Adolygu

‘Pam difetha drama dda?’

Adolygiad o Y Tŵr, Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru


Llŷr Titus

Amser darllen: 8 munud

13·06·2017

'Pam difetha drama dda?' Dyna ateb Saunders Lewis pan ofynnwyd iddo am ganiatâd i addasu Siwan yn opera. Roedd y geiriau hynny, am ba reswm bynnag – dewrder efallai – yn rhaglen yr addasiad operatig a gynhyrchwyd gan Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Gwenlyn Parry, Y Tŵr. Tydi addasu ddim yn golygu difetha fel y cyfryw wrth gwrs; mae’n gyfle hefyd i newid persbectif.

Fedra i ddim honni bod yn ben opera. Diffyg profiad ydi hynny’n fwy na dim; dwi wedi gwylio pytiau ar y teledu ond heb weld darn operatig ar ei hyd. Wrth wylio’r opera hon gan Guto Puw, ac wrth ei thrafod, gwnaf hynny fel dramodydd, heb wneud tegwch o gwbl â'r dimensiwn cerddorol. Rwyf yn llwyr ymwybodol o eironi hynny gan nad oes modd rhannu ffurf a chynnwys, fwy na gair a chân mewn opera. Gobeithio y medr y rhai ohonoch chi sydd yn fwy goleuedig fy rhoi ar ben ffordd.

Mae Y Tŵr yn ddrama a ddenodd sawl label ers y perfformiad cyntaf ohoni bron i ddeugain mlynedd yn ôl. A hynny, mae’n debyg, fel ei bod yn haws i’w gosod mewn blwch a hithau’n ddrama sydd yn fwriadol amwys, fel nifer o ddramâu eraill Gwenlyn Parry, er enghraifft Saer Doliau. 'Drama symbolaidd', medd rhai, sydd wrth gwrs yn anghywir: nid drama symbolaidd mohoni o gwbl ond yn hytrach dyma ddrama sydd yn llawn symbolau. 'Drama absẃrd', medd eraill. Na unwaith eto, er bod ambell i elfen o hynny ynddi hefyd. Cyfeirio at elfennau ‘lled-abswrdaidd’ Parry yn hytrach na’i alw’n ddramodydd absẃrd yn ddiamwys oedd rhaglen y cynhyrchiad operatig hwn.

Mae’n debyg fod y label ‘absẃrd’ yn air handi i’w ddefnyddio ym myd y ddrama yng Nghymru os ydi drama fymryn yn wahanol ac os nad ydi’r dramodydd yn ddramodydd naturiolaidd. Doedd Wil Sam, er enghraifft, ddim yn ddramodydd absẃrd chwaith, er bod dylanwad y mudiad hwnnw arno fo hefyd. Mae hi’n hen bryd i’r Termiadur Theatraidd yng Nghymru gael estyniad.

Y Twr - addasiad operatig

Ansoddair arall a ddefnyddir ydi ‘mawr’. Yn sicr mae hi’n hir. A chael ei chwtogi a'i haddasu fu hanes y ddrama hon erioed i raddau. Pan berfformiwyd hi gyntaf, o ran ei llwyfannu a’i huchelgais, roedd yn ddrama a synnodd gynulleidfaoedd. Ond efallai y gellid dweud bod hynny’n mynegi mwy am gyflwr y theatr Gymraeg yn y cyfnod hwnnw nag yr oedd am y ddrama ei hun.

Tydi hynny ddim i ddweud nad ydi hi’n ddrama dda iawn, nac yn un na ddylai gael ei gosod yn y canon Cymraeg a’i gwerthfawrogi ar sail ei saernïaeth grefftus. Mae hi hefyd, o’m rhan i beth bynnag, yn magu ystyr gydag amser. Mi gefais dipyn mwy ohoni wrth ei darllen cyn mynd i weld yr opera nag a gefais rai blynyddoedd ynghynt, a hynny mae’n debyg am fy mod i ryw stepan neu ddwy yn uwch yn fy nhŵr fy hun nag yr oeddwn ar y pryd. Drama am daith bywyd ydi hon a’r holl gysgodion a'r golau a ddaw gyda hynny. Fel drama sy’n trafod bywyd mae yna rywbeth i bawb ynddi; tydi’r cymeriadau ddim yn unigolion fel y cyfryw, maent yn ymgorfforiad o wryw a benyw, o ŵr a gwraig. Ond tydi hynny ddim i ddweud chwaith nad oes ganddyn nhw nodweddion cymeriad pendant, na’u beichiau unigol.

Sut aeth yr addasiad operatig hwn ati felly i newid pethau?

