Adolygu

Pendroni am y person cyntaf

Cerddi cadair a choron 2018


Guto Dafydd

Amser darllen: 10 munud

18·09·2018

Tolstoy a'i wraig, Sophia (Sonya), tua 1890. Llun o archif Gerstenberg.
Dadleuwyd droeon mai hunan-ffuglen yw gweithiau Tolstoy.


Mae cerddi arobryn cadair a choron eleni’n gweddu i’r dim i’r brifwyl agored, orfoleddus, herfeiddiol a gafwyd ym Mae Caerdydd. O ran arddull, maent yn hygyrch – yn rhwydd i’w darllen, a throeon ymadrodd yn pefrio oddi ar y dudalen. O ran cynnwys, maent yn fyfyrdodau soffistigedig ar rai o’r dyheadau sy’n achosi’r angst mwyaf i Gymry ifanc heddiw: byw bywyd ystyrlon yn oes cyfryngau cymdeithasol, a byw bywyd dinesig drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Ond nid wyf am amlhau geiriau am ragoriaethau amlwg yr awdl na’r casgliad. Yn hytrach, dymunaf ystyried rhywfaint ar nodwedd arall sy’n gyffredin i’r ddau, sef eu defnydd o’r person cyntaf ffuglennol. Yn y ddau achos, ceir cerddi lle nad y bardd ei hun yw ‘fi’. Wrth eu darllen – a’u mwynhau – teimlwn fod hyn yn codi sawl cwestiwn diddorol. 

Gallwn yn hawdd fod wedi treulio’r llith hwn yn mynd i berorasiwn llongyfarchiadol am ragoriaethau cerddi’r gadair a’r goron, ac rwy’n ymddiheuro i’r enillwyr am beidio â gwneud hynny – ond mae angen ffantom ym mhob ffair.

Ymestyn yr hunan 

Dyn ifanc a geir yn awdl ‘Porth’ Gruffudd Owen. Mae’n byw bywyd anfodlon yng Nghymru Brexit a Chaerdydd gyrwyr bws Himmleraidd. Llenwa wacter ei fywyd drwy ddilyn y llif barn a hunanganmoliaeth ar Twitter a Facebook, trwy wylio clipiau o Ewro 2016 ar YouTube, a chael rhyw â dieithriaid a genfydd wrth sweipio’i ffordd drwy Tinder. Mae’n cofio am gyfnod o serch diniwed, tanbaid a ddaeth i ben wedi iddo ildio i swildod a methu â chael rhyw â’i gariad.

Rwy’n adnabod y bardd yn weddol dda. Gwn fod rhai pethau am bersona’r awdl yn wir am Gruffudd Owen hefyd (wedi’r cwbl, pwy ohonom nad yw’n gwylio gôl Hal Robson-Kanu ar y we, ac yna’n ffieiddio at ‘stad / erchyll fy adlewyrchiad’ wedi i’r sgrin ddiffodd?). Nid wyf yn ei adnabod yn ddigon da i wybod graddau ei ddefnydd o ‘dishws a Phlaystation’. Ond rwyf mor sicr ag y gellir bod nad yw’n chwilio am gariadon oes nac unnos ar Tinder; mae’n ŵr ac yn dad cydwybodol. Mae’n deg felly galw persona’r awdl yn fersiwn ffuglenedig o Gruffudd Owen. Defnyddiodd y bardd ei bersonoliaeth a’i brofiadau ei hun yn sail i’r cymeriad ond rhoddodd iddo brofiadau ac amgylchiadau eraill am resymau creadigol.

Mae hyn yn reit gyffredin mewn rhyddiaith – dyna’n union a wnes i yn fy nofel Ymbelydredd, a dyna a wnaed ar lefel lawer mwy uchelgeisiol gan Karl Ove Knausgård yn yr hectoleg ryfeddol Min Kamp (mwy, llawer mwy, amdani yma). Y rheswm yr es i i’r cyfeiriad hwn oedd rhwystredigaeth â’m diffyg gallu fy hunan, fel awdur, i gydymdeimlo’n ddigonol â chymeriadau dychmygol, a chreu sefyllfaoedd a straeon ffuglennol argyhoeddiadol ar eu cyfer. Fel y dywedodd Knausgård, ‘Just the thought of a fabricated character in a fabricated plot made me nauseous.’ Yr unig ffordd y gallwn ddychmygu creu llên awthentig oedd defnyddio fy mhrofiadau a’m hunaniaeth fy hunan. Ond er mwyn ysgogi ac ysgwyd y teimladau mwyaf trawiadol o’m cymeriad, roedd yn rhaid fy ngosod fy hunan mewn sefyllfaoedd damcaniaethol, sefyllfaoedd wedi eu gorwneud. Unwaith eto, dyma’n union a wnaeth Gruffudd Owen â’i bersonoliaeth ei hun yn ‘Porth’.

