gol. Owen Schiavone


Llyfr Y Selar

Y Lolfa, 64tt, £6.99, 2017

Marged Tudur & Elis Dafydd (goln)


Rhywbeth i'w Ddweud

Barddas, 104tt, £8.95, 2017

Dafydd Iwan ac Ar Log


Cerddwn Ymlaen

Sain, 7", Ail-law, 1982

Chlywais i ddim nodyn gan T Dunlop Williams
Adolygu

Chlywais i ddim nodyn gan T Dunlop Williams

Cynhysgaeth cerddoriaeth bop yr wythdegau


Alun Llwyd

Amser darllen: 8 munud

20·12·2017

'Yn crafu bywoliaeth ddigysur o gaenen o bridd'

Ymhell bell yn ôl, cefais drip gorau'r flwyddyn i Bookland yn Wrecsam i brynu blwyddlyfr y cylchgrawn pop, Sgrech. Darganfyddais pwy oedd yn chwarae'r gitâr fâs i Trobwll, darllenais am (ond chlywais i ddim nodyn gan) T Dunlop Williams, a daeth 'canu pop Cymraeg' yn air yn ogystal â chan ... Yn y blwyddlyfr, roedd bywgraffiad byr o bob grŵp Cymraeg – rhyw bump ar hugain ohonynt – a sîn gyfan rhwng dau glawr. Wrth i mi dyfu, dihangodd y sîn o gyfyngder y cloriau hynny, dihangodd o gysgod colegau ac unrhyw 'fro Gymraeg'. Yn Wrecsam, ymwelodd grwpiau a ffurfiwyd grwpiau; ffrwydrodd Bethesda yn gant a mwy ohonynt gydag enwau rhyfeddol fel Chwd Poeth. Prynais innau grysau Ti a recordiau gan grŵp o Resolfen o'r enw Crys nad oedd ond dau ohonynt yn siarad Cymraeg; a dechreuais ddod i 'nabod ardaloedd o Gymru yn well trwy ddarllen am gymunedau o artistiaid a chanolfannau – Aberteifi, Caerdydd, Bangor, Caerfyrddin, Crymych, Dyffryn Clwyd ...

Ac yna, wrth i Streic y Glowyr ddangos i mi bwysigrwydd economi a chymuned i ddyfodol iaith a diwylliant, ffurfiwyd cenhedlaeth newydd o artistiaid a chyfryngau amrywiol i adlewyrchu'r cyffro hwn. Roeddwn yn perthyn i genhedlaeth a oedd yn canu a byw yn wleidyddol.

Yn yr wythdegau, ym mlynyddoedd Reagan, torrodd car Maffia Mr Huws i lawr yn yr eira tu allan i Bafiliwn Corwen, ar ryw Noson Wobrwyo Sgrech, a model o daflegryn Cruise ar y to. Tu hwnt i'r stỳnt, roedd Maffia yn brwydro yn erbyn y DHSS a oedd yn dwyn bwyd – yn llythrennol – oddi ar eu bwrdd drwy eu hamddifadu o bres dôl, oherwydd bod y band yn gigio cymaint. Daeth Yr Anhrefn i lyfrgell Wrecsam a chlymu cynulleidfa o ddeg ar hugain mewn tâp fel rhan o arddangosfa gelf gan y diweddar Paul Davies. Ond tu hwnt i hynny, roedd Yr Anhrefn yn gweddnewid diwylliant canu pop Cymraeg yn genedlaethol a rhyngwladol fel na wnaethpwyd gan neb cyn hynny na wedyn. Wrth i ddegau o fandiau gael eu ffurfio a degau o ffansîns gael eu creu (fel arfer o dan faner Cymdeithas yr Iaith), fe'n hysbrydolwyd ni yn ddisgyblion ysgol i ychwanegu ein llais at chwyldro diwylliannol cymunedol. Ffrwydrodd Jess gydag anthemau a hyder. Ac i fonllefau o feirniadaeth, datganwyd ganddynt y byddai rhaid dechrau canu yn Saesneg hefyd gan mai dyna'r unig ffordd y gellid ystyried crafu bywoliaeth, os am barhau i ganu yn Gymraeg.

Roedd rhywbeth yn cyniwair. Roedd ymdeimlad cryf y dylid medru byw a 'Talu Bils' drwy gyfranogi a chyfrannu at yr unig elfen o ddiwylliant Cymraeg oedd wastad ar y tu fâs.

