Adolygu

Pum Llyfr Kerddwriaeth

‘Y llyfrau hyn a’m gwnaeth yr hyn ydwyf heddiw’


Alan Llwyd

Amser darllen: 8 munud

09·05·2018

                            

Alan Llwyd yn 14 oed, tua'r adeg y dechreuodd farddoni

Rhyw fath o Bum Llyfr Kerddwriaeth sydd gen i, sef pum llyfr o farddoniaeth. Mae gen i lyfrgell eang o ryw dair mil o lyfrau yn fy nghartref, a bûm yn ddarllenwr mawr oddi ar fy arddegau cynnar. Mae cannoedd o lyfrau wedi fy nghyffroi ac wedi fy ngoleuo mewn rhyw ffordd neu’i gilydd drwy’r blynyddoedd, ond rwyf wedi penderfynu dewis pum llyfr a weddnewidiodd fy mywyd – newid holl gwrs fy mywyd, mewn gwirionedd. Y llyfrau hyn a’m gwnaeth yr hyn ydwyf heddiw. Y rhain a barodd i mi benderfynu, yn ifanc iawn, mai’r iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg fyddai prif ganolbwynt fy mywyd, ac felly y bu.

Y Cynganeddion Cymreig gan David Thomas (Hughes a’i Fab, 1923)

Pan oeddwn oddeutu un ar ddeg oed, digwyddais daro llygad ar un o lyfrau fy nhaid, llyfr o’r enw Prif-feirdd Eifionydd gan E D Rowlands, a dechreuais ei ddarllen. Roedd y llyfr hwn yn cynnwys cerddi gan feirdd fel Robert ap Gwilym Ddu, Eben Fardd [gw. y portread ar y chwith gan Efan Williams, 1816-1878; hawlfraint Amgueddfa a Galeri Gwynedd], Dewi Wyn o Eifion a Siôn Wyn o Eifion. Bardd claf, gorweiddiog oedd Siôn Wyn, a chyffrous iawn i mi oedd yr hanesyn am Shelley yn mynd i’w gartref i’w weld. Credaf mai ‘Wonderful! Wonderful!’ oedd geiriau Shelley ar ôl iddo ymweld â’r bardd claf. Roeddwn i wedi gweld llun Shelley yn un o wyddoniaduron fy nhaid, ac wedi darllen ei hanes yno, sawl tro.

Beth bynnag, ar ddechrau’r llyfr roedd E D Rowlands yn sôn am y cynganeddion. Ni allwn gredu’r peth. Roedd y syniad fod yr iaith Gymraeg, yr ystyrid ei bod yn iaith israddol gan lawer o ymwelwyr haf, yn meddu ar gyfundrefn soffistigedig, wareiddiedig fel hon yn llorio dyn. Sut ar wyneb y ddaear y gallai’r beirdd hyn lunio cerddi drwy ddefnyddio cyfrwng mor gaeth? A oedd modd bod yn artistig wrth ddefnyddio cyfundrefn fydryddol ddyrys o’r fath? Ac eto, dyna lle’r oedd y beirdd nid yn unig yn eu gwneud eu hunain yn gwbl ddealladwy drwy gyfrwng y gynghanedd, ond yn dweud pethau cofiadwy a chelfydd drwyddi. Rhyfeddol yn wir, ond ni cheisiais fynd ati i gynganeddu fy hun. Roeddwn yn hoff o ddadansoddi’r cynganeddion, gan ddilyn cyfarwyddiadau syml E D Rowlands, ond nid aeth fy niddordeb yn bellach na hynny ar y pryd. Pêl-droed, canu pop a darllen oedd fy mhrif ddiddordebau i yn un ar ddeg oed, ond rhyddiaith a ddarllenwn, yn Gymraeg a Saesneg, nid barddoniaeth.

Pan oeddwn tua phedair ar ddeg oed, dechreuodd fy athro Cymraeg yn Ysgol Botwnnog, T Emyr Pritchard, roi gwersi inni ar y cynganeddion. Cymerais ddiddordeb o’r newydd yn y gynghanedd, a ’doedd dim troi’n ôl y tro hwn. Yn ystod fy mhedwaredd flwyddyn yn yr ysgol y digwyddodd hyn. Euthum ati i ddysgu’r cynganeddion yn drylwyr, pob rheol, pob goddefiad – popeth – trwy ddarllen llyfr David Thomas, Y Cynganeddion Cymreig, o glawr i glawr, sawl gwaith, nes bod pob rheol ar flaenau fy mysedd. A dechreuais ddarllen barddoniaeth. Darllenwn bopeth y gallwn gael gafael arno. Y rheolau mwyaf elfennol a gawsom gan T Emyr Pritchard, ond fe lwyddodd i danio fy nychymyg ac i ailennyn fy niddordeb yn y gynghanedd. Roedd Emyr yn athro ysbrydoledig. O edrych yn ôl, gwnaeth bedair cymwynas enfawr â mi: fy ysbrydoli i fynd ati i ddysgu holl reolau’r gynghanedd, dysgu rheolau a gramadeg y Gymraeg imi, bwrw golwg dros fy nghynhyrchion cynnar, a dysgu elfennau beirniadaeth lenyddol imi. Esboniai bopeth inni, pob llinell o bob cerdd, fel ein bod yn deall y testun yn llawn ac yn llwyr.