Y prif wahaniaeth oedd bod yn rhaid cwtogi, wrth gwrs, a bod yna oblygiadau i hynny. Cadwyd craidd y ddrama, y syniad o godi drwy’r tŵr, y datblygiad ym mherthynas y cymeriadau a’r dirywiad anochel a ddaw wrth heneiddio. Difyr oedd nodi ymhle yr oedd y toriadau. Roedd rhai, fel cael gwared ar y Llanc yn trafod tyfu mwstás, yn diflannu heb i neb sylwi arnyn nhw bron. Ond roedd hepgor darn fel monolog y Ferch yn trafod ei choesau a’i hieuenctid, darn sydd yn gosod sylfaen y drydedd act, yn ddewis difyr, yn enwedig am fod pob jôc gysylltiedig wedi’i chadw a bod 'na ambell un ychwanegol hefyd. Rhyfedd wedyn oedd dewis datgan yn blaen fod Y Wraig yn cael affêr pan na wneir hynny, yn echblyg beth bynnag, yn y ddrama ei hun. Canlyniad hynny oedd gwared un haen arall o amheuaeth am ddim mwy o reswm efallai nag i wneud cymhelliant y Gŵr, pan yn ymosod arni, yn fwy echblyg, yn fwy hwylus.

Addaswyd y ddeialog mewn ffordd ddidwyll gan Gwyneth Glyn; tynwyd nifer dda o linellau o’r ddrama wreiddiol a sicrhau bod y gweddill o’u cwmpas yn gweddu’n union. Cadwyd digon o liw deialog Gwenlyn Parry drwy gydol y perfformiad ac fe lwyddwyd i aros yn driw i’w lais unigol o. Wrth gwrs, bob hyn a hyn, byddai lliw'r libretydd yn ymddangos ond mae hynny i’w ddisgwyl ac yn un o nodweddion difyr addasu wrth i ddau lais geisio uno’n effeithiol. Dyna a ddigwyddodd yn y fan hon.

Un elfen bwysig o waith Gwenlyn Parry, o gofio ei ymwybyddiaeth o lwyfannu, yw’r set. Mae’r gofynion ar ddechrau’r ddrama yn fanwl ac yn ddigon cymhleth. Roedd symlrwydd set yr addasiad operatig yn drawiadol. Syniad da oedd tynnu haenen o’r llawr i ffwrdd er mwyn adlewyrchu’r newid ystafelloedd - tric bach clyfar y cefais fwynhad o’i weld.

Ond does dim dwywaith i'r addasiadau a’r toriadau testunol dynnu peth o ddyfnder y ddrama. Wn i ddim ai peintio â brwsh bras y mae ffurf yr opera ac mai dyna a oedd yn gyfrifol am natur lled-arwynebol y perfformiad. Fe ddywedwyd dro ar ôl tro bod natur operatig a cherddorol yr addasiad yn fodd i gyfleu mwy o emosiwn ac ychwanegu at yr hyn a oedd ar y llwyfan. Creodd datganiadau o’r fath ddisgwyliadau. Ond, o’m rhan i, ac efallai am nad oeddwn yn ymateb ddigon i'r gerddoriaeth, roedd y mynyddoedd a'r dyffrynnoedd dramatig fel petai, yn cael eu colli. Dim ond ar ddiwedd y drydedd act y llwyddodd yr addasiad hwn i roi cic emosiynol.

Yn y sgwrs cyn y perfformiad, pan ofynnwyd i Maureen Rhys beth roedd hi’n gobeithio’i gael fel profiad wrth wylio’r opera, nododd mai ei gobaith oedd medru anghofio’i hun. Mae hynny’n brofiad y byddai pob un yn gobeithio’i gael gan unrhyw berfformiad, dybiwn i. Dywedodd R S Thomas bod cyfieithu barddoniaeth fel cusanu drwy hances – hynny ydi, fod yna ryw bellter rhwng y gwaith newydd a chraidd ac ergydion barddoniaeth. Profiad go debyg oedd gwylio’r addasiad operatig hwn o Y Tŵr i mi; roedd rhyw haen yno’n achlysurol a oedd yn peri i mi sylweddoli fy mod i’n eistedd mewn theatr yn gwylio pobl yn canu yn hytrach na chael anghofio hynny.

Ond nid y ffurf o reidrwydd a oedd yn gyfrifol am hynny bob tro. Un o’r haenau hynny oedd y broses o ‘lanc-eiddio’ Gwion Thomas. Roedd y ffaith mai wig oedd ar ei ben yn amlwg ar y gorau, ac yn chwerthinllyd ar ei waethaf, fel rhywbeth o focs gwisgo act efelychu Elvis. Haws o lawer, mae’n siŵr, ydi heneiddio actorion ifanc na throi'r cloc y ffordd arall. Elfen arall a oedd yn rhan o ddiffyg emosiynol yr addasiad oedd y cysylltiad, neu ei ddiffyg, rhwng y cymeriadau. Wn i ddim ai’r ffurf operatig, y cyfarwyddo neu ryw elfen arall a oedd yn bennaf gyfrifol am hynny. Ac mae'n bosib bod yr emosiwn yn cael ei ddatblygu drwy'r gerddoriaeth, wrth gwrs, a finnau heb ddirnad hynny. Dyna’r golled fwyaf a gefais i'n bersonol yn yr addasiad hwn – aeth y berthynas rhwng y cymeriadau yn fater o’r hyn yr oeddwn yn glywed yn eu geiriau, yn hytrach na’r hyn yr oeddwn yn gallu’i weld, ei deimlo, a’i goelio.

