Aled Eurig


Gwrthwyn- ebwyr Cydwybodol yn y Rhyfel Mawr

Carreg Gwalch, 212tt, £12, 2018

Gwrthwynebu ar sail cydwybod
Adolygu

Gwrthwynebu ar sail cydwybod


Pedr Jones

Amser darllen: 4 munud

10·04·2019

Ar drothwy’r Rhyfel Mawr, roedd tueddiad gan y Cymry i gysylltu militariaeth â Seisnigrwydd, Eglwys Lloegr a gormes landlordiaeth. Yn y gyfrol bwysig hon gan Aled Eurig, sydd yn ffrwyth ymchwil archifol sylweddol, cawn ein hatgoffa bod nifer y Cymry a ymunodd â’r Fyddin yn wir yn is nag yng ngwledydd eraill Ynysoedd Prydain.

Yn yr ardaloedd amaethyddol a chwarelyddol Cymraeg eu hiaith, cyndyn iawn fu’r ymateb ar y dechrau i’r alwad am filwyr. Yma, roedd dylanwad Anghydffurfiaeth ar ei gryfaf. Roedd gweinidogion a cholegau diwinyddol ar flaen y gad yn gwrthwynebu’r rhyfel ac yn y protestiadau yn erbyn cam-drin gwrthwynebwyr cydwybodol. Thomas Rees, prifathro Coleg Annibynnol Bala-Bangor, oedd arweinydd y gwrthsafiad, ac arwydd o’i ddylanwad oedd ymateb ei fyfyrwyr i orfodaeth filwrol. Yn wrthwynebwyr cydwybodol, ymddangosodd oddeutu 23 ohonynt gerbron tribiwnlys Bangor. Yn eu mysg roedd Thomas Eirug Davies, taid yr awdur. Ffigwr allweddol arall oedd T E Nicholas, neu Niclas y Glais, a oedd yn Farcsydd yn ogystal â gweinidog Annibynnol.

Yn y cyfamser, datblygodd de Cymru yn un o ranbarthau gwrth-filitaraidd mwyaf Prydain. Roedd canolfannau cryfaf gwrthwynebiaeth gydwybodol yn cyd-daro â chadarnleoedd y Blaid Lafur Annibynnol [BLA], a oedd wedi sefyll yn erbyn y rhyfel o’r dechrau ar y sail mai brwydr imperialaidd er budd cyfalafiaeth oedd hon. Gweithiodd y BLA gyda Chymdeithas y Cymod a mudiadau gwrth-rhyfel eraill. Merthyr Tudful (sedd seneddol Keir Hardie) oedd un o brif ganolfannau’r gwrthwynebwyr, lle denwyd torfeydd o dros 3,000 i gyfarfodydd cyhoeddus. Daeth rhai gwragedd yn flaenllaw hefyd yn y mudiad heddwch, fel Minnie Pallister, Agnes Hughes, Lily Tobias a Margaret Morgan Jones. Yn aml cymerasant yr awennau oddi wrth ddynion a oedd wedi eu harestio a’u carcharu am wrthsefyll gorfodaeth filwrol.

Erbyn haf 1917, roedd yr hinsawdd wleidyddol yng Nghymru yn poethi, a hynny o ganlyniad i gyflwyniad gorfodaeth filwrol, blinder cyffredinol ynghylch y rhyfel a’r ymateb i chwyldro cyntaf Rwsia ym mis Mawrth. Roedd yr awdurdodau yn benderfynol o sathru ar unrhyw wrthryfeliad ac i drin gwrthwynebwyr cydwybodol yn llymach nag erioed. Ond dangosir i ni gan ymchwil wreiddiol Aled Eurig mai tra gelyniaethus oedd yr awyrgylch tuag atynt o’r dechrau. Pan ysgrifennodd Thomas Rees lythyr at Y Tyst ym mis Medi 1914 yn beirniadu’r rhyfel, cafodd ei wawdio gan y Western Mail fel cyfaill i’r Kaiser. Mwy nag unwaith chwalwyd cyfarfodydd y BLA yn erbyn y rhyfel gan ddynion a elwid yn ‘wlatgarwyr’.

Cafwyd o leiaf 16,500 o wrthwynebwyr cydwybodol drwy Brydain, gyda 893 ohonynt yn Gymry. Derbyniodd y mwyafrif ryw fath o ddarpariaeth gan y wladwriaeth, boed yn gynllun gwaith sifil neu ddarpariaeth gan y Fyddin o fewn Uned Ambiwlans y Crynwyr, er enghraifft. Yn y modd hwn gallent gyfrannu at gymdeithas heb hybu achos y rhyfel yn uniongyrchol. Ond i gnewyllyn ohonynt roedd hyn yn gyfaddawd annerbyniol – gwrthodasant dderbyn unrhyw fath o waith, gan gredu y byddai hyn yn rhyddhau unigolyn pellach i ymladd yn y Fyddin. Yr Absoliwtiaid oedd y rhain, yn cynrychioli 8% o’r holl wrthwynebwyr cydwybodol yng Nghymru. Y dynion hyn a gafodd y driniaeth fwyaf llym gan yr awdurdodau. Roedd amodau yn y carchardai yn galed iawn iddynt – yn fwriadol felly.

