Mariana Mazzucato


THE VALUE OF EVERYTHING

Allen Lane, 384tt, £20, 2018

Pwy sy’n creu gwerth?
Adolygu

Pwy sy’n creu gwerth?


Dyfrig Williams

Amser darllen: 5 munud

17·04·2019

Mae cyfrol ddiweddaraf Mariana Mazzucato, Athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn ddadl angerddol dros fuddsoddi a gwario er budd ein dyfodol. Yn ôl yr awdur, dylid ailfeddwl y berthynas rhwng marchnad a llywodraeth a bod yn gwbl lygatglir ynghylch pwy sydd yn creu gwerth, pwy sydd yn echdynnu gwerth, a phwy sydd yn ei ddinistrio. Mae’n llawer rhy hawdd drysu rhyngddynt mewn economi farchnad, yn arbennig yn ein heconomi gyfredol lle mae’r sector ariannol yn deyrn. 

Tueddwn i ystyried yr economi yn actor niwtral. Dyma’r feddylfryd sydd yn bwydo polisïau ledled y byd. Ceisio ailgynnau dadl ynghylch ein dealltwriaeth o’r economi a wna Mazzucato yn y gyfrol hon, felly. Amlinella sut yr oedd trafod ar y cysyniad o ‘werth’ yn un o gonglfeini economeg ar un adeg. Ond ers tro, prin y trafodir beth ydyw a pham fod y drafodaeth yn un dyngedfennol. Dadleua fod ein cysyniad mwy diweddar o ‘werth’ wedi esblygu er budd y sector ariannol a’r rhai hynny sy’n cael y manteision mwyaf o’r system bresennol. Dyma’r feddylfryd gyfalafol, wrth gwrs, sy’n datgan mai ein dewisiadau (fel prynwyr) yn unig sy’n pennu gwerth – gwerth yn nhermau’r pris ar y pecyn, wedi ei luosi gan nifer. 

Ond tystia’r awdur mai prin yw’r dystiolaeth sydd gennym i’r twf hwn yn y sector ariannol arwain at dwf mewn gwerth gwirioneddol. Ceir offer cyllidol cynyddol gymhleth ar y farchnad, â’u termau nodweddiadol anhryloyw megis ‘securities’ a ‘derivatives’. Ond yn ôl Mazzucato, nid oddi mewn i’r sector ariannol y cynhyrchir y ‘gwerth’ a ddosbarthir (i’r rhai sy’n weithredol yn y maes). Yn hytrach, gwneir hynny, i bob pwrpas, trwy ddwyn gwerth oddi ar feysydd eraill – trwy dechnegau niferus megis gwahaniaethau mewn llog a chostau trosglwyddiadau uchel. Oherwydd y canfyddiad bod y sector yn cynhyrchu ei helw ei hun, caiff ei gweld fel sector gynhyrchiol a hanfodol i ffyniant ein Cynnyrch Mewnwladol (GDP). Y cyfranddalwr, wrth gwrs, sydd frenin yn y byd hwn. 

Cefais fy synnu wrth ddeall nad oedd y sector ariannol yn cael ei hystyried yn gynhyrchydd gwerth gan feddylwyr economaidd y gorffennol. Manyla Mazzucato ar weledigaeth tad cyfalafiaeth, Adam Smith, a oedd o’r farn nad oedd y sector ariannol yn creu gwerth oherwydd nad oedd unrhyw wrthrych parhaol yn deillio ohoni. John Maynard Keynes a nododd yn y tridegau fod marchnadoedd economaidd ac agwedd y cyhoedd yn newid, a bod y sector hon yn datblygu’n allbwn ynddo ei hun yn hytrach nag yn hwylusydd twf gwirioneddol yn yr economi. O ganlyniad i’r dadreoleiddio yn y saithdegau, ffynnodd y maes ymhellach. Dylid cofio, felly, mai cysyniad modern sydd wrth wraidd creu gwerth uniongyrchol trwy gyfrwng gweithrediadau cyllidol.

