Gareth Thomas


Myfi, Iolo

Y Lolfa, 392tt, £9.99, Tachwedd 2017

Rhwng dychymyg a realiti
Adolygu

Rhwng dychymyg a realiti


Jeremy Miles

Amser darllen: 5 munud

25·11·2017

Un o’r delweddau mwyaf trawiadol yng nghyfrol Songlines Bruce Chatwin yw’r syniad o gynfrodorion Awstralia yn ‘canu’ byd, tir, gwlad i fodolaeth (‘singing the world into existence’), syniad bod disgrifio’r byd mewn cerdd yn weithred greadigol, enedigol. Mae’n sicr na chlywodd Iolo Morganwg erioed am ‘dreamtime’ pobl frodorol Awstralia. Ond o ystyried gallu’r cymeriad hwnnw i ddwyn traddodiadau o niwl cynhanes Cymru, efallai na ddylem synnu mai i freuddwydion lodnwm y mae Gareth Thomas, awdur Myfi, Iolo, yn priodoli’r ysbrydoliaeth a arweiniodd Iolo Morganwg i gyfansoddi ei gerddi ffug ac i ddyfeisio ei draddodiadau derwyddol. Ac mae ‘ffuglennu’ bywyd Iolo Morganwg yn arbennig o briodol.

Creodd Iolo dreftadaeth hanesyddol – ond cyn gallu gwneud hynny rhaid oedd creu’r unigolyn. Darlunnir bywyd cynnar Iolo mewn cyfres o olygfeydd ffilmig, a thafodiaith Morgannwg yn drac sain iddo. Ffefryn ei fam, cnaf – mae’r Edward Williams ifanc yn fwrlwm o ego, uchelgais, rhithdybiau a chreadigrwydd. Ni ellir amau hunan-dyb y crwt o Drefflemin a ddaeth yn saer maen a bardd, na chwaith ei awydd i adael ei farc. Mae yma rigymu a ffeirio a sawl tro trwstan gyda merched y fro, heb sôn am yr ynadon. Ac mae yma lawysgrifau, awch llenyddol a dychymyg. Mae’n ffoi i Lundain, wedi trawsnewid yn Iolo Morganwg ar hyd y siwrne, ac yn ysu am ei gyfle.

Ble mae’r llinell rhwng gweledigaeth ac uchelgais? Rhwng dychymyg a realiti? Rhwng hunanhyder a hunan-dwyll? Rydym yn byw ar y ffiniau hynny wrth olrhain hanes Iolo. Ni ellir amau ei ysfa i sicrhau ‘anrhydedd newydd i’r traddodiad barddol’ ond ni ellir amau chwaith bod creu sefydliad llenyddol gydag ef ei hun ar y copa yn fodd i sicrhau'r statws a’r incwm yr oedd yn dyheu amdanynt.

Iolo sydd ar ganol y llwyfan drwy gydol y ddrama hon. Iolo sy’n adrodd yr hanes. Ond a fu erioed adroddwr llai dibynadwy? Rhan o’r cefndir yw’r ffigurau eraill mewn cyfrol ac mewn bydysawd sydd yn cylchdroi yn gyfan gwbl o gylch y prif gymeriad. Mae rhyw gymysgedd o feini Avebury, hud hen lawysgrifau, talent gyda geiriau, awch i berfformio – yn ogystal â chwant am barchusrwydd – yn ei sbarduno i blannu gorsedd ar y ffin rhwng dadansoddi a dyfeisio hanes.

Fel Gwenallt, rydym yn ‘gweld yn lled glir y bobl a’r cynefin a foldiodd ei fywyd e’. Yn amlach na pheidio, nid briwsion bara sydd yn ein harwain ar hyd y llwybr at y Iolo Morganwg gorffenedig ond torthau hael a does dim diffyg esboniad a chyd-destun i gyfeirio’r darllenwr, er y byddai awgrym ac amrantiad wedi bod yn ddigonol ar adegau, efallai. Er hynny, mae’r golygfeydd ar hyd y siwrne yn fyrlymus a difyrrus.

Ond beth am waddol y ffigwr – y ffugiwr – diwylliannol hwn sydd yn rhan mor amryliw o hanes Cymru? Mae Aled Evans yn ei nofel ddychmygus yntau am fywyd Iolo Morganwg (Saith Cam Iolo, 2016) yn dyfynnu Gwyn Alf Williams: ‘What people believe to be true is as significant for history as what was actually true. Myth itself can become an operative historical reality’.

Mae angen dychymyg mewn gwleidyddiaeth; creadigrwydd a hyfdra digonol i gymryd y cyfle pan ddaw – ac i greu cyfle os nad oes un ar y gorwel. Roedd gan Iolo ddigon o’r nodweddion hyn ac, ar ben hynny, roedd yn deall grym a gallu myth, delwedd a symbol i ysbrydoli.

Gwir athrylith Iolo oedd iddo greu sefydliad diwylliannol, a chyfrwng i’w ddyrchafu ei hun fel bardd, a thrwy hynny ysgogi carfan o alltudion Cymreig llwyddiannus, dylanwadol – carfan radical eu gwleidyddiaeth ar y cyfan hefyd – i grynhoi’n rhyw fath o egin élite Cymreig newydd, o gylch sefydliad Gorsedd Iolo, gan weu egwyddorion y chwyldro Ffrengig a syniadaeth Rousseau a Thomas Paine yn rhan o’r antur ryfedd honno.

Mewn bywyd sydd yn frith gan anghysondebau, mae tensiwn rhwng ymroddiad Iolo i’r hen dirfeddianwyr a ddisodlwyd gan Bute a Plymouth ar y naill law, a’i ffydd yn egwyddorion ‘liberté, égalité, fraternité’ ar y llall. Gellid dadlau hefyd bod yna wrthdaro rhwng ei ymlyniad at etifeddiaeth derwyddon cynhanesyddol a’i gred yn ymgyrch y Jacobiniaid. Gwrthdaro, hynny yw, tan i ni weld Gorsedd Bryn y Briallu nid fel gweithred mewn dilyniant hanesyddol, ond fel catalydd er mwyn ail-ddarganfod hunaniaeth wleidyddol Gymreig.

Dechreuodd yr adolygiad hwn yn Awstralia’r cyn-fyd ac, wrth gloi, da yw myfyrio ar sylwadau Dr Tim Soutphommasane am yr Awstralia gyfoes, yn ei lyfr Reclaiming Patriotism: Nation-building for Australian Progressives:

Citizens must exercise a certain imagination about the national tradition ... Only a culturally literate citizen can deal with a national identity in this way ... [and] come to grips with the contradictions of a national tradition[.] Any liberal notion of cultural literacy should be focused on liberty, equal rights, representative democracy…

A oes yna gymeriad yn ein hanes sydd yn ymgorffori’r llythrennedd diwylliannol hwnnw yn fwy dramatig na Iolo Morganwg?


Jeremy Miles yw Aelod Cynulliad Castell-nedd.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Ble mae’r llinell rhwng gweledigaeth ac uchelgais? Rhwng dychymyg a realiti? Rhwng hunanhyder a hunan-dwyll?

Dyddiad cyhoeddi: 25·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Christine James

Odd fel sa pawb ffor ’yn yn wara gêm wrth wilia unwath: rywla ar ’yd llethra’r oesodd glæn, fan ’yn, gollyngws rywun, rywbryd, aitsh; ac wetyn gosod pawb ar waith i’w ffindo.

Colofnau


Geoff Young

Testun real sydd yma, ond un cyfan gwbl gyffredin. Hynny sydd yn ei wneud, yn rhyfedd iawn, yn anarferol, yn ddigon i ennyn diddordeb y darllenydd eto drachefn. Nid oes yma’r posibiliadau ffotograffig fyddai’n denu’r rhelyw i dynnu llun. Ac eto, mae rhywbeth am…

Cyfansoddi


Llion Pryderi Roberts

Mae gan bawb eu cofebion, am wn i; rhai’n swagro’u coffa yng nglendid marmor, neu sglein yr efydd wrthodwyd gan Horas, gynt. Mae eraill yn llai lluniaidd,
gwyfynod sy’n cnoi tyllau yng ngharthen amser, neu blaciau tolciog wedi eu hestyn drachefn o’r gist.

Cyfansoddi


Llion Pryderi Roberts

Ar gynfas pumed canrif dim ond ymylon gwedd yw gwarged lliwiau’r galon a’r meddwl cyn bod bedd, fel pant ar garreg aelwyd lefn y sgwriwyd iddo lendid trefn ... 

Cyfansoddi


Llion Pryderi Roberts

Roedd Seurat wedi dotio at y traeth dan lewych haf, yn ffroeni oglau gwymon; at ruban aur o drai a dŵr y daeth ac erfyn bad i lyfnu’r gorwel union ... 

Cyfansoddi


Siôn Tomos Owen

Stori mewn lluniau

Un lôn i fewn, un lôn mas. Yr un hen stori am gymuned fechan yng nghymoedd de Cymru. Wastad yr un hen stori. Stereoteipiau o fywydau caled, brwydro plwyfol a’r bobol sydd yma o hyd. Ond y peth yw ... Mae…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Dwi wedi dechrau odli eto. Wn i ddim pam mae rhai pobl yn ei gael yn beth mor ddiddorol; dydi o ddim yn ddim byd mwy na rhywbeth fydda’ i’n ei wneud weithia pan fydda’ i’n siarad. Ond dwi ddim yn ei wneud rŵan achos…

Colofnau


Sioned Puw Rowlands

‘Nid dim ond gwylio ffilmiau yr ydan ni, mae ffilmiau yn ein gwylio ninnau hefyd,’ meddai’r cyfarwyddwr o Rwsia, Andrey Zvyagintsev. Yn ei ffilm ddiweddaraf, Loveless, bob yn hyn a hyn, yn batrwm trwyddi, mae pobl yn gwirio eu ffonau bach neu’n tynnu lluniau ohonyn nhw eu…