'Turiodd i grombil y ddaear i geibio'r glo'

Mae'n ddigon posib mai datganiad pwysicaf y gyfrol Rhywbeth i'w Ddweud: deg o ganeuon gwleidyddol 1979-2016, a olygwyd gan Marged Tudur ac Elis Dafydd a'i chyhoeddi gan Barddas yn gynharach eleni, yw bod yr hyn y mae cantorion wedi ei wneud yr un mor bwysig â'r hyn maent wedi ei ddweud. Cryfhawyd y geiriau gan y gweithredoedd. Mewn cyfnod o gynni economaidd, cyfnod a rychwantir gan y gyfrol hon, ffurfiodd y gymuned asgwrn cefn i gân a gweithgaredd artistiaid.

Y Cyrff'Cymru, Lloegr a Llanrwst' oedd bywyd Y Cyrff – yn ogystal â'u cân enwocaf. Band dosbarth gweithiol oedd Y Cyrff yn byw i'w tref a'u gwlad ond â'r uchelgais i fynd ymhellach na hynny hefyd. Roeddwn yn ddigon breintiedig i fod yn rhan o'r byd hwnnw am gyfnod a gallu treulio oriau yn nhafarndai Llanrwst yn eu cwmni. Mi welais pa mor ddwfn oedd yr ymdeimlad o gymuned a sut yr oedd hynny yn amlygu ei hun yng ngeiriau Mark (Roberts). Roeddwn yn ddigon breintiedig hefyd i weld eu gigs ar draws Cymru – a doedd yr unlle yn rhy bell, yn rhy fach na rhy od iddyn nhw. Dwi'n cofio gig yn Rhydaman lle'r anghofiodd y cwmni PA y 'mic stands' ac o ganlyniad bu raid i'r grŵp berfformio yn eistedd i lawr ar flaen y llwyfan. Roeddwn hefyd yn ddigon breintiedig i weld y gigs tu allan i Gymru. Dyddiau digon amatur oedd y dyddiau hynny, gydag Ankst* yn manteisio ar unrhyw gyswllt tu allan i Gymru yn y gobaith y byddai'n arwain at drefnu gig. Cafwyd gig yn Preston (a drefnwyd gan yr artist Elfyn Lewis) mewn canolfan o'r enw'r Caribbean Club a dwi'n dal i gofio eistedd mewn tafarn yn y dref honno y prynhawn hwnnw yn meddwl am y tro cyntaf erioed bod rhywbeth spesial yn digwydd. Ond yn ôl i Lanrwst – yn falch – yr aethant bob tro, at ffrindiau a swyddi. Sbectol Llanrwst ar y byd a feddai'r Cyrff.

Geraint Jarman GobaithMAwr y GanrifMi ro'n i'n rhy ifanc a phell i ffwrdd i brofi cyfnod Jarman. Eto i gyd fe glywais am y Top Rank, fe welais rastas yn ei fand yn ei berfformiadau teledu ac fe synhwyrais bod yna rywbeth cyfoes, dieithr a chyffrous yn digwydd. Ond ar ôl cyhoeddi corff o waith mor gyfoethog, cefnodd Jarman ar ganu am gyfnod a chreu rhywbeth a agorodd ddrws a rhoi amlygrwydd i genhedlaeth newydd o artistiaid, sef y rhaglen deledu Fideo 9. Mae dylanwad y rhaglen yn parhau hyd heddiw. Byddai Fideo 9 yn crwydro Cymru yn chwilio am fandiau newydd. Rhoddwyd cyfle iddynt, yn ogystal ag i fandiau a oedd yn bodoli eisoes, i recordio mewn stiwdios mwy ac i ryddhau eu cynnyrch yn fasnachol. Am y tro cyntaf ers ymddangosiad Yr Anhrefn, gosodwyd canu Cymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol, amlddiwylliannol, amlgyfryngol a chyfoes, ac anogwyd bandiau i brofi hyn drwy eu gwahodd i chwarae dramor. Drwy gyfrwng Fideo 9 fe dyrchodd Jarman yn ddwfn i greu seiliau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o artistiaid – a rhoi llwyfan hael a hyder newydd iddynt.

'Gwnaeth gyfoeth i eraill, a gwelodd gyfeillion yn gelain'

Fe fu Fideo 9 yn gyfrifol am newid y drefn hefyd, trwy fuddsoddi mewn cerddoriaeth Gymraeg. Gallai stiwdios fel Stiwdio Les, Ofn ac eraill barhau i weithio (er yn parhau'n dlawd) drwy dderbyn gwaith ychwanegol a thâl am waith a gyflawnwyd eisoes. Roedd y caneuon a recordiwyd ar gyfer Fideo 9 ar gael i'w rhyddhau yn fasnachol heb yr angen i dalu am y fraint a bu hynny'n gyfle i sefydlu nifer o labeli newydd. O'r diwedd, roedd artistiaid yn cael eu talu am sesiynau recordio a fideo.