Heddiw, mae’r diwydiant arian yn gyrru’n bydolwg yn fwy nag erioed. Y canfyddiad cyffredinol ym Mhrydain, fel ag yn yr Unol Daleithiau, yw bod y sector gyhoeddus yn aneffeithiol a dyma’r neges sy’n cael ei phwysleisio gan gonfensiynau mesur cyfredol. Dadleua Mazzucato fod hyn yn ganlyniad ein ffordd o fynd ati i fesur yr economi, ac oherwydd nad yw’r llywodraeth yn creu gorwerth yn ôl y termau cyfalafol a arferir. Ar y llaw arall, mae beirniaid Mazzucato yn dadlau iddi fethu ystyried un o’r problemau mwyaf sy’n rhwystro cynnydd mewn nifer sylweddol o wledydd, sef llygredigaeth a diffyg cymhwysedd llywodraethau.

Aiff Mazzucato yn ei blaen i drafod gwaith Richard Kahn, sef cyd-weithiwr i Keynes, a ddangosodd fod gwerth gwariant cyhoeddus yn cael ei luosi oherwydd ei fod yn ysgogi gwariant ychwanegol. Gwelir hyn wrth ystyried sgileffeithiau polisïau llymder diweddar. Er bod y polisïau yn ymgais i fynd i’r afael â dyled gyhoeddus, dim ond symud y ddyled i bocedi unigolion mae’r llywodraeth mewn gwirionedd. Gellir gweld y persbectif tymor byr hwn ar waith mewn ffyrdd eraill yng Nghymru. Ar un lefel, mae toriadau gwariant cyhoeddus wedi cael effaith sylweddol ar y 26% o bobl yng Nghymru sydd yn cael eu cyflogi yn y sector gyhoeddus, sy’n uwch o lawer na’r 21% sy’n cael eu cyflogi drwy’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Ond, ar gyfartaledd, mae gan bobl Cymru hefyd anghenion mwy dwys. 

Cyfrol amserol yw hon gan ei bod yn rhoi llais i naratif amgen sydd wedi bod yn absennol o’r ddeialog gyhoeddus ynghylch yr economi ers yn rhy hir. Cawn ein cymell ganddi i gamu tu hwnt i’r ystrydeb ddu a gwyn bod marchnad yn beth da a llywodraeth yn beth drwg. Er nad yw’n cynnig atebion (gellid, o bosib, feirniadu’r llyfr am hynny), mae Mazzucato’n ffyrnig wrth iddi fynd i’r afael â phroblemau cyfredol yr oes. Gellid dadlau bod hyn yn angenrheidiol mewn byd lle nad oes yna fawr ddim anghytuno â’r weledigaeth brif ffrwd. A dyma lwyddiant mwyaf y gyfrol: mae’n gyfle i rymuso’r rhai sydd wedi eu distewi gan y status quo. Ein diffyg dealltwriaeth o weithrediadau’r system fel ag y mae sydd yn gyfrifol am hynny, i raddau, a hefyd y gred nad oes dewis amgen. Mae’n galonogol gweld bod mudiadau megis Rethinking Economics (sy’n ceisio diwygio addysg uwch mewn economeg) ac Ecnmy (sy’n gyfrifol am ymgyrch i hwyluso trafodaeth gyhoeddus fwy hygyrch ynghylch yr economi) yn ymdrechu i newid hyn. Os gallwn wella dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth, mae gobaith y gallwn hefyd ddychmygu ffyrdd eraill o gamu i’r dyfodol, a dyfalu sut fath o fyd rydym yn dymuno byw ynddo – dechreubwynt da os ydym am sicrhau economi sy’n gweithio’n galetach er lles pawb.


Mae Dyfrig Williams wedi bod yn gweithio i geisio gwella gwasanaethau cyhoeddus am bron i bymtheng mlynedd, gyda Chymunedau yn Gyntaf, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru. Bellach, mae'n Gydlynydd Dysgu i Research in Practice, sy'n cynorthwyo mudiadau i weithio gyda phlant, oedolion a theuluoedd mewn modd sy'n seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth.
 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Dyfrig Williams, Economeg, Rhifyn 9

 


Cyfrol amserol yw hon oherwydd ei bod yn rhoi llais i naratif amgen sydd wedi bod yn absennol o’r ddeialog gyhoeddus ynghylch yr economi ers yn rhy hir

Dyddiad cyhoeddi: 17·04·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…