Heblaw am y ffaith amlwg mai trwy ddysgu’r cynganeddion y deuthum o hyd i’m priod gyfrwng fel bardd, esgorodd y diddordeb a’r cynnwrf cynnar hwnnw yn y gynghanedd ac yn y grefft o farddoni ar chwe llyfr yng nghyflawnder yr amser, sef Anghenion y Gynghanedd (1973), Trafod Cerdd Dafod y Dydd (gol., 1984), Anghenion y Gynghanedd: Fersiwn Newydd (2007), Yr Odliadur Newydd, ar y cyd â Roy Stephens (2008), Crefft y Gynghanedd (2010) a Sut i Greu Englyn (2010).

Yr Haf a Cherddi Eraill gan R Williams Parry (Gwasg y Bala, 1924)

Roeddem yn astudio Yr Haf a Cherddi Eraill, R Williams Parry, ar gyfer ein harholiadau Lefel O yn Ysgol Botwnnog gynt. Dyna’r union gyfnod pryd yr oeddwn i fy hun wrthi yn englyna ac yn barddoni, a gwirionais ar y gyfrol. Ar un adeg, roedd y gyfrol i gyd ar fy nghof, o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys awdl ‘Yr Haf’. Mae’r rhan fwyaf helaeth o gynnwys y gyfrol ar fy nghof o hyd, rhyw 75-80% ohoni. Roedd astudio crefft R Williams Parry yn gaffaeliad mawr imi fel prentisfardd, ond nid edmygu ei grefft yn unig a wnawn. Roedd y cerddi yn fy nghyffroi, yn enwedig ei englynion coffa i filwyr y Rhyfel Mawr, a’i sonedau celfydd. Roedd darllen y gyfrol hon, ar yr union adeg pan oeddwn i wrthi yn ymarfer y grefft o farddoni, yn gaffaeliad enfawr. Rhoddodd i mi safon i anelu ati. Arhosodd fy niddordeb yng ngwaith R Williams Parry gyda mi drwy gydol fy mywyd, ac esgorodd y diddordeb hwnnw ar bedwar llyfr am y bardd: R Williams Parry yng nghyfres ‘Llên y Llenor’ (1984), Cyfres y Meistri 1: R Williams Parry (1979), Cerddi R Williams Parry: Y Casgliad Cyflawn, 1905-1950 (1998) a Bob: Cofiant R Williams Parry 1884-1976 (2012). Yn Ysgol Botwnnwog y cychwynnodd y cyfan.

The Collected Poems of Wilfred Owen, gol. C Day Lewis (Chatto & Windus, 1963)

Pymtheg oed oeddwn i pan ddarganfûm gerddi Wilfred Owen, a chefais fy sigo i’r byw ganddyn nhw. Cyhoeddwyd The Collected Poems of Wilfred Owen, dan olygyddiaeth C Day Lewis, ym 1963. Roedd cyfaill i mi, Gwyn Ty’n Rhos, wedi prynu copi o’r llyfr, a chefais ei fenthyg ganddo. Ac roedd C Day Lewis, yn ei gyflwyniad i gerddi Wilfred Owen, yn sôn am ddylanwad posib y gynghanedd ar y bardd hwn. Roeddwn wedi cael fy nghyffroi! I feddwl bod ein cynghanedd ni wedi dylanwadu ar un o feirdd pwysicaf Lloegr – os Lloegr hefyd! ‘Owen was not a technical innovator except in one respect – his consistent use of consonantal end-rhymes,’ meddai C Day Lewis, a sôn yr oedd, wrth gwrs, am odlau proest Wilfred Owen. Wilfred Owen a’m harweiniodd at farddoniaeth Saesneg y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwneud i mi sylweddoli pa mor wastrafflyd-ofer a pha mor ddidostur o greulon oedd y rhyfel hwnnw.

