwr, megis iddo ddilyn cyrsiau seicoleg ac athroniaeth dan gyfarwyddyd yr athronydd neo-Kantaidd, Heinrich Rickert, pan oedd yn fyfyriwr yn Freiburg. Gyda hynny, a chan nodi’n arbennig ddylanwad deongliadau dilechdidol o athroniaeth Kant ar feddwl Parry-Williams, archwilir detholiad o’i weithiau er mwyn gwerthfawrogi’r modd yr oedd yn ‘myfyrio am fyfyrio’ wrth lenydda. Cyfoethogir y drafodaeth ar y berthynas rhwng syniadaeth Kant a llenyddiaeth Parry-Williams wrth ystyried agweddau eraill ar ganu Parry-Williams, megis yr elfennau dirfodol a gwleidyddol. Nid eir cyn belled â dadlau mai athronydd ydoedd, ond drwy gydol yr ysgrif, amlygir ‘gogwydd diamheuol’ ei waith ‘tuag at athroniaeth’, yn enwedig felly’r modd y byddai’n ‘ymholi ynghylch natur, bodolaeth a’r ddynoliaeth’. Gan hynny, cesglir y ceir haenau syniadaethol amrywiol yn hydreiddio drwy waith y bardd athronyddol o Ryd Ddu. Y mewnwelediad treiddgar hwn i destunau a syniadaeth Parry-Williams yw prif gryfder yr ysgrif.

Archwilia’r ysgrif ddilynol gan E Gwynn Matthews wreiddiau athronyddol syniadau’r bardd a’r radical Jac Glan-y-gors drwy ganolbwyntio ar ddau lyfr o’i eiddo: Seren Tan Gwmmwl (1795) a Toriad y Dydd (1797), ill dau’n mynegi syniadau gweriniaethol Glan-y-gors. Nodir nad yw’n syndod i syniadau o’r fath gael eu lleisio o gofio’r cyd-destun hanesyddol a’r hinsawdd ddeallusol, gyda’r chwyldroadau yn America (1776) ac yn Ffrainc (1789) yn pwysleisio egwyddorion megis cydraddoldeb a rhyddid cyffredinol. Manylir ar ddealltwriaeth Glan-y-gors o hawliau dynol – yr hawliau ‘anamddifadwy’ megis cydraddoldeb a rhyddid – a’r rhai a berthyn i ddyn am ei fod yn ddinesydd, a dyna grybwyll prif ffocws yr ysgrif: natur cymdeithas. Eir ymlaen i drafod ymresymiad Glan-y-gors o darddiad cymdeithas fel cysyniad drwy gyd-destunoli ei ddealltwriaeth i fframwaith athronyddol ehangach; olrheinir syniadau o’r fath i Thomas Hobbes a John Locke, a gwelir y modd yr oedd Glan-y-gors yn etifedd i’r farn honno a ystyria gymdeithas yn beiriant â diben penodol a fwriadwyd gan feddwl rhesymolaidd dyn. Diddorol oedd clymu’r syniadau hyn ag astudiaeth Ferdinand Tönnies, Gemeinschaft und Gesellschaft (1887). Awgryma Matthews fod unrhyw wladwriaeth yn greadigaeth ‘Ewyllys Rhesymolaidd’ – ei bod wedi’i chreu yn fwriadol er mwyn cyrraedd dibenion hysbys – ac felly yn ffurf o Gesellschaft (cymdeithas). Ond ni orsymleiddir natur cymdeithas; cydnebir fod y cysyniad yn un hynod ddyrys a chymhleth fel nad oes modd cynnig ateb diffiniedig dwt.
 