Beth yw effaith hyn ar y gynulleidfa? Wrth iddynt sylweddoli bod gagendor ffeithiol rhwng y bardd y maent yn credu eu bod yn ei adnabod a’r fersiwn ohono sydd yn y gerdd, ydyn nhw’n colli cydymdeimlad? Efallai ei bod yn haws gwneud hyn mewn modd sydd yn argyhoeddi mewn rhyddiaith, lle nad yw’r gynulleidfa’n disgwyl clywed llais triw’r llenor. Yn ein traddodiad barddol Cymraeg, ar y llaw arall, dibynna ergyd y gerdd ar bersonoliaeth a hunaniaeth y bardd: mae ei holl gerddi blaenorol yn rhan o’r persona sy’n datgan y gerdd, ac yn rhoi hygrededd iddi.

Os yw ‘fi’ y gerdd yn wahanol i lais arferol persona cyhoeddus y bardd, ydi o mewn trwbwl? Ar ôl pendroni’n hir am yr awdl, ni allwn ond casglu ei bod yn ddilys ac yn effeithiol. Un rheswm am hynny yw bod cynulleidfa wedi hen arfer â fersiynau eithafedig o gymeriadau beirdd – ymestynnant eu hunain i fod y mwyaf meddw, y puraf o galon, y grymusaf ei gynghanedd, mewn modd digon tebyg i ddigrifwyr standyp.

Rheswm arall yw bod hon yn gerdd eisteddfodol. Teimlaf fod hynny’n gwneud y ffuglennu yn fwy derbyniol nag mewn cerdd a gaiff ei chyhoeddi dan enw’r bardd yn annibynnol ar unrhyw gystadleuaeth. Does gen i ddim tystiolaeth gadarnach na’m profiad fy hunan: wrth gystadlu am y goron, cynhwysais gerdd oedd yn sôn am fy nheimladau fel rhiant ond doedd gen i ddim plant ar y pryd. Roeddwn i’n hollol fodlon â’r gerdd yng nghyd-destun cystadleuaeth ond wrth ddod i gyhoeddi cyfrol, gollyngais y gerdd arbennig honno.

Y prif reswm, fodd bynnag, yw bod y cymeriad a greodd Gruffudd Owen yn rhannu’r un cefndir a dosbarth ag yntau. Mae eu manylion bywgraffyddol, a’u harferion caru, dwtsh yn wahanol i’w gilydd, ond does dim amheuaeth ynghylch gallu’r bardd i fynd dan groen Cymro ifanc, proffesiynol, dinesig – oherwydd dyna yw ef ei hun.  

Siarad ar ran y di-rym 

Plethwaith yw ‘Olion’ Catrin Dafydd o leisiau o gymuned Grangetown. Aeth dwy gerdd, yn benodol, â’m sylw wrth bendroni am y person cyntaf.

Mam Foslemaidd sy’n siarad yn ‘Mae Ahmed yn siarad Cymraeg’. Myfyria’r fam hon ynghylch perthynas ei mab â bachgen, Osian, sydd o deulu Cymraeg, ac ar y ffaith fod ei mab yn derbyn diwylliant newydd. Ymfalchïa’r fam y gall Ahmed ddewis yr ‘Arabian Nights’ neu’r ‘llyfr lliwgar sy’n llawn Cymraeg’, ‘Muhammad a’r Mabinogi’. Awgrymir bod pethau’n gyffredin rhwng y ddau ddiwylliant (‘Dw i'n clywed y Gymraeg yn debyg i'r Arabeg, wyddost ti, Ahmed. / Yr 'ch' a'r sillafau sy'n cwato yn nyfnder dy lwnc.’), a bodlonrwydd os nad brwdfrydedd ynghylch yr etifeddiaeth newydd y mae Ahmed yn ei derbyn.