Lluniais soned i Wilfred Owen flynyddoedd helaeth yn ôl erbyn hyn, a defnyddiais y math o odlau proest yr oedd y bardd ei hun yn eu defnyddio. Cyfeirir at ei eiriau enwog, ‘My subject is War, and the pity of War ... the Poetry is in the pity’, yn y soned, ac at sawl cerdd arall o’i waith hefyd:

                 
                   Pan daenid ei genhedlaeth hurt fel gwrtaith
                   dros laid a chlai disymud erwau’r Somme,
                   ni allai ond Craiglockhart leddfu’i artaith, 
                   a thoreth o lythyrau at ei fam.

                   Ond yn ei gerdd mynegodd ei ddigofaint:
                   eira fel bysedd ar wynebau iasoer,
                   gwenwyn y nwy’n ewynnu o’r ysgyfaint,
                   cerrig yn goch gan gusan, bwledi’n gesair.

                   Ymladd ar fin y gamlas: syrthio’n fud,
                   a’i fam yn gwasgu’r amlen pan oedd tyrau
                   eglwysi yn cyhoeddi diwedd cad.
                   Trugaredd a chynddaredd oedd ei eiriau,

                   dur a thosturi, ond ar dosturi staen,
                   ac enwau meibion mamau ar bob maen.

                                                                              
Mae’n rhaid cofio mai bardd o dras Gymreig oedd Wilfred Owen, ar ochr ei dad ac ar ochr ei fam, ac ymfalchïai yn y ffaith fod gwaed Cymreig yn llifo drwy’i wythiennau. Roedd hynny yn fy nhynnu ato fwyfwy fyth. Roedd Wilfred Owen hefyd yn grefftwr mawr, a dyna reswm arall pam yr apeliai ei waith gymaint ataf. Trwy astudio’r gynghanedd yn ifanc, ac astudio cerddi R Williams Parry, Wilfred Owen, a llawer iawn o feirdd eraill, y deuthum i’r casgliad mai crefft oedd barddoni ac mai crefftwr, yn anad dim, oedd y bardd. Unwaith yn rhagor, esgorodd y diddordeb hwn yn y Rhyfel Mawr ar nifer o lyfrau, sef Gwaedd y Bechgyn: Blodeugerdd Barddas o Gerddi’r Rhyfel Mawr, 1914-1918, ar y cyd ag Elwyn Edwards (1989), Out of the Fire of Hell: Welsh Experience of the Great War 1914 in Prose and Verse (2008) a Colli’r Hogiau: Cymru a’r Rhyfel Mawr 1914-1918, a gyhoeddir eleni.

The Oxford Book of Welsh Verse (Blodeugerdd Rhydychen), gol. Thomas Parry (Gwasg Rhydychen, 1962)

Roedd rhai o gywyddau Blodeugerdd Rhydychen, Thomas Parry, yn rhan o’r Maes Llafur ar gyfer disgyblion y Chweched Dosbarth yn ystod y 1960au. Llyfr cymharol newydd oedd Blodeugerdd Rhydychen pan oeddwn i yn astudio ar gyfer fy arholiadau Lefel A. Astudiem gywyddau Dafydd ap Gwilym, cywydd ‘Y Gwynt’ yn un, ‘Llys Owain Glyndŵr yn Sycharth’ a chywydd ‘Y Llafurwr’ gan Iolo Goch, ‘Marwnad Siôn y Glyn’, Lewys Glyn Cothi, ‘Marwnad Siôn Eos’, Dafydd ab Edmwnd, ac yn y blaen. Yr hyn a wnaeth Blodeugerdd Rhydychen oedd agor y drws a arweinai at farddoniaeth y gorffennol. Dyma’r tro cyntaf erioed i mi gael cip ar farddoniaeth Gymraeg yn ei holl ogoniant. Sylweddolais, eto am y tro cyntaf erioed, fy mod yn perthyn i genedl unigryw, cenedl ac iddi fil a thrichant o flynyddoedd o draddodiad barddol maith ac anrhydeddus. Cefais fy llorio’n llwyr gan y darganfyddiad. Darllenais y flodeugerdd droeon, o’r dechrau i’r diwedd, sawl tro. Mae’r flodeugerdd yn dal i fod yn rhyfeddol o gyfarwydd i mi.

Y flodeugerdd hon oedd y man cychwyn. Euthum ati wedyn i olygu blodeugerddi fy hun, 13 ohonyn nhw i gyd, a thair o’r rhain ar y cyd â dau olygydd arall. 

Ten Twentieth-Century Poets, gol. M Wollman (Harrap, 1957)

Roeddem yn astudio’r gyfrol hon ar gyfer ein harholiadau Lefel A Saesneg yn ail hanner y 1960au. Cynhwysai waith deg o feirdd, a dyma’r tro cyntaf i mi gael fy nghyflwyno i waith y rhan fwyaf ohonyn nhw. Y beirdd y cynhwyswyd eu gwaith yn y flodeugerdd oedd Auden, Betjeman, Walter de la Mare, Eliot, Robert Frost, Edwin Muir, Edward Thomas, Yeats, ac Andrew Young.
 