Gorsaf trên bach Rhyd Ddu
 

Newidir ffocws y gyfrol i faes gwleidyddiaeth yn y drydedd ysgrif, wrth i Huw L Williams ymholi ‘A Oes Dyfodol?’ a thrafod sosialaeth Gymreig o safbwynt hanesyddol. Archwilio agweddau penodol ar y sosialaeth sy’n nodweddiadol o wleidyddiaeth asgell chwith Cymru a wneir, a thrwy hynny, danlinellu neges hynod arwyddocaol, sef pwysigrwydd bwrw golwg fanwl ar hanes sosialaeth Gymreig – a hanes Cymreig yn ehangach – er mwyn ymateb i sefyllfaoedd a syniadau’r oes fodern. Dechreuir trwy drafod barn Niclas y Glais am genedlaetholdeb a sosialaeth, a chan fanylu ar Robert Owen, trafodir cysyniad ‘cymuned’, y syniad o fecaneiddio, a’r amgylchfyd, bob un ohonynt yn elfennau hynod amserol. Awgrymir fod rhywbeth o’i le ar y math o wleidyddiaeth asgell chwith sydd bellach yn nodweddu’r Gorllewin. Yn ogystal â diwygiad gwleidyddol ac ymarferol, noda Williams fod angen diwygiad deallusol er mwyn ymateb i’r gyfalafiaeth neoryddfrydol sy’n lliwio’n cymdeithas gyfoes, ynghyd â’r agweddau politicaidd a chymdeithasol eraill. Dadleuir bod angen mabwysiadu a meithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol gadarn, sy’n ‘ymestyn tu hwnt i barch tuag at fyd natur ... ac yn manteisio ar bob agwedd o adnoddau naturiol Cymru’. Drachefn, pwysleisir yr angen gwirioneddol am ymdrech wreiddiol ac egnïol a fydd yn edrych at weledigaethau’r gorffennol wrth weithio at y dyfodol: ‘Oni bai bod sosialwyr cyfoes yn agor eu hunain i’r dadleuon a’r posibiliadau hyn o undod bywyd a phobl – ym mha bynnag fodd maent yn dewis mynegi hynny – mae’n anodd gweld o ble ddaw’r nerth a’r swcwr moesol i gynnal y sentiment a’r syniadau sydd eu hangen arnom.’ Dyma ysgrif sy’n procio’r meddwl ac yn codi amryw gwestiynau anodd ond hanfodol. 

Archwilir y ffenomen a amlygwyd gan Donald Trump yn ystod ymgyrch etholiadol yr Unol Daleithiau yn 2016 yn ysgrif Steven D Edwards, sef ‘Newyddion Ffug’. Fel y gwyddys, disgrifiai Trump bob darn o newyddion, boed wir neu anwir, a fyddai â’r potensial o’i danseilio ef neu ei ymgyrch arlywyddol fel ‘newyddion ffug’. Mae’r cyhuddiad fod rhywbeth yn enghraifft o ‘newyddion ffug’ yn codi amryw gwestiynau dyrys a diddorol i’r athronydd, yn arbennig felly mewn perthynas ag epistemoleg a’r ffordd y trosglwyddir newyddion ‘ffug’ a ‘dilys’. Aiff Edwards ati i gynnig enghreifftiau o sefyllfaoedd amrywiol a chyfoes er mwyn amlygu’r heriau a gyfyd y ffenomen Trumpaidd. Trafodir tair ffordd draddodiadol o ymateb i broblemau gwybodaeth – goddrychiaeth, perthnasolaeth a gwrthrychaeth – gan nodi cryfderau a gwendidau pob dull, cyn cynnig ffordd amgen i ymateb i ddilysrwydd darn o newyddion, sef ffordd bragmataidd sy’n pwyso ar ddamcaniaethau W V Quine a J S Ullian yn The Web of Belief (1978). O wneud hynny, ac o fanylu ar bum rhinwedd y dylid eu hystyried wrth gloriannu damcaniaethau a gwybodaeth yn gyffredinol – ceidwadaeth, cymedroldeb/gwyleidd-dra, symlrwydd, cyffredinolrwydd a natur ffugiadwy hypothesis – casgla Edwards fod pwnc newyddion ffug yn parhau’n hynod gymhleth a bod angen cryn ofal wrth ymdrin ag unrhyw fath o dystiolaeth mewn perthynas â darn o newyddion – boed wir neu anwir.