Mam o’r dosbarth gweithiol yw Bethany Jones, sy’n siarad yn ‘Roedd fi’. Puprir y gerdd â chamdreiglo (er bod y mwyafrif ohoni mewn Cymraeg perffaith) – ‘portacabin fy plentyndod’; ‘fy brethyn’. Hanes Bethany oedd poeri’r ‘Cymraeg mas gyda’r gwm / a’i sticio dan y bwrdd’ ond newidiodd ei hagwedd ar ôl cael plentyn. Yn sgil y ffaith fod aroglau’r babi ‘fel y diwrnod cyntaf erioed – / fel y pridd a’r haul’, cofiodd Bethany am ganu emyn Pantycelyn yn y gwasanaeth. Enwodd y plentyn yn ‘Celyn’ ar y sail fod ‘geiriau'r dŵd yna dal yn catchy’, ac mae bellach yn ‘cnoi’r Cymraeg fel bubblegum yn ceg fi’.

Mae angen i lenyddiaeth Gymraeg gynrychioli profiadau amrywiaeth ehangach o Gymry. Nid yw’r byd llenyddol Cymraeg mor unffurf fanila ag y byddai rhai’n ei beintio, ac yn sicr nid yw’n gaeedig. Ond byddai cael mwy o leisiau – o leiafrifoedd ethnig, o’r de-ddwyrain a’r gogledd-ddwyrain, o’r dosbarth gweithiol, o’r gymuned LHDT+, ac o grwpiau eraill – yn cyfoethogi’n llên ac yn gwneud cyfiawnder â’r grwpiau hynny. 

Y ddelfryd yw bod pobl o grwpiau tangynrychioledig yn sgwennu eu cerddi Cymraeg eu hunain, fel bod eu lleisiau triw’n cael eu clywed heb ffilter. Mae rhesymau demograffig a diwylliannol hir sefydledig pam nad yw hynny’n digwydd i raddau digonol ar hyn o bryd, ac mae angen mynd i’r afael â’r rhesymau hynny. Yn y cyfamser, a yw’n iawn cyflymu’r broses o sicrhau llenyddiaeth Gymraeg fwy cynrychioladol drwy gael beirdd dosbarth canol yn sgwennu cerddi yn llais aelodau o grwpiau llai breintiedig yn economaidd a chymdeithasol? 

Mae, wrth gwrs, yn bosib i lenorion sgwennu am bethau sydd y tu allan i’w profiad uniongyrchol, a gwneud hynny mewn ffordd sydd yn argyhoeddi (er, yn anffodus, nid wyf i’n un o’r llenorion hynny). Ond a oes ffiniau ar hynny? A oes rhai profiadau na ddylem geisio’u lleisio? 

Fy nheimlad cychwynnol yw nad oes gen i, fel person breintiedig, hawl i roi geiriau yng ngheg pobl lai breintiedig, oni bai bod gen i ddealltwriaeth drylwyr iawn o’r hyn y dymunant ei ddweud. Mae angen dawn, empathi ac adnabyddiaeth arbennig o dda er mwyn rhoi llais i brofiadau sy’n bell o’n profiadau cynhenid, a gwneud hynny mewn modd didwyll a dilys. Un risg yw bod ceisio rhoi lliw i’r llais yn arwain at greu fersiwn cartwnaidd o bobl. Risg arall yw nad wyf yn adlewyrchu’n gywir holl gymhlethdod eu teimladau – neu, ar y gwaethaf, fy mod yn defnyddio’u hunaniaeth i roi hygrededd i ba bynnag genadwri sy’n ddymunol ac yn gyfleus i mi.

Seiliedig ar ddyhead ynteu ffaith?

