Adolygu

Selffi yn Ward Alaw

Adolygiad o Mwgsi gan Manon Steffan Ros (Cynhyrchiad Cwmni’r Frân Wen)

Mared Llywelyn

Amser darllen: 5 munud

01·11·2017

Hawdd dychmygu bod llawer un ar bigau’r drain wrth weld taith Mwgsi yn dynesu a rhywun yn ymwybodol y byddai llygaid pawb ar y cynhyrchiad. Roedd yn addo bod yn brofiad anodd ac emosiynol ar y gorau, oherwydd nid stori wneud yw hon ond stori wir. Ar ben hynny, roedd profiadau’r hogan ifanc o Bwllheli wedi denu cymaint o sylw: 18 oed ac yn dioddef o’r clefyd C ...

Mae drama Manon Steffan Ros yn seiliedig ar flog Megan Davies, a gafodd ddiagnosis o ganser Hodgkin’s Lymphoma, math 3B, yn 2015 pan oedd hi'n 18 oed. Ar ôl edrych ymlaen cymaint at yr haf ar ôl pwysau Lefel A, a gwyliau yng ngwlad Groeg a hwyl a gwin pinc efo’i ffrindiau, newidiodd bywyd Megan am byth pan gafodd ei galw i mewn i gael canlyniadau profion pelydr-X.

Penderfynodd Megan rannu ei thaith gyda’r byd. Ysgrifennodd ei theimladau dwysaf ar ei laptop, ac agor trafodaeth am ganser ymysg pobl ifanc. Arweiniodd y blog at y cynhyrchiad hwn ar lwyfan – ond peidiwch â disgwyl llwyfaniad cwbl lythrennol o’r blog. Mae’r sgript gan Manon Steffan Ros, a’r gwaith cyfarwyddo gan Iola Ynyr, yn defnyddio stori Megan fel ysbrydoliaeth, yn hytrach. Mae’n siŵr bod y mymryn hwn o bellter wedi galluogi’r tîm i arbrofi a chreu cynhyrchiad mwy haniaethol.

Dilynwn driniaeth y prif gymeriad, felly, hyd at wellhad yn y pen draw – ond mae digon o chwerthin a jôcs ‘anaddas’ yng nghanol y tywyllwch. Mae’r gynulleidfa’n cyd-gerdded gyda’r cymeriadau ifanc, afieithus hyn wrth iddynt ymdopi efo rhai o’r problemau anoddaf y gall bywyd eu cyflwyno. Sylfaen pob drama yw’r sgript, a braf o beth yw gweld Manon Steffan Ros yn ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Llais tra gwahanol sydd ganddi yn Mwgsi. Wrth glywed ebychiadau megis ‘dwi di darllan bob cerdd Gymraeg ... dwi’n casáu ffycing cynganeddion’, roedd rhywun yn cael ei argyhoeddi mai ym myd myfyrwyr cwbl normal yr oeddem – yn edrych ymlaen at feddwi drwy’r haf, at fynd i’r Brifysgol ... dim ond na ddaeth yr amser hwnnw.

Mari yw’r prif gymeriad – perfformiad llawn emosiwn a rhwystredigaeth gan Mirain Fflur – a Catrin Mara yn darparu’r hiwmor, yn gwneud i’r gynulleidfa chwerthin ar sawl achlysur. Mae yna drydydd ffrind, o’r enw Haf, a gaiff ei chwarae gan Ceri Elen.

Gwnewch beth fynnoch o’i chymeriad, ond mi gymrodd ychydig i mi benderfynu beth yn union oedd rôl Haf yn y ddrama. Wrth sylwi ei bod fel cysgod bron i gymeriad Mari, daeth yn amlwg mai cymeriad ydyw sydd yn rhyw fath o drosiad o’i hisymwybod hithau; gallai Haf ddweud y pethau hynny na fedrai Mari eu dweud yn agored.

Effaith hyn oedd ein bod yn gweld gwrthdaro mewnol cymeriad Mari yn gliriach – fel pan oedd Mari yn ceisio perswadio’i hun ei bod yn edrych yn dda ar ôl colli cymaint o bwysau mor sydyn (symptom cynnar o’r canser).

‘Ti’n edrych yn amazing’, medd Haf, efo sêr yn ei llygaid. A Mari wedyn yn meddwl o flaen y drych, ‘Yndw ’fyd, dwi’n edrach yn grêt’.

Yr eironi creulon, wrth gwrs, ydi bod y peth ’ma sy’n gneud iddi edrych yn ‘amazing’ ar y tu allan eisiau ei lladd hi ar y tu mewn.

‘Di colli pwysa ’dw i. ’Sdim isio bod yn weird am y peth, nag o’s?’

Dilynwn ambell ’sgwarnog arall wedyn o ran themâu’r ddrama – sut beth ydy bod yn millennial heddiw, er enghraifft, a’r pwysau ar bobl i golli pwysau, i fod yn barod am y selffis neu’r Snapchat nesaf. Mae Mari’n sôn yn nes ymlaen yn y ddrama am yr ‘enwogrwydd’ sy’n dod yn sgil ei salwch.