Nid oedd bywyd yn hawdd ychwaith i’r gwrthwynebwyr cydwybodol yng ngwersylloedd gwaith y Swyddfa Gartref. Disgrifia Aled Eirug yr amodau byw yng ngwersylloedd Llanddeusant a Llan-non yn Sir Gâr, Penderyn a Thalgarth. Yn bur aml, roedd y bwyd yn annigonol, yr oriau gwaith mewn tywydd caled yn afresymol o hir, a’r amodau byw hefyd yn anodd. Ar y llaw arall, nid oedd profiad pob gwersyll cynddrwg. Disgrifiwyd awyrgylch carchar Wakefield yn Swydd Efrog (canolfan waith dan gynllun y Swyddfa Gartref) gan W I Thomas o Orseinon fel un nes at brifysgol na charchar, a’r gwrthwynebwyr cydwybodol yn gwerthu pamffledi gwleidyddol a chrefyddol i’w gilydd. Serch hynny, bu farw saith o Gymry o ganlyniad uniongyrchol i’w triniaeth gan yr awdurdodau.

Byddai mynegai yn y fersiwn Gymraeg o’r gyfrol werthfawr hon wedi ychwanegu ymhellach at ei defnydd. Mae’r fersiwn Saesneg (GPC) yn fanylach ac ehangach. Rhaid canmol Aled Eirug, serch hynny, am ei waith ar y ddwy. Maent yn academaidd drwyadl heb fod yn sych ac mae’r darllen yn llifo. Ac wrth gwrs, nid digwyddiadau mewn amser anghysbell yn unig y mae’n eu disgrifio a’u dadansoddi. Dyma wreiddiau gwleidyddiaeth fodern Cymru a’r mudiad cenedlaethol. 


Peter (Pedr) Jones yw awdur y bywgraffiad Jonah Jones, An Artist's Life (Seren, 2011). Golygodd yn ogystal gyfrol o lythyrau gan Jonah Jones, Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector (Seren, 2018). 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Y Rhyfel Mawr

 


Pan ysgrifennodd Thomas Rees lythyr at ‘Y Tyst’ ym mis Medi 1914 yn beirniadu’r rhyfel, cafodd ei wawdio gan y ‘Western Mail’ fel cyfaill i’r Kaiser

Dyddiad cyhoeddi: 10·04·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Dyfrig Williams

Mae cyfrol ddiweddaraf Mariana Mazzucato, Athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn ddadl angerddol dros fuddsoddi a gwario er budd ein dyfodol. Yn ôl yr awdur, dylid ailfeddwl y berthynas rhwng marchnad a llywodraeth a bod yn gwbl lygatglir ynghylch pwy sydd yn…

Adolygu


Pedr Jones

Ar drothwy’r Rhyfel Mawr, roedd tueddiad gan y Cymry i gysylltu militariaeth â Seisnigrwydd, Eglwys Lloegr a gormes landlordiaeth. Yn y gyfrol bwysig hon gan Aled Eurig, sydd yn ffrwyth ymchwil archifol sylweddol, cawn ein hatgoffa bod nifer y Cymry a ymunodd â’r Fyddin yn…

Dadansoddi


Angharad Dafis

Aeth tridiau heibio bellach ers i gabinet Cyngor Dinas a Sir Abertawe benderfynu yn unfrydol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Bu’n dridiau anodd. Rwyf wedi bod yn galaru droeon am anwyliaid. Mae hwn yn alar gwahanol: galar am gymuned benodol iawn…

Dadansoddi


Mabon Llŷr Hincks

Benben â’i gilydd, mewn cydbwysedd perffaith, mae dau gerflun yng nghanol cylch. Heb fwy na lled bys rhyngddyn nhw, does dim dwywaith nad ar y bwlch bychan hwn yr hoelir ein sylw gyntaf. Nid sefyll yn urddasol a wna’r siapiau rhyfedd ychwaith, ond…

Adolygu


Llio Mai Hughes

Nos Wener, 15 Mawrth, perfformiodd Cymdeithas John Gwilym Jones eu cynhyrchiad cyntaf yn Stiwdio Pontio, Bangor. Ac Eto Nid Myfi oedd y ddrama, a phob tocyn wedi’i werthu. Roedd Pontio yn llawn bwrlwm wrth i’r dorf ymgasglu; yn eu mysg roedd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, darlithwyr,…

Cyfansoddi


Emyr Lewis

Mae Lana Turner 'di colapsio! O'n i'n trotian heibio ac yn sydyn ddechreuodd hi fwrw glaw a bwrw eira a deudist di ei bod hi'n bwrw cenllysg ond mae cenllysg yn dy hitio di ar dy ben yn galad felly go iawn ... 

Cyfweld


Sioned Puw Rowlands

Roedd hi'n llonydd braf uwch ben moryd Dyfi fis Chwefror eleni. Yn gynnes. Roedd yr eithin wedi hen agor ei des melyn i'r cloddiau. A oedd pioden ddŵr – yr halcyon – wedi drysu a rhithnythu ar y môr gan leddfu'r dyfroedd? Fel y byddai ar fyrddydd gaeaf, yn ôl awduron…

Adolygu


Angharad Tomos

Da oedd gweld y theatr yn Pontio yn gyfforddus lawn ar nos Iau, 21 Chwefror ar gyfer y ddrama Anweledig. Roedd y cynhwysion cywir ar gyfer noson dda yno – Ffion Dafis yn gwneud sioe un wraig, ac Aled Jones Williams yn awdur. Ychwanegwch ddyfeisgarwch…