Ond er gwaethaf hyn, wnaeth y rhod fyth droi yn ddigon pell. Isddiwylliant o fewn y diwylliant Cymraeg yw canu pop o hyd. Pwy a benderfynodd hyn, dwn i ddim. Faswn i ddim yn dadlau dros sybsidi 100% i ganu pop Cymraeg, ond mae angen ariannu conglfeini sydd yn annog datblygiad artistiaid newydd ac yn rhoi llwyfan iddynt feithrin crefft a hyder – conglfeini sydd yn cael eu hariannu yng ngweddill y diwylliant Cymraeg. Mae sybsidi yn gallu sbarduno twf.

Mae Llyfr Y Selar a olygwyd gan Owain Schiavone yn tystio i hyn. Mae'n sefyll i reswm bod angen cymhorthdal ar gyfer cylchgrawn mewn iaith leiafrifol sy'n cael ei ddosbarthu am ddim. A dylid cofio bod bodolaeth y cylchgrawn hwn wedi esgor ar ddigwyddiadau megis Noson Wobrwyo Y Selar, sef un o nosweithiau mwyaf y calendr cerddorol Cymraeg nas gwelwyd ers Nosweithiau Sgrech yng Nghorwen. Dyna enghraifft o gymhorthdal yn arwain at greu cyfleoedd pellach. Fydd rhywun ddim yn troi at y gyfrol hon am ddarllen swmpus ond mae ysbrydoliaeth i'w chael yn y rhestrau a'r colofnwyr, sydd yn adlewyrchu bywiogrwydd y diwylliant cyfredol.  Mae cyfraniad Dyl Mei, lle nodir ganddo cymaint yw amrywiaeth ystod cerddoriaeth Gymraeg yn 2017, yn enghraifft berffaith o hyn. Dathliad ydi Llyfr Y Selar ond hefyd rhybudd bod hwn yn gyfnod euraidd a bod angen gwneud y gorau o'r twf presennol i sicrhau bod arian yn cael ei fuddsoddi mewn cerddoriaeth Gymraeg – fel ag yn y diwydiant llyfrau, ym myd theatr, opera ac ati.

Un o hoff bregethau colofn 'Sibrydion Wil a Fi' yng nghylchgrawn Sgrech ers talwm oedd lladd ar aelodau o fandiau oedd wedi mynd i weithio yn y cyfryngau. Mae'n ddigon posib mae hynny laddodd Angylion Stanli – a phwy a ŵyr faint o golled oedd hynny! Heddiw, yng nghyfnod Y Selar, yr hyn sydd yn bwysig yw ein bod yn llwyddo i gadw pobl i weithio o fewn ystod greadigol eang ac amrywiol canu Cymraeg a'i wahanol elfennau – yn gyfansoddwyr, yn berfformwyr, yn labeli, yn hyrwyddwyr a chyfryngau. Mae'r cwbl ynghlwm wrth ei gilydd ac yn allweddol i ddyfodol canu pop Cymraeg, ac mae'r angen am ymdriniaeth a dadansoddiad ystyrlon a deallus o sut y dylid ariannu hyn er mwyn sicrhau twf i'r dyfodol yn rhywbeth sydd wedi bod ar goll ers dros 35 mlynedd a mwy. Ac mae hynny yn gywilydd.

'A chyfoeth hen ffydd a hen eiriau oedd ei gyfoeth o'

Cerddwn Ymlaen Dafydd Iwan ac Ar LogDydw i erioed wedi cael job go iawn, neu o leia' job oedd yn caniatáu i mi egluro'n hawdd i aelodau'r teulu be dwi'n wneud bob dydd. Ond wrth ddarllen y ddwy gyfrol hyn mae yna ymdeimlad o falchder mai'r hyn dwi wedi llwyddo i'w wneud yw potsian yn y byd miwsig yma. Achos mae'r byd miwsig yma yn cyffwrdd â phopeth sydd yn bwysig: mae byd miwsig yn fynegiant o ddyhead, creadigrwydd a gobaith cenedlaethau. Mae hynny yn wir am ganu mewn unrhyw iaith, mae'n siŵr. Mi allaf fod yn falch o ddweud bod fy mywyd wedi ei siapio gan gerddoriaeth a bod y gerddoriaeth honno wedi f'arwain i ddarganfod a gwerthfawrogi cymaint o bethau eraill, yn wleidyddol a diwylliannol – yn ogystal â f'arwain i drwbl. Ond newidiwn i mo hynny am y byd.