W H Auden gyda Rev Martin C D'Arcy yng Ngholeg Boston. Casgliad Llyfrgell John J Burns, Coleg Boston.

Cefais fy nghyffroi i’r byw gan y beirdd hyn, er mai fy hoff feirdd o’u plith oedd Auden, Eliot, Hardy, Frost a Yeats. Arhosodd y beirdd hyn gyda mi drwy gydol fy mywyd, cymaint felly nes imi brynu’r casgliadau cyflawn o waith wyth ohonyn nhw. Dŵr i’r felin oedd y cyfan, ac roedd olwyn y felin honno, erbyn i mi gyrraedd y chweched dosbarth yn Ysgol Botwnnog, yn troi’n ddi-baid.


Bydd Alan Llwyd yn derbyn Gwobr Arbennig y Fedwen am gyfraniad oes i'r byd cyhoeddi yn y Fedwen Lyfrau. Cynhelir y seremoni wobrwyo am 1.15pm ddydd Sadwrn, 12 Mai 2018 yn Yr Atom, Caerfyrddin.

Mae'n Athro yn Academi Hywel Teifi yn Abertawe, ac eleni bydd yn cyhoeddi tri llyfr. Mae un o’r tri, Cyrraedd a Cherddi Eraill, eisoes wedi ei gyhoeddi (Cyhoeddiadau Barddas), a chaiff ei lawnsio yn y Fedwen Lyfrau, Yr Atom, Caerfyrddin am 12.30, 12 Mai 2018. Ym mis Gorffennaf cyhoeddir Colli’r Hogiau: Cymru a’r Rhyfel Mawr 1914-1918 (Gomer), cyfrol hanes sy’n archwilio effaith y Rhyfel Mawr ar Gymru, ac ymateb y Cymry i’r argyfwng. Yn yr hydref cyhoeddir ei lên-gofiant Dim ond Llais yng nghyfres ‘Llenorion Cymru’ Cyhoeddiadau Barddas.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Pêl-droed, canu pop a darllen oedd fy mhrif ddiddordebau i yn un ar ddeg oed, ond rhyddiaith a ddarllenwn, yn Gymraeg a Saesneg, nid barddoniaeth

Dyddiad cyhoeddi: 09·05·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Simon Brooks

Gan Louie y clywais i’r ymadrodd gyntaf. Yn y Ship neu’r Aussie roeddwn i, efo criw Llais Gwynedd fwy na thebyg, yn y dyddiau braf hynny cyn i bethau suro rhyngom ar ôl i mi gefnogi’r ymgeisydd anghywir mewn etholiad ar sail rhywbeth mor…

Cyfansoddi


Manon Steffan Ros

Dyma Mam yn fy ngyrru fi allan bore 'ma am ei bod hi'n ddiwrnod braf, a deud, 'Rhoswch allan nes bod hi'n amser swpar, lle bo' ti dan draed'. A dyma Now ac Edwin a finna'n mynd lawr i chwaral bach efo brechdana' mewn papur pobi, a dyna lle roeddan ni…

Dadansoddi


Daniel G Williams

‘Iaith carreg fedd’ oedd y Gymraeg i Michael Stephens yn hafau ei arddegau pan fyddai'n gweithio fel torrwr beddau yn ei Drefforest enedigol. Ymhen amser fe drodd Michael yn Feic, a’r iaith ‘yn iaith carreg fy aelwyd’. Disgrifiodd ei hun yn un o blant ‘y Gymru ddiwydiannol,…

Cyfansoddi


Angharad Price

Pwy sy’n ddigon hen i gofio’r ogla? Blas rwber yr awel. Ceir yn ciwio i fynd i mewn. Y sentri sgwâr a llinell syth y bar. Tonnau trionglog y to – yn ymestyn draw hyd dragwyddoldeb. Ac enw mawr y ffatri ar y brig:…

Cyfansoddi


Angharad Price

Mae gan yr Alban Ben Nevis a chan Gaernarfon Ben Twthill. Fan hyn yr oedd y gaer gyntaf. Fan hyn, os byth, y bydd yr olaf. Dwrn caled o graig yn codi yn ei noethni dros amlinell afreolus y dre.

Dydi…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Yn Abertawe y mae gwaith awyr agored mwyaf yr artist gwleidyddol Jeremy Deller. Ef hefyd a gynlluniodd ‘We’re here because we’re here’ (ar y cyd â Rufus Norris, cyfarwyddydd Theatr Genedlaethol Pydain) – gwaith sydd yn cofiannu can mlynedd ers brwydr y Somme. Fel rhan o’r perfformiad hwnnw ar 1 Gorffennaf 2016, gwelwyd…

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…