Trafod agwedd ddifyr ar ei doethuriaeth a wna Rhiannon M Williams yn ‘Perfformio a Ffenomenoleg: Cof, Corff a Chapel’. Fel y mae’r teitl yn awgrymu, archwilir y berthynas ddeinamig rhwng lleoliad (y capel), perfformiad (y ddefodaeth y mae rhywun yn rhan ohoni wrth fod yn y capel), a’r cof (y syniadau a’r wybodaeth a etifeddir). Mae’r ysgrif yn manylu ar ymchwil Williams a’r modd yr arddelodd fethodoleg ‘Ymarfer mewn Ymchwil’, hynny yw, dadansoddi’n ymarferol ei pherthynas â chapeli ynghyd â pherthynas grwpiau eraill ag addoldai. Eir ymlaen i egluro’r modd yr oedd maes a methodoleg ffenomenoleg yn cyfoethogi’r ymarfer mewn ymchwil, ac wedi olrhain syniadau gwahanol feddylwyr parthed ffenomenoleg, diffinnir y math a ddaeth yn greiddiol i’w hymchwil, sef ‘lleihad trosgynnol-ffenomenolegol’, ys dywed Edmund Husserl: hynny yw, ystyried perthynas yr hunan a’r gwrthrych dan sylw mewn modd cylchol. Mae epistemoleg drosgynnol yn myfyrio ar yr hunan mewn perthynas â’r byd. Digwydd y myfyrio hwn mewn cyfnod neu le ac, felly, bydd adnabyddiaeth o’r hunan yn gyd-ddibynnol ar adnabyddiaeth o’r hunan mewn lle penodol. Aiff Williams ati i drafod y modd yr effeithia gwahanol agweddau ar ei gilydd wrth gynnal ymarfer mewn ymchwil, megis y modd y bydd lleoliad yn dwysáu adnabyddiaeth unigolyn nes peri iddo weld rhywbeth o’r newydd, a phwysigrwydd ystyried cyd-destun hanesyddol, daearyddol a diwylliannol y lleoliad dan sylw; yn yr achos hwn, y capel Cymreig yng nghyd-destun y gymdogaeth Gymreig. Noda fod y fethodoleg hon o ddadansoddi perthynas â’r capel wedi arwain at ddirnadaeth wahanol o’r lleoliad a mewnwelediad hynod i’r profiad a geir yno. Yn hyn o beth, tanlinella bwysigrwydd ffenomenoleg fel dull, a gwerth profiad fel gwybodaeth, yn y cyd-destun Cymreig ehangach.

Y drafodaeth sy’n cloi’r gyfrol yw eiddo Dafydd Huw Rees, ‘Y Llwyfan Diderfyn: Benjamin, Habermas a Chomedi’. Yn ôl Rees, cyfyd comedi stand-up gwestiynau athronyddol difyr ynghylch natur perfformiad, y rheswm dros y chwerthin, a pherthynas gwahanol elfennau perfformiadol stand-up, gan gynnwys y digrifwr, y llwyfan, a’r gynulleidfa. Er bod hwn yn fath poblogaidd o gomedi cyfoes, noda Rees nad rhywbeth newydd mohono; yn wir, deil fod modd olrhain gwreiddiau perfformiadau o’r fath i Athen cyfnod Aristoteles lle ceid gelotopoi (dynion digrif) a’r parasitoi (parasitiaid) – dau fath o ddigrifwr proffesiynol. O ran gwreiddiau’r ffurf stand-up, gwelir ei datblygiad yn nhraddodiad y theatr gwerin gyda’r Ffŵl yn gymeriad stoc mewn anterliwtiau. 

Noda Rees fod perfformiad stand-up yn fath unigryw o berfformiad sy’n chwalu’r ‘bedwaredd wal’ rhwng y digrifwr a’r gynulleidfa. Dibynna ar gyd-ymadweithio rhwng y perfformiwr a’r bobl. Mae cyfran helaeth o’r ysgrif yn canolbwyntio ar y ddwy elfen hon – y diffyg ffin rhwng y digrifwr a’r gynulleidfa, a’r ymwneud rhwng y sawl sydd ar y llwyfan a’r sawl sydd ar y llawr – mewn perthynas â dau athronydd o draddodiad beirniadol Ysgol Frankfurt: Walter Benjamin a Jürgen Habermas. O drafod syniadau Benjamin parthed celf fel rhywbeth bron yn sanctaidd, yn awratig, cyflwyna Rees ymadrodd newydd i ddynodi comedi o’r math hwn, sef ‘math o waith celf gwrth-awratig’, oherwydd y ffiniau a groesir a’r ymwneud cyson rhwng y perfformiwr a’r gynulleidfa. Eir ymlaen i drafod yr hyn yw perfformiad gwrth-awratig drwy ystyried sylwadau Habermas am gomedi fel gweithred gyfathrebol, sef ‘cyd-gynnyrch’ y digrifwr a’r gynulleidfa. Ni all perfformiad o’r fath lwyddo oni bai y bydd y gynulleidfa’n ymateb; yn ddelfrydol, drwy chwerthin. Yn ogleisiol, cesglir: ‘Peth sobor yw athroniaeth, ond ceir dyfnderoedd athronyddol i gomedi.’

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Ceir haenau syniadaethol amrywiol yn hydreiddio drwy waith y bardd athronyddol o Ryd Ddu

Dyddiad cyhoeddi: 24·04·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill. Nid yw’n siŵr pam y mae’n mwynhau…

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…