Dyma ddwy gyfrol sydd, mewn ffyrdd cwbl wahanol, yn tanlinellu pwysigrwydd canu Cymraeg yn wleidyddol, yn ddiwylliannol  a chymunedol. Mae hanes canu pop Cymraeg yn dangos bod pethau wedi, ac yn newid – er gwell ac er gwaeth. Mae rôl canu pop Cymraeg, yn dogfennu ac annog y newid hwnnw drwy air a chân, yn bwysicach nac erioed. Ac mae'r hanes hwnnw yn rhoi cadernid ac ysbrydoliaeth sydd yn ymestyn drwy dudalennau cyfoethog Rhywbeth i'w Ddweud i bob gair o Llyfr Y Selar – tystebau i allu parhaol canu pop Cymraeg i herio a chyffroi.

'Cerddwn â ffydd yn ein cân ymlaen'

Ac ydi, mae hi yn well cân nag 'Yma o Hyd'.

 

*Label recordiau annibynnol a sefydlwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1988 gan Alun Llwyd a Gruffydd Jones.


Mae Alun Llwyd yn Gyd-Reolwr y cwmni rheoli a chynhyrchu cerddoriaeth, Turnstile ac yn un o sylfaenwyr Ankst. Yn nechrau'r nawdegau, cyhoeddodd gasgliad o gerddi yng nghyfres Beirdd Answyddogol Y Lolfa, Blwyddyn a 'Chydig.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Cerddoriaeth

 


Ym mlynyddoedd Reagan, torrodd car Maffia Mr Huws i lawr yn yr eira tu allan i Bafiliwn Corwen, ar ryw Noson Wobrwyo Sgrech, a model o daflegryn Cruise ar y to

Dyddiad cyhoeddi: 20·12·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Simon Brooks

Gan Louie y clywais i’r ymadrodd gyntaf. Yn y Ship neu’r Aussie roeddwn i, efo criw Llais Gwynedd fwy na thebyg, yn y dyddiau braf hynny cyn i bethau suro rhyngom ar ôl i mi gefnogi’r ymgeisydd anghywir mewn etholiad ar sail rhywbeth mor…

Cyfansoddi


Manon Steffan Ros

Dyma Mam yn fy ngyrru fi allan bore 'ma am ei bod hi'n ddiwrnod braf, a deud, 'Rhoswch allan nes bod hi'n amser swpar, lle bo' ti dan draed'. A dyma Now ac Edwin a finna'n mynd lawr i chwaral bach efo brechdana' mewn papur pobi, a dyna lle roeddan ni…

Dadansoddi


Daniel G Williams

‘Iaith carreg fedd’ oedd y Gymraeg i Michael Stephens yn hafau ei arddegau pan fyddai'n gweithio fel torrwr beddau yn ei Drefforest enedigol. Ymhen amser fe drodd Michael yn Feic, a’r iaith ‘yn iaith carreg fy aelwyd’. Disgrifiodd ei hun yn un o blant ‘y Gymru ddiwydiannol,…

Cyfansoddi


Angharad Price

Pwy sy’n ddigon hen i gofio’r ogla? Blas rwber yr awel. Ceir yn ciwio i fynd i mewn. Y sentri sgwâr a llinell syth y bar. Tonnau trionglog y to – yn ymestyn draw hyd dragwyddoldeb. Ac enw mawr y ffatri ar y brig:…

Cyfansoddi


Angharad Price

Mae gan yr Alban Ben Nevis a chan Gaernarfon Ben Twthill. Fan hyn yr oedd y gaer gyntaf. Fan hyn, os byth, y bydd yr olaf. Dwrn caled o graig yn codi yn ei noethni dros amlinell afreolus y dre.

Dydi…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Yn Abertawe y mae gwaith awyr agored mwyaf yr artist gwleidyddol Jeremy Deller. Ef hefyd a gynlluniodd ‘We’re here because we’re here’ (ar y cyd â Rufus Norris, cyfarwyddydd Theatr Genedlaethol Pydain) – gwaith sydd yn cofiannu can mlynedd ers brwydr y Somme. Fel rhan o’r perfformiad hwnnw ar 1 Gorffennaf 2016, gwelwyd…

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…