Ai byrbwyll oedd Saunders Lewis? Roedd yna sawl rheswm dros ddewis addasu Y Tŵr yn opera. Un o’r prif rai, yn ôl Guto Puw a gyfansoddodd yr opera, oedd yr ystyriaeth ymarferol – dau gymeriad a set nad oedd angen newid gormod arni rhwng actau. Os gellir, drwy addasu, gyflwyno profiad newydd i bobl, yna gorau oll. Siawns nad ydi ‘addasu’ yn gyfystyr â ‘difetha’? Wnaeth yr addasiad hwn ddim ‘difetha drama dda’ – cynigiodd ddehongliad gwahanol. Ac mae'r ddrama wrth gwrs yn dal yno, rhwng cloriau, yn barod i’w pherfformio, dim ond fod yna ddehongliad cwbl newydd wrth ei hochr hi hefyd bellach.


Mae'r opera Y Tŵr gan Guto Puw ar daith 19 Mai - 17 Mehefin 2017. 

Libreto gan Gwyneth Glyn. Yn seiliedig ar ddrama gan Gwenlyn Parry. 
Cynhyrchiad Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru. Cyflwynwyd yn wreiddiol gan Theatr y Sherman a Gŵyl Bro Morgannwg 2017.

Mae Llŷr Titus yn awdur Gwalia (Gomer, 2015) ac yn un o gyd-sylfaenwyr Y Stamp.


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Llŷr Titus, Theatr, Cerddoriaeth

 


Dywedodd R S Thomas bod cyfieithu barddoniaeth fel cusanu drwy hances. Profiad go debyg oedd gwylio Y Tŵr i mi

Dyddiad cyhoeddi: 13·06·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ruth Richards

Ai peth fel ’ma, mewn difri, oedd Eisteddfod y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Rhyfeddwn at ffotograffau John Thomas o Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1884, a'r un pryd fe'n gorfodir i'w cydnabod fel cofnod cywir. Ffotograffiaeth, wedi'r cwbl, yw un o'r cyfryngau amlycaf i gyflwyno'r…

Dadansoddi


Angharad Price

Bob blwyddyn, mae dwy filiwn o deithwyr yn mynd trwy Gaergybi, porthladd fferi prysuraf-ond-un y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn rhan allweddol o briffordd fawr Ewropeaidd yr E22 sy’n ymestyn o Ddulyn i Fosgo a thu hwnt. Flina’ i byth ar y wefr o ddod yma.

Dadansoddi


Simon Brooks & Daniel Williams

'Roedd yna berygl ar ôl Brexit, ac yng nghyd-destun yr etholiad hwn yn benodol, dw i’n meddwl, i Blaid Cymru ddiflannu’n llwyr o olwg pleidleiswyr mewn rhai rhannau o Gymru. Un o sgil-effeithiau Brexit oedd rhannu’r ardaloedd hynny o Gymru a esgorodd ar y bleidlais o…

Dadansoddi


Sarah Hill

Eleni rydym yn cyrraedd carreg filltir liwgar: pum deg mlynedd ers y ‘Summer of Love’, neu Haf Cariad. Yng Nghymru, roedd pop dipyn bach ar ei hôl hi ym 1967 ond roedd yna drobwynt pwysig, serch hynny, a chwyldro diwylliannol ar lan Llyn Tegid.

Cyfansoddi


Aled Jones Williams

Penderfynodd Bet ar y pafin na fyddai’n mynd drwy’r dref i dŷ ei modryb y bore hwn. Fe gadwai’r pleser hwnnw – a phleser fyddai, cael gweld yr hen le eto – at yn hwyrach. Fe wyddai am siort cyt. Os a’ i lawr ffor’ hyn, meddai wrthi…

Colofnau


Mihangel Morgan

Er mwyn dianc rhag twymyn yr ymgyrch etholiadol – Carwyn nad yw’n Corbyn bondigrybwyll, arweinydd Prennaidd Plaid Cymru ac ymddangosiad brawychus anochel Mark Williams neu Ann Clwyd ar garreg y drws (yr unig adeg y cewch chi gipolwg ar y troglodeitau hyn yw pan…

Adolygu


Gwydion Gruffudd

Beth ’sgwn i yw’r rhesymau dros y diffyg cydnabyddiaeth i gyraeddiadau y tu hwnt i’r ‘pethe’ traddodiadol yng Nghymru? Wrth gofio’r Athro Phil Williams, ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae dyn yn meddwl y dylai fod wedi cael cymaint os nad mwy o gydnabyddiaeth am ei waith ffiseg…

Cyfweld


Emanuele Severino

Yn 1961, lansiwyd archwiliad gan Chwil-lys y Fatican o waith yr athronydd Emanuele Severino (1929- ). Parhaodd yr archwiliad hwn am bron i ddegawd. Penderfynwyd bod ei syniadaeth yn 'sylfaenol anghydnaws' ag athrawiaeth Gristnogol ac o ganlyniad fe'i hesgymunwyd o'i swydd fel Athro…