Ruth Richards


Pantywennol

Y Lolfa, 128tt, £7.99, 2016

Rhwygo ffabrig cymdeithas
Adolygu

Rhwygo ffabrig cymdeithas


Jane Aaron

Amser darllen: 5 munud

29·04·2017

Ers degawdau olaf yr ugeinfed ganrif mae’r nofel neo-Fictoraidd wedi bod mewn bri ym Mhrydain – nofel, hynny yw, wedi ei gosod yn gwbl neu’n rhannol yn oes Fictoria, gyda’r nod o ddatgelu rhai o gyfrinachau’r oes honno a hefyd ddangos ei dylanwad ar yr oes fodern. Cafodd Sarah Waters, er enghraifft, yr awdur o Sir Benfro, gryn lwyddiant gyda’i nofelau Saesneg am fywydau cudd merched ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ac yn y Gymraeg, gyda chyhoeddi nofel Mihangel Morgan, Pantglas (2011), a Cofiwch Lanwddyn (2015) gan Eiddwen Jones, atgyfodwyd y diddordeb yn hanes anghofiedig boddi cymoedd yng Nghymru’r 1880au er mwyn darparu dŵr i ddinasoedd Lloegr. Mynd ar ôl hanes anghofiedig arall a wna’r nofel Pantywennol, gan roi cig dychmygol ar sgerbwd stori foel yn y Caernarvon & Denbigh Herald ym mis Medi 1866, a adroddai fod merch fferm Pantywennol ym Mhen Llŷn wedi ei harestio ar gyhuddiad o rwygo dillad ei chymdogion, a gredai mai bwgan oedd wrth y gwaith.

Traethydd y stori yw’r ‘bwgan’ ei hun, Elin Ifans Pantywennol. Yn ei henoed, mae hi’n adrodd, mewn tafodiaith gyfoethog, ei hanes fel merch bymtheg oed yn 1866. Nid stori Gothig am weithredoedd goruwchnaturiol mo hon; cawn wybod cyn y diweddglo yn union pa ddwylo dynol a fu wrthi’n rhwygo dillad a Beiblau’r gymdogaeth. Ac mae yna eironi a hiwmor yn sylwadau crafog Elin am ei theulu a’i chymdogion: meddai am ei chwaer, er enghraifft, ‘dw i’n cofio meddwl … y basa Asiffeta’n gneud uffar o wraig gweinidog. Uffar o un dda yntau un ddrwg, wyddwn i ddim, roedd y ffin rhwng y ddau mor dena rywsut.’ Ond mae elfennau tywyll i’r hanes hefyd, yn y gwrthdaro rhwng ‘bwgan’ Pantywennol a systemau rhywedd a dosbarth cymdeithasol yr oes. Mewn modd naturiol a chredadwy, wrth i Elin bendroni am ei bywyd a cheisio deall yr hyn a ddigwyddodd iddi, cawn yn y nofel hon ddarlun o benbleth merched deallus difreintiedig yn eu harddegau, sy’n sylweddoli pa mor gaeth yw eu byd a chyn lleied o gyfleoedd a fydd ar gael iddynt i ledu eu gorwelion. 

Darlun clawr Pantywennol gan Ruth Richards

Cnewyllyn yr holl drwbwl yw rhwystredigaeth yr Elin ifanc wrth iddi ddeall na fydd rhigolau ei bywyd Fictoraidd yn debygol o gynnig newid byd iddi – byd lle gall ddod i adnabod ei hadnoddau cudd ei hun. Ei dyhead yw mynd i forio a chrwydro’r byd, fel ei brawd Emaniwel, ond ‘ches i rioed fynd i’r môr, er ei fod dan fy nhrwyn’. Gwêl ei brawd yn llwyddo, yn ennill ei le fel capten, ac yn dod ag arian a pharchusrwydd i’r teulu, ond nid yw’r fath ddihangfa ar gael iddi hi. Gwêl ei mam yn cael modd i fyw yn ei ffydd Gristnogol ac yng nghymdeithas ei chapel, a’i chwaer yn ceisio mynegi ei hun trwy roi pwys mawr ar lendid y cartref. Ond nid yw'r naill ddelwedd fenywaidd na’r llall yn ddigon i roi ystyr i fywyd Elin. O dipyn i beth – ac fe ddisgrifir camau ei chwymp mewn modd credadwy iawn – mae hi’n dod o hyd i ffordd unigryw o fynegi ei rhwystredigaeth, sef rhwygo dillad ei chymdogion yn llechwraidd â rasel ei thad darfodedig. Dim ond ei chwaer sy’n ei hadnabod yn ddigon da i’w drwgdybio, a phan rwystrir Asiffeta hefyd rhag dilyn ei dyheadau hi i godi yn y byd trwy fynd yn forwyn i’r plas lleol, mae hithau’n ymuno ag Elin yn y gwaith o rwygo dillad ar y slei. Gan nad oes neb yn cael gadael Pantywennol â’u dillad yn un darn, y gred yn y gymdogaeth yw bod bwgan wedi meddiannu’r aelwyd.