‘Fatha bo fi’n celebrity, yr holl adds ar Facebook ... Be ma nhw isio? Selffi yn Ward Alaw?’

Gallaf weld ambell aelod mwy ceidwadol o’r gynulleidfa yn gwingo yn eu seddi rŵan hyn. Felly, ydi Mwgsi y math o ddrama a fydd yn apelio at bawb?

O ran ei phwnc, mae'n sicr y gallai gyffwrdd ag unrhyw un. Bydd pawb yn delio â chyfnodau tywyll fel hyn ac fe fydd Mwgsi yn gyffredinol ei hapêl wrth ddangos mor bwysig yw cariad a chyfeillgarwch o ran cyrraedd ochr draw’r twnnel.

Ond o ran ei harddull, mae'r cynhyrchiad yn wahanol iawn i’r hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, efallai, gan ddrama draddodiadol. Mae'n gynhyrchiad corfforol iawn a llawer o’r emosiwn yn cael ei fynegi drwy gyfrwng y corff ar ôl i’r actorion weithio ar sail datblygiad o symudiadau unigol (mewn modd nid annhebyg i waith Brith Gof).

Moel oedd y set ond fe ddaeth y gerddoriaeth a’r golau at ei gilydd i greu cyfanwaith hardd iawn. Roedd y tafluniadau cyson ar y gefnlen yn rhan hanfodol o’r cynhyrchiad, ac yn ddyfais glyfar er mwyn atgyfnerthu’r emosiwn o dan yr wyneb. Roedd yma fwriad amlwg i greu cynhyrchiad delweddol iawn – a gwisg Mari hyd yn oed yn llawn arwyddocâd. Roedd y ffrog o liw croen yn ei dinoethi, a’r llinellau ar ei hyd yn ymdebygu i anatomi’r corff. Y golau llachar, wedyn, yn nadreddu o’i chwmpas, i ddangos bod y canser afiach bellach wedi meddiannu ei chorff. A’r ddeuoliaeth yn y defnydd o goch: ar y blog mae yna sôn am y bicini coch a gaiff ei wisgo ar y traeth, ond wrth dderbyn y ffrog goch gan Haf, mae Mari yn derbyn ei salwch – ond yn benderfynol hefyd o’i oresgyn.

Roedd yna newidiadau parhaol ar gefnlen y cynhyrchiad – noson serog, dail mewn coedwig, a theimlad hydrefol. Nid cyd-ddigwyddiad felly oedd enw cymeriad Haf – cynrychioliad o amser ydoedd, o gylch bywyd, a rhywun yn cael ei atgoffa na wnaiff amser aros i ni, er bod y rhywun hwnnw’n teimlo fel petai’n troi yn yr unfan ac yn methu symud i rythm amser.

Roedd cerddoriaeth grefftus Rhodri Williams ac Ifan Siôn Davies hefyd yn fodd i ategu’r gwaith corfforol a geiriol ac yn ychwanegu ambience bron heb i rywun sylwi. Llwyddodd pob un o elfennau’r ddrama i fwydo'i gilydd er mwyn creu profiad gwirioneddol theatrig.

Nid cofnod llythrennol o brofiad Megan ydi Mwgsi ac nid fersiwn gair-am-air o’r blog sydd yma, er bod elfennau creiddiol o’r blog wedi eu cadw.

Dw i’n sicr o’r farn mai dewis doeth gan y cyfarwyddwr a’r dramodydd oedd trin profiad Megan er mwyn ei wneud yn fwy haniaethol. Amhosib fyddai ysgrifennu drama i gyfleu yn union brofiad unigolyn penodol - ni allwn gerdded yn ’sgidiau’r person hwnnw, wedi'r cyfan. Heb sôn am y cwestiwn moesol – a fyddai hawl gennym ni fel cynulleidfa i dresmasu ar deimladau’r cymeriadau o gig a gwaed? A fyddai hynny’n rhy agos at yr asgwrn? Beryg mai testun trafodaeth arall ydi honno.

Ond mae geiriau Megan ar flog ‘Mwgsi’ yn aros, wrth gwrs, fel modd i helpu pobl eraill. A’r hyn y mae Mwgsi y ddrama yn ei wneud yw ehangu trafodaeth Megan – cyrraedd cynulleidfa ehangach fyth trwy gyfrwng y theatr, a’r gynulleidfa honno’n cynnwys llawer iawn o bobl ifainc a disgyblion ysgol.

‘Dyna di hannar y broblam ’de, dydi pobl ddim yn siarad.’


Daw Mared Llywelyn o Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn. Graddiodd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Theatr ac ennill MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Aberystwyth. Mae hi bellach yn gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd. 

Gallwch ddarllen blog Megan Davies ar mwgsi.com.

[Mae] rhywun yn cael ei atgoffa na wnaiff amser aros i ni, er bod y rhywun hwnnw’n teimlo fel petai’n troi yn yr unfan ac yn methu symud i rythm amser

Pynciau:

#Theatr
#Manon Steffan Ros