Mae’n amhosib i mi wybod i ba raddau y mae’r cerddi uchod yn seiliedig ar realiti. (A minnau’n foi gwyn hen-ffasiwn o Wynedd wledig, go brin fod llawer o bobl lai cymwys na fi i drafod hyn, a dweud y gwir.) Mae Catrin Dafydd yn byw yn Grangetown, ac yn weithgar yno. Ysgrifennaf felly o safbwynt o anwybodaeth. Dyheaf, wrth reswm, i gymeriadau’r cerddi fod yn gynrychioladol o filoedd o bobl gyffelyb; mae’r pesimist ynof yn ofni eu bod yn rhy 'dda' i fod yn wir. Ond nid wyf yn gwybod. Gwn (a llawenhaf) fod addysg Gymraeg mewn dinasoedd yn denu plant o gefndiroedd newydd ac amrywiol. Ond y tu hwnt i hynny, nid wyf yn gwybod a yw agweddau Bethany a mam Ahmed yn seiliedig ar ddychymyg a dymuniad yn unig; ar agweddau un neu ychydig o bobl fel nhw, ond nid y mwyafrif o rieni dosbarth gweithiol a BAME disgyblion ysgolion Cymraeg; ar agweddau mwyafrif y rhieni hynny, neu’r cwbl ohonynt.

Y cwestiwn yw: oes ots? Dyweder, yn ddamcaniaethol, nad yw pobl fel Bethany a mam Ahmed yn bodoli, neu fod eu safbwynt yn un prin: a fyddai’r cerddi’n dal yn ddilys? A fyddai’n iawn eu creu mewn llên oherwydd ein bod yn dymuno iddynt fodoli? Wrth ysgrifennu cerddi yn llais pobl o hunaniaeth benodol, recriwtir yr hunaniaeth honno i weithredu fel lladmerydd ar gyfer yr achos y dymuna’r bardd ei wneud. Pa lefel o adnabyddiaeth a chaniatâd sy’n ofynnol er mwyn gwneud hynny?

Cymhlethir y sefyllfa gan ystyriaethau ynghylch braint a grym. Mae siaradwyr Cymraeg yn grŵp sydd, ac a fu, dan ormes. Ond mewn rhai sefyllfaoedd, ni yw’r grŵp breintiedig a grymus. Dengys y gerdd ardderchog ‘Jentrifficeshyn’ – disgrifiad o’r modd y mae Cymry Cymraeg dosbarth canol yn goresgyn Grangetown – fod Catrin Dafydd yn boenus o ymwybodol o hynny.

Mae’r casgliad drwyddi draw’n alwad i wahanol elfennau cymuned Grangetown gyd-fyw’n heddychlon, drwy gyfrwng y Gymraeg os yn bosib. Ond a yw defnyddio lleisiau o leiafrifoedd ethnig a’r dosbarth gweithiol i wneud yr achos hwnnw’n ymylu ar feddiannu diwylliannol? Mae’n gwbl ddibynnol, rwy’n credu, ar i ba raddau y mae’r lleisiau hynny’n rhai go iawn.

Datrysiad atyniadol i’r broblem hon yw prosiectau lle mae’r llenor yn gweithredu fel cyfryngwr rhwng unigolion di-lais a’r gynulleidfa. Dyna y mae'r awdur Sfetlana Aliecsiefits, enillydd Gwobr Nobel Llenyddiaeth 2015, yn adnabyddus amdano (gellir darllen cyfweliad â hi yn y fan hon. Gol.). Mae gwaith Bethan Marlow a’r ddrama Hollti gan Manon Wyn Williams yn enghreifftiau o’r math hwn o waith ym myd theatr, lle mae’r dramodydd yn treulio amser yn gwrando ar bobl ac yna’n adlewyrchu eu sylwadau’n driw ar y llwyfan. Ac efallai, wrth gwrs, mai dyna a wnaeth Catrin Dafydd mewn dull anffurfiol gyda’r cerddi hyn.

Mae angen llenyddiaeth fwy cynrychioladol yn y Gymraeg. Ac mae angen llenyddiaeth sy’n ymateb i’r broses raddol, anodd, obeithiol o Gymreigeiddio Caerdydd – gan gynnwys cynrychioli pobl y mae’r Gymraeg yn newydd iddynt, a dal holl gymhlethdodau eu hymwneud â’n diwylliant wrth iddo ddod yn ddiwylliant iddynt hwythau. Mae casgliad y goron yn gyfraniad pwysig at hynny – ond rwy’n dal i deimlo’r angen i wybod a yw ‘Olion’ yn seiliedig ar ddyhead ynteu ffaith. 


Enillodd Guto Dafydd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014 a Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 am ei nofel, Ymbelydredd.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Rwy’n adnabod y bardd yn weddol dda. Gwn fod rhai pethau am bersona’r awdl yn wir am Gruffudd Owen hefyd

Dyddiad cyhoeddi: 18·09·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…