Mae’r disgrifiad o apêl y weithred o rwygo yn drawiadol: ‘O basio lein ddillad, a neb o gwmpas, byddwn yn gneud rhwygiada bach twt … mi roedd y sŵn yn fy nhawelu rywsut; ryw riddfan bach cynnil oedd yn deud ’mod i’n fyw. Roedd gen i well syniad o bwy o’n i a be o’n i’n da wrth rwygo ac mi roedd y gwybod hwnnw’n cryfhau wrth i bobol fethu â dyfalu.’ Mae cyflawni gweithred annibynnol sy’n cael effaith ar eraill yn dod â rhyddhad i Elin ac yn caniatáu iddi ymdeimlo â’i bodolaeth unigol. Mewn nofelau cyfoes ceir disgrifiadau tebyg o ferched rhwystredig yn eu harddegau yn torri’n llechwraidd â rasel, ond nid rhwygo dillad y mae’r merched hyn ond rhwygo eu croen a’u cnawd eu hunain. Wrth ddisgrifio ei magwraeth ar stad tai cyngor Penrhys yn y Rhondda ôl-ddiwydiannol, er enghraifft, mae traethydd nofel hunangofiannol Rachel Trezise, In and Out of the Goldfish Bowl (2000), yn dweud fel hyn: ‘I cut myself purposely … It felt like relief.’

Yn Pantywennol, yr unig gymeriad ar wahân i Elin a’i chwaer sydd yn gwybod unrhyw beth am ffynhonnell y drygioni yw’r cawr o bregethwr hanesyddol, Kilsby Jones, sy’n cael ei wahodd gan weinidog y capel lleol i ystyried y mater. Ei farn ef yw mai hysteria merched ifainc sydd ar fai, ac mae e’n tynnu ar wybodaeth seicolegol fwyaf blaengar ei oes. Ond yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan arddangosai milwyr yn y ffosydd yr union yr un symptomau seicolegol â’r merched ‘hysterig’ hyn, cafwyd nad oedd yna gysylltiad hanfodol rhwng hysteria a rhyw. Yn hytrach, ymateb ydoedd i sefyllfa lle gorfodid y gwrthrych i oddef – a dioddef – math o gaethiwed a fyddai’n debygol o’i ddifa. Kilsby yw cymeriad mwyaf goleuedig y nofel hon, fodd bynnag, ac ef hefyd sydd yn cydnabod ac yn canmol mab Pantywennol fel ‘Self-made Man’ o’r iawn ryw. Ond nid yw ef, yn fwy nag un o’r cymeriadau eraill, yn sylweddoli y gellid gwaredu bwgan Pantywennol yn effeithiol ddigon trwy gynnig cyfle i Elin wireddu ei breuddwydion a dod yn ‘Self-made Woman’.

Yn nofel Rachel Trezise, mae’r traethydd yn ennill dihangfa o’i charchar hithau trwy gofrestru ar gwrs ysgrifennu creadigol a chyhoeddi nofel. Nid yw’r un ddihangfa ar gael i Elin Ifans oes Fictoria sydd yn derbyn, yn hytrach, ar ôl ei phrofiad mewn carchar go iawn, y syniad ei bod yn ‘fwgan’ ac y bydd yn byw’n ysgymun ar ymylon ei chymdeithas am weddill ei hoes. Fel pob pennod arall yn ei stori, mae’r diweddglo’n argyhoeddi; cryfder y nofel gelfydd hon yw ei chyfuniad o bortread byw o gymdeithas hanesyddol ac astudiaeth seicolegol ddwys sydd yn dal i fod yn berthnasol heddiw, gwaetha’r modd.


Mae Jane Aaron yn Athro Emeritws yn Ysgol y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru ac yn awdur Pur fel y Dur: Y Gymraeg yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, ymhlith cyfrolau eraill.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Jane Aaron, Rhifyn 3, Nofelau

 


Nid yw’r pregethwr yn sylweddoli y gellir gwaredu bwgan Pantywennol trwy gynnig cyfle i Elin wireddu ei breuddwydion a dod yn ‘Self-made Woman’

Dyddiad cyhoeddi: 29·04·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ned Thomas

Y mis hwn, hanner canrif yn ôl, daeth rhyfel Biafra i ben. Methodd yr ymdrech i sefydlu gwlad annibynnol i'r bobl Igbo (yn bennaf) yn ne a de-ddwyrain Nigeria. Parhaodd y rhyfel am dros ddwy flynedd a hanner, a lladdwyd o gwmpas…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Ysbrydolwyd Hel y Mynydd (12 Ionawr 2020, S4C) gan y ffenomen sakte-TV yn Llychlyn: ‘teledu araf’. Yn 2009 darlledwyd rhaglen saith awr hynod boblogaidd ar y sianel NRK2 yn dogfennu siwrnai drên o Bergen i Oslo, prosiect a ddisgrifwyd yn y New Yorker fel ‘the iconic slow-TV programme’ ac a sbardunodd genre newydd. Enghraifft…

Cyfansoddi


Geraint Lewis

Ro’n i wedi bwriadu ysgrifennu stori, wir i chi. Dyna oedd y syniad. Ro’n i’n teimlo’n weddol hyderus, yn gwybod am y diffiniad clasurol o orfod cael dechrau, canol a diwedd – er nid o anghenraid yn y drefn yna, chwedl Samuel Beckett.

Dadansoddi


Huw L Williams

Mae pyrth dy fforest di, o wlad y Brutaniaid presennol, yn agored i’r eirias dân. Oni ddygwch ffrwyth yr awron, fe a’ch torrir rhag bod yn bobl.

Geiriau Morgan Llwyd yn Llyfr y Tri Aderyn (1653) yw y rhain, yn fynegiant o’r athrawiaeth a fyddai, yn ôl M Wynn Thomas, yn…

Cyfweld


Ivan Krastev

Wrth i'w gyfrol ddiweddaraf gael ei chyhoeddi – The Light That Failed: A Reckoning (2019, gyda Stephen Holmes) – bu Eurozine yn cyfweld ag Ivan Krastev, un o ddadansoddwyr amlycaf y newidiadau mawr ar waith yn Ewrop ar hyn o bryd, gan gynnwys cysyniadau sydd ynghlwm wrth Brexit megis 'y mwyafrif dan fygythiad'. Dadleua Ivan Krastev a Stephen Holmes…

Adolygu


Jane Aaron

Yn ôl rhagair Tegwen Morris, cyfarwyddwraig bresennol Merched y Wawr, ‘nid ffeministiaeth sy’n cael ei bortreadu’ yn y gyfrol hon ond ‘bywyd bob dydd’ menywod Cymru rhwng 1920 a 1960. Eto i gyd, yr hyn sydd yn debyg o daro darllenwyr yr 21g wrth iddynt droi tudalennau’r…

Dadansoddi


Keith Chapin

Cysyniad hynafol yw’r ‘aruchel’ a gafodd ei ddychmygu o’r newydd dro ar ôl tro. Hupsous yn yr hen Roeg, sublimis yn Lladin, sublime yn Ffrangeg a Saesneg, Erhaben yn Almaeneg: mae’n dynodi uchelder arbennig (neu’r safle oddi tano, sef ‘sub’ ‘limen’ – yn llythrennol, o dan drothwy). Roedd ‘arddull yr aruchel’ (stilus sublimus) â’i holl ddefnydd o drosiadau llachar, cymalau coeth ac ieithwedd gain, yn